主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Ar Lwyfan Byd
Codi llais dros Gymru
  • Ar Lwyfan Byd gan Alun Guy. Cyfres Cantorion o Fri. Gwasg Gomer.拢8.99.

  • Wrth ochr Ar Lwyfan Cymru y bydd y gyfrol hon yn gorffwys ar eich silff lyfrau.

    Yn y gyfrol honno rhoddodd Alun Guy hanes Sh芒n Cothi, Trebor Edwards, John Eifion, Tom Gwanas, Dai Jones a Fflur Wyn.

    Yn yr ail gyfrol, Ar Lwyfan Byd mae'n rhoi yr un sylw i chwech o gantorion a ddaeth i enwogrwydd byd-eang - gan gynnwys y seren ddiweddaraf yn y ffurfafen gerddorol Gymreig, Katherine Jenkins.

    Clawr y llyfr Mae'r cychwyn a gafodd gyrfa y ferch ifanc ddymunol hon yn ymdebygu i sgript Hollywood.

    Tri uchelgais
    Yn barod, o fewn dwy flynedd, mae wedi cyflawni yn barod dri uchelgais a osododd iddi'i hun.

    "Tri uchelgais oedd ganddi mewn bywyd . . .; canu yn Nh欧 Opera Sydney, canu yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd, a chyrraedd brig y siartiau cerddoriaeth glasurol. Gwireddwyd ei dyheadau i gyd o fewn blwyddyn, bron!" meddai Alun Guy gan ychwanegu;

    "Y gwir amdani yw fod gennym ni yng Nghymru artist gwych arall . . . yn y l么n gyflym sy'n prysur goncro'r byd cerdd yn y ganrif newydd hon."

    Amhosib anghytuno ag ef pan ddywed: "Os bu eicon cerddorol fodern erioed yng Nghymru, wel dyma hi."

    Ond mae Alun Guy yn tynnu ein sylw at y ffaith na ragwelodd pawb ddyfodol mor lewyrchus iddi:
    "Fe fu Katherine yn cystadlu droeon yn Eisteddfodau'r Urdd . . . ond aeth hi ddim pellach na'r Eisteddfod Sir," meddai cyn holi, "Pwy tybed oedd y beirniad?"

    Gallai yr un mor hawdd fod wedi holi beth ddaeth o'r rhai a'i curodd hefyd!

    Canu gyda ch么r ei heglwys fu'r man cychwyn go iawn iddi a thrwy ei chysylltiad 芒'r eglwys y bu iddi feithrin ac arddangos yr hyn a eilw Alun Guy ei "thalent leisiol naturiol".

    Gwerthu'n gyflym
    Yn sicr mae'r llais hwnnw yn un y mae pobl yn gwirioni arno.

    "Katherine," meddai Alun Guy, "yw'r gantores opera sy wedi gwerthu recordiau gyflymaf ers dyddiau Maria Callas - yn gyflymach hyd yn oed na s锚r operatig fel Lesley Garrett, Kiri Te Kanawa ac Angela Gheorghiu," meddai.

    Ac, wrth gwrs dim ond megis cychwyn mae ei gyrfa.

    Mae'r cantorion eraill yr adroddir eu hanes yn y llyfr - Bryn Terfel, Stuart Burrows, Rebecca Evans, Gwyn Hughes Jones a Rhys Meirion - wedi hen ymsefydlu - yn wir, yn achos Stuart Burrows mae'r yrfa wedi ei chwblhau a'r llwyddiannau wedi eu sylweddoli gan y "tenor Mozartaidd gorau ei gyfnod" a wnaeth Covent Garden "bron yn ail gartref iddo'i hun."

    Mewn ysbyty
    Mae'n gyd-ddigwyddiad difyr fod y ddwy ferch yn y gyfrol, Katherine Jenkins a Rebecca Evans, a'u gwreiddiau yn yr un ardal gyda'r naill o Gastell-nedd a Rebecca o Bontrhydyfen ger Port Talbot - cynefin y bariton, Ivor Emmanuel, a'r actor, Richard Burton.

    Yn wahanol i'r holl gantorion eraill yn y gyfrol does dim cysylltiad o gwbl 芒'r eisteddfod yn hanes Rebecca .

    Yn yr ysgol, gyrfa mewn meddygaeth oedd ei huchelgais hi ac mewn theatr dra gwahanol i'r rhai cerdd yr oedd i ddisgleirio cymaint ynddynt maes o law y bu'n gweithio.

    Ond tra'n gwasanaethu mewn theatr ysbyty yr oedd hefyd yn mwynhau canu amatur fin nos a thros y penwythnosau.

    Wedyn y trodd y canu hwnnw yn yrfa broffesiynol a hithau erbyn hyn yn "cael ei chyfrif ymysg sopranos Mozartaidd telynegol gorau'r byd, nid yn unig ar lwyfan opera ond hefyd ar lwyfannau cyngerdd," meddai Alun Guy.

    "Bu'n perfformio mewn gwyliau rhyngwladol ym Melbourne, Awstralia, Boston, Indianapolis a Barcelona ac yn rhannu llwyfannau gydag arweinyddion enwoca'r byd," ychwanega.

    Penderfyniad anodd
    Y mae Rhys Meirion yn un arall a saethodd i enwogrwydd ar 么l newid gyrfa. Yr oedd yn athro ysgol cyn mynd yn fyfyriwr h欧n i'r Guildhall - penderfyniad anodd fel y dengys y gyfrol hon gan nad oedd y grantiau oedd ar gael ond ar gyfer myfyrwyr dan eu 30 oed.

    Yn ffodus daeth S4C, er mawr glod i'r sianel, i'r adwy gan dalu ei ffioedd astudio am ddwy flynedd.

    "Cafodd Rhys lety yn ystod yr wythnos mewn hostel YMCA yn Llundain gan ddychwelyd i Ruthun bob penwythnos," meddai Alun Guy.

    Nid cronicliad moel o yrfaoedd sydd yn y llyfr. Mae'n cynnwys lluniau hefyd a sawl hanesyn difyr megis yr hanes am ymweliad Rhys Meirion 芒 masseur yn Hong Kong.

    "Ar 么l agoriad digon addfwyn, yn sydyn, neidiodd y brawd ar ben coesau Rhys gan ei brocio'n galed yn ei gefn gyda'i benelin. Parhaodd hyn am awr, nes bod Rhys yn difaru'i enaid iddo fentro o fewn canllath i'r ffasiwn le.

    "Ar derfyn yr awr . . .[roedd] . . .yn griddfan mewn poen."

    Cryn debygrwydd
    Mae cryn debygrwydd yng nghychwyn gyrfa Bryn Terfel a Gwyn Hughes Jones a hwythau yn gystadleuwyr brwd mewn eisteddfodau bach a mawr pan yn blant.

    Yn nes ymlaen, gwelwyd Gwyn yn ennill 99 marc allan o 100 mewn cystadleuaeth yn Eisteddfod Cwm Rhymni 1990. Camp hynod.

    Am holl gantorion y gyfrol hon dywed Alun Guy mai'r un peth sy'n eu huno ar lwyfan byd yw eu Cymreictod.

    "Mae'r chwech ohonynt," meddai, "yn falch o arddel hynny ym mhedwar ban byd."

    Ac y mae'n wefr i ninnau ymhyfrydu nid yn unig yn eu doniau ond yn y derbyniad a gant lle bynnag y byddont yn perfformio ac yn dyrchafu eu gwlad.

  • Gwybodaeth ar Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Ar lLwyfan Cymru


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy