主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Gwe o Gelwyddau
Llwybrau'n croesi
  • Adolygiad Carys Mair Davies o Gwe o Gelwyddau gan Delyth George. Gomer. 拢7.99.


  • Waw!!!!
    Dyma nofel sy'n rhoi'r waw mewn 'waw-ffactor'!!

    Cyhoeddwyd Gwe o Gelwyddau gan Wasg Gomer ac rwy'n argymell PAWB i'w darllen o glawr i glawr.

    Yn fy marn i, mae 拢7.99 yn bris bach iawn i'w dalu am ddiwrnodau o wefreiddiwch.

    Cyfoes a chyffrous
    Dyma nofel gyfoes, gyffrous, sy'n llawn cynllwyn a throadau wedi'i seilio ar frwydr ingol merch ifanc, Emma, i ddod i delerau 芒 gorffennol tywyll sy'n bygwth chwalu'i dyfodol a'r bobl o'i chwmpas.

    Newyddiadurwraig frwd gyda'r Daily Mail yn Llundain yw Emma ac ar ymweliad 芒 Chaerdydd mae ei llwybrau hi ag Arwel yn croesi am y tro cyntaf ers 15 mlynedd.

    Cyfreithiwr parchus yw Arwel sydd 芒'i fryd ar ennill sedd yn y Bae a dilyn gyrfa wleidyddol lwyddiannus yn y Cynulliad.

    Felly, caiff gryn dipyn o sioc pan gyferfu Emma, merch 芒'i cyhuddodd o drais yn y coleg.

    Caiff fwy fyth o syndod pan glyw ei bod yn awr yn gweithio ar yr un ochr ag ef fel newyddiadurwraig y Blaid.

    Ond beth yw gwir gymhellion Emma yn teithio i'r Bae? Datgelu sleaze yn y Senedd ynteu rhywbeth llawer mwy personol?

    Hoff gymeriad
    Fy hoff gymeriad yn y nofel yw Emma ei hun. Merch gref, gadarn, sy'n mynnu cyfiawnder ar 么l pymtheng mlynedd o fyw ei bywyd yng nghysgodion du'r gorffennol.

    Mae Delyth George wedi portreadu Emma fel angel o bersonoliaeth sy'n gwneud i'r darllenydd gydymdeimlo 芒 hi ac ysu am gyfiawnder iddi.

    Ar yr wyneb mae ganddi bopeth - fflat moethus ; cariad hyfryd; swydd lwyddiannus ; dyrchafiad ar bl芒t; ffrind gorau sy'n ei hanner addoli; y cynnig o fodrwy ar ei bys a g诺r wrth ei hymyl.

    Ond wrth dreiddio ymhellach i'r gorffennol fe welwn rychau yn y masg ar ei hwyneb a thyllau yn y wal o'i chwpas.

    Yma cawn ein cyflwyno i ffaeleddau Emma - ac mae cymaint o'r rheini ag o rinweddau.

    Yn fy marn i, mae Emma yn berson nad yw'n gallu ymollwng 芒'i gorffennol a'r cam a gafodd.

    Mae'n berson sy'n rhaid iddi wrth dial - hyd yn oed os golyga hynny fod yn ansensitif i deimladau pobl eraill, fel Rhys, ei chariad.

    Dyma fenyw sy'n amharod i faddau ac yn codi ysbrydion a ddylent fod wedi'u claddu amser maith yn 么l.

    Mae Emma'n gadnoes gyfrwys sy'n fodlon mynd i eithafion er mwyn profi ei phwynt.

    Tafodiaith
    Mae iaith Gwe o Gelwyddau yn syml a'r arddull yn fendigedig gyda chyffelybiaethau a throsiadau.

    Defnyddir cymysgedd o dafodieithoedd i gyfleu'r gwrthgyferbyniad rhwng cymdeithas Llundain a chymdeithas Caerdydd.

    Clawr y llyfr Ar silff siop, nid yw'r clawr yn gwneud cyfiawnder 芒'r cynnwys ond, da chi, peidiwch a gadael i hynny eich amddifadu.

    Edrychaf ymlaen at ddarllen mwy o waith Delyth George gan i mi fwynhau ei llyfr cyntaf gymaint.

    Mae Delyth George hefyd yn un o awduron y gyfres deledu, Pobol y Cwm, felly heno byddaf yn rhoi fy nhraed i fyny o flaen y bocs!!!

    Ond, o ddifrif, cymerwch yr amser i ddarllen Gwe o Gelwyddau sy'n nofel werth chweil!!

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 主播大秀 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad arall o Gwe o Gelwyddau


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy