主播大秀

Lawnsio ysgoloriaeth amgylcheddol

Geraint George

Cyhoeddodd mudiad Urdd Gobaith Cymru ddydd Gwener eu bod yn sefydlu ysgoloriaeth amgylcheddol newydd sbon er cof am yr amgylcheddwr adnabyddus, Geraint George, a fu farw yn 2010.

08 Mehefin 2012

Pwrpas Ysgoloriaeth Geraint George Urdd Gobaith Cymru yw meithrin cyfathrebwyr arbennig all helpu pobl yng Nghymru a thu hwnt i werthfawrogi'r byd naturiol o'u cwmpas a deall y ffactorau sy'n effeithio arno.

Mae'n agored i unigolion rhwng 18 a 25 oed

Sefydlwyd yr ysgoloriaeth yn dilyn marwolaeth Geraint George, a oedd yn Gyfarwyddwr Rheolaeth Cefn Gwlad Prifysgol Bangor, aelod o'r Cyngor Cefn Gwlad, y Comisiwn Coedwigaeth, ac yn Is Gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Cymru, yn 49 mlwydd oed.

Roedd hefyd yn sylwebydd ac yn gyfranwr cyson ar faterion amgylcheddol a byd natur ar Radio Cymru.

Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy'n cyhoeddi'r ysgoloriaeth i "诺r hynaws a oedd yn amgylcheddwr, addysgwr a chyfathrebwr brwd."

Dywedodd Morgan Parry, Cadeirydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru: "Roedd Geraint George wrth ei fodd yn gweithio gyda phobl ifanc, yn eu hannog nhw i holi a ffurfio barn am yr amgylchedd o'u cwmpas. Roedd yn awyddus iawn i weld pobl yn trafod pynciau amgylcheddol ac yn ystyried Cymru a'i threftadaeth mewn cyd-destun rhyngwladol. Mae colled fawr o'i 么l, ond ein gobaith fel partneriaid yr Ysgoloriaeth yw y bydd enw Geraint George yn aros ar gof a chadw ac yn gymorth i bobl ifanc feithrin deallusrwydd ac arbenigedd pellach ym maes amgylcheddol Cymru."

I ymgeisio ar gyfer yr ysgoloriaeth, gwahoddir cystadleuwyr rhwng 18 a 25 oed i anfon gwaith cyfathrebu, mewn unrhyw gyfrwng, ar unrhyw bwnc amgylcheddol sy'n berthnasol i Gymru, at yr Urdd.

Gall y cyfrwng fod yn ffilm fer, blog, erthygl, eitem sain, poster, taflen, cart诺n, stori neu "unrhyw gyfrwng o ddewis yr ymgeisydd" meddai'r Urdd.

Bydd dau ddewis fel gwobr i'r enillydd. Y cyntaf fydd mynd ar ymweliad wythnos 芒 Pharc Cenedlaethol Trigav yn Slofenia lle bydd yn cael y cyfle i ddysgu am waith y Parc a chymryd rhan mewn gweithgareddau.

Yr ail ddewis fydd mynychu cynhadledd Ewroparc a gynhelir mewn gwahanol ran o Ewrop bob blwyddyn, lle bydd modd dysgu am waith sy'n digwydd mewn gwahanol wledydd a chael ymweld 芒 safleoedd.

Yn ychwanegol gall yr enillydd fanteisio ar gysylltiad gyda mentor ym Marc Cenedlaethol Eryri neu Gyngor Cefn Gwlad Cymru er mwyn helpu datblygu gyrfa ym maes yr amgylchedd. Bydd gwaith yr enillydd a thri chystadleuydd uchaf arall yr ysgoloriaeth yn cael eu harddangos ar wefan Parc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.

Yn 么l Caerwyn Roberts, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "Fel cyn aelod o staff a chyn aelod o'r Awdurdod, fe greodd Geraint George argraff arbennig ar Barc Cenedlaethol Eryri. Roedd ysbrydoli plant a phobl ifanc i fwynhau ac i gymryd sylw o natur a'r byd amgylcheddol yn un o'i brif flaenoriaethau. Mae'r ysgoloriaeth hon yn fenter addas a phriodol iawn i adlewyrchu cyfraniad Geraint i'w faes.

Gofynnir i ygeiswyr anfon y gwaith, at yr Urdd erbyn 1af o Fawrth 2013 naill ai ar ffurf electroneg neu gan anfon dau gopi caled o'r gwaith drwy'r post.


Dysgu

Merch yn adolygu

Bitesize TGAU

Nodiadau adolygu, gweithgareddau a phrofion i fyfyrwyr TGAU.

G锚m y Gof

G锚m y Gof

Chwarae

Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion a'r chwaraeon diweddaraf a gwylio'r rhaglen.

Plant

Dewch i fyd hudol Tree Fu Tom am gemau, anturiaethau a swynau!

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.