主播大秀

Dwy flynedd i fardd plant newydd

Eurig ar faes Eisteddfod yr Urdd Abertawe

31 Mai 2011

Bardd ifanc poblogaidd, Eurig Salisbury, ydi Bardd Plant newydd Cymru.

Ac yn wahanol i feirdd plant y gorffennol bydd Eurig yn dal y swydd am ddwy flynedd, nid un.

Dywedodd y bydd hynny yn caniat谩u iddo ehangu cynlluniau gyda plant ymhellach.

Gyda chais iddo fanteisio ar dechnoleg newydd dywedodd y bydd yn ystyried sut y gellir defnyddio Twitter fel modd i hyrwyddo diddordeb plant mewn barddoniaeth.

Cytunodd y gallai'r cyfrwng cryno hwn fod yn arbennig o gymwys ar gyfer yr englyn.

Pwtysleisiodd mai un her fydd gwneud barddoniaeth yn rhywbeth hwyliog a difyr yng ngolwg yn hytrach na thrin barddoniaeth fel rhywbeth addysgol.

Mae'n dilyn Dewi Pws yn y swydd a chyhoeddwyd ei enw oddi ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Abertawe, ddydd Mawrth.

Er y pwyslais ar dechnoleg newydd dywedodd Eurig y bydd yr arferiad o ymweld ag ysgolion a chynnal gweithdai yn pparhau.

Cyhoeddwyd y bydd hefyd yn cynnal gweithgareddau cysylltiedig ag ymgyrch Calon cenedl S4C a Chymunedau'r darllen Cyngor llyfrau Cymru.

Yn un o'n beirdd ifanc mwyaf llwyddiannus mae Eurig ar hyn o bryd yn Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn astudio gwaith Dafydd ap Gwilym.

Wedi ei eni yng Nghaerdydd symudodd y teulu i Langynog ger Caerfyrddin pan oedd Eurig yn chwech oed. Yn y coleg yn Aberystwyth bu'n astudio'r Gymraeg ac astudiaethau Ffilm a Theledu.

Astudio cerddi beirdd fel Dic Jones a Gerallt Lloyd Owen ddeffrodd ei awch am farddoniaeth pan oedd yn yr ysgol.

Yn 13 oed dysgodd ei hun i gynganeddu gyda help Clywed Cynghanedd gan Myrddin ap Dafydd ac enillodd Gadair yr Urdd yn Eisteddfod Sir Ddinbych 2006.

Daeth yn ail deirgwaith yn olynol am Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth, Llyfr Glas Eurig a chyfrol o farddoniaeth plant, Sgrwtsh!

gan feddwl am ei yrfa ei hun hyd yn hyn dywedodd, "Mi o'n innau'n fardd bach hefyd un tro, er nad o'n i'n gwybod hynny ar y pryd, ac mi o'n i wrth fy modd yn darllen cerddi gwirion.

"I ddweud y gwir, cerddi gan fy rhagflaenydd enwog dwi'n eu cofio orau, cerddi am foi o'r enw Arwel a oedd wastad yn dawel, ac am dorri wy gyda llwy! Cerddi llawn hwyl yw cerddi Dewi Pws, a fy nod i yw sicrhau y bydd plant Cymru'n cael yr un faint o hwyl gyda fi dros y ddwy flynedd nesaf. A gyda lwc, ni fydd fy nghorun i'n edrych yn rhy debyg i gorun Mr Pws erbyn y diwedd!"

Cynllun ar y cyd rhwng Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Cyngor Llyfrau Cymru, Llenyddiaeth Cymru, S4C a'r Urdd yw Bardd Plant Cymru. Yn ogystal ag Eurig, y beirdd sydd wedi derbyn yr anrhydedd yn y gorffennol yw Dewi Pws, Twm Morus, Ifor ap Glyn, Caryl Parry-Jones, Gwyneth Glyn, Mererid Hopwood, Tudur Dylan Jones, Ceri Wyn Jones, Menna Elfyn, Mei Mac a Myrddin ap Dafydd.


Lluniau o'r Maes

Crwydro'r maes

Byddwn yn cyhoeddi lluniau o faes yr Eisteddfod gydol yr wythnos

C2

Huw Stephens Yn ei Gr诺f!

G锚m: Yn y Gr诺f

G锚m newydd ar wefan C2 - hwyl a sbri wrth ddewis Huw a mwy fel cyflwynydd!

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion, chwaraeon diweddaraf a'r ar dudalen newydd Ffeil.

Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.