主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Llyfr y flwyddyn
Y nofel Martha Jac a Sianco a ddewiswyd yn Llyfr y Flwyddyn 2005:
Derbyniodd yr awdur, Caryl Lewis - merch y gantores Doreen Lewis - wobr o 拢10,000 mewn cyfarfod i ddathlu'r achlysur yn yr Hilton, Caerdydd, Mehefin 21, 2005.

Llyfr Saesneg y flwyddyn yng Nghymru oedd The Dust Diaries gan Owen Sheers.

Arwydd o fywiogrwydd
Yn bresennol yn yr Hilton yr oedd Gweinidog Diwylliant y Cynulliad, Alun Pugh a ddisgrifiodd y llyfrau fel arwydd o fywiogrwydd llenyddiaeth Cymru.

"Mae'r llyfrau yn y gystadleuaeth fawreddog hon yn engreifftiau ardderchog o'r hyder cynyddol yn yr hyn y gall y celfyddydau eu cynnig i Gymru, a dengys bod ll锚n yng Nghymru yn fywiog ac yn ffynnu," meddai.

"Rwy'n eithriadol o falch fy mod wedi gallu rhoi nawdd ariannol i'r ffurf lenyddol hollbwysig hon," ychwanegodd.

Llenor disglair
Wrth longyfarch Caryl Lewis dywedodd Meg Elis, cadeirydd panel y beirniaid Cymraeg:
"Mae Caryl yn llenor disglair. Yr oeddem ni'n tri fel beirniaid yn unfryd unfarn mai hi oedd wedi ysgrifennu'r nofel orau.".

Nofelau gan Bethan Gwanas, Elin Llwyd Morgan a Caryl gyrhaeddodd y rhestr fer eleni.

Y fwyaf profiadol o'r tair, heb os, oedd Bethan Gwanas, awdur Hi yw fy Ffrind eisoes wedi ennill gwobr Tir Na N'og fwy nag unwaith.

Daeth Caryl Lewis i gryn amlygrwydd sydyn gyda'i hail nofel, Martha Jac a Sianco a ganmolwyd gan feirniaid a darllenwyr fel ei gilydd ac heb os hi oedd y ffefryn yn y gystadleuaeth unwaith y lluniwyd y rhestr fer.

Cryn gamp
Ond cyflawnodd Elin Llwyd Morgan - sy'n ferch i'r nofelydd Jane Edwards a'r beirniad llenyddol a bardd, Derec Llwyd Morgan - gamp trwy gyrraedd y rhestr fer gyda'i nofel gyntaf, Rhwng y Nefoedd a Las Vegas.

Er na fu'n fuddugol canmolwyd y nofel hon gan feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen y llynedd.

Yr oedd yn noson o ddathlu arbennig i Wasg y Lolfa gan mai hi gyhoeddodd y tair nofel.

Y tri llyfr ar y rhestr fer Saesneg oedd: Remember Me gan Trezza Azzopardi; The Land as Viewed from the Sea gan Richard Collins a The Dust Diaries , Owen Sheers.

Y tri beirniad Cymraeg eleni oedd Hafina Clwyd, Meg Elis a Tony Bianchi a'r beirniaid Saesneg; Charlotte Williams, Tony Brown a Patrick Hannan.

  • Holi Caryl Lewis: Cliciwch

    Adolygiadau o'r tri llyfr Cymraeg:

  • Martha, Jac a Sianco gan Caryl Lewis. Gwasg Y Lolfa.

  • Hi yw fy Ffrind gan Bethan Gwanas. Gwasg Y Lolfa

  • gan Elin Llwyd Morgan. Gwasg Y Lolfa

    i ddarllen mwy am y noson

  • Cysylltiadau Perthnasol



    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy