主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Hi oedd fy Ffrind
Dilyniant y bu disgwyl mawr amdano
  • Adolygiad Lowri Rees o Hi Oedd fy Ffrind gan Bethan Gwanas. Lolfa.


  • Unwaith yn unig y cefais i'r cyfle i aros yn Neuadd Pantycelyn a hynny ar benwythnos eisteddfod rhyng-golegol.

    Ond rwy'n adnabod nifer sydd yn taeru mai dyma'r coleg gorau yng Nghymru am hwyl ac iddynt fwynhau tair blynedd wyllt yno - a chael ychydig addysg yn y fargen.

    Clawr y llyfr Dyma gefndir nofel newydd Bethan Gwanas, Hi oedd fy Ffrind. Hanes Nia yn y coleg yn Aberystwyth, sy'n cyffwrdd ychydig ar fyd addysg gan ganolbwyntio ar ei dosbarthiadau drama ond yn fwy na hynny cawn hanes ei phenwythnosau gwyllt, ei hantics rhywiol a'i bywyd yn gyffredinol ymhlith stiwdants eraill ym Mhantycelyn.

    Ym mhennod olaf Hi yw fy Ffrind, mae Non yn cerdded i ystafell ym Mhantycelyn ac yn dal ei ffrind gorau, Nia, yn y gwely gyda'i chariad hi, Adrian, a bu cryn gnoi ewinedd ymhlith darllenwyr am y dilyniant hir ddisgwyliedig hwn.

    Awdur y bobl
    Disgrifiwyd Bethan Gwanas fel 'awdur y bobl' ar sail ei hysgrifennu naturiol, poblogaidd, ac am iddi sicrhau bod darllen ei nofelau yn bleser yn hytrach nag yn ddyletswydd.

    Mae Hi Oedd fy Ffrind yn yr olyniaeth honno.

    Heb os, mae gan ferch fferm y Gwanas yn Nolgellau y ddawn i ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa eang ac i gadw diddordeb pob math o wahanol ddarllenwyr gyda nofelau sydd yn llenyddiaeth boblogaidd Gymraeg ar ei gorau.

    Rwy'n dal i gofio'r mwynhad o ddarllen Hi yw fy Ffrind - gan ei disgrifio fel nofel bwerus iawn y mae rhai o'i phenodau yn parhau yn fyw iawn yn y cof.

    Mae'r ddawn gan Bethan i wneud i'w darllenwyr chwerthin a chrio bob yn ail - a chymysgedd o'r ddau gyda'i gilydd. Dawn arbennig iawn.

    Dywedodd Alun Jones, golygydd gyda'r Lolfa, yn y lansiad bod pwysau ar unrhyw awdur sydd yn ysgrifennu dilyniant yn enwedig pan fu'r llyfr cyntaf yn gymaint o lwyddiant.

    Dywedodd Bethan, hithau, iddi deimlo dan gryn bwysau wrth ysgrifennu'r ail lyfr. Dywedodd mai ei hadnod gyson oedd: "Er mwyn i Hi oedd fy Ffrind sefyll ar ei phen ei hun roedd yn rhaid ail adrodd darnau o'r llyfr cyntaf. Cymrodd y gwaith dipyn mwy o amser ac amynedd," meddai.

    Trwy lygaid Nia
    Yn Hi yw fy Ffrind cyfl毛wyd popeth o safbwynt Non, y ferch hyfryd oedd yn addoli ei ffrind. Y tro hwn mae'r darllenwyr yn gweld popeth drwy lygaid Nia, merch ychydig yn wahanol sydd wedi arfer cael ei ffordd ei hun.

    Hawdd cytuno ag Alun Jones pan ddywedodd: "Mae hi'n nofel sydd yn gafael, nofel sydd 芒 them芒u cyfoes a nofel sydd yn anodd iawn gollwng gafael arni." Gyda phob un o nofelau Bethan Gwanas neilltuais ddiwrnod neu ddau er mwyn canolbwyntio ar eu darllen gan fy mod gymaint ar binnau unwaith imi ddechrau.

    Bywyd coleg dwy ffrind yw cefndir y nofel newydd a bywyd coleg yn Aberystwyth a Neuadd Pantycelyn yn benodol gyda'r darllenwyr yn gweld y bywyd hwnnw drwy lygaid Nia, y ferch a dwyllodd ei ffrind gorau ond sy'n credu ers yn blentyn nad yw hi'n gwneud fawr ddim o'i le.

    Mae'r llyfr yn cynnwys amrywiaeth eang o wahanol gymeriadau; y math o bobl wahanol mae rhywun yn eu cyfarfod yn y coleg. Rhai yn ddigon od ac yn mynd ar nerfau'i gilydd:
    ".... Be di'r busnes Goth ma?"
    "Wel, dan ni'n bobol chydig bach yn wahanol, Dan ni'n canolbwyntio ar agweddau tywyll, trist bywyd, fel marwolaeth, dan ni'n sensitif, braidd yn rhamantus, yn licio darllen Dante, Byron a Tolstoy a llyfrau horror a romance o'r 19eg ganrif - Edgar Allen Poe yn enwedig ac yn licio treulio'n hamser mewn mynwentydd, llyfrgelloedd a chaffis bach tywyll. A dan ni'n licio gwisgo du."
    "'Be gymi di Leah,' gofynnodd Alwenna o'r bar. 'Snakebite a black, plis.'
    Wel, roedd hi'n gyson chwarae teg."

    Llwyddiant pellach
    Mewn adolygiad, gorau cyn leied a ddywedir am gynnwys y nofel rhag ei difetha i eraill. Digon yw dweud, fod Non yn parhau i fod yn flin gyda'i ffrind ran helaethaf o'r nofel ond a ddaw profedigaeth lem a'r ddwy yn 么l at ei gilydd, yn ffrindiau pennaf eto? Yn bloodsisters y nofel gyntaf.

    Llwyddiant pellach i Bethan Gwanas gyda chlincer o nofel - ond i mi nid oedd gystal 芒'r nofel gyntaf, Hi yw fy Ffrind. Barn bersonol iawn, cofiwch, a bydd digon yn anghytuno 芒 hynny debyg!!!
    Does ond un ffordd i wybod pwy sy'n iawn.

  • Adolygiad Carys Mair Davies


  • Adolygiad Dylan Davies


  • Gweler Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Ffrindiau coleg yn dathlu

  • Holi Bethan Gwanas

  • Adolygiad o Hi yw fy Ffrind


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy