主播大秀

Lowri Morgan: Llwyfan yr Urdd yn atgof melys

Lowri Morgan

31 Mai 2011

Yn un sydd wedi cymryd rhan mewn campau gyda'r mwyaf eithafol bu Lowri Morgan yn s么n am y profiad anhygoel a gafodd yn sefyll ar lwyfan Eisteddfiod yr Urdd pan yn ferch naw oed.

Dyna, meddai gychwyn ei chysylltriad 芒 mudiad y mae'n ddyledus iddo, meddai, am fwy nag un rheswm.

Yr oedd Lowri sydd wedi rhedeg ras 222km yn yr Amazon a choncro ras eithafol y 6633 Ultra yn yr Artig yn siarad mewn cynhadledd ar faes Eisteddfod Genedlaethol Abertawe ddydd Mawrth lle mae'n llywydd y dydd.

"Fe ges fy annog ," meddai wrth gofio'r cysylltiad cyntaf hwnnw yn Eisteddfod yr Urdd Aberafan 1983, "i fynd am yr unawd dan ddeuddeg. A minnau rioed wedi cystadlu mewn pafiliwn o'r blaen, dyna lle'r oeddwn i ar lwyfan yn wynebu, ar y pryd, beth oeddwn I'n feddwl oedd cannoedd os nad miloedd o bobl . Dwi'n cofio'r teimlaid fel pe byddai ddoe yn canu. Rwy'n cofio y cyffro, yr adrenalin, y nerfusrwydd a dyna hyd heddi un o'm hoff atgofion I erioed ac mae'n atgof melys iawn," meddai.

Canmolodd yr Urdd am fod "yn ffrind da iawn i mi dros y 30 mlynedd diwethaf" a rhoi pob math o gyfleoedd iddi.

"Rhoi'r hyder imi wynebu sialensau newydd," meddai.

Dywedodd hefyd bod y ffaith ei bod yn Gymraes yn elfen bwysig.

"Mae nifer yn gofyn I mi shwt yn y byd rwy'n ffeindio fy hun yn gwneud y pethau eithafol yma. Wel, dwi wastad yn dweud I fod o'I lawr I fod yn Gymraeg . Dwi'n hynod, hynod, falch o fy magwraeth ac y mae'r Urdd yn dod dan yr aambarel hynny. Yn sicr mae wedi rhoi imi sgiliau rydw I'n ddefnyddio heddi fel oedolyn," meddai.

"Yr ydw I wastad wedi bod yn un sy'n mwynhau trio pob dim a chwilio am sialensau newydd a diolch yn fawr iawn I'r Urdd am fy annog I," meddai.

Cyfeiriodd ar brofiadau a gafodd nid yn unig ar lwyfannau eisteddfod yr urdd ond hefyd mewn gweithgareddau chwaraeon.

Ond fel eraill yr wythnos hon dywedodd hithau nad llwyddiant yn unig sydd o werth.

"Dysgodd y profiad o gystadlu nid yn unig mai gwaith caled a dyfalbarhau yw y rheswm am gyrraedd rhyw nod ond mae hefyd yn dysgu ichi y pwysigrwydd o gymryd rhan, o gyflawni nodau persol a'r boddhad a ddaw o hynny."

"A dwi wedi dysgu, er fy mod i wedi cael y llwyddiant , fe wnes i fethu sawl gwaith a chyrraedd y llwyfan, methu sawl gwaith ar y meystydd chwarae ac mi wnes I ddysgu mai pwysigrwydd yr holl beth yw'r ffaith fy mod yn mwynhau ac yn cael y boddhad yna o gyrraedd nod," meddai.

Ers hynny mae'r ferch fach naw oed honno wedi cwblhau sawl marathon, wedi rhoi tro ar gystadleuaeth ffitrwydd Ironman ac ymysg yr 80 o bobl sydd wedi gweld gweddillion y Titanic.

Yn 2009, fe wynebodd ras 222km ar draws jwngl yr Amazon ar gyfer cyfres newydd 'Ras yn Erbyn Amser' ar S4C. Ac yn ddiweddar rhyfeddodd bawb 芒'i dewder a'i dyfalbarhad yn ystod ras eithafol y 6633 Ultra yn yr Artig, un o sialensiau anoddaf y blaned, gan lwyddo i gwblhau'r ras 350 milltir a hawlio ei lle fel y chweched person yn y byd i wneud hynny.

Merch o Dre-g诺yr heb fod nepell o faes y Steddfod yw Lowri. Mynychodd Ysgol Gynradd Bryn y M么r ac Ysgolion Cyfun G诺yr ac Ystalyfera ac yn ogystal 芒'i doniau yn y maes ffitrwydd mae hi hefyd yn gerddorol iawn ac wedi graddiodd mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd gan arbenigo ar y llais.

Mae hefyd yn canu'r ffidil, y fiola a'r piano ac arferai fod yn aelod o G么r Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Ieuenctid Cymru.

Dechreuodd ar ei gyrfa deledu yn gyflwynydd 'Planed Plant' ac 'Uned 5' cyn ymuno 芒 chwmni P.O.P.1 yn gynhyrchydd a chyd-gyflwynydd 'Ral茂o+'.

Cyfwyno'r esgidiau i lywydd Merched y Wawr

Yn yr Eisteddfod hefyd cyflwynodd Lowri bar o drenars y bu'n eu defnyddio ar gyfer hyfforddi ar gyfer ras yr artig i ymgyrch Sodlau'n Siarad Merched y Wawr.


Lluniau o'r Maes

Crwydro'r maes

Byddwn yn cyhoeddi lluniau o faes yr Eisteddfod gydol yr wythnos

C2

Huw Stephens Yn ei Gr诺f!

G锚m: Yn y Gr诺f

G锚m newydd ar wefan C2 - hwyl a sbri wrth ddewis Huw a mwy fel cyflwynydd!

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion, chwaraeon diweddaraf a'r ar dudalen newydd Ffeil.

Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.