主播大秀

Gwyn

Gwyn, Caernarfon - yn y ffeinal

Enillydd Rhaglen 5

Pwnc arbenigol rhaglen 5:

Hanes Tutankhamun

Pwnc arbenigol y ffeinal:

Cysawd yr Haul

Mae Gwyn wedi dewis hanes y brenin Eifftaidd, Tutankhamun, fel ei bwnc arbenigol yn hytrach na straeon teledu neu lyfrau.

"Mi wnes i ddewis Tutankhamun achos o'n i di bod yn yr Aifft yn barod, a gweld ei fasg, ac wedyn mi wnes i r卯li cymryd diddordeb ynddo fo," meddai.

"Es i Cairo gyntaf, a gweld y masg anhygoel 'na, ac wedyn aethon ni i Luxor a gweld Dyffryn y Brenhinoedd. Y peth sy'n aros yn y cof ydy'r masg - y llygaid yn edrych str锚t ymlaen atoch chi - 'dach chi'n gallu dychmygu fel oedd o pan oedd o'n fyw."

Ac yntau'n byw wrth droed Eryri, mae Gwyn yn hoffi treulio rhywfaint o'i amser hamdden yn cerdded mynyddoedd. Mae hefyd yn hoff iawn o gerddoriaeth, jazz yn enwedig, ac yn chwarae'r clarin茅t, y piano a'r sacsoffon. Mae'n gobeithio chwarae mewn band efo ffrindiau yn y dyfodol.

Ei ddiddordebau eraill ydy Doctor Who, darllen a nofio a'i hoff bynciau yn yr ysgol ydy Gwyddoniaeth, Iaith a Mathemateg.

"Rydw i eisiau ymddangos ar Mastermind i gael hwyl a chyfarfod pobl newydd, ac efallai na chaf i byth gyfle arall i fynd ar raglen deledu."


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.