主播大秀

Sir Benfro yn croesawu Eisteddfod yr Urdd 2013

Pobl Ifanc Sir Benfro

08 Mehefin 2012

Wedi wythnos o weithgaredd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Eryri 2012, mae rhai o bobl ifanc Sir Benfro ar y maes ddydd Gwener i groesawu'r Eisteddfod i'w ardal nhw y flwyddyn nesaf.

Brynhawn dydd Gwener, bydd sioe groeso ar y llwyfan am 5:35pm i roi blas i'r gynulleidfa o'r hyn fydd yn eu haros yn Sir Benfro yn 2013.

Cynhelir yr Eisteddfod rhwng 27 Mai a 1 Mehefin 2013 ar gaeau Cilwendeg ger Boncath.

Mae'r gwaith o godi arian drwy amryw o weithgareddau eisoes ar droed yn Sir Benfro gyda dros 60% o darged o 拢251,000 eisoes wedi ei gasglu.

Ar faes yr 诺yl yng Nglynllifon mae 拢5,000 wedi ei godi ar stondin Eisteddfod yr Urdd Cilwendeg, Sir Benfro 2013 drwy werthu nwyddau a thocynnau raffl.

Cynhaliwyd g诺yl gyhoeddi arbennig yng nghanol tref Hwlffordd ym mis Mai ble bu cannoedd o blant, pobl ifanc, athrawon, rhieni a chefnogwyr yn cyd-gerdded trwy ganol y dref cyn ymgasglu am jambor卯 o ganu.

Dywedodd Emyr Phillips, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Benfro, fu'n gwerthu rafflau a nwyddau ar eu stondin yn ystod yr wythnos: "Mae pobl Sir Benfro yn edrych ymlaen at estyn croeso cynnes i'r Eisteddfod ac i Eisteddfodwyr o bob cwr o Gymru i'r ardal yn 2013. Wedi G诺yl Gyhoeddi wych yn Hwlffordd ym mis Ebrill, mae brwdfrydedd pobl Sir Benfro yn amlwg, ac rydym yn edrych ymlaen at ddangos beth sydd gan y Sir i'w gynnig i Eisteddfod yr Urdd.

"Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r holl wirfoddolwyr sy'n gweithio ar hyd a lled yr ardal yn cynnal gweithgareddau hwyliog i godi arian ar gyfer yr Eisteddfod. Mae gwaith caled o'n blaenau, ond mae yna griw gwych o wirfoddolwyr wedi bod yn cydweithio'n dda. Dwi'n ffyddiog bod pawb yn edrych ymlaen at flwyddyn o waith caled ar gyfer sicrhau g诺yl lwyddiannus a chyffrous yn 2013."

Dywed Aled Si么n, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: ''Hoffwn ddiolch i Emyr Phillips a phawb ar y t卯m am eu gwaith caled hyd yn hyn ac edrychwn ymlaen at flwyddyn o gydweithio brwd wrth i ni baratoi ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, Sir Benfro 2013.

Bydd y criw ifanc yn ystod y sioe yn mynd 芒'r gynulleidfa ar daith o amgylch yr ardal gan rhoi blas iddynt ar fannau megis tref Dinbych y Pysgod, Castell Cenarth a pharc Oakwood. Arfordir Sir Benfro yw un o'r lleoedd mwyaf poblogaidd yng Nghymru, a


Dysgu

Merch yn adolygu

Bitesize TGAU

Nodiadau adolygu, gweithgareddau a phrofion i fyfyrwyr TGAU.

G锚m y Gof

G锚m y Gof

Chwarae

Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion a'r chwaraeon diweddaraf a gwylio'r rhaglen.

Plant

Dewch i fyd hudol Tree Fu Tom am gemau, anturiaethau a swynau!

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.