主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Tinboethach
Nes at j么cs budur na Chaniad Solomon
  • Adolygiad Rhywun o Tinboethach - 12 o straeon erotig. Gwasg Gwynedd. 拢6.95



  • Allai yn fy myw gofio ai dywediad o Ffrainc - gwlad L'amour ynteu o'r India - gwlad Vatsyayana a'r Kama Sutra ydy:
    "Gwyn ei fyd y sawl y mae ei wraig yn sgrifennu straeon erotig canys ef fydd yn gwybod yn union beth sy'n ei bodloni a'i digoni."

    Ynteu un ydw i newydd ei wneud i fyny.
    Pa un bynnag, gallwn gasglu ohono fod cariadion/ cymheiriaid/ partneriaid, awduron Tinboethoach yn fodau sydd wedi eu bendithio.

    Clawr y llyfr Yr unig ddrwg yw, gan nad oes enw wrth yr un o'r storiau bydd yr eneidiau hoff sy'n darllen ar goll pa ddisgrifiad rhywiol sy'n berthnasol i'w cymar nhw!

    Gorchymyn i boethi
    Dilyniant i Tinboeth, casgliad o straeon tebyg y llynedd, ydi Tinboethach ond i'r awduron gael gorchymyn gan drefnydd y llyfrau i ragori ar 2007 mewn gwres a nwyd:

    "Un o'r cwynion am Tinboeth oedd ei bod hi ddim digon poeth! Felly mi ddeudais i wrth yr awduron tro 'ma fod croeso iddyn nhw fynd mor boeth 芒 lician nhw, ond gan gofio bod 'na ffin," meddai Bethan Gwanas.

    Ymddengys mai dim ond un o'r deuddeg awdur a wahoddwyd gododd gymaint o wres y bu'n rhaid taflu powliad o dd诺r oer drosto:

    "Nes i ffrwyno ychydig bach ar un stori, mae'n rhaid i mi gyfadde. Dwi'n meddwl fod o'n reit amlwg pa un oedd honno!" meddai Bethan Gwanas.

    Hi hefyd sy'n disgrifio 12 awdur 2008 fel "enwau mawr byd llenyddiaeth Cymru" - ond o enwi yr un merch ar ddeg ac un dyn gwelwn fod gwahaniaeth mewn mawredd rhwng yr awduron - cryn wahaniaeth:

    Rhai o'r awduron: rhes gefn - Bethan Gwanas a Catrin Evans. Rhes flaen: Gwen Pritchard Jones, Angharad Elen, Mari Emlyn, Manon Wyn, Elin Llwyd Morgan, Menna Medi Gwen Pritchard Jones, Elin Llwyd Morgan, Meleri Wyn James, Caryl Parry Jones, Catrin Dafydd, Mari Emlyn, Menna Medi, Angharad Jones, Catrin Evans, Angharad Elen, Manon Wyn a Gareth F Williams ac mi adawn ni lonydd i ystyr yr F yna.

    Yn naturiol, adlewyrchir y gwahaniaeth dawn a gynrychiolia'r enwau yn y straeon.

    Lle i'r lleiaf dawnus guddio
    Ond, yn anffodus, diogelir y lleiaf dawnus trwy barhau 芒 phenderfyniad gwirion y llynedd o gyhoeddi'r straeon heb ddweud pwy yw'r awdur.

    Nid bod hynny'n bryder - gan mai ond rhyw bedair stori sydd yma y byddai ots o gwbl gan rywun beth bynnag wybod pwy yw eu hawduron - ond gan barchu eu hanadnabyddiaeth cyhoeddir yr adolygiad hwn yn ddienw hefyd, fel y llynedd!

    Daw yn amlwg yn syth hefyd nad pob un o'r awduron sy'n gallu gwahaniaethu rhwng sgrifennu'n erotig a sgrifennu'n amrwd rywiol ac o'r herwydd mae'r ceinder rhywiol synhwyrus hwnnw sy'n nodwedd o erotica yn cael ei gladdu gan amlaf dan ddisgrifiadau bras ac iaith anllad.

    Tybed nad agorodd Bethan Gwanas y drws yn rhy lydan i'r anghelfydd feiddgar a'r budr ei iaith wrth gymell poethi'r sgrifennu?

    Nid meddylfryd y j么cs budr sy'n creu erotica.

    Ac er bod un neu ddau o'r awduron yn rhagori ar y lleill mae'n deg dweud nad yw'r un ohonynt yn gwbl lwyddiannus gydag ambell un yn agosach at werslyfr Essentials of Human Biology nag at Ganiad Solomon.

    Mynd ati'n fwriadol
    Mae rhywun yn amau hefyd yr effaith ar ddawn awdur a llenor; mynd ati'n fwriadol i sgrifennu am nwyd a chwant dim ond er mwyn hynny gyda'r awydd i losgi'n ddigon poeth i blesio Bethan Gwanas yn troi dawn lenyddol yn lludw.

    O ganlyniad mae oddeutu hanner y cyfraniadau yn fethiant llwyr nid yn unig o safwbynt sgrifennu erotig ond fel straeon o unrhyw fath.

    Ond fel ag ym mhob gardd o chwyn mae yna ambell i flodyn - yn fwyaf arbennig y stori Meistres am berthynas morwyn o'r enw Cadi 芒 Llywelyn ap Gruffudd pan oedd Eleanor ei ddarpar wraig yn nwylo'r Saeson ac effaith rhyddhau Eleanor a'i dyfodiad i lys Llywelyn ar Cadi.

    Mae'n stori ddyfeisgar ac er nad yn arbennig o erotig yn un y byddai unrhyw un o'r 11 nas sgwennodd hi yn falch o gael eu hytyried ei hawdur!

    Ar lefel heb fod mor uchelgeisiol hoffais hefyd Y Darlun Byw a Tri sy'n plesio'n bennaf oherwydd y tro yn eu cynffon.

    Cystadleuaeth
    Yn Lloegr mae yna gystadleuaeth flynyddol i wobrwyo y disgrifiadau anfwriadol ddoniol gorau o garu a chyfathrach rywiol mewn llyfrau. Byddai Tinboethach yn faes toreithiog i feirniaid cystadleuaeth Gymraeg debyg.

    Nodwedd arall o'r gyfrol yw'r tebygrwydd rhwng y disgrifiadau rhywiol.
    Byddai'r caredig yn priodoli hynny i natur gyffredin cynhyrfiadau a phrofiadau rhywiol ond yr angharedig yn cyhuddo'r awduron o fod yn ystrydebol ac o ddiffyg gwreiddioldeb nes eu gwneud yn fawr gwell nag unrhyw nyddwr 'stori fudur'.

    Ac mae cymaint o fronnau yn cael eu "cwpanu" yma gallai'r cyhoeddwyr roi set o lestri te am ddim gyda phob cp[i.

    Byddai'n werth i'r awduron sylwi hefyd bod rhai geiriau yn eu hanfod yn gwbl anerotig eu naws a'u s诺n: Fflician, gwefusau gwlypion, cerpyn gwlyb, llwyth o ac "fel bwledi" wrth s么n am - wel gallwch ddychmygu beth.

    Gormod o ddifrif?
    Ond efallai bod rhywun yn cymryd yr holl beth lawer gormod o ddifrif ac nad yw'r ymarfer oll ond dipyn o hwyl a thynnu coes.

    Ond yn awr 芒 Thinboeth a Thinboethach eisoes ar y silff y cwestiwn yw; A oes Tinboethaf i ddilyn?

    Gobeithio ddim - mae'r j么c a hynny o feiddgarwch oedd yna - wedi chwythu'i phlwc a does yna ddim awch gweld peth fel hyn yn dwad bob blwyddyn - oni gellir ei wneud yn well, yn fwy dyfeisgar ac yn fwy gwreiddiol na hyn.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Tinboeth - y gyfrol gyntaf

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy