主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Hedd Wyn ac Eisteddfod Penbedw
Alan Llwyd yn trafod Hedd Wyn y bardd, Eisteddfod Penbedw ac agweddau at ryfel

Tri chlip sain i wrando arnynt
Pe byddai Hedd Wyn wedi ennill y gadair yr oedd yn ei haeddu yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1916 mae'n gwbl bosibl na fyddai yn 'Eisteddfod y Gadair Ddu' ym Mhenbedw y flwyddyn wedyn.

Ond ail ddaeth y bardd yn Aberystwyth a hynny yn 么l y Prifardd Alan Llwyd a barodd iddo gystadlu eto yn 1917 gan wybod y gallai hwn fod ei gyfle olaf ac yntau' wedi ei anfon yn filwr i ymladd yn y ffosydd yn Ffrainc.

"Ond pe byddai wedi ennill yn Aberystwyth mae'n gwbl bosibl na fyddai o wedi trafferthu cystadlu yn 1917," meddai Alan Llwyd wrth drafod gwahanol agweddau o waith Hedd Wyn ac Eisteddfod y Gadair Ddu ar raglen Dei Tomos ar 主播大秀 Radio Cymru, nos Sul 16 Medi 2007.

Gellir gwrando ar rannau o'r sgwrs isod:

  • Seremoni ddwys arall yr un diwrnod yn Eisteddfod Penbedw:

  • Dywedodd Alan Llwyd, yr arbenigwr pennaf ar Hedd Wyn ac awdur y ciofiant Gwae Fi fy Myw bod seremoni arall hynod o ddwys a "dirdynnol" ar lwyfan Eisteddfod Penbedw y bore cyn seremoni Y Gadair Ddu.

    "Ond fe gafodd y seremoni honno ei anghofio oherwydd beth a ddigwyddodd yn y pnawn," meddai.


  • Seremoni'r Gadair Ddu

  • Yn 么l Alan Llwyd yr oedd rhywun wedi ei ddewis i gynrychioli Hedd Wyn yn seremoni'r cadeirio ym Mhenbedw - Rolant Wyn a oedd yn perthyn i deulu'r Ysgwrn ac yn ysgrifennydd pwyllgor yr Orsedd yn yr Eisteddfod.



    Ond ar y munud olaf ni chafodd ei alw a gorchuddiwyd y gadair a lliain du.

    Ac yn 么l Alan Llwyd yr oedd sibrydion o gwmpas y maes y bore hwnnw mai felly y byddai gydag un papur newydd Saesneg wedi enwi Hedd Wyn fel y bardd buddugol a'r ffaith iddo gael ei ladd yn Ffrainc.

    Ar y llwyfan ar gyfer yr achlysur yr oedd Syr John Morris-Jones a'r Parchedig John Williams Brynsiencyn a fu'n amlwg yn yr ymdrech i berswadio Cymry ifainc i ymuno 芒'r lluoedd arfog.

    Ond un o feirniaid y gystadleuaeth oedd T Gwynn Jones, heddychwr pybyr a oedd "yn ffieiddio" rhyfel ac yn gignoeth ei feirniadaeth Morris-Jones a John Williams a sentimentalrwydd yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y seremoni.

    Yr oedd eironi arbennig yn y ffaith fod y ddau a recriwtuiodd gymaint o Gymry ifainc yn eu dagrau ar y llwyfan.

    Yr oedd y gynulleidfa fawr, hithau, yn ei dagrau hefyd gyda bron bob aelod ohoni yn si诺r o fod wedi colli rhywun yn y rhyfel hefyd ac yn gallu uniaethu a theulu'r bardd.

    "Achos mi ddaeth [y digwyddiad] a'r rhyfel reit i lwyfan y Genedlaethol efo'r un person yna yn cynrychioli cehedlaethol [o fechgyn a gollwyd]," meddai Alan Llwyd.

  • Hedd Wyn - yr olaf o'r beirdd rhamantaidd. Cymharu 'Yr Arwr' a 'Mab y bwthyn', Cynan.

  • Disgrifiwyd Hedd Wyn fel yr olaf o'r beirdd rhamantaidd yng Nghymru gan Alan Llwyd.


    "Yr oedd dylanwad Shelley yn gryf iawn arno," meddai.

    Dywedodd mai am ei gerddi llai y bydd yn cael ei gofio yn hytrach nag awdl 'Yr Arwr' a chymharodd yr ymateb i honno i'r ymateb a fu i bryddest gwrth ryfel arall, 'Mab y Bwthyn, gan Cynan.

    Ychwanegodd mai Hedd Wyn ddylai fod wedi cael y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1916 gydag un o'r beirniaid, J J Williams eisiau ei wobrwyo ond Syr John Morris-Jones o blaid ymgais J Ellis Williams a gadeiriwyd.

    Yn 么l Alan Llwyd mae'n gwbl bosibl na fyddai Hedd wyn wedi ymgeisio eto pe byddai wedi ennill yn Aberystwyth.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Darganfod 'llythyr Rhywle yn Ffrainc'

  • Hanes Hedd Wyn

  • Cofio tren y Gadair Ddu

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy