Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Cardi Bach
Cymreigiwch Abertawe - gŵyl a gynhaliwyd gan y Fenter yng nghanol dinas Abertawe. Newyddion o Fenter Iaith Abertawe
Mawrth 2005
Wilia eto! Gorfod meddwl am beth newydd i'w ddweud. Ond diolch i'r nefoedd, mae wedi bod yn gyfnod prysur felly mae digonedd o ddigwyddiadau wedi digwydd.

I ddechrau cafwyd Gwener y Grolsch bywiog iawn ar y 26ain o Chwefror gyda Eryr, Bob, Java a Plant Duw yn perfformio, aeth yr arian i gyd i godi arian ar gyfer alldaith elusennol rhai o ddisgyblion Gŵyr i Egwador. Diolch yn fawr iawn i Angharad Jenkins am drefnu'r cyfan, llongyfarchiadau mawr iddi hi. Bydd y gig nesaf ar y 25ain o Fawrth gyda MC Saizmundo a synDcut yn perfformio; rydym yn disgwyl ymlaen yn eiddgar am y gig, gan mai dyma'r tro cyntaf i Gwener y Grolsch fod yn noson Hip Hop Cymraeg. Dylai fod yn noswaith gwych a diddorol iawn, felly dewch yn eich cannoedd ieuenctid Abertawe.

Cynhaliwyd gŵyl 'Cymreigiwch Abertawe' ar ddiwedd Chwefror, a fu'n llwyddiant mawr eto eleni. Bu'r Fenter yn gyfrifol, ar y cyd â'r cyngor, am drefnu digwyddiadau yn y cwadrant. Cawsom stondin yng nghanol y ganolfan siopa, a oedd yn gyfle gwych i farchnata gweithgareddau'r Fenter a chyfleoedd i ddysgu ac i ddefnyddio'r Gymraeg yn Abertawe, ymhlith pethau eraill. Trefnodd y Fenter berfformiad gan ysgol Mark Jermin a dawnsio gwerin gan Ysgol Gyfun Ystalyfera, a chafodd y ddau beth dderbyniad gwych gan y cyhoedd.

Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb a roddodd o'u hamser a'u hymdrech i gyfrannu at yr ŵyl unwaith eto eleni.

O Fawrth y 14eg ymlaen bydd Swyddog newydd yn ymuno â thîm y Fenter! Bydd Eleri Griffiths, sydd ers yn ddiweddar wedi bod yn gweithio gyda'r Urdd yn Abertawe, yn gweithio gyda grwpiau cymunedol ar draws Morgannwg a Gwent i recordio a chofnodi hanes yr iaith Gymraeg yn ne Cymru, yn ogystal â gwneud ymchwil i dafodieithoedd a chyweiriau ieithyddol. Bydd Eleri yn gweithio am gyfnodau gydag 8 Menter Iaith, er mai swyddfeydd Abertawe fydd ei chartref am y ddwy flynedd nesaf.

Bydd Eleri yn datblygu prosiectau gyda grwpiau lleol, mewn cydweithrediad â'r Mentrau laith i gofnodi etifeddiaeth y Gymraeg yn y cymunedau. Bydd yn cofnodi'r wybodaeth trwy ddefnyddio technegau amrywiol a chreadigol ee ffilmio, recordio ar dâp, tynnu lluniau digidol, yn ogystal â threfnu siaradwyr gwadd i drafod hanes ieithyddol y cymunedau unigol. Caiff y prosiectau amrywiol eu harddangos mewn llyfrgelloedd a chanolfannau lleol yn ystod y ddwy flynedd er paratoir arddangosfa a stondin i ddangos y gwaith i gyd yn Eisteddfod Genedlaethol Aber tawe 2006. Mae ei swydd wedi cael ei hariannu trwy gronfa Treftadaeth y Loteri. Mae'r gronfa yn galluogi cymunedau i ddathlu, gwarchod a dysgu mwy am ein treftadaeth gyfoethog.

Mae Swyddog Cymraeg yn y Gymuned newydd y Fenter wedi dechrau ar ei swydd yn gweithio yn 9 ward Amcan 1 Abertawe. Dechreuodd Sioned Wyn Bowen, sydd yn wreiddiol o Rydaman, yn ei swydd newydd ar y 14eg o Chwefror. Nid yw Sioned Wyn yn wyneb newydd i'r Fenter, hyd yn ddiweddar, hi oedd Swyddog Busnes y Fenter, yn hyrwyddo gwasanaethau dwyieithog i fusnesau a mudiadau'r sir. Mae Sioned Wyn wedi cymryd lle Siwan, ac mi fydd yn parhau ac yn cryfhau'r cysylltiadau a'r partneriaethau sydd wedi cael eu sefydlu yn y 9 ward. Bydd yn canolbwyntio'n bennaf fodd bynnag, ar ardaloedd Blaenymaes, Portmead, San Tomos, a Glandwr dros y misoedd i ddod.

"Dwi'n edrych ymlaen at barhau â'r gwaith sydd wedi cael ei wneud yn y 9 ward Amcan 1 yn barod ond datblygu prosiectau newydd a chefnogi'r Gymraeg yn yr ardaloedd nad sydd wedi cael cymaint â hynny o sylw eto. " Bwriad y prosiect yw hybu hunan- hyder a chynhwysedd cymunedau o fewn y 9 ward mewn ffyrdd agored a phositif. Mae swydd Sioned Wyn wedi hael ei hariannu gan nawdd Ewropeaidd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý