主播大秀

Llywydd y Dydd

Meinir Lynch - dychwelyd i faes cyfarwydd

Mae Meinir Lynch yn hen gyfarwydd 芒 chymryd rhan yn Eisteddfod yr Urdd. Ers ei dyddiau cynnar yn Ysgol Llangwm ac Ysgol y Berwyn Y Bala, bu Meinir yn aelod o'r Urdd gan gymryd rhan yn rheolaidd yn Eisteddfodau'r mudiad o flwyddyn i flwyddyn.

Dywed iddi gael mwynhad a phleser mawr yn teithio o un Eisteddfod i'r llall gan ymweld ag ardaloedd newydd o Gymru.

Ac mae'n dal i fod yr un mor weithgar gyda'r Urdd heddiw ac erbyn hyn yn cael boddhad mawr o hyfforddi ieuenctid Aelwyd Llangwm.

A hithau'n gyn bennaeth Drama yn Ysgol y Creuddyn bydd lleoliad yr Eisteddfod eleni yn yn dod 芒 llu o atgofion melys iddi.

Ers rhoi'r gorau i ddysgu ddiwedd yr Wythdegau bu Meinir yn sgriptio rhaglenni teledu yn amrywio o raglenni meithrin i Pobol y Cwm

Am yr eisteddfod eleni dywedodd: ''Bydd hi'n brofiad gwych i'r holl blant gael cystadlu eleni, ac rwy'n mawr obeithio y bydd pobl yn tyrru i Gonwy i gael blas o'r hyn fydd gan yr Eisteddfod i'w gynnig. Rwy'n hynod falch o weld yr Eisteddfod yn dychwelyd i'r ardal ac rwy'n sicr y bydd yn debygol o adael ei 么l ar fro Conwy a'r cyffiniau.''


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.