主播大秀

Morgan

Morgan, Wrecsam

Pwnc arbenigol: Bywyd a Gyrfa Tony Hawk

Ymddangos yn: Rhaglen 3

Mae Morgan yn hoffi sglefrfyrddio yn ei amser hamdden a bydd ei wybodaeth am y gamp yn ddefnyddiol iawn wrth iddo ateb cwestiynau am y sglefrfyrddiwr enwog o'r America, Tony Hawk.

"Ysgrifennodd Tony Hawk lyfr am ei hun ac am ei fywyd, ac mi wnes i ei ddarllen pan o'n i'n adolygu."

Y brif gyfrinach gyda sglefrfyrddio meddai Morgan ydy bod yn eofn: "Ti ddim yn gallu bod yn ofnus o bopeth. Ti'n gorfod bod yn barod i neud pethau sy'n dy frifo."

Mae hefyd yn mwynhau chwarae i'w d卯m p锚l-droed lleol a chwarae gyda'i ffrindiau.

Ei hoff bwnc yn yr ysgol ydy Mathemateg ac mae'n hoffi gwersi Daearyddiaeth a Hanes hefyd.

"Mae'n fraint cael ymddangos ar deledu Cymraeg a phrofi fy ngwybodaeth gyffredinol a chynrychioli fy ysgol."


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.