主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Stori Sydyn - cyfres i ddenu darllenwyr
Kate Crockett yn bwrw golwg dros y gyfres o lyfrau byrion.
Ymhlith rhestr deg uchaf gwerthwyr gorau llyfrau Cymraeg y Cyngor Llyfrau ym mis Chwefror a Mawrth 2008 mae pedair cyfrol fer iawn - y cyfrolau diweddaraf yn y gyfres Stori Sydyn.

Dyma lyfrau sydd wedi'u hanelu at bobl "sydd wedi colli'r arfer o ddarllen neu sy'n cael anhawster i ddarllen llyfrau hir a chymhleth", yn 么l yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol, un o'r cyrff sydd y tu 么l i'r fenter.

Rhyw 100 dudalen o hyd o brint bras yr un yw'r llyfrau, gyda'r iaith yn syml ond heb fod yn nawddoglyd.

Caryl Lewis
Y llynedd cyhoeddwyd nofel fer gan Caryl Lewis yn y gyfres hon, Y Rhwyd, ac erbyn hyn mae honno'n cael ei haddasu'n ffilm ar gyfer y sgrin fach.

Clawr Jackie Jones Mae ei nofel ddiweddaraf, Jackie Jones yn debyg o blesio'r un gynulleidfa.

Mae hi wedi defnyddio'r gyfres i gyhoeddi llyfrau gwahanol iawn i'w nofelau enwocaf, Martha, Jac a Shanco ac Y Gemydd.

Tra bod y ddwy nofel hir honno yn rhai i'w sawru'n araf, gan werthfawrogi'r haenau amryfal wrth eu blasu, byrbrydau yw Jackie Jones ac Y Rhwyd, i'w llarpio'n gyflym ar un eisteddiad ( yn y bath, yn fy achos i...).

Mae'r ddwy nofel yn gryf o ran plot, yn gyfoes ac yn ddinesig, ac yn debyg o apelio at y sawl sy'n hoffi stori sy'n gafael.

Llyfrau ffeithiol
Tri llyfr ffeithiol yw'r gweddill i ddod o'r wasg eleni.
"Hanes chwalu cylch cyffuriau mwya'r byd," yw is-deitl dramatig cyfrol Lyn Ebenezer, Operation Julie, sef ymchwiliad yr heddlu wrth i griw o hipis gynhyrchu'r cyffur LSD yn ardal Tregaron ar ddiwedd y 1970au.

Er mai cyfrol fer yw hon mae'r awdur hefyd yn rhoi blas i ni o'r cefndir ehangach gan gynnwys cysylltiadau rhai o fawrion y byd pop fel Bob Dylan a'r Rolling Stones gyda Llanddewi Brefi, ymhell cyn i'r pentref ennill drwg enwogrwydd ar un o gyfresi comedi'r 主播大秀!

Mae'r hanes yn un cymhleth i'w ddilyn ar adegau gan fod cymaint o gymeriadau brith yn rhan o'r darlun ond mae'n stori ddifyr dros ben a chyda'r gyfrol yn agos at frig rhestr gwerthwyr gorau'r Cyngor Llyfrau mae'n amlwg bod digon o bobl yn awchu am gael darllen am y bennod ryfedd hon yn hanes cefn gwlad Cymru.

Cymharu'r gwledydd
Clawr Y Gwledydd Bychain Addasiad o gyfres ar Radio Cymru yw Y Gwledydd Bychain gan Bethan Gwanas ac fel yn achos ei gwaith darlledu, mae hi'n rhoi digon o'i phersonoliaeth hi ei hun yn y gwaith i sicrhau bod pwnc digon sych ar bapur - cymharu Cymru gyda Gwlad y Basg, Llydaw a Norwy - ymhell o fod felly.

Does dim ymgais ganddi i gelu ei hysfa i Gymru ddysgu o'r arferion gorau a welodd ar ei theithiau, ac mae'r gyfrol yn gorffen gyda Maniffesto Bethan.

Mae awdur y gyfrol Travels in an Old Tongue hefyd yn ei chael hi gan Bethan am ddiffyg parch at y Cymry tramor - dyma awdures sydd heb fod ofn siarad plaen!

Mewn syrcas
Clawr Dyn y SyrcasY llynedd cyhoeddodd Gary Slaymaker hunangofiant byr , Y Jobyn Gorau yn y Byd, yn y gyfres yma, a'r tro hwn, darlledwr arall, Derfel Williams, sy'n cael y fraint - ond hanesion brid cwbl wahanol i'r criw cyfryngol a gawn ni yma, gan i Derfel dreulio deng mlynedd yn gweithio ym myd y syrcas ym Mhrydain, ac ar un achlysur cofiadwy, yn Ffrainc.

Dyma godi cwr y llen ar fyd sy'n gwbl anadnabyddus i'r rhan fwyaf ohonom, ac mae gan yr awdur lond y lle o hanesion difyr am ei fywyd yn y ring ac am y cymeriadau lliwgar oedd yn gwmni iddo.

Yn llwyddo?
Er bod ambell un o'r cyfrolau hyn yn teimlo fel talfyriad o lyfrau hirach mae'r goreuon - a'r nofelau yn arbennig - yn llwyddo fel gweithiau cyflawn.

O safbwynt darllenydd brwd, maen nhw'n llyfrau perffaith i'w darllen wrth deithio, neu ar ddiwedd diwrnod hir o waith os oes gofyn am lyfr sydd ddim am osod gormod o her.

Gan eu bod ar werth am 拢1.99 yr un, maen nhw'n rhatach na chylchgrawn a byddai'n dda eu gweld ar werth mewn gorsafoedd tr锚n, er enghraifft.

Ond y cwestiwn pwysicaf i'w ystyried mae'n debyg yw a yw'r llyfrau yma'n apelio at y gynulleidfa gywir?
Ydy pobl sy'n swil o ddarllen fel arfer yn debygol o godi un o'r cyfrolau hyn?

Cynnal ymchwil
Y llynedd cafwyd ymgyrch i ddosbarthu'r llyfrau mewn meddygfeydd, siopau trin gwallt, caffis a thafarndai mewn tair ardal yng Nghymru.

Eleni bydd y cyfrolau'n cael eu dosbarthu i rieni drwy ddisgyblion ysgol - gyda holiaduron i geisio casglu eu hymateb iddyn nhw.

Ni fyddwn yn gwybod a yw'r llyfrau hyn wedi cyrraedd y nod nes bod yr ymchwil hwnnw wedi ei gwblhau.

Cysylltiadau Perthnasol
  • Rhagor am Stori Sydyn



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy