主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Dyfi Jyncshiyn
Nofel gyntaf Gareth F Williams i oedolion
  • Adolygiad Martin Huws o Dyfi Jyncshiyn - y dyn blin gan Gareth F Williams, Gwasg Gwynedd, 拢8.95.


  • Dwi ddim yn si诺r beth y'ch chi'n ei feddwl.
    Ond mae sawl peth wedi gwaethygu dros y blynyddoedd, gan gynnwys adolygu llyfrau Cymraeg, adolygu sy wedi troi, yn aml, yn weithred syml o ailgylchu manylion cyhoeddusrwydd.

    Clawr y llyfr Efallai taw arwydd o henaint ar fy rhan i yw hwn, fel gwrando mwy ar Radio Cymru neu fynd yn fwy aml i adran miwsig hamddenol HMV.

    Y nofel dan sylw yw Dyfi Jyncshiyn - y dyn blin gan Gareth F Williams; ei nofel gynta i oedolion ond mae hwn yn hen law, yn gwybod shwd i chwarae 芒 theimladau'r darllenydd neu'r gynulleidfa.

    Des i ar ei draws e gynta yn Eisteddfod Cwm Rhymni yn 1990 gan taw ef oedd awdur y pasiant Samiwel Slei a'r Carw Mawr a chyflawnodd gamp wrth gynnal diddordeb rhieni di-Gymraeg ac eisteddfodwyr.
    Un o'i arfau penna yw hiwmor.

    Y stori
    Beth yw stori'r nofel?
    Mae'r prolog, ychydig yn rhy hir, yn cyfeirio at yr hyn ddigwyddodd yn 1965 pan mae John ar ei ffordd i swydd athro yng Nghrymych a Marian ar ei ffordd i actio yn Llundain.

    Gan fod Lein y Cambrian dan dd诺r rhaid i'r ddau dreulio noson yn stafell aros yr orsaf ac mae'r awdur yn creu disgwylgarwch:

    "Roedd ei chefn, sylwodd, yn hollol syth, ac roedd rhywbeth, be oedd o? - rhywbeth yngl欧n 芒'i hosgo a fynnai lusgo'i lygaid i'w chyfeiriad bob gafael."

    Mae'r noson yn troi'n nwydus.
    Yn wahanol i rai nofelwyr dyw hwn ddim yn ofni s么n am ryw ac mae'n gwneud hynny mewn ffordd sy ddim yn anfwriadol ddoniol.

    Ymhen deugain mlynedd
    Erbyn Pennod 1 rydyn ni mewn archfarchnad ym Machynlleth 40 mlynedd yn ddiweddarach lle mae dyn 芒 golwg ryfedd arno yn chwilio am win.
    Pwy yw'r dyn?
    Pam mae ei lygad chwith wedi chwyddo'n goch a dyfrllyd?

    Cawn wybod, ddwy dudalen a hanner yn ddiweddarach, taw John yw'r dyn.

    Os felly, beth sy wedi digwydd yn ei fywyd?
    A pham, nes ymlaen, y mae'n "tynhau drwyddo" pan fo criw o fechgyn swnllyd yn y dafarn?

    Nid yn unig mae hon yn stori dda ond mae'r awdur yn gwybod shwd i ddatgelu'r stori wrth greu cwestiynau ym meddwl y darllenydd a gohirio'r atebion mor hir 芒 phosib.

    Yn amal, ro'n i'n teimlo fel teithiwr ar dr锚n o leia awr yn hwyr o Gaerdydd i Lundain, yn aros i'r gard roi gwybod pryd y byddwn i'n cyrraedd.

    Dwi'n gorfod cyfadde 'mod i'n dwli ar gymeriad Marian, ysbryd rhydd, un sy'n hoff o gicio yn erbyn y tresi.

    Maldwyn, "y cyw twrna bach di-antur," sy'n anelu at ei phriodi ac yn methu'n druenus.

    Un noson, yn lolfa'r Goat ym Meddgelert, mae Marian wedi cael llond bola ar sgwrs ddiflas y cyplau diflas eraill, "y criw uffernol," ffrindiau Maldwyn.

    Mae'r awdur yn cyfleu ei gwrthryfel mewn llinell fachog wrth i ni wrando ar yr hyn sy'n mynd drwy ei meddwl:
    "Tybed be fasan nhw'n ei wneud taswn i'n codi a gollwng clamp o rech?"

    Yn annisgwyl
    Weithiau mae ei ddisgrifiadau'n drawiadol am eu bod yn annisgwyl, er enghraifft pan mae Marian ar ei phen ei hun yn y stafell aros:

    "Meddyliai weithiau ei bod yn gallu clywed s诺n y m么r, yn chwyrnu'n wlyb yn rhywle y tu 么l i'r glaw fel rhywun 芒 fflemsan yn ei wddf yn ceisio sibrwd."

    Weithiau mae ei ddisgrifiadau'n crynhoi cymeriad wrth ei gyflwyno am y tro cynta:

    "Un tal, tenau, eiddil a llydaidd ei olwg y bu [Idw'r tafarnwr] erioed: y math o ddyn sy'n rhoi'r argraff eu bod nhw'n claddu pobol yn aneffeithiol iawn yn y gornel arbennig hon o Gymru ..."

    Wrth ailfeddwl, oes angen yr holl ansoddeiriau?

    Ac weithiau mae sylwadaeth gymdeithasol, dychan ysgafn, yn ei ddisgrifiadau:

    "Iddynt hwy[yr hogia] dim ond pobol orchestol oedd yn yfed gwin yn rheolaidd - dynion gyda barfau-bwch-gafr truenus a fynnai wrando ar jazz ac a wfftiai'n gableddus at Elvis ..."

    Wnes i chwerthin pan ddarllenais i hwn. Dwi'n hoff o jazz. Mae barf 'da fi - ond nid un bwch gafr.

    Brychau
    Ychydig o f芒n feirniadaethau.
    Dwy 't' sy yn Beckett nid un (tudalen 57) a slipars ddylai fod yn lle slipas, dwi'n meddwl, ar dudalen 58.
    Ar wah芒n i hynny, rhaid canmol gwaith graenus a gl芒n Gwasg Gwynedd.

    A fydd y ddau gariad yn cwrdd eto 40 mlynedd yn ddiweddarach yng ngorsaf Dyfi Jyncshiyn?

    Nid y nofel hon yw diwedd y daith. Fe fydd y manylion llawn, gobeithio, yn y nofel nesa, Dyfi Jyncshiyn - y ddynes yn yr haul. Teitl da o gofio bod yr awdur yn gwybod shwd i gadw'r darllenydd yn y tywyllwch mor hir 芒 phosib.

    Llongyfarchiadau i Gareth F: mae ganddo'r ddawn i strwythuro stori, y ddawn i greu cymeriadau crwn, credadwy a'r ddawn i amrywio cywair fel y gall ddal sylw'r darllenydd.

    Os yw hon yn swnio fel beirniadaeth Eisteddfodol dyw hi ddim i fod. Ond yn fy marn fach i, pe bai'r nofelydd yn cystadlu am wobor Daniel Owen, fe fyddai'n ymgeisydd peryglus.

  • Adolygiad catrin Beard ar Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Eira M芒n, Eira Mawr gan Gareth F Williams

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy