主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Cardi Bach
Neil Rosser yn yr Adam & Eve Cwymp tafarndai drwy lygad un sy'n byw yn Abertawe
Hydref 2008
Chris Reynolds sy'n bwrw golwg ar ddirywiad nifer o dafarndai mwyaf poblogaidd Abertawe

Ychydig o wythnosau yn 么l darlledwyd rhaglen Week In Week Out yn adrodd stori ar y nifer o dafarndai sydd yn cau yng Nghymru. Dechreuwyd y rhaglen ar Sgw芒r Fictoria, Aberd芒r gan nodi bod y tair tafarn olaf ar y Sgw芒r wedi cau. Ar un adeg roedd bob yn ail adeilad yno'n ddioty ond erbyn hyn does 'na ddim un.

Roedd y rhaglen yn berthnasol i fi achos yn y Sgw芒r ces i fy mheint cyntaf erioed 'lawr y dre'. Roedd hynny yn y 'Black Lion', un o'r tair i gau yn ddiweddar.

Agorwyd yn 1811 roedd y dafarn yn gartref i Swyddfa Bost gyntaf y dre. Yn hwyrach yn y rhaglen darlledwyd lluniau o'r Lamb yn Hirwaun, lle wnaeth Mam weini peint a phastai i David Parry-Jones unwaith, tafarn sydd bellach ar gau. Mae'r Mount Pleasant, tafarndy hyfryd ar y ffordd i Benderyn, wedi mynd ac mae'r Globe, pyb 'lleol' yn wir ystyr y gair, bellach yn d欧 bwyta.

Ond pam mae hyn yn berthnasol i chi, ddarllenwyr 'Wilia'? Roedd angen MOT ar y car ychydig yn 么l ac ar 么l gadael y car yn y garej ar Ffordd Cwm Level cerddais i tuag at y dre. Ar y ffordd, rhwng Gland诺r a chanol Abertawe, cerddais i heibio saith tafarn sydd bellach ar gau, neu'n wag ac ar werth. Yn ddiweddar cerddais i heibio'r Garibaldi yn y dre a'r Brooklands yn Sandfields, roedd un ar werth a'r llall yn disgwyl fel safle adeiladu. O'r tafarndai sydd wedi cau yn ddiweddar y fwya poblogaidd efallai yw'r Adda ac Efa yn y Stryd Fawr. Can mlynedd yn 么l roedd 30 o dafarndai ar y Stryd Fawr, heddiw, bron dych chi'n gallu eu cyfri ar un llaw. Pan fues i'n gweithio yn y dref roedd yr Adda ac Efa yn handi iawn ar 么l gwaith ar brynhawn dydd Gwener yn yr haf.

Ar un adeg hon oedd un o brin lefydd yn Abertawe gallech brynu Brains ac roedd y bar yn fwrlwm o s诺n bandiau roc a bl诺s traddodiadol ar nos Wener a nos Sadwrn. Hon hefyd oedd cartref sesiynau nos Wener Tyrfe Tawe. Ymhlith y rhai sydd wedi canu yno mae Neil Rosser, Crys, Fflur Dafydd, Merched Becca, Derwyddon Dr Gonzo ac wrth gwrs Meic Stevens. Roedd Meic yn 'regular' yn yr Adda ac Efa ymhell cyn i drefnwyr Tyrfe ddod at ei gilydd i drefnu'r 诺yl. A dweud y gwir roedd Meic yn 'regular' yn yr Adda ac Efa ymhell cyn i ran fwya trefnwyr Tyrfe gael eu geni, ond stori arall yw honno.

Lan y cwm mae'r un broblem. Daeth y newyddion yn ddiweddar bod nosweithiau llwyddiannus 'Gigs y Gwach' efallai o dan fygythiad gydag ansicrwydd bwriad perchennog newydd Y Gwachel ym Mhontardawe. Mae ffordd o fyw yn newid ac mae cymunedau'n dioddef.

Beth bynnag yw eich barn chi am yfed mae cwymp y tafarndai yn adlewyrchu'r hyn sydd wedi digwydd eisoes yn y capeli, swyddfeydd post a siopau cornel. Efallai bod breuddwyd yr hen Thatsyr yn ara' bach yn cael ei wireddu. Does dim fath beth 芒 chymdeithas.....

** Wrth i WILIA fynd i'r wasg, daeth newyddion bod yr 'Adda ac Efa', ar 么l misoedd ar gau, wedi ailagor. Ar y llaw arall, mae'r 'Builders Arms', lleoliad Clwb Gwener Tyrfe wedi cau......

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy