主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Hi Oedd fy Ffrind
Darganfod hoff awdur newydd
  • Adolygiad Dylan Davies o Hi Oedd fy Ffrind gan Bethan Gwanas. Lolfa.


  • Fel person ifanc, nid wyf yn rhy hoff o ddarllen llyfrau.

    I fod yn onest, nid wyf yn darllen llawer o lyfrau Cymraeg - ond ar 么l gwylio rhaglen Ar y Lein ar S4C a gweld Bethan Gwanas mor fywiog rhoddais gynnig ar ddarllen ei llyfr newydd.

    Hanes Non a Nia
    Dilyniant yw i'r nofel Hi yw fy Ffrind - hanes y berthynas rhwng Non a Nia.

    Portreadir Non fel merch nwydwyllt sy'n meddwl llawer amdani'i hun. Mae am fod yn actores broffesiynol ac yn dilyn cwrs drama yn y Brifysgol yn Aberystwyth.

    Darlunnir bywyd myfyrwyr fel un o yfed, meddwi a chysgu gyda dyn gwanhaol bob nos.

    Mae Non yn cysgu gyda chariad ei ffrind gorau ar ddechrau'r nofel gan ddifetha popeth iddi ei hun trwy ei hymddygiad byrbwyll.

    Ar 么l gorffen coleg mae'n symud i Gaerdydd ac yn cael gwaith fel ecstra. Hyd yn oed pan gaiff ran fel "actores iawn" mae'n dwyn offer o'r set.

    Yn gynnar iawn yn y nofel dysgwn ei bod yn dioddef o 'bwlimia' hefyd.

    Erbyn diwedd y nofel daw i sylweddoli pa mor unig yw ac mae'n ceisio lladd ei hun ond nid ydym yn si诺r a fu'n llwyddiannus ai beidio gan nad oes epilog i'r nofel.

    Mewn gwrthgyferbyniad 芒 Non, er nad yw'n byw fel lleian, mae Nia'n gweithio mewn fferyllfa ac yn caru Jac.

    Mae ei thad yn marw dan amgylchiadau amheus a hynny'n peri i Non a hithau gyfamodi.

    Mae'n anghofio cymryd y bilsen a beichiogi - ac mae Jac a hi'n priodi. Mae'n dal i gysylltu 芒 Non ac ar ddiwedd y nofel mae'n gadael neges i Non ar y ff么n yn dweud am enedigaeth ei merch, Gwenll茂an.

    Dwy ar sedd
    Mae clawr y llyfr yn dangos dwy ferch yn eistedd un y naill ben a'r llall i sedd yn edrych dros Fae Ceredigion - yn arwydd o'r rhwyg rhyngddynt.

    Hyn yn dra gwahanol i glawr y llyfr cyntaf lle mae'r ddwy yn agos at ei gilydd mewn cyfeillgarwch.

    Mae'r nofel yn ddarllenadwy ond yn defnyddio tipyn o regfeydd a gallwn ddychmygu Bethan Gwanas a gw锚n fawr ar ei hwyneb wrth deipio'r rhegfeydd yn y nofel.

    Er hyn, ni fyddwm yn ei hargymell i neb dan 16 i'w darllen.

    Er mai dilyniant yw hon ni theimlais bod unrhyw reidrwydd darllen Hon yw fy ffrind i'w deall ond wedi ei darllen, cododd awydd arnaf i ddarllen y nofel gyntaf.

    Hoff awduron
    Pe byddai rhywun wedi fy holi cyn hyn, pwy yw fy hoff awdur Cymraeg, yr ateb fyddai T Llew Jones ac Islwyn Ffowc Elis ond ar 么l darllen Hi Oedd fy Ffrind rhaid ychwanegu enw Bethan Gwanas.

    Edrychaf ymlaen at lyfr newydd ganddi.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 主播大秀 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiadau eraill


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy