主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cynog Dafis - Mab y Pregethwr
Gwleidyddol yn hytrach na phersonol'
  • Adolygiad Aled Elwyn Jones o Cynog Dafis: Mab y Pregethwr. Y Lolfa. 拢12.95.


  • Byth ers iddo yn annisgwyl gipio etholaeth Seneddol Ceredigion o ddwylo tybiedig boblogaidd Geraint Howells ym 1992, mae Cynog Dafis wedi bod yn un o ffigyrau mwyaf blaenllaw gwleidyddiaeth Cymru.

    Ond, wrth gwrs, bu'n weithgar yn y mudiad cenedlaethol; yn rhengoedd y Blaid a Chymdeithas yr Iaith am ddegawdau cyn hynny.

    Arwyddo ei lyfr i Dafydd Wigley Mae ei hunangofiant felly yn adrodd hanes y cyfnod mwyaf cyffrous a fu o bosib yng ngwleidyddiaeth Cymru, ac yn sicr yng nghenedlaetholdeb Cymreig - sef y cyfnod o ddechrau'r 1960au hyd heddiw.

    Ymysg y digwyddiadau y bu Cynog yn llygad-dyst neu yn amlach fyth yn gyfrannydd uniongyrchol tuag atynt mae lansio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ym 1962, mudiad yr oedd Cynog Dafis ymysg ei gadeiryddion cyntaf ac yn awdur i'r Maniffesto a fu'n hanfodol i roi cyfeiriad iddi wedi i'r bwriwn cynnar gilio.

    Clywn hefyd am y rhwygiadau yn y Blaid yng nghyfnod boddi Cwm Tryweryn - rhwng y carfannau oedd am ganolbwyntio ar ymladd etholiadau a'r rhai, gan gynnwys yr awdur, oedd am droedio llwybr amgen tuag at ryddid cenedlaethol.

    Yn ddiweddarach, ac yntau yn athro yn ymddiddori mewn cymdeithaseg iaith, bu'n ganolog i sawl ymgyrch dros addysg Gymraeg yn Nyfed a wedyn o'i ethol i'r Senedd y person cyntaf i gynrychioli'r Blaid Werdd yn San Steffan - diolch i'r cytundeb arloesol rhwng y blaid honno a Phlaid Cymru yng Ngheredigion.

    Ac yn ddiwedarach wrth gwrs daeth ymgyrch Refferendwm 1997, sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol ac ymgais aflwyddiannus ar Lywyddiaeth y Blaid yn 2003.

    Goleuni newydd
    Mae'r hunangofiant hwn yn taflu goleuni newydd ar hyn oll a llawer mwy.

    Bydd o ddiddordeb mawr i haneswyr, sylwebyddion gwleidyddol ac unrhyw un sydd 芒'r diddordeb lleiaf yn hanes gwleidyddol Cymru dros yr hanner canrif ddiwethaf.

    'Jiws go iawn'
    Un siom gyda'r hunangofiant yma fodd bynnag yw fod rhywun yn teimlo ei hun yn aml yn meddwl 'ac...' pan fo ryw hanes am ryw ddigwyddiad neu'i gilydd neu am wrthdaro o fewn y Blaid neu'r Gymdeithas yn dod i ben heb i ni gael y 'jiws' go iawn.
    Prin yr ynganir gair gwael neu farn ddiflewyn ar dafod o feirniadol am neb gydol y llyfr.

    Debyg mai teyrngarwch a'r ffaith fod Cynog Dafis yn dal i weithio yn ddyddiol gyda'r bobl sy'n ganolog i ddigwyddiadau mwyaf diweddar y llyfr sy'n gyfrifol am hyn ond rwy'n amau'n gryf fod yr hyn y byddai llawer ohonom yn ei ganfod yn fwyaf diddorol wedi ei adael allan tra i'r cyfeiriad arall fod y darnau sy'n delio a pholis茂au neu ymgyrchoedd arbennig yn gallu bod yn ddiflas o orfanwl.

    Y dyn ei hun
    Ond efallai mai'r hyn sydd fwyaf gwerthfawr am y llyfr yw'r hyn mae'n ei ddysgu i ni am y dyn ei hun drwy'r darlun a gawn o'i fagwraeth ym mans Aberaeron i dad o Lafurwr a mam ddi-Gymraeg o deulu amaethyddol traddodiadol Geidwadol eu cefnogaeth.

    Yng ngwerthoedd nodweddiadol o anghydffurfwyr y cyfnod: Cristnogaeth, cyfiawnder cymdeithasol, heddychiaeth a chenedlaetholdeb gwelwn yr hyn a fu'n sail i'r hyn y gweithiodd Cynog Dafis drostynt ar hyd ei fywyd.

    Mae'r darlun o fab swil ac eiddil y mans yn ceisio, yn aml yn aflwyddiannus, i ffitio mewn i fyd y stryd hefyd yn gallu bod yn ddirdynnol ar adegau.

    Bywyd teuluol
    Ond yn rhyfedd ddigon, ychydig iawn a ddysgwn am fywyd teuluol a chymdeithasol Cynog wedi iddo adael y coleg a phriodi - prin yw'r s么n am ei dri o blant a'i wyrion a'i wyresau er enghraifft: cofiant gwleidyddol yn hytrach na phersonol a gawn yma felly.

    "Rwy'n hyderu y bydd rhywbeth at ddant y rhan fwyaf ohonoch yn y llyfr yma. Go brin, serch hynny, y bydd pob rhan ohono'n siwtio pawb," meddai'r awdur ar ddechrau'r llyfr.
    A dyna daro'r hoelen ar ei phen!

    Cysylltiadau Perthnasol
    Adolygiad Gwilym Owen o'r gyfrol
    Gwenallt yn siom

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy