主播大秀

Help / Cymorth

Archifau Ionawr 2013

Owain Griffith - Violas / Carw

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 17:31, Dydd Llun, 21 Ionawr 2013

Sylwadau (1)

Haia
Un o fy hoff CDs o 2012 oedd un nes i ei phrynu yng Ngwyl Gwydir y llynedd - EP 'Nos Somnia' gan Violas. Mi oedd y Violas yn gwneud set fach acwstic ar lwyfan Nyth, ac yn perfformio fersiyne acwstic o dracie fel Penseiri ac Ama Dablam.

Ers clywed 'Nos Somnia' am y tro cyntaf, mae harmonia hyfryd, curiadau hudolus a synau hiraethus Violas wedi dod yn dipyn o ffefryne gen i, felly difyr iawn oedd clywed fod Owain o'r grwp wedi dechra prosiect unigol o'r enw "Carw". Mae o wedi creu cyfri , ac wedi rhoi un trac - Elevate - ar . O'r nodyn cyntaf, mae'r trac yn dwyn i gof swn gitar y Violas, ond mae'r curiadau electroneg yn dod a naws eitha gwahanol i "Carw".

Gobeithio cawn ni lot mwy gan Owain, achos mae Elevate yn wych... ond gobeithio hefyd y bydd y Violas yn parhau fel grwp!
Hwyl
Lis
x

ON Newydd glywed gan Owain - mae o'n gweithio ar fwy o ganeuon ar hyn o bryd, hefo'r gobaith o ryddhau EP pan fydd digon o ddeunydd. Mae'n recordio hefo'r cynhychydd Llion Robertson, ac yn gobeithio gigio - ond ar hyn o bryd yn trio gweithio allan sut fyddai popeth yn gweithio'n fyw!! Diolch Owain!

SFA - yr unigolion...

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 10:56, Dydd Gwener, 18 Ionawr 2013

Sylwadau (0)

Haia!
Fel grwp, mae'r Super Furry Animals wedi bod yn dawel iawn yn y blynyddoedd dwetha - dim albym ers Dark Days/Light Years yn 2009, a heblaw am chware yn noson goffa Gary Speed yn Stadiwm y Mileniwm, fawr ddim gigs chwaith.

Yn amlwg, i ffan fel fi, ma hynny'n beth drwg - dwi'n gweld colled un o'n grwpie mwya creadigol erioed, ond er fod y grwp 'di bod yn dawel, mae'r aelodau - Gruff Rhys, Cian Ciaran, Daf Ieuan, Huw Bunford a Guto Pryce wedi bod yn brysur iawn., ac mae 2013 yn argoeli i fod yr un mor gynhyrchiol iddyn nhw.

Sengl Gulp prosiect newydd Guto Pryce hefo Lyndsey Leven, oedd un o fy hoff sengle o 2012, a dwi'n edrych 'mlaen at glywed mwy ganddyn nhw eleni. Mi oedd albym unigol gynta Cian Ciaran, "Outside In", llawn harmoniau hyfyrd a geirie torcalonus, ac felly dwi'n hynod falch bod Cian yn bwriadu rhyddhau ei ail albym yn y misoedd nesa' 'ma.

Yr wythnos d'wetha ar y rhaglen, ro'n i'n ddigon lwcus i fedru chwarae traciau "ecsgliwisif" oddiar albym newydd The Earth - band Daf Ieuan hefo Mark Roberts (Cyrff/Catatonia/Ffyrc) a Dionne Bennet (The Peth). Ma na swn pop 'soul' anhygoel i'r albym, swn eitha retro, ond hefyd yn llawn angerdd. Mi fydd albym gynta' The Earth, "OFF/ON1", yn cael ei rhyddhau ar label Strangetown Records yn fuan, hefo sengl am ddim o'r enw "I Deserve You" ar Chwefror 2il.

Mae Gruff Rhys hefyd 'di bod yn brysur yn y 3 mlynedd dwetha - falle eich bod chi wedi gweld y ffilm Seperado ar S4C dros y 'Dolig, neu wedi prynu'r albym wych "Hotel Shampoo" - albym fuddugol y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg 2011? Ond beth am 2013...?

Wel, cyn y Dolig, ges i sgwrs hefo Gruff, ac mi oedd o'n son fod ne albym newydd ganddo ar y ffordd yn 2013. Doedd o ddim isho deud mwy, ond mae na ambell gliw wedi ymddangos yn y dyddiau dwetha. Mae Neon Neon wedi creu cyfrif Twitter - Neon Neon oedd prosiect Gruff hefo Boom-Bip, gafodd enwebiad Mercury - i gyhoeddi y bydda nhw'n DJ-io yn y Roundhouse yn Llundain ar Chwefror 19eg. Ma nhw hefyd wedi lawnsio tudalen tmblr... Dybed ydy hyn yn golygu fod yr ail albym ar y ffordd? Gobeithio wir!

Hwyl
Lis
X

Gwyl Glan Llyn!

Criw C2 Criw C2 | 13:15, Dydd Mercher, 16 Ionawr 2013

Sylwadau (0)

Mae Glan Llyn wedi cyhoeddi manylion gwyl gyffrous fydd yn digwydd ym mis Ebrill ac mae C2 yn falch o fod yn rhan o bethau!

Byddwn yn darlledu setiau o lwyfan yr wyl gan Swnami, Y Bandana, Niwl a Candelas ar C2. A fe allwch chi fod yn rhan o'r penwythnos hefyd - mae gwahoddiad i fandiau ifanc rannu llwyfan gyda rhai o brif fandiau Cymru!

Ewch draw i'r dudalen Facebook i gael y manylion i gyd:
https://www.facebook.com/events/588036764556202/

Welwn ni chi yno!

Meic Ar Y Meic

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Huw Stephens Huw Stephens | 13:28, Dydd Llun, 14 Ionawr 2013

Sylwadau (0)

Helo! Huw sy 'ma ar flog C2.

Yn ei eitem rheolaidd Meic Ar Y Meic dwi wedi siarad efo Mici Plwm, Mikee Snooze, Mike Williams, Mici Ruggerio a Meic Parry. Heno dwi'n mynd i siarad efo Meic Stephens.

Dad ydi Meic Stephens ac mae ei gasgliad recordiau wedi bod o ddiddordeb ers blynyddoedd.

Meic Stephens a Huw Stephens

Meic Stephens a Huw Stephens

Ar gyfer C2, dwi di gofyn i dad i ganolbwyntio ar recordiau mewn ieithoedd lleiafrifol, felly bydd recordiau o Lydaw ac o Iwerddon ar y rhaglen heno.

Recordiau Meic Stephens

Mae'r rhaglen rhwng 7 ac 8.

Hwyl!

Noson Wobrau'r Selar

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 15:00, Dydd Gwener, 11 Ionawr 2013

Sylwadau (0)

Helo!
Mi fydd y rhai ohona ni sy鈥檔 dilyn cylchgrawn Y Selar ar Twitter neu Facebook wedi sylwi eu bod nhw鈥檔 brysur iawn ar hyn o bryd. Mae鈥檔 nhw wrthi鈥檔 paratoi rhifyn nesa鈥檙 cylchgrawn (ac yn chwilio am newyddion/cynnyrch newydd, gyda鈥檙 llaw yselar@live.co.uk) ond mae hi hefyd yn gyfnod pleidleisio Gwobrau鈥檙 Selar.

Mae Gwobrau鈥檙 Selar yn digwydd yn flynyddol, ac yn gwobrwyo artistiad Cymraeg am eu gwaith a鈥檜 cynnyrch yn ystod y flwyddyn 鈥 a ni鈥檙 cyhoedd sy鈥檔 cael pleidleisio. Felly 鈥

Ond yn fwy na hynny eleni, mae Selar wedi penderfynnu creu 鈥淣oson Wobrau鈥檙 Selar鈥 鈥 ryw fath o fersiwn cyfoes o nosweithiau Sgrech y gorffennol dwi鈥檔 meddwl. Mi oedd Y Selar wedi cyhoeddi鈥檙 dyddiad a鈥檙 lleoliad yn barod, sef Neuadd Hendre ar Fawrth 2il, ond heddiw, ma nhw wedi cyhoeddi rhai o鈥檙 artistiaid fydd yno ar y noson.

Yr enwau cyntaf i gael eu cyhoeddi ydy Cowbois Rhos Botwnnog, Y Bandana, Gwenno a Swnami! Mi ydw i鈥檔 andros o falch gweld rhai o fy hoff artistiaid ar y rhestr 鈥 mae hi鈥檔 edrych yn 鈥渓ine-up鈥 a hanner hyd yma!

Mae tocynnau鈥檙 noson ar werth rwan o wefan Sadwrn sadwrn.com - 拢6 ymlaen llaw, neu 拢8 ar y drws 鈥 os bydd rhai ar ol!

Dwi鈥檔 edrych ymlaen yn barod at y gig, a phwy bynnag fydd yr ennillwyr, mi fydd hi鈥檔 gig anhygoel dwi鈥檔 siwr.

Hwyl
Lis
x

Race Horses yn dod i ben

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 14:12, Dydd Gwener, 11 Ionawr 2013

Sylwadau (0)

Helo na
Fe gafodd y gr诺p Radio Luxembourg ei ffurfio gan Dylan Hughes a Meilyr Jones yn Aberystwyth nol yn 2005; heddiw, fe ddaeth olynydd Radio Lux, y Race Horses i ben, a dwi'n hynod drist.

Mae fy nghyfnod i ar C2, a chyfnod Radio Lux / Race Horses mwy neu lai yn cyd-fynd, a dwi wedi dilyn gyrfa'r band yn agos iawn. O'r sengl gyntaf Lisa, Magic a Porva ar label Ciwdod i'r albym ddwetha, Furniture, dwi wastad wedi edrych ymlaen at beth bynnag oedd gan y gr诺p ar y gweill.

Dwi'n meddwl mai Race Horses ar ei wedd bresennol - Dylan a Meilyr, Gwion ar y drymiau, a Mali a Dan - ydy un o'r grwpiau mwyaf talentog o gerddorion i mi eu cyfarfod. Mae gwylio nhw ar lwyfan yn profi eu dawn; nid yn unig ma' nhw'n llwyddo i gyfleu haenau cymhleth eu caneuon yn fyw, ond ma' nhw'n cyfnewid offerynnau drwy'r adeg - Gwion ar y drymiau, yna ar git芒r; Mei ar y bas, yna'r drwm mawr; Mali ar y delyn, yna'r allweddellau.

Ma' nhw wir yn gr诺p amryddawn, a'r cyfan yn cael ei arwain gan un o'r "frontmen" mwyaf carismataidd. Mae gwylio Meilyr ar lwyfan, fel dwedodd Bat For Lashes mewn cyfweliad yn ddiweddar, yn brofiad bythgofiadwy.

Dwi mor falch erbyn hyn mod i wedi mynd i'w gweld nhw ddwywaith mewn wythnos cyn y Nadolig - unwaith yng Nghaernarfon, ac unwaith yn y Gate yng Nghaerdydd. Dyna sut y bydda i'n cofio'r Race Horses - roedd gig y Gate yn un o'r goreuon erioed i mi, gyda'r band ar eu gore mewn lleoliad perffaith. Bechod ofnadwy na chawsom nhw'r cyfle i deithio hefo Kaiser Chiefs fel y cynllun, ond roedd y gig yno yn y Gate yn fythgofiadwy.

Gwahaniaethau cerddorol oedd yn gyfrifol am ddiwedd y band, mae'n debyg, a thra bo hynny'n drist, mae'n awgrymu fod gan yr aelodau syniadau pendant ar gyfer eu cerddoriaeth yn y dyfodol. Da ni wedi clywed yn sydyn iawn gan Gwion, sy'n hynod drist am bopeth, ond sydd hefyd yn gado traciau newydd ganddo yn fuan.

Felly pob lwc yn y byd i Meilyr, Dylan, Gwion, Mali a Dan yn y dyfodol, a diolch am yr holl gerddoriaeth, cyfweliadau a gigs yn ystod yr 8 mlynedd dwetha.

Mae hi wedi bod yn dipyn o j么c rhyngddyn nhw a fi erioed, eu bod nhw'n ofnadwy o araf yn rhyddhau eu caneuon, a dwi wastad wedi bod yn holi - "pryd gawn ni rywbeth arall ganddoch chi?". Bechod mawr na cha i ofyn hynny eto - ond diolch am bopeth Race Horses!

Cariad mawr

Lis
x

ON - dyma sesiwn Unnos arbennig iawn y Race Horses - "Tiamalina - gweithio mewn gwesty a canu mewn grwp" ag Oriel Luniau Race Horses yn recordio sesiwn byw ar gyfer rhaglen huw Stephens.

Gai Toms - gigs Bethel

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 12:56, Dydd Mawrth, 8 Ionawr 2013

Sylwadau (0)

Helo eto!

Cwpl o fanylion bach am ; mae Gai wedi cyhoeddi y bydd o'n chwarae yng Ngwyl "" eleni, sy'n digwydd ar Ebrill 26ain yn Wrecsam. Mae Gai hefyd yn chwilio am gigs i hyrwyddo'r albym Bethel rhwng Chwefror 23 ac Ebrill 27 - os 'da chi'n drefnydd gigs ac awydd cael Gai draw.

Mae albym Gai - Bethel - allan ers 'chydig cyn 'Dolig, ond os nad yda chi wedi clywed hanes yr albym, dyma'r holl wybodaeth gan Gai.
Hwyl
Lis
x

GAi ToMS - BETHEL
Yr albwm dwbl hirddisgwyliedig. Gwledd o gerddoriaeth! (CD a MP3)

Dyma'r ail albwm i'r trwbadwr o Fro Ffestiniog ers difa'r enw Mim Twm Llai.
Y tro hwn, albwm dwbl / 2 CD - 1.Bethel Hen a 2.Bethel Newydd.

Dathliad yw'r albwm o fywyd newydd festri Capel Bethel yn Nhanygrisiau, Bro Ffestiniog. Mae Gai Toms wedi buddsoddi yn yr adeilad er mwyn ei drosi i stiwdio recordio, gofod ymarfer a swyddfa i Recordiau SBENSH. Cyn newid yr adeilad yn gyfan gwbl, penderfynodd recordio albwm fel teyrnged i'r hen, ac i ddathlu'r newydd.

CD1. Mae Bethel Hen yn gyfle i'w glywed fel cyfansoddwr a pherfformiwr amrwd. Cynhyrchiad syml gyda llais a git芒r yn bennaf, ond... er y teitl 'Hen', caneuon gwreiddiol newydd sbon sydd arni, gwerin eu naws ond yn gyfoes ac yn fythol ar yr un pryd.

CD2. Ar Bethel 'Newydd' clywn Gai Toms a'r band, caneuon aml-arddull gwreiddiol ond gyda swn a chynhyrchiad llawnach na'r hyn a glywir ar 'Hen'. Does dim ond angen gwrando ar ddeunydd Anweledig a Mim Twm Llai i brofi nad yw cymysgu arddulliau yn beth newydd iddo.


"Rwyf wedi gweithio'n galed iawn ar Bethel ac yn falch iawn o'r canlyniad, hon yw fy albwm orau hyd yn hyn. Ni fuasai'r albwm yn swnio fel y mae hi heb y cyfrannwyr i gyd, rwyf mor lwcus i fod yn ran o gymuned cerddorol talentog." GT


Ar y cyfan mae Bethel yn wledd o gerddoriaeth ble mae ymroddiad yr artist i'w grefft yn amlwg iawn. Dyma Gai Toms ar ei orau, dylai hon fod yng nghasgliad pawb.

CYFRANNWYR: Er mai artist unigol gyda band yw Gai, mae cyfoeth o artistiaid yn cyfrannu i'r wead sonig. Mae'r band ffyddlon arni wrth gwrs, ond hefyd cawn gerdd arbennig gan y bardd a'r awdur Dewi Prysor, mae Seindorf yr Oakley a Ch么r y Moelwyn yn ychwnegu sain epig, yn ogystal a sgat byrfyfyriol gan y bardd o Efrog Newydd - Bob Holman! Mae ymddangosiadau arbennig hefyd gan criw o Dangrisiau yn cynnwys Dr Meredydd Evans (94bldd oed!), Ceri Cunnington (Twmffat), Phil Lee Jones (GHF / Twmffat), Lauren Humphreys, Kaz a Asa Bentham (Estella), Owain Jones (Masters in France) a ch么r o blant Ysgol Tanygrisiau + mwy. (rhestr llawn i'w weld ar y clawr)

Bydd Gai Toms a'r band yn teithio Bethel yn 2013. Dyddiadau i'w cadarnhau.

CD1 BETHEL 'Hen'

1. C芒n y dewis
2. Cylchoedd
3. Seren
4. T芒n yn y sgw芒r
5. Adar o'r unlliw
6. Y Bonws
7. Un
8. Ar y Moelwyn
9. Hud o hyd
10. Bethel

CD2 BETHEL 'Newydd'

1. Awyr las
2. Daw'r haf yn ol
3. Llyn Tekapo
4. Bradwr
5. Anti Paganda
6. Haul ar fryn
7. Eiliadau
8. Glaw yr haf
9. Twll tyllu
10. Stiletos Gwydr
11. T芒n oer
12. Diwrnod eliffantod

Cynhyrchwyd gan Gai Toms
Cymysgwyd gan 'Hen' GT a 'Newydd' gan Geraint Jones @ninjasound
Mastro Geraint Jones @ninjasound
Recordiwyd yn Stiwdio Sbensh. Cymru / Wales

Band Paul Cockerill (dryms)
Euron Jones (git芒r drydan )
Gary Richardson (bas)
Elaine Thomas Gelling (lleisiau cefndir)

Gigs 'Coll'

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 11:53, Dydd Mawrth, 8 Ionawr 2013

Sylwadau (0)

Haia
Newydd gael ebost gan Dilwyn Llwyd am gigs Coll - meddwl byswn i'n ei rannu!
Lis
x

Sumai,
Isod mae digwyddiadau Coll dechrau 2013 yn Y Llangollen,Bethesda ac mewn cydweithrediad a Pontio.

Oes modd hyrwyddo y digwyddiadau canlynol a'i rhoi mewn rhestyr digwyddiadau.
Mae pethau eraill cyffroes yn cael ei trefnu ar gyfer 2013 hefyd.
Bydd cyhoeddiad am y rhain yn fuan.

Blwyddyn Newydd Dda.

Hwyl,

Dilwyn
-------------------------------------------------
RENO CORRADO PIMPS
nos wener 11.1.13 9pm
Y Llangollen, Bethesda
-------------------------------------------------------------

MEMORY CLINIC+
nos wener 25.1.13 9pm
Y Llangollen, Bethesda
-------------------------------------------------------------
SEN SEGUR+
nos wener 8.2.13 9pm
Y Llangollen, Bethesda
------------------------------------------------
RICHARD JAMES A'R BAND
GARETH BONELLO
PLU
nos sadwrn 9.2.2013 8pm
Clwb Rheilffordd,Bangor

Tocyn 拢10 | Gostyniad 拢8
Ff么n: 01248 382828, ymwelwch 芒 Palas Print Pendref neu archebwch arlein: www.pontio.co.uk

Sen Segur - Sudd Sudd Sudd

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 08:51, Dydd Llun, 7 Ionawr 2013

Sylwadau (0)

Haia!
Yn syth ar ol i ni dderbyn albym gynta Siddi, mae ail CD gan label i-ka-ching wedi glanio ar fy nesg. Y tro yma, EP sydd wedi cyrraedd - "Sudd Sudd Sudd". Mae'r EP wedi ei recordio gan Mr Huw, a'i ol-gynhyrchu gan Iwan "Recall" Morgan", ac mi fydd allan ar Ionawr 21ain.

Un o'r pethe cynhara' i Sen Segur wneud fel band oedd recordio sesiwn byw i'r rhaglen 'nol yn 2010. Er fod y band yn ifanc iawn, a'r sesiwn yn recordiad byw, eitha amrwd, mi oedd hi'n amlwg o'r cychwyn cyntaf eu bod nhw'n fand talentog iawn, llawn syniadau, a chaneuon bachog.

Ers hynny, dwi wedi gweld y band lot fawr o weithie'n fyw, a thrwy gigio'n hynod gyson a chyd-weithio hefo cynhyrchwyr fel a , mae swn y band wedi datblygu, ac ma nhw erbyn hyn yn fand byw gwych, hefo arddull unigryw. Mi oedd yr EP gynta Pen Rhydd, ddaeth allan yn 2011, yn anhygoel, a'r sengl Sarah/Nofa Scosia yn bop seicadelic perffaith!

Felly, dwi'n edrych ymlaen at fedru chwarae'r traciau ar y rhaglen yn fuan gobeithio, ac yn y cyfamser, dyma rywfaint mwy o wybodaeth am yr EP gan y band.
Hwyl
Lis
X

Sen Segur
Sudd Sudd Sudd
Traciau:

Hei Bacym Do!
Lemoned Cymylog
Nofio Trybelydrol
Sentriffiwgal
8onglog

Gigs
19.01.13 Clwb Ifor Bach, Caerdydd/Cardiff
26.01.13 Caffi Siabod, Capel Curig
02.02.2013 Caerfyrddin/Carmarthen
05.02.2013 Bala
08.02.2013 Y Llangollen, Bethesda
09.03.2012 Ar y Rels, Bangor


Rhyddheir Sudd Sudd Sudd ar ffurf CD ac yn ddigidol i'w lawrlwytho o itunes, amazon, spotify ayyb o'r 21ain o Ionawr 2013 ymlaen. Bydd Sen Segur yn gigio'n brysur i hyrwyddo'r ep yn y flwyddyn newydd, a bydd yr ep ar gael i'w prynu yn y gigs, yn ogystal ag yn y siopau canlynol: ; Bys a Bawd (Llanrwst); Andy's Records (Aberystwyth); Spillers Records (Caerdydd); The Parrot (Caerfyrddin) ; Awen Meirion (Bala), Llen Llyn (Pwllheli), Palas Print (Caernarfon) a gwefan www.sadwrn.com.

Siddi - Un Tro

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 15:37, Dydd Mercher, 2 Ionawr 2013

Sylwadau (0)

Helo!
Dwi'n ofnadwy o falch fod 2013 yn dechrau hefo albym dwi di bod yn edrych ymlaen ati ers dipyn - albym Siddi - "Un Tro". Falle fod yr enw yn un newydd i ambell un, ond mi fyddwch chi'n sicr yn adnabod y lleisiau ar yr albym achos Siddi ydy prosiect Branwen o Cowbois Rhos Botwnnog a'i brawd Osian, sy'n aelod o'r Candelas.

Fe ges i "demo" hyfryd o un o ganeuon Siddi gan Branwen 'nol ym mis Mawrth 2012, a'i gwahodd nhw i wneud sesiwn acwstic yn 主播大秀 Bangor. Yn anffodus, oherwydd prysurdeb Branwen ac Osian hefo Cowbois, Candelas a phob math o bethe eraill, roedd hi'n fis Mehefin erbyn iddyn nhw ddod ata ni - ond mi oedd o'n sesiwn cofiadwy iawn. Mae symlrwydd y caneuon, a llais anhygoel Branwen yn rhoi ias i mi pob tro, ac mi oedd y profiad o wrando ar y caneuon yn fyw yn wefreiddiol.

Mae'r albym yn rhoi'r un profiad iasol - ond ma na ambell i beth eitha gwahanol yno hefyd... Mi fydd yr albym allan ar Ionawr 14eg ar label i-ka-ching, ac yn garedig iawn mae'r label wedi rhoi trac i'w lawrlwytho . Mae'r gwaith celf hefyd i'w weld yno - gan yr artist
Felly pob lwc i Siddi hefo'r albym newydd!
Lis
x

Cerddoriaeth 2013

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 12:42, Dydd Mercher, 2 Ionawr 2013

Sylwadau (0)

Helo a blwyddyn newydd dda!

Dwi'n edrych 'mlaen at flwyddyn arall o gyflwyno cerddoriaeth newydd o bob math ar C2. Ond ar ddechre 2013, mae'r sefyllfa rhwng y 主播大秀 ac EOS am olygu newidiadau i'r rhaglen. Ar hyn o bryd, fydd C2 ddim ond ymlaen am awr bob nos, a fydda i ddim yn gallu chware popeth fyddwn i'n ei wneud fel arfer.

Yn amlwg, mi ydw i a gweddill y criw yn gobeithio y bydd ne gytundeb teg yn dod yn fuan, ac y cawn ni barhau i roi llwyfan i'r holl gerddorion talentog 'da ni'n mwynhau cyd-weithio hefo nhw. Yn y cyfamser, mi ydw i a'r criw am wneud yr hyn y gallwn ni i sicrhau fod y gynulleidfa'n cael gwasanaeth mor gyflawn ac y gallwn ni, a bod yr artistiaid sydd wrthi'n cyfansoddi, recordio a rhyddhau ar hyn o bryd yn cael cymaint o sylw ac sy'n bosib o dan yr amgylchiadau, a'r cyfyngiadau.

Felly, mi fydda i'n blogio yn ystod y cyfnod, yn dod a newyddion o'r s卯n, ac yn rhannu lincs i wefannau cerddorion, deunydd newydd, gigs ayyb. Yn y blog nesa, dwi'n gobeithio son rhywfaint am albym Siddi, ac EP Sensegur.

Dwi nol ar C2 nos fercher am 7. Blwyddyn newydd dda!

Lis
x

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.