主播大秀

Cymru a'r Ail Ryfel Byd

Ail-gread o frwydr Dunkirk

gan Catrin Stevens

Rhwng Medi 1939 ac Awst 1945, bu mwyafrif cenhedloedd y byd yn ymladd rhyfel byd. Cafodd dros 61 miliwn eu lladd yn y gwrthdrawiad mwyaf difrifol yn hanes y byd.

Chwaraeodd milwyr o Gymru eu rhan, e.e. Bataliwn Cyntaf y Gwarchodlu Cymreig yn ceisio dal tref Arras yn Ffrainc, yn erbyn yr Almaenwyr, ym Mai 1940, ac Ail Fataliwn Cyffinwyr De Cymru yng nglaniad Normandi, yn 1944. Syrthiodd 15,000 o Gymry ar feysydd y gad ar draws y byd.

Y Ffrynt Cartref

Nodwedd arbennig o'r Ail Ryfel Byd oedd ei fod yn rhyfel llwyr, ac yn effeithio ar bawb.

Y Faciw卯s

Plant 芒'u mygydau nwy yn cyrraedd yr orsaf
Symudwyd llawer o blant y dinasoedd i'r wlad

Cafodd tua 200,000 o famau a phlant eu symud o ddinasoedd Lloegr i ddiogelwch cymharol Cymru - 50,000 ohonyn nhw i'r Rhondda. Bu'n brofiad anghyson i'r faciw卯s a'u lletywyr. Arhosodd rhai yng Nghymru ar ddiwedd y rhyfel. I eraill roedd y diwylliant gwahanol yn rhy ddieithr, a dychwelon nhw i ganol y bomio.

Yn Aberystwyth, cododd ofn y byddai llifeiriant o Saeson bach uniaith yn tanseilio iaith Gymraeg y plant. Dyma pam y sefydlodd Ifan ab Owen Edwards yr ysgol gyfrwng Cymraeg gyntaf yng Nghymru, dan nawdd Urdd Gobaith Cymru.

Yn sgil bomio porthladdoedd y de, cafodd plant o Gaerdydd ac Abertawe eu symud i gefn gwlad Cymru hefyd.

Y Bomio

Targedodd yr Almaenwyr ddociau Caerdydd, Doc Penfro ac Abertawe. Ymosododd yr awyrennau ar Gaerdydd 30 o weithiau ym mis Ionawr 1941, gan ddinistrio rhan o gadeirlan Llandaf. Ond Abertawe ddioddefodd waethaf. Yn Chwefror 1941 cafodd 230 o'i thrigolion eu lladd, a goleuodd yr awyr dros dde Cymru pan aeth 'Abertawe'n fflam', chwedl y bardd, Waldo Williams.

Daeth y Cymry'n gyfarwydd 芒 rhoi 'blacowt' dros eu ffenestri, 芒 chysgodfannau Anderson yn eu gerddi, 芒 chario mygydau nwy i bob man ac ymarferion y Gwarchodlu Cartref.

Gwaith

Y fyddin dir
Ymunodd merched 芒'r dynion i drin y tir

Trefnwyd y byd gwaith i gefnogi'r ymdrech ryfel. Cafodd ffermwyr eu hannog i 'balu dros fuddugoliaeth' a throi tir glas i dyfu cnydau fel tatws a moron.

Unwaith eto, roedd galw am lo Cymru, ac o 1943 ymlaen, roedd y wladwriaeth yn rheoli'r diwydiant. Oherwydd prinder glowyr erbyn 1944, cafodd un o bob deg o'r bechgyn ifanc, a oedd wedi'u galw i'r fyddin, eu hanfon i weithio fel 'Bechgyn Bevin' yn y pyllau glo.

Cyfrannodd merched di-briod a gwragedd priod at yr ymdrech ryfel. Erbyn 1944, roedd 219,000 o fenywod yn gweithio, 4,357 ohonyn nhw yn y Fyddin Dir yng Nghymru; ymunodd eraill 芒'r WAAFs, gan ddysgu drilio a sut i bacio parasiwtiau er enghraifft, neu 芒'r WRENs.

Merch mewn ffatri yn ystod y rhyfel
Cafodd nifer o ferched gyflog am y tro cyntaf

Heidiodd llawer i'r ffatr茂oedd arfau yn Hirwaun, Pen-bre, Glasgoed, Marchwiail neu Benybont-ar-Ogwr. Dyma'r ffatri fwyaf, lle gweithiai 37,000 o fenywod a rhai dynion. Roedd yn waith peryglus - cafodd rhwng 30-40 eu lladd mewn un ddamwain yno. Bu eraill yn nyrsio, rhai gyda nyrsys Queen Alexandra yn Ffrainc.

Rhoddodd cyfnod y rhyfel annibyniaeth, cyfle i ennill cyflogau da a mwynhau cymdeithas ehangach i ferched, ond ar yr un pryd, roedden nhw'n byw mewn ofn a phryder mawr.

Dogni

Dechreuodd y llywodraeth ddogni bwyd yn 1940 ac aeth ffrwythau fel bananas, grawnwin ac orenau yn eithriadol brin.

Menyn, lard a chig moch
Roedd bwyd a dillad yn cael eu dogni

Ar y dechrau, c芒i un person 'rations' o 12 owns o siwgr, 4 owns yr un o fenyn neu lard a chig-moch, dau 诺y a 3.5 owns o ham yr wythnos a ch芒i plant ddogn o 2 owns o losin. Does dim rhyfedd, felly, fod pobl yn twyllo trwy brynu a gwerthu nwyddau ar y farchnad ddu.

Roedd dillad yn cael eu dogni hefyd. Roedd sanau neilon yn brin iawn, a byddai merched dyfeisgar yn paentio'u coesau 芒 brownin grefi a rhoi streipen i lawr y cefn. Gwnaeth ambell ferch ei ffrog briodas o sidan parasiwt. Y prif slogan oedd 'Make do and Mend'.

Carcharorion

Pan dorrodd y rhyfel, cafodd llawer o Almaenwyr ac Eidalwyr, a oedd wedi byw yng Nghymru erioed, eu carcharu - rhai ar long yr Arandora Star. Cafodd hi ei suddo gan gwch U yr Almaen. Boddodd llawer, yn eu plith 446 o Eidalwyr diniwed a gwladgarol.

Yn y carchar rhyfel yn Henllan, Ceredigion, paentiodd yr Eidalwyr lun 'Y Swper Olaf' ar fur capel y gwersyll.

Yn 1945, dihangodd 65 o Almaenwyr o garchar Island Farm, Penybont-ar-Ogwr, ond o fewn wythnos roedd pob un wedi'i ddal ac yn 么l yn y carchar. Carcharwyd Cymry mewn carcharau rhyfel ar draws y byd hefyd, a dioddefodd rhai yn enbyd iawn, yn enwedig yn Byrma a Japan.


About this page

This is a history page for schools about the Second World War and its effect on Wales. Thousands of Welsh soldiers were killed in operations abroad while on the home front, rations, evacuees, a female workforce and prisoner of war camps changes the lives of many communities. Click on the Vocab button at the top of the page for help with Welsh translation.

Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

eClips

Clipiau fideo a sain o archif y 主播大秀 am bob pwnc ar gyfer pob oedran.

Bywyd

Llun o stori Antur Sabrina

Chwedlau

Chwedlau hen a newydd, gan gynnwys y Mabinogi, a gemau hwyliog.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc 漏 Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.