Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Cardi Bach
Disgyblion ysgol Tim ysgol yn dadlau dros Gymru
Mai 2008
Cymerodd tîm dadlau Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe rhan yng nghystadleuaeth gyffrous ym mhrifysgol Rhydychen ar ddydd Sadwrn, Mawrth 8fed.

Roedd cyrraedd rownd derfynol Brydeinig yn dipyn o gamp i'r ysgol, gyda 80 o ysgolion gorau Prydain, Canada ac Iwerddon yn cystadlu. Roedd Bryn Tawe yn un o dri thîm oedd yn cynrychioli Cymru. Roedd tîm yr ysgol sef Alice Watts-Jones a Llinos McCann wedi cynrychioli Bryn Tawe yn arbennig ar ddiwrnod ffyrnig o ddadlau.

Mae rheolau llym y gystadleuaeth yn golygu taw dim ond chwarter awr sydd ar gael i baratoi araith o bum munud, roedd y dadleuon wedi amrywio o'r rhyfel yn Irac i adnewyddu egni. Gwnaeth Llinos ac Alice fynegi eu barn yn gryf wrth drafod gyda siaradwyr ifanc gorau'r wlad.

Yn ystod y dydd cystadlodd yr ysgol yn erbyn Notting Hill, tîm a lwyddodd i gyrraedd y rownd derfynol! Er i'r tîm beidio â chyrraedd y rownd derfynol, maent yn haeddu dipyn o glod am eu hymdrechion.

Roedd y penwythnos yn Rhydychen hefyd wedi galluogi'r criw brwd o gefnogwyr i gael cipolwg ar ddinas hanesyddol Rhydychen a gweld y colegau hyfryd. Roedd yr ymweliad a café coco ag awgrymwyd gan y prifathro yn ddechreuad arbennig i'r penwythnos.

Diolch i bawb am eu presenoldeb yn enwedig y prifathro Mr David Williams am ei gefnogaeth, Ms Siwan Ellis, Miss Victoria Williams a Miss Hannah Barrow (yr adran Saesneg) am eu cymorth a Mr Chris Shaw am drefnu'r daith a pharatoi'r tîm siarad cyhoeddus. Mae'r disgyblion bellach yn frwd am lwyddiant blwyddyn nesaf!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý