主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Lladdwr
Cynllwyn o'r gorffennol yn bygwth newyddiadurwr
  • Adolygiad Glyn Evans o Lladdwr gan Llion Iwan. Gomer 拢6.99.


  • 'Tu blaen' nofel gyntaf Llion Iwan - Casglwr a gyhoeddwyd y llynedd - ydi hon - ond does dim rhaid bod wedi darllen honno i ddeall a mwynhau hon.

    Mewn gwirionedd, yr unig berthynas rhwng y ddwy yw y prif gymeriad Dafydd Smith, gyda'r nofel ddiweddaraf hon yn ymwneud 芒 chyfnod yn ei fywyd cyn dyddiau'r Casglwr.

    Gallai'r holl s么n am prequel yn y cyhoeddusrwydd i Lladdwr gymylu pethau ym meddyliau darllenwyr. Clawr y llyfr
    Does dim rhaid i hynny ddigwydd a gellir darllen a mwynhau y naill heb wybod dim o gwbl am fodolaeth y llall.

    Er mai Dafydd Smith yw prif gymeriad Lladdwr; ar yr un pryd cymeriad ymylol ydi'r gohebydd ar bapur newydd y Mid Wales Herald - yn fodd i yrru yn ei blaen stori arall am gynllwynio a thriciau budr y gwasanaethau cudd Prydeinig.

    Cychwyn y gyffrous
    Mae'r stori'n cychwyn yn gyffrous iawn ym mherfeddion canolbarth Cymru lle mae car Smith yn cael ei erlid gan hofrennydd milwrol - Puma HC1 wedi'i pheintio'n ddu o'i thrwyn i'w chynffon 芒 phaent arbennig sy'n ei gwneud yn 'anweledig' i lygaid radar.

    Mae hi'n nos, mae yna filwyr, mae yna saethu ac mae yna hen ffermwr gweldig yn cael ei ddychryn ac mae yna alwad ff么n gan Ddafydd at "Y Cyrnol" mewn "swyddfa yn Llundain" sy'n holi ei hun: "Sut goblyn aeth y sefyllfa cynddrwg mewn deuddydd?"

    Digwyddiad go iawn
    Mae'r stori'n ailgychwyn wedyn, y diwrnod cynt - a rhaid i rywun fod yn ofalus fan hyn rhag dweud gormod a difetha'r nofel i ddarllenwyr eraill.

    Digon yw dweud fod gan y bensiynwraig, Gladys Morse, sy'n byw mewn bwthyn diarffordd ger Y Drenewydd hoff nai sy'n gweithio gyda'r Llynges Brydeinig; fod gan y nai hwnnw wybodaeth gyfrinachol am suddo'r Belgrano a gwybodaeth am Ogledd Iwerddon a allai beri annifyrrwch difrifol i aelod blaenllaw o'r Llywodraeth a swyddog uchel gyda'r gwasanaethau cudd.

    Mae'n anfon yr wybodaeth honno mewn pecyn at Anti Gladys a hithau'n cael ei lladd yn ei th欧 ond yr heddlu'n o'r farn mai wedi styrbio lleidr oedd hi.

    Nid ar ddamwain y mae hyn yn adlais o amheuon a damcaniaethu a fu yngl欧n 芒 llofruddiaeth go iawn yr ymgyrchwraig heddwch, Hilda Murrell, 79 oed, yng nghyffiniau Amwythig ym 1984.

    Arddull ffilm
    O hynny ymlaen mae'r stori yn olrhain sut y mae Dafydd James yn cael ei hun yng Nghoedwig Hafren berfeddion nos ar ffo rhag "Y Lladdwr" proffesiynol yn y teitl ac yn cael ei hela gan filwyr gyda gynnau Heckler & Koch mewn hofrennydd a'i goleuadau i gyd wedi'u diffodd, berfeddion nos . . .

    Dull effeithiol y ffilm o ddweud stori ydi un Llion Iwan o ran strwythur gyda nifer o olygfeydd byrion yn symud yn sydyn o un lleoliad i'r llall gan gynnwys ystafelloedd moethus gyda muriau o bren derw yng nghynteddau grym Llundain, i swyddfa bapur newydd, i gocpit hofrennydd, i fwthyn diarffordd Gladys Morse ac yn y blaen wrth i elfennau ychwanegol o'r stori gael eu graddol ddadlennu.

    Ar gyfer y math hon o stori mae'n ddull cwbl gymeradwy gyda'r sgrifennu tyn a diwastraff yn sicrhau nad yw'r darllenydd byth yn colli diddordeb.

    Mae'n amlwg yn arddull y mae'r awdur yn cael blas arni.

    A synnwn i ddim nad oedd ffilm deledu yng nghefn ei feddwl wrth sgrifennu ac yn nwylo'r cyfarwyddwr iawn dylai weithio'n ddifai.

    Yn wir, mae'r dull hwn o storio yn un sy'n mynnu gyrru'r darllenydd yn ei flaen ac rwy'n rhagweld mwy nag un yn darllen Lladdwr mewn un eisteddiad - sy'n gwbl bosibl gan nad yw ond 144 tudalen beth bynnag.

    Yr union beth ar gyfer taith tr锚n go lew neu Sadwrn neu Sul glawog!

    Chwiws poenus
    Ail nofel - trydydd llyfr - Llion Iwan yw hon a gall fod yn falch fod yr adeiladwaith a'r sgrifennu yn rhagori ar Casglwr a oedd ynddi ei hun yn nofel afaelgar gyda chryn addewid.

    Fodd bynnag, wrth adolygu honno cwynais i hen lithriadau iaith gwirion amharu weithiau ar y darllen.

    Y peth olaf mae awdur ei eisiau yw pethau felly yn tynnu sylw atynt eu hunain a dyna yw gwaith golygydd, amddiffyn awduron rhag y pethau hyn.

    Ni fu Llion Iwan yn ffodus o'i olygyddion a rhaid beio'r un diffyg golygu ar y gyfrol hon. M芒n lwch y cloriannau ydyn nhw, fel defnyddio ers pan yn lle er pan; cymysgu rhwng olaf a diwethaf a 'r camddefnydd cyffredin y dyddiau hyn o'r ymadrodd ar agor i olygu fod rhywbeth yn agored - chwiws gramadegol sydd yn peri'r un annifyrrwch i ddarllenydd a'r gwybed hynny i gerddwr!

    Nid adolygiad fel hwn yw'r lle i fod yn sgwlfishtir ond mae cyfrifoldeb ar weisg a golygyddion i sicrhau nad yw llithriadau cwbl elfennol yn ymddangos mewn llyfr.
    Pethau gwirion fel:
    "Cafodd eu cyflwyno [ei gyflwyno] iddynt . . ." ". . . gan ofalu peidio [ag] yfed o'r ochr o'r gwpan 芒'r crac ynddo [ynddi os oes ei angen o gwbl]."
    ". . . hanner chwerthin iddo'i [wrtho'i] hun."
    "ar y ddresel [dresel]"
    am rhesymau [resymau] personol
    "amlen frown drwchus . . . gydag enw Gladys Morse arno [arni]."

    Gafael sicr
    Ond ni fyddwn am funud am roi'r argraff mai sgrifennu s芒l sydd yma - fel y dywedais, chwiws . A chwis sydd yn mynd i beri llai o annifyrrwch i rai na'i gilydd.

    Na, mae gan Llion Iwan afael digon sicr ar arddull y math yma o sgrifennu ac mae'n gartrefol 芒 holl ystrydebau'r genre; weithiau'n pentyrru llinellau byrion, bachog, i greu'r syniad o frys a chyffro:
    "Nawr rhed! Paid ag aros yn llonydd. Paid ag ymddiried yn neb. Paid 芒 chysylltu gyda'r un ffrind nac aelodau o dy teulu (sic). Mae'r lladdwr ar dy 么l, a wnaiff o byth bythoedd stopio - dim ar unrhyw gyfrif. Os ydi o'n llwyddo i dy dal (sic) mi wnaiff dy ladd. Os wyt ti am fyw, rhed!

    Dro arall mae sylwadau awgrymog, cryptig, a'r un yn well na'r paragraff olaf enigmatig.

    Mae'n ei chael yn rhwydd i greu awyrgylch.

    Mae Lladdwr yn ail nofel deilwng a da gweld awgrym y paragraff olaf yna fod rhagor i ddod.

    Byddaf yn edrych ymlaen gymaint at honno ag y bum yn edrych ymlaen at hon.

  • Adolygiad ar Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Adolygiad o Casglwr
    Holi Llion Iwan
    Adolygiad arall

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy