主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Eira M芒n, Eira Mawr
Prynu llyfr wrth ei glawr
  • Adolygiad Glyn Evans o Eira M芒n, Eira Mawr gan Gareth F Williams. Gomer. 拢6.99.


  • Gwnaeth y cyhoeddwyr dipyn o h诺 ha am y llun ar glawr y gyfrol hon gyda thynnu sylw ato mewn datganiad ac ar y radio er enghraifft.

    Clawr wedi ei gynllunio gan seiciatrydd yw, y Dr Rhys Bevan Jones sy'n enedigol o Landysul ond yn awr yn byw yng Nghaerdydd.

    Clawr y llyfr Cymaint ei ddiddordeb yn y berthynas rhwng seiciatreg a'r byd gweledol bu'n astudio Celf yn ym Mhrifysgol Kingston, Llundain, cyn cwblhau ei hyfforddiant seiciatryddol yn Ysbyty'r Eglwys Newydd, Caerdydd.

    "Drwy edrych yn fanwl ar glawr [Eira M芒n, Eira Mawr] . . . fe welir dawn treiddgar yr arlunydd yn dehongli cynnwys y llyfr," meddir.

    Ac yn wir y mae'n ddarlun trawiadol, hawdd syllu arno, hawdd dyfalu drosto.

    Ond go brin bod angen ailadrodd yr hen adnod nad wrth ei big mae prynu cyffylog - ac nad wrth ei glawr y mae prynu llyfr - ac o glywed brolio'r clawr cwestiwn cyntaf rywun yw, A fydd y llyfr gystal a'i glawr?

    Codi ofn
    Nofel arswyd yw hi, wedi ei lleoli yn nhref ddychmygol Aberllechi sydd yn hynod o debyg i Borthmadog lle mae'r awdur yn byw.

    Yn y cyd-destun Cymraeg mae hi'n nofel eithaf hir yn 336 o dudalenau ac wedi ei chyhoeddi yn y gyfres Whap ar gyfer yr hiliogaeth brin honno, darllenwyr ifainc.
    Plant ysgol a'u rhieni yw'r prif gymeriadau.

    Anhawster pennaf adolygydd yw trafod y nofel heb ei difetha trwy gyfeirio at fanylion digwyddiadau a pherthynas pobl 芒'i gilydd.

    Ond heb ddifetha dim gellir dweud fod chwilfrydedd darllenydd yn cael ei gosi o ddarllen bod holi a fydd hi'n Ddolig gwyn yn ennyn ymateb syfrdanol ymhlith rhai yn Aberllechi.

    Mae'n gwestiwn sy'n ennyn eu gwg, yn codi ofn.
    Aiff rhai i'r drafferth o ddianc oddi yno dros yr 糯yl os oes darogan eira.

    Pa aflwydd?
    Mae hyn yn cael ei wneud yn glir iawn yn gynnar yn y nofel a'r darllenydd ar bigau'r drain yn ceisio dyfalu pa aflwydd ddaw gyda'r eira.

    Mae'r awdur yn cynnal y dyfalu anniddig y tu draw i ganol y nofel.

    Mae digwyddiadau ym mhrolog dramatig y nofel sydd angen eglurhad hefyd.

    Wrth ddarllen mae rhywun o fewn cyrraedd y pwynt hwnnw lle mae'n gofyn a yw'r awdur mewn peryg o orwneud yr elfen hon. Yn dal yn rhy hir gyda'r holl ensyniadau o ddirgelwch a gwae annelwig.
    Y diferu gwybodaeth, ddefnyn ar y tro fel d诺r yn dripian yn ddafnau rhwystredig i bwced.
    Mae'n bosib cadw peth felly i fynd yn rhy hir.
    Ond nid yma.
    Er bod yr awdur yn go agos i'r terfyn.

    Saern茂o'n grefftus
    Mae hon yn nofel sydd wedi'i saern茂o'n grefftus a'i hamseru bron yn berffaith o ran braenaru'r tir - a gwell prysuro i ddweud hefyd ei bod yn addas ar gyfer pob oed ac fe fu'n bleser ymgolli ynddi - yn amserol iawn, dros Nadolig 2007.

    Mae'r stori yn ymwneud a digwyddiad sydd angen ei ddial yn gysylltiedig ag Ows, Marc ac Anna ugain mlynedd yn 么l a'r digwyddiadau diweddaraf yn cael eu hadrodd, yn bennaf, drwy eu llygaid hwy ac Ifor a Lois, plant Ows a Marc, a thrwy lygaid Caren, merch g诺r gweddw sy'n canlyn Anna.

    Ni'r darllenwyr ydi Caren - yn ferch sy'n cael ei hun yng nghanol dirgelwch a digwyddiadau na all eu dirnad ac wrth iddi hi gael ei goleuo yr ydym ninnau'n cael eu goleuo.

    Cyfres o olygfeydd
    Cyfres o olygfeydd ffilmig eu natur drwy eu llygaid hwy a chymeriadau eraill yw'r strwythur gydag ambell i olygfa yn cael ei hailadrodd o'i gweld o safbwynt gwahanol ac y mae hwn yn ddull sy'n gweddu i'r dim o ran datblygiad ac yn ddull na fydd yn synnu y rhai hynny sy'n gwybod am ddiddordeb yr awdur mewn ffilmiau - diddordeb y mae ef ei hun yn gwneud defnydd pryfoclyd ohono ar adegau megis Caren yn ymddwyn yn ymwybodol fel 'arwres' ff么l ffilm ddychryn yn y bennod olaf (tudalen 297).

    Gellir tybio mai anhawster pennaf awdur stori o'r fath yw dod 芒'r cyfan i fwcwl.

    Y datgelu
    Un peth ydi creu'r dirgelwch, ychwanegu at ddrwgdybiaeth a thyndra a'r rhwystredigaeth o fethu 芒 gweld y darlun cyflawn - peth arall llawer iawn anos yw nid yn unig egluro'r cyfan mewn ffordd sy'n mynd i fodloni darllenydd ond hefyd roi caead ar y piser mewn modd nad yw'n siomi neu, yn waeth byth, yn gwneud i'r darllenydd deimlo i dric gael ei chwarae arno.

    Dydi hynny ddim yn digwydd yma. Yn yr eglurhad y mae cyffro'r digwydd wedi'r holl ddyfalu ac mae'r bennod glo yn eithriadol; yn emosiynol ysgytwol ac yn gweddu i'r dim.

    Pethau eraill
    Y mae lle hefyd i greu tyndra rhwng cymeriadau a darlunio peth o wewyr yr ifanc ar eu haeddfedrwydd - Caren, er enghraifft, yn ferch i 诺r gweddw sy'n ymgodymu ag euogrwydd wrth geisio ailafael yn ei fywyd a sefydlu perthynas a merch arall.

    Gyda nofel arall a gyhoeddodd yn ddiweddar, am ferch yn diflannu o'i chartref, Adref Heb elin enillodd Garetrh F Williams wobr Tir na n-Og.

    Bydd yn rhaid wrth waith arall go drawiadol i nacau i hon y wobr honno hefyd.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Adref Heb Elin

  • Holi Gareth F Williams

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy