主播大秀

Seren

Seren, Castell Nedd - enillydd Mastermind Plant Cymru 2008

12 Medi 2008

Enillydd Rhaglen 4

Pwnc arbenigol rhaglen 4:

Doctor Who, Cyfres 3

Pwnc arbenigol y ffeinal:

Llyfrau St Clears gan Enid Blyton

Mae Seren yn un o ffans pennaf y rhaglen deledu boblogaidd Doctor Who: "Dwi'n ei wylio fe bob dydd Sadwrn, mae gen i bosteri yn fy stafell, a dwi'n tanysgrifio i'r cylchgrawn," meddai.

Mae hi'n credu bod y gyfres a ddechreuodd yn 1963 yn dal i godi ofn ar blant heddiw: "Mae'r weeping angels yn edrych yn ddiniwed, ond yna mae'n nhw'n troi rownd i ddangos eu crafangau a'u dannedd miniog.

"Y daleks yw'r mwyaf drwg, wedyn y cybermen ac wedyn y Meistr."

Er mwyn adolygu ei phwnc arbenigol, gwyliodd Seren DVDs, darllen nodiadau, edrych ar wefannau a darllen llyfrau cwis.

Mae Gwyddoniaeth a Chyfrifiaduron ymhlith hoff bynciau Seren yn yr ysgol.

Mae hefyd yn mwynhau chwarae gemau cyfrifiadurol a gwylio'r teledu ac yn hoffi darllen ac ysgrifennu ac astudio Celf, Saesneg a Chymraeg yn yr ysgol.

"Fe fydd ymddangos ar Mastermind yn brofiad cyffrous ac yn rhywbeth diddorol i ddweud wrth fy mhlant a fy wyrion mewn blynyddoedd i ddod!"


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.