主播大秀

Iestyn

Iestyn, Pen Ll欧n

Pwnc arbenigol: William y Concwerwr

Ymddangos yn: Rhaglen 4

Hanes, yn enwedig hanes y canoloesoedd, yw un o brif ddiddordebau Iestyn ac mae wedi dewis y brenin Normanaidd, William y Concwerwr, fel ei bwnc arbenigol.

"Mae hanes canoloesol yn ddiddorol ofnadwy," meddai. "Roedd William y Concwerwr yn ddyn reit bwerus, ac er ei fod o'n reit gas, oedd o'n gwneud popeth am reswm. Roedd ganddo fo reolau tyn, ond rhesymau am roi rheolau fel 'na."

"Wnes i ddim defnyddio dim o'r we i adolygu, wnes i ddefnyddio llyfrau i gyd. Does ganddon ni ddim teledu adre."

Mae Iestyn hefyd yn hoffi cadw hwyaid adref ar y fferm, ysgrifennu a darllen ac mae'n gallu canu'r ffidil hefyd.

Ei hoff bynciau eraill yn yr ysgol ydy Celf a Daearyddiaeth.

"Roeddwn i eisiau bod ar Mastermind Plant Cymru oherwydd fy mod yn meddwl y buasai'r profiad yn un diddorol.

"Rwyf hefyd eisiau cynrychioli a cheisio cadw enw da fy ysgol. Yn ddiwethaf, rwyf yn meddwl bod llawer o ddysgu am ddod allan o hyn ar fy rhan i ar 么l bod yn astudio ar gyfer y rhaglen."


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.