主播大秀

Paul Griffiths

Galw am greu cynllun dramodwyr ifanc

Enillwyr yn cael eu hudo o'r llwyfan i borfeydd brasach

Dylid sefydlu cynllun cenedlaethol a fydd yn galluogi enillwyr Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd ddatblygu eu doniau a chyfoethogi byd y ddrama yng Nghymru.

Daeth yr alwad oddi wrth arweinydd seremoni'r fedal eleni, Paul Griffiths.

"Mae'n dristwch na chafodd y rhan fwyaf o enillwyr y gorffennol eu meithrin i sgrifennu ar gyfer y llwyfan," meddai Mr Griffiths sy'n gyn enillydd ei hun ac yn golofnydd theatr Y Cymro.

Dywedodd ei bod yn ofid iddo fod y llwyfan yn colli'r enillwyr hyn wrth iddyn nhw gael eu hudo i fyd brasach teledu.

"Cael eu hudo i borfeydd brasach y sgrin fach ydi hanes enillwyr y fedal," meddai.

"Mae'n ofynnol arnom erbyn hyn i sicrhau yr un abwyd ariannol a chreadigol i gyfoethogi y theatr yn ogystal," meddai.

"Pam na ellir sefydlu cynlluniau hyfforddi blynyddol dan adain dramodwyr a chyfarwyddwyr profiadol a hynny trwy nawdd Urdd Gobaith Cymru a'r Theatr Genedlaethol?" gofynnodd.

"Byddai hynny yn gyfle gwych i ddarpar ddramodwyr ddysgu crefft, i dderbyn sylwadau ar eu gwaith ac i gynnal eu hunain am flwyddyn wrth hyfforddi.

"Ar ddiwedd y cyfnod byddai llyfrgell o ddramau newydd yn flynyddol yn barod i'w llwyfannu a lleisiau ifanc yn cael mynegi eu barn," meddai.


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.