Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Cardi Bach
Gatiau Auschwitz Myfyrwyr yn ymweld ag Auschwitz
Mehefin 2008
Bu dau ddisgybl o Ysgol Gyfun Gŵyr ar daith i wersyll Auschwitz yn ngwlad Pwyl.

Cafodd Charlotte Thomas ac Owen John, y cyfle i fynd i wersyll Auschwitz fel rhan o'r cynllun Lessons from Auschwitz. Aethant gyda Mrs Bethan James, pennaeth yr adran hanes, i weld gwersyll enwocaf y Natsiaid.

Cyn cyrraedd y gwersyll ei hun, aeth y myfyrwyr i ymweld â mynwent Iddewig Oświęcim, y pentref Pwylaidd y rhoddwyd yr enw Auschwitz iddo gan y Natsiaid. Yno roedd cyfle i ddysgu am y gymuned Iddewig a fodolai yng Ngwlad Pwyl cyn yr Holocost.

Er mai Iddewon oedd 58% o drigolion Oświęcim yn 1939, erbyn heddiw does dim un Iddew yn byw yno ac erys y fynwent ei hun ar glo oherwydd iddi ddioddef sawl ymosodiad gwrth-Semitaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Hwyrach yn y dydd daeth yr amser i gerdded trwy gât enwog Auschwitz 1, dan y geiriau adnabyddus Arbeit Macht Frei. O dan arweiniad tywyswraig yr amgueddfa, aeth y disgyblion ymlaen i weld ystafelloedd arteithio'r Natsiaid ac i sefyll mewn un o'r siamberi nwy, yn ogystal â gweld cartref rheolwr Auschwitz, Rudolph Hoss.

Profwyd elfen fwy personol wrth ymweld â rhai o arddangosfeydd y gwersyll, fu'n cynnwys casgliadau o sbectolau, esgidiau a gwallt y dioddefwyr. Yn Birkenau, gwelwyd ehangder y cynllyn difodi, wrth i'r disgyblion wel y tyrrau gwylio, y barracks ac adfeilion y siamberi a'r ffwrnesi a ddinistrwyd gan y Natsiaid wrth iddynt ffoi i'r gorllewin ar ddiwedd y rhyfel.

Efallai'r profiad fwyaf trawiadol oedd gweld barracks y plant, adeilad bach a thywyll, lle y cadwyd cannoedd o blant Pwylaidd fu'n byw ar wahan i'w rhieni. Roedd dau lun lliw ar wal y barracks yn cynnig un golwg o fywyd y tu hwnt i ffiniau'r gwersyll a'r plentyndod coll y breuddwydiai'r plant amdano. Bydd S4C yn darlledu rhaglen arbennig yn olrhain hanes y daith ar Hacio, S4C Digidol, 12 Mehefin.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý