主播大秀

Disgyblion o Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun, gyda't goeden

Neges bambw i Siapan

Cychwyn ymgyrch Urdd Gwyrdd

Bydd coeden bambw arbennig yn cael ei chludo i'r Gynhadledd G8 nesaf yn Siapan gyda negeseuon a gasglwyd ar faes yr Urdd yn galw am ddiogelu'r amgylchedd.

Mae hyn yn rhan o ymgyrch 'byd gwyrdd' rhwng yr Urdd ac OXFAM Cymru ac eglurodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd, ei bod yn arferiad yn Siapan i bobl osod negeseuon yn mynegi dymuniadau ar goed bambw.

"Y bwriad gyda'r negeseuon ar y goeden yw i roi pwysau ar arweinyddion y byd i weithredu ar Newid Hinsawdd ynghyd 芒 chymorth a iechyd," meddai.

Dangoswyd y goeden ar y maes fel rhan o lansiad ymgyrch amgylcheddol newydd sbon o'r enw Urdd Gwyrdd.

Y bwriad yw ymateb i bwnc newid hinsawdd a chodi ymwybyddiaeth ymhlith aelodau'r Urdd.

"Nod y cynllun yw addysgu plant a phobl ifanc fod newidiadau bychain yn ein bywydau o ddydd i ddydd yn gwneud llawer o wahaniaeth yn y pen draw a bydd yr Urdd yn pwysleisio hyn mewn cyfres o weithdai yn ysgolion Cymru dros y tair blynedd nesaf," meddai Efa Gruffudd Jones.

Dyma thema Neges Ewyllys Da y mudiad eleni a luniwyd gan griw o Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun, a fu'n trafod materion amgylcheddol gyda Janet Ryder AC yn ystod ymweliad 芒'r Cynulliad.

O fewn yr Urdd dywedodd i wersyll Llangrannog gymryd "camau breision" tuag at fod yn wyrddach gan ennill Baner Werdd. Bu plant lleol yn plannu coed yno.

"Mae Gwersyll Glan-llyn hefyd yn anelu at fod yn fwy gwyrdd," meddai.

Ers mis Medi argraffwyd cylchgronau misol yr Urdd ar bapur wedi ei ailgylchu ac yn ddiweddar cyflwynwyd Polisi Amgylcheddol mewnol.

Ychwanegiad at yr holl weithgarwch hwn yw'r goeden bamb诺 ar faes yr Eisteddfod gyda thaflenni gan ddisgyblion Ysgol Brynhyfryd yn galw ar arweinyddion y byd i weithredu ar newid hinsawdd.

"Mae croeso i ymwelwyr yr Eisteddfod i gyd glymu'r cardiau wrth y goeden ac ymuno gydag aelodau'r Urdd ac Oxfam Cymru," meddai Efa Gruffudd Jones.


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.