主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Gwyddoniadur - holi golygydd
'Zoncked' wrth eni'r trydydd plentyn!


"Rhywbeth sydd ddim yn mynd i gymryd deng mlynedd, gobeithio," oedd ymateb Menna Baines pan ofynnodd Dei Tomos iddi beth fydd ei phrosiect nesaf yn awr bod y gwyddoniadur wedi ei gwblhau.


  • Bu Menna Baines yn gweithio ar y Gwyddoniadur o'r cychwyn cyntaf un yn un o'r golygyddion gwreiddiol yn cydfweithio 芒 Nigel Jenkins a fu'n golygu'r fersiwn Saesneg.

    Llafur cariad
    Dywedodd mai blwyddyn a hanner io waith - yn gweithio'n rhan amser dros dair blynedd - oedd y gwaith i fod i ddechrau ond ymestynnodd y gwaith yn ddeng mlynedd; llawer ohono yn lafur cariad erbyn y diwedd. A hynny mewn mwy nag un ystyr yn ei hachos hi gan i'w chymar, Peredur Lynch o Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor, ymuno 芒 hi yn y gwaith o olygu.

    Yn cael ei holi gan Gwilym Owen ar ei raglen radio bnawn Llun 28 Ionawr 2008 dywedodd Menna Baines mai'r gair Saesneg "zoncked" a ddefnyddiwyd gan olygydd cyyfredinol y gyfrol, y Dr John Davies, oedd yn cyfleu orau gyflwr y golygyddion ar drothwy'r cyhoeddi.
    "Ond yn hapus iawn," ychwanegodd.

    Dros filiwn a hanner
    Yngl欧n 芒'r paratoi dywedodd wrth Gwilym Owen:

    "Roedd yna gynllunio i'w wneud, mi gymerodd hynny rhyw flwyddyn neu ddwy. Comisiynu wedyn 400 o gyfranwyr. Rhoi trefn ar y peth ac wedyn ar y diwedd y gwaith diweddaru a sicrhau bod y gyfrol mor gyfredol 芒 phosibl wrth fynd i'r wasg," meddai.

    "Pan ydw i'n meddwl am y gwahanol gamau yn y gwaith dydw i ddim yn synnu ei fod o'n teimlo'n amser hir . . . yn gweithio ar ddwy gyfrol ochr yn ochr, y gyfrol Saesneg a'r gyfrol Gymraeg, a rhwng y ddwy yn dros filiwn a hanner o eiriau . . ." meddai.

    Un peth 芒'i synnodd meddai yw bod mwy o eiriau yn y gyfrol Gymraeg na'r un Saesneg.

    "Mae hynny'n ddiddorol. Dydw i ddim yn gwybod beth ydi'r rheswm achos dwi wastad wedi meddwl fod y Gymraeg yn medru bod yn iaith ddigon cryno.

    "Ond mae yna elfen o gyfieithu wedi digwydd, er nad ydi'r gyfrol i gyd wedi ei chyfieithu o'r Saesneg ac rydw i'n meddwl bod rhyw elfen o chwyddo yn digwydd gyda phob cyfieithu ac er ein hymdrechion i gael gwared ag olion cyfieithu fel ei bod yn darllen yn safonol mewn Cymraeg cyhyrog mae'n anochel ar y diwedd fod y gyfrol Gymraeg rywfaint yn fwy na'r un Saesneg," meddai.

    "Ond yr un deunydd sydd yn y ddwy," ychwanegodd.

    Dywedodd i "gnewyllyn da" o'r cyfranwyr sgrifennu yn y ddwy iaith ond y mwyafrif yn y Saesneg yn unig.

    Mater o ddewis
    "Wrth gwrs roeddem ni eisiau mynd ar 么l pob math o feysydd, yn wyddoniaeth, yn chwaraeon ac ati a doedd dim modd cael siaradwr Cymraeg ar bob un o'r meysydd," eglurodd.

    Y golygyddion benderfynodd ar y penawdau i'w trin.
    "Roedd yna benderfyniadau mawr ar y dechrau. Ni'n pedwar oedd yn penderfynu beth oedd yn deilwng o'i drafod, pa Gymry oedd wedi gwneud cyfraniad digon pwysig i fod yn y llyfr ac roeddem ni'n trafod oeddem ni'n cynnwys pobl [sy'n dal yn] fyw a phenderfynu nad oeddem ni yn rhoi cofnodion [iddyn nhw] . . . ond yn eu cynnwys nhw drwy'r drws cefn mewn gwirionedd - pob math o benderfyniadau tebyg i hynny," meddai.

    Tipyn o b诺er
    "Roeddech chi'n teimlo bod gennych chi dipyn o b诺er yn eich dwylo mewn gwirionedd eich bod chi'n cael cyflwyno eich darlun eich hun o Gymru," yhwanegodd.

    Dywedodd mai dim ond "ambell waith" y bu yna ffraeo ymhlith y golygyddion.

    "Dydi'r Dr John Davies ddim yn arbennig o hoff o chwaraeon a rhai eraill ohonom ni yn teimlo bod rygbi a ph锚l-droed yn hanfodion Cymreig. Doedd yna ddim ffraeo[mewn gwirionedd] dadlau cyfeillgar oedd o a dwi'n gobeithio fod y llyfr gorffenedig yn gyfaddawd rhwng y pedwar ohonom," meddai.

    Trydydd plentyn
    Mewn cyfweliad cynharach gyda Dei Tomos ar gyfer ei raglen radio nos Sul 6 Ionawr 2008 disgrifiodd Menna Baines y Gwyddoniadur fel "trydydd plentyn i mi a Pheredur" gan ychwanegu y bydd yn falch yn awr o fedru rhoi mwy o sylw i'r ddau arall!

    Dywedodd hefyd iddi fwynhau cwmniaeth y golygyddion eraill yn ystod y gwaith paratoi. "Yr oedd," meddai, "yn dim clos."

    Golwg ar Gymru
    Ychwanegodd i'r gwaith fod yn fodd iddi gael golwg ar Gymru yn ei holl chyflawnder:
    "Dyna'r peth mawr mae wedi'i roi - rhoi mwy o berspectif a [dangos] lle mae mae pethau yn perthyn i'w gilydd - a rhoi darlun cyflawn [o Gymru].

    "Nid fy mod i'n cofio'r cwbl yn y 700,000 o eiriau!" meddai.

  • Cyn ymuno 芒 th卯m y Gwyddoniadur bu Menna Baines yn olygydd celfyddydau Golwg ac yn olygydd Barn rhwng 1991 a 1996. Hi hefyd yw awdur cyfrol bwysig yn dadansoddi gwaith Caradog Prichard, Yng Ngolau'r Lleuad .
  • ar Wefan y Gwyddoniadur.
    (Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau eraill.)

  • Cysylltiadau Perthnasol

  • Rhagor am y Gwyddoniadur ar Llais Ll锚n

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy