主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Cardi Bach
Huw Chiswell, un o berfformwyr y noson. Llun gan S4C. Yn 么l i'r wythdegau mewn noson arbennig
Gorffennaf 2004
Edrych yn 么l ar noson o ganu'r wythdegau, mewn lansiad arbennig i 诺yl Gymraeg newydd yn Abertawe.
Ym mis Ionawr, penderfynodd criw o ffrindiau y dylid trefnu g诺yl yn Abertawe er mwyn hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg yn y ddinas. Ffurfiwyd pwyllgor, sydd yn cwrdd yn wythnosol ers hynny, a dechreuodd y gwaith trefnu o ddifrif.

Dewiswyd yr enw 'Tyrfe Tawe' i'r 诺yl, oherwydd gobeithir y bydd 'tyrfe' o bobl yn dod i fwynhau'r gerddoriaeth fydd yn siglo'r ddinas ar Hydref 15-16. Nid yw'r bandiau wedi eu cadarnhau eto, ond mae nifer o artistiaid enwocaf y s卯n, megis Meic Stevens a Kentucky AFC wedi dangos brwdfrydedd mawr - mae'n argoeli i fod yn benwythnos bythgofiadwy!

o'r dechrau, cytunwyd y dylai tocynnau Tyrfe Tawe fod am ddim, er mwyn denu cymaint o bobl 芒 phosib i wrando ar gerddoriaeth Gymraeg. Oherwydd hynny, rhaid codi cryn dipyn o arian er mwyn talu'r costau. Felly, yn ogystal 芒 lansio Tyrfe Tawe yn swyddogol, roedd cyngerdd a gynhaliwyd yn Nhŷ^ Tawe nos Sul Mai 30 yn gyfle i godi arian at y fenter.

Daeth rhai o berfformwyr mwyaf blaenllaw yr ardal i ddangos eu cefnogaeth - Neil Rosser, Geraint Griffiths a Huw Chiswell - ac roedd y pwyllgor yn hynod ddiolchgar iddynt am berfformio'n ddi-d芒l. Gwerthwyd pob tocyn, ac roedd crysau T Tyrfe Tawe yn mynd fel slecs. Rhoddodd sawl aelod o'r gynulleidfa gyfraniadau hael yn y fwced hefyd - diolch o galon i chi.

Dechreuodd y noson gyda chroeso Catrin Rowlands, cadeirydd pwyllgor yr 诺yl, a darllenwyd englynion Huw Dylan Owen am Tyrfe Tawe. Yna, daeth Neil Rosser, y bachgen o Dreforys i'r llwyfan. Cafwyd perfformiad hwyliog iawn ganddo - daeth ei hiwmor miniog a gw锚n i wynebau pawb.

Nesaf, roedd Geraint Griffiths. Roedd ei ganeuon yntau'n fwy difrifol, ond cafodd ymateb gwych a braf oedd clywed hen ffefrynnau fel 'Cowbois Crymych' am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Wedi hynny, daeth uchafbwynt y noson i lawer - Huw Chiswell, neu 'Chiz'.Roedd hyn yn gyfle i rai - a'r merched yn arbennig - i ail-fyw eu hieuenctid ff么l pan oeddChiz yn seren ac yn eilun. Ond profodd Chiz nad yw amser wedi effeithio ar ei lais na'iddawn, gyda pherfformiad teimladwy a phwerus. Erbyn y diwedd, roedd y gynulleidfa'n cydganu 'Y Cwm' a'i 'hits' eraill, gan foddi ei gyfeiliant medrus ar y piano. Daeth y noson i ben ar uchafbwynt, a phawb yn amharod i droi tuag adref.

Sylwais fod dagrau yn llygaid ambell un. Bu Noson lansio Tyrfe Tawe yn gyfle i gamu n么l i'r wythdegau, ond roedd hefyd yn gyfle i edrych r dyfodol. Mae bywyd Cymraeg Abertawe'n dihuno, a phobl ifanc yr ardal yn awchu am gyfleoedd i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Gobeithir y bydd Tyrfe Tawe'n arwain at fwrlwm o ddigwyddiadau eraill yn y ddinas.


Cyfrannwch

Tudor Williams, Crawley
Mae hedyn eich ymdrechion yn amhrisiadwy. Llongyfarchiadau


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy