主播大秀

Abertawe 2011 - edrych n么l

Mr Urdd

Er bod rhai miloedd yn llai na'r flwyddyn flaenorol wedi ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Abertawe 2011, disgrifiodd pennaeth yr Urdd y digwyddiad ar faes y tu allan i'r ddinas fel "steddfod fendigedig arall" ac un lwyddiannus.

Ychwanegodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd, nad 芒 ffigurau mynediad yn unig y mae mesur llwyddiant Eisteddfod.

Ond meddai Efa Gruffudd Jones: "Dydym ni ddim yn mesur llwyddiant yr Eisteddfod yn 么l faint sy'n dod trwy'r g芒t - y mae'n un o nifer o ffactorau ond yn amlwg yr ydym ni mewn ardal eleni wahanol i ardal Ceredigion.

Cyfeiriodd hefyd at arwyddion eraill o lwyddiant Abertawe.

"Dwi wedi cael sylwadau fod pobl gynnes y fro hon wedi croesawu pawb, y stiwardiaid wedi bod yn hynod o gyfeillgar, y sioeau nos wedi bod yn arbennig o addas a bod pobl ifainc wedi gwerthfawrogi y cyfleoedd maen nhw wedi'u cael gan fod yr Eisteddfod wedi dod yma," meddai.

O holl weithgaredd yr Eisteddfod dywedodd mai'r 'un peth' fydd yn aros yn ei chof hi am yr wythnos fydd y Sioe Gynradd lle'r oedd cant o blant ar y llwyfan drwy'r amser.

"Plant o gymysgedd o gefndir ieithyddol wedi dod at ei gilydd i berfformio'n Gymraeg i safon hynod o uchel a'r plant a'r gynulleidfa wrth eu boddau."


C2

C2 - Magi Dodd

Dilyn C2

Cynnwrf, gwefr a chyffro C2 ar y we

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion a'r chwaraeon diweddaraf a gwylio'r rhaglen.

Plant

Bobinogi

Hwyl a sbri

Bobinogi, Bob y Bildar, Fimbles a chymeriadau difyr eraill

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.