主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Y Maison du Soleil
Dirgelwch ar wyliau
  • Adolygiad Gwyn Griffiths o Y Maison du Soleil gan Mared Lewis. Gwasg Gwynedd. 拢7.95.



  • MaeY Maison du Soleil yn nofel braf i'w darllen ar wyliau - cyn belled nad ydych ar wyliau gyda chriw o ffrindiau, neu o leiaf ffrindiau nad ydych yn eu hadnabod yn rhy dda.

    Yn gyfarwydd
    Mae Mared Lewis yn amlwg yn gyfarwydd 芒'r darn o Ffrainc lle gosodir y stori.

    Clawr y llyfr Rhywle cyfleus i'r Vend茅e a rhwng Nantes, hen brifddinas dugiaid Llydaw, a La Rochelle.

    Rwy'n gyfarwydd ar ddeule cyntaf ac wedi clywed am La Rochelle gan gyfeillion gyda mwy o bres na mi!

    Mae disgrifiadau Mared Lewis o'r ardaloedd yn atyniadol; y wlad, y trefi a'r pentrefi bychain a'u marchnadoedd wythnosol. Awyrgylch sy'n codi hiraeth y dyddiau cymylog a glawog hyn am gynhesrwydd heulog hafau Ffrainc.

    Mor bwysig yw sicrhau cefnlen sy'n argyhoeddi i nofel ac y mae Y Maison du Soleil yn gwneud hynny gant y cant.

    Ffrindiau coleg
    Yn y stori mae criw o hen ffrindiau coleg yn mynd am eu gwyliau blynyddol i'r t欧 haf yn Ffrainc - ond y tro hwn nid yw seren y cwmni, Esyllt, y ferch gyfareddol, ddawnus sy'n cadw trefn a threfnu popeth, gyda nhw.

    Lladdwyd Esyllt mewn damwain yn y cartref ychydig cyn hynny ond y mae Tim, ei g诺r, yn benderfynol eu bod yn dal at yr arfer - am mai "dyna oedd hi isio".

    Cedwir y darllenydd yn y niwl yngl欧n 芒 beth oedd gwir ddymuniad Esyllt a beth yw bwriad Tim. Yn sicr mae aelodau'r gr诺p yn anghysurus iawn a'r tyndra'n parhau wedi'r cyrraedd.

    Mae'r pythefnos yn yr haul heb Esyllt yn dipyn o gyflafan wrth i briodas Gareth a Non ddatgymalu a phrin y gall amynedd rhyfeddol Cadi gyda phawb - gan gynnwys Ben, ei syrffed o 诺r - gadw'r ddysgl yn wastad.

    Llwyddir i gynnal yr awyrgylch o dyndra anghysurus yn ardderchog drwy'r nofel i'r graddau na ellir ei rhoi o'r neilltu.

    Gorffennol cymhleth
    Datgelir gorffennol cymhleth y cymeriadau yn ddeheuig a bron bob un 芒 rhyw lun o berthynas gudd ag Esyllt. Cyfrinachau sy'n llwytho'r t欧 haf 芒'i phresenoldeb. Ond dinistriol yw'r presenoldeb absennol hwn.

    Mae gan Mared Lewis ddawn y nofelydd ditectif i osod ambell awgrym i arwain meddwl y darllenydd hyd lwybr cyfeiliornus cyn dod ag e'n 么l 芒 thro sydyn ysgytwol i'r stori.

    Mae'r tro yng nghynffon y stori yn ardderchog.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Holi Mared Lewis

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy