主播大秀

Arwyr y Brythoniaid

Cerflun o Buddug ar bont Westminster yn Llundain

gan Catrin Stevens

Mae'r ddau arwr Brythonig, Caradog a Buddug, yn perthyn i gyfnod cyntaf goresgyniad y Rhufeiniaid ym Mhrydain.

Caradog

Pennaeth llwyth y Catuvellauni, yn ne-ddwyrain Lloegr heddiw, oedd Caradog (neu Caratacus), ac ef a'i frawd Togodumnus fu'n amddiffyn y deyrnas yn erbyn goresgyniad byddin Rhufain yn OC43. Ond cawson nhw eu trechu mewn dwy frwydr dyngedfennol ar lannau afonydd Medway a Thafwys, a chafodd Togodumnus ei ladd.

Ail gread o dechnegau ymladd y Rhufeiniaid
Dangos sut i greu 'testudo'

Ffodd Caradog at lwyth y Silwriaid yn ne-ddwyrain Cymru, 'cenedl rymus a rhyfelgar' yn 么l yr awdur Lladin, Tacitus. Bu brwydro ffyrnig rhyngddyn nhw a'r Rhufeiniaid, ond yn OC49 goresgynnodd Ostorius Scapula dir y Silwriaid. Symudodd Caradog ei fyddin at yr Ordofigiaid yn y canolbarth a chafodd brwydr ei hymladd rywle ar lan afon Hafren. Er mai'r Brythoniaid oedd ar y tir uchel, llwyddodd y Rhufeiniaid i'w trechu trwy ddefnyddio'r testudo - sef trwy ffurfio math ar danc cyntefig, gyda'r milwyr yn cloi eu tariannau yn do a muriau o'u hamgylch.

Trodd Caradog yn awr am gymorth llwyth y Brigantes yng ngogledd Lloegr, ond bradychodd eu brenhines nhw, Cartimandes, ef a'i gyflwyno i ddwylo'i elynion.

Cafodd ei ddwyn mewn cadwynau i Rufain i'w gosbi a'i ladd. Ond, yn 么l Tacitus, gwnaeth Caradog araith herfeiddiol:

Os ydych chi eisiau rheoli'r byd, ydy hynny'n golygu bod yn rhaid i bawb arall groesawu bod yn gaeth?

Caradog

'Roedd gen i geffylau, dynion, arfau a chyfoeth. Ydych chi'n synnu mod i'n drist i'w colli? Os ydych chi eisiau rheoli'r byd, ydy hynny'n golygu bod yn rhaid i bawb arall groesawu bod yn gaeth? Petawn i wedi ildio heb ymladd, cyn cael fy nwyn o'ch blaen chi, fyddai fy ngholled i, na'ch buddugoliaeth chi, ddim wedi dod yn enwog.'

Oherwydd iddo fod mor ddewr, chafodd Caradog a'i deulu mo'u lladd. Buon nhw'n byw yn alltud yn Rhufain.

Buddug

Pan orchfygodd y Rhufeiniaid y de-ddwyrain yn OC43 caniataon nhw i Prasutagus, brenin llwyth yr Iceni yn nwyrain Lloegr heddiw, barhau i reoli'i deyrnas.

Roedd yn briod 芒 Buddug neu Boudica. Yn 么l y Groegwr, Dio Cassius, roedd hi'n dod o deulu brenhinol ac roedd hi'n fwy deallus na gwragedd eraill.

Cerflun marmor o Buddug a'i dwy ferch yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd
Buddug a'i merched: cerflun Neuadd y Ddinas,Caerdydd

Roedd hi'n dal, 芒 gwallt coch hir at ei chanol, ac roedd ganddi lais cras a llygaid llym. Byddai'n gwisgo torch aur fawr, tiwnig amryliw a chlogyn trwchus wedi'i gau 芒 thlws.

Gan ei fod mewn dyled i'r Rhufeiniaid, yn ei ewyllys rhannodd Prasutagus ei dir rhwng ei wraig a'r Rhufeiniaid. Ond pan fu ef farw, penderfynodd y Rhufeiniaid reoli'r Iceni eu hunain, heb help Buddug. Ymosodon nhw ar y frenhines, ei chwipio a threisio'i merched. Roedd y Brythoniaid yn ddig iawn am hyn.

Yn OC60-61 roedd y llywodraethwr Rhufeinig, Suetonius Paulinus, wedi teithio i Ynys M么n i ddinistrio canolfan y derwyddon yno. Ar lan afon Menai, bu'n rhaid i'w fyddin wneud llynges fechan o gychod i'r milwyr traed groesi, ond nofiodd y gw欧r meirch i'r ochr draw. Ar y traeth, yn wynebu'r Rhufeiniaid, roedd golygfa ddychrynllyd: dynion arfog, gwragedd mewn gwisgoedd duon 芒'u gwalltiau'n anniben ac yn cario ffaglau t芒n, a derwyddon. Cododd y rhain fraw ar y Rhufeiniaid, ond yn y pen draw, gyda'u byddin broffesiynol, trechodd y Rhufeiniaid y Brythoniaid anhrefnus. Yna, dinistriodd y fyddin ganolfan sanctaidd y derwyddon ar yr ynys a difa'u cwlt am byth.

Ail gread o frwydr yr Iceni
Y Brythoniaid yn ymosod ar Camulodunum

Tra roedd Paulinus yng ngogledd Cymru, gwrthryfelodd yr Iceni yn y dwyrain. Trechodd rhyfelwyr Buddug nawfed Lleng y fyddin Rufeinig, cyn ysbeilio Camulodunum (Colchester). Yna, aethon nhw yn eu blaenau i Lundain a Verulanium (St Albans) i losgi'r trefi a lladd miloedd.

Dychwelodd Paulinus o Gymru ar frys a chasglodd fyddin o 10,000 o filwyr. Rywle ar hyd Stryd Watling daeth wyneb yn wyneb 芒 llu enfawr o tua 230,000 o Frythoniaid. Roedd Buddug a'i merched mewn cerbyd rhyfel, yn arwain y fyddin. Yn 么l Tacitus, traddododd Buddug araith i ddweud mai dial colli ei rhyddid a threisio'i merched oedd ei rhesymau hi dros wrthryfela. Ond, yn ystod y frwydr, roedd offer a disgyblaeth y Rhufeiniaid yn well na rhai'r Brythoniaid. Mae'n debyg i 80,000 o Frythoniaid a 400 o Rufeiniaid gael eu lladd. Bu Buddug farw trwy'i gwenwyno'i hun.

Cafodd hanes Buddug - Boudica - ei ail-ddarganfod yn ystod Oes Victoria. Codwyd cerflun enfawr ohoni yn ei cherbyd rhyfel ar lan afon Tafwys [llun ar frig y dudalen], ac mae cerflun arall yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd [llun uchod]. Mae'n rhyfedd sut y cafodd gwrthryfelwraig wrth-imperialaidd Frythonig ei dyrchafu'n arwres gan gefnogwyr yr Ymerodraeth Brydeinig.


About this page

This is a history page for schools about the native British chiefs who fought back against the invading Romans. Caradog (Caracatus) and Buddug (Boudica or Boudicca) were both warrior chiefs who led battles against the Roman army in the first century AD. Click on the Vocab button at the top of the page for help with Welsh translation.

Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

eClips

Clipiau fideo a sain o archif y 主播大秀 am bob pwnc ar gyfer pob oedran.

Bywyd

Llun o stori Antur Sabrina

Chwedlau

Chwedlau hen a newydd, gan gynnwys y Mabinogi, a gemau hwyliog.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.