主播大秀

Cymru yn Oes Victoria

Darlun o waith haearn Merthyr

gan Catrin Stevens

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, tyfodd poblogaeth Cymru yn aruthrol: o 587,245 yn 1801 i 1,771,451 yn 1891. Cafodd y boblogaeth hon ei hail-ddosbarthu wrth i Gymry cefn gwlad symud i weithio i'r gweithfeydd haearn a glo yn y de-ddwyrain.

Cafodd Cymru ei thrawsnewid - am y tro cyntaf erioed roedd mwy o bobl yn byw mewn ardaloedd trefol, diwydiannol nag oedd yn byw yn y wlad.

Felly, fu dim rhaid i'r Cymry symud allan o'u gwlad i chwilio am waith. Mae rhai haneswyr wedi dadlau bod hynny wedi helpu i achub yr iaith Gymraeg yn y ganrif hon. Roedd cyfrifiad 1891 yn dangos bod 56% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Ond yna, yn ystod degawd olaf y ganrif, roedd angen llawer mwy o lowyr a llifodd teuluoedd o dde-orllewin Lloegr i weithio ym Mynwy a Morgannwg. Cafodd yr ardaloedd glofaol eu Seisnigo yn gyflym iawn gan hyn.

Y Diwydiant Haearn

Bythynnod gweithwyr a'r ffwrneisi dur gerllaw ym Mlaenafon
Ffwrneisi haearn a bythynnod gweithwyr Blaenafon

Datblygodd y diwydiant haearn ar hyd blaenau'r cymoedd am fod mwyn haearn, glo, calch ac ynni d诺r wrth law. Yn 1815, roedd wyth gwaith haearn mawr rhwng Hirwaun a Blaenafon, ac erbyn yr 1840au, gwaith Dowlais oedd y mwyaf yn y byd. Merthyr Tudful, tref fwyaf Cymru ddechrau'r ganrif, oedd prifddinas y diwydiant hwn.

Yn 1831 ffrwydrodd terfysg yn y dref oherwydd amodau byw a gweithio gwael a chafodd ei grogi am fod yn un o'r arweinwyr honedig. Tref lawn bwrlwm, Cymraeg ei hiaith, oedd Merthyr yn ystod hanner cyntaf y ganrif.

Roedd problemau iechydol difrifol yn y trefi diwydiannol newydd. Er bod y tai teras ar hyd ochrau'r cymoedd yn well na bythynnod tlawd cefn gwlad, roedd gorlenwi yn broblem fawr.

Byddai teuluoedd mawr a lletywyr dros dro yn byw ar bennau'i gilydd. Roedd yr awyru yn wael, ac roedd y carthion a'r sbwriel yn achosi heintiau fel teiffws a cholera. Yn wir, bu farw 1,520 o bobl o'r colera ym Merthyr yn 1849. Yn yr 1840au a'r 50au pasiwyd Deddfau Iechyd Cyhoeddus i wella'r sefyllfa hon.

Plant yn gweithio

Gweithwyr yn ffatri sannau Llanidloes. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Newidiodd y sefyllfa waith i blant a menywodyn 1842

Bu plant yn gweithio ar y tir ac mewn diwydiannau ar hyd y canrifoedd, ond yn Oes Victoria dechreuwyd cwestiynu a oedd hyn yn iawn. Dangoswyd bod 265 o blant, rhai ohonyn nhw'n ddim ond chwech oed, yn gweithio fel dryswyr a halwyr, dan amodau gwlyb, tywyll ac oer ym mhyllau gweithfeydd Plymouth yn 1842. Arweiniodd hyn at basio Deddf y Pyllau Glo / Haearn yn 1842, i gyfyngu ar yr oedran a'r oriau gweithio. Effeithiodd y ddeddf hon ar fenywod hefyd, oherwydd roedden y dynion yn dadlau 'nawr mai'r cartref, nid y gweithfeydd, oedd lle'r 'llestr gwannaf'. Collodd llawer o fenywod eu gwaith a'u hannibyniaeth.

Cludiant

Roedd datblygiad yn nulliau cludiant yn allweddol i lwyddiant diwydiannau'r ganrif hon. Yn 1794-7, cafodd Camlas Morgannwg o Ferthyr i Gaerdydd ei hagor, ac yna, yn 1841, agorodd Rheilffordd Dyffryn Taf o Ferthyr i ddoc newydd Bute yng Nghaerdydd. Yn yr 1880au datblygwyd dociau'r Barri ar gyfer allforio glo.

Y Diwydiant Glo

Tai teras nodweddiadol y cymoedd

Erbyn ail hanner y ganrif, roedd y diwydiant glo ager wedi disodli'r diwydiant haearn fel prif ddiwydiant Cymru. Roedd galw mawr am lo i bweru trenau a llongau st锚m ar draws y byd. Erbyn 1900, porthladd Caerdydd oedd porthladd allforio glo prysuraf y byd.

Cafodd llwyddiant y diwydiant glo effaith anhygoel. Dim ond llond dwrn o ffermydd oedd yng Nghwm Rhondda yn 1850, ond erbyn 1901 hwn oedd cwm mwyaf poblog Cymru, gyda phoblogaeth o 113,735. Roedd tua 40,000 o lowyr yn gweithio yn y 50+ pwll glo yno. Erbyn 1899 roedd pyllau de Cymru yn cynhyrchu 40 miliwn tunnell o lo'r flwyddyn.

Ond roedd ochr arall i'r geiniog. Roedd y Meistri Glo yn barod i ecsploetio'r gweithwyr. Ceisiodd y glowyr sefydlu undebau llafur i fargeinio gyda'u meistri, a chynhalion nhw sawl streic dros eu hawliau.

Sefydlwyd y 'Fed' i frwydro dros hawliau glowyr

Ar 么l methu trechu 'lock out' y Meistri Glo yn 1898, penderfynon nhw sefydlu Ffederasiwn Glowyr De Cymru i frwydro gyda'i gilydd dros eu hawliau. Digwyddodd cannoedd o ddamweiniau angheuol yn y glofeydd yn y cyfnod hwn, e.e. cafodd 268 eu lladd yng nglofa'r Prince of Wales, Abercarn, yn 1878, a 290 yn yr Albion, Cilfynydd, yn 1894.

Diwydiannau eraill

Roedd diwydiannau eraill yn llewyrchus yng Nghymru yn y cyfnod hwn hefyd, e.e. chwareli llechi Gwynedd; diwydiant glo caled y de-orllewin (o 1880 ymlaen); glofeydd y gogledd-ddwyrain; twristiaeth mewn trefi fel Llandudno a Phorthcawl; gwaith dur Brymbo (yr 1880au) a gwaith briciau Rhiwabon.


About this page

This is a history page for schools about Wales in Victorian times. The huge growth of the iron and coal industries transformed the economic and social structure of Wales: for the first time, more people lived in urban areas than in rural areas. Click on the Vocab button at the top of the page for help with Welsh translation.

Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

eClips

Clipiau fideo a sain o archif y 主播大秀 am bob pwnc ar gyfer pob oedran.

Bywyd

Llun o stori Antur Sabrina

Chwedlau

Chwedlau hen a newydd, gan gynnwys y Mabinogi, a gemau hwyliog.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.