主播大秀

Iolo

Iolo, Sir Benfro

Pwnc arbenigol: Awyrennau Prydain yn yr Ail Ryfel Byd

Ymddangos yn: Rhaglen 4

Mae diddordeb Iolo yn awyrennau rhyfel Prydain yn deillio o ddarllen hen lyfrau ei dad ac o wylio rhaglenni teledu.

"Mae rhai pethau yn weddol ecseiting, fel y cyflymdra, faint o ynnau, pwy oedd y gorau'n hedfan," meddai Iolo sy'n credu mai'r Supermarine Spitfire oedd awyren enwocaf y cyfnod.

Mae ei fam-gu wedi bod yn ei helpu i baratoi: "Mae hi wedi ysgrifennu cannoedd o gwestiynau i fi ar bapurau, a dyna be dwi'n neud bob nos, bron, yw darllen lan ar rheina."

Ymysg diddordebau eraill Iolo mae chwarae rygbi, karat茅 a seiclo - mae karat茅, meddai, yn dysgu disgyblaeth iddo yn ogystal 芒 sut i amddiffyn ei hyn.

Ac yntau'n byw yn un o ardaloedd prydferthaf Cymru mae'n hoffi treulio amser yn cerdded mynydd hefyd a phan nad yw'n gwneud hynny mae'r darllen a chwarae gyda K'NEX.

Ei hoff bynciau yn yr ysgol ydy Gwyddoniaeth, Daearyddiaeth, Hanes a Chyfrifiaduron.

"Rydw i eisiau ymddangos ar Mastermind Plant Cymru am fy mod yn hoffi'r rhaglen Mastermind i oedolion ac awydd gen i i wneud yr un peth - rwy'n hoffi her newydd.

"Dwi'n awyddus i ehangu fy ngwybodaeth gyffredinol ac arbenigol ac ennill y profiad o fod ar deledu."


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.