Main content

Cerddi Rownd 1

Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Bil

Beirdd Myrddin

B#*X%T
Caf fynd i’r gwaith mewn bowler
A sgwennu gyda chwil,
Caf siarad Saesneg Chaucer,
Rôl talu’r effin bil.

Aled Evans (8.5)

Y Fforddolion

At wewyr holl gur y gwan – drwy’n brodir
yn wir, does dim arian;
i lys y frenhiniaeth lân
yn ufudd rhown y cyfan.

(8)

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘toll’

Beirdd Myrddin

Talwn, fe dalwn ar dân,
y doll i’w cadw allan.

Aled Evans (8.5)

Y Fforddolion

Dros Hafren awn eleni
i weld toll ein harcholl ni.

(8.5)

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Rwy’n disgwyl apwyntiad ers meitin’

Beirdd Myrddin

Rwy’n disgwyl apwyntiad ers meitin
‘Da hyfforddwr personol o Nefyn.
Mae’i freichiau a’i abs
Yn solet fel slabs
Ond ni 诺yr ei ben-ôl o’i benelin.

Ann Lewis (8.5)

Y Fforddolion

Rwy’n disgwyl apwyntiad ers meitin,
trawsblaniad o awen Taliesin –
rhai yrjent, jiw jiw,
sydd ar flaen y ciw,
ac yno mae criw o Feirdd Myrddin.

(8.5)

Cerdd ar fesur yr englyn toddaid (heb fod dros 12 o linellau): Cymuned

Beirdd Myrddin

Clyw weddi’n daer o’i rhiniog, gair pybyr
o gwr pabell garpiog;
yn gennad am un geiniog, ar i’w thad
rannu ei bagad tan weiren bigog.

S诺n gweddi’n cadw’r ffiniau, un dawel,
un â’i duw yn amau
y gwir a ddaw o’r geiriau; yn bader
o eiriau tyner ym merw tonnau.

Un ddiannedd yw’r weddi, yn un ffrwd
o sibrwd i’n sobri,
un uniongred tan flancedi heno
yn dod i herio grym y borderi.

Aled Evans (9.5)

Y Fforddolion

Waliau heddwch Belffast

Bywyd â wal yw bodolaeth, - weiren
a dur eu magwraeth,
a dwy hewl yw brawdoliaeth yn drwyadl
uno’r un anadl â’r hen wahaniaeth.

Ond trwy’r glwyd mae breuddwydion yn agos
a gwag yw’r amheuon,
gweld cymod drwy’r cysgodion wneir mwyach
i stryd oleuach heb stôr dadleuon.

A gorwel dros y welydd yw’r ifanc
heb ryfel â’i gilydd;
antur yw eu palmentydd yn ddyddiol,
dwy gân, un heol, cymdogion newydd.

(10)

Pennill ymson wrth geibio ffos

Beirdd Myrddin

Estynnaf lyfryn hanes
ac ynddo af ar daith
yn ôl i oes y meirwon
a chreithiau ffosydd maith.
Ond yna cyrchaf Twitter
a gweld ei checru hi.
Ma ‘nghenedlaeth innau hefyd
yn ceibio’n ffosydd ni.

Garmon Dyfri (9.5)

Y Fforddolion

Wrth geibio’r ffod ers dyddiau
wrthyf f’hun,
hawdd iawn yw hel meddyliau
neno’r dyn;
mae cloch yr eglwys acw
yn dweud y bydda’ i’n marw,
a dyna newydd garw
i bob un.
Waeth ni estyn peint o gwrw
bob yn un.

(9)

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Ffrindiau

Beirdd Myrddin

Rhydd rhai eu ffydd mewn partis
Trwco gwragedd, nôl y sôn,
Rhai’n canfod mwy na ffrindiau
O groesi’r bont i Fôn…

Rhai’n gwisgo ffrog mewn ‘Steddfod
I gadw miwn ‘da’r criw
Eu plant yn dawnsio gwerin
A phawb yn ffrindiau Cyw.

Os y’ch chi am gywain ffrindiau
Gwrandewch ar hyn rwy’n ddweud,
Rhowch eich enw lawr ar Facebook -
Cewch mil o ffrindiau gwneud.

Pob un yn lân ei fuchedd,
Un teulu mawr y We,
Pob un â’i stori i’w choelio,
Pob un yn ail i’w le.

Ond gochelwch rhag eich twyllo
Gan gelwyddgwn fel myfi;
Cans ar Facebook rwy’n filiwnydd
Deugain oed a six-foot-three…

Bryan Stephens (8.5)

Y Fforddolion
(ar alaw ‘Aberdaron’, Hogia’r Wyddfa)

Yn driw pan oeddwn yn unig
a minnau am dorri fy mol,
roeddet yno i fy nghysuro
yng nghanol pob math o lol;
gafaelais yn dynn tra yn wylo
a chael mwynhau dy gwmni di,
ac yn ddyddiol ddedwydd eto
rwyt ti’n gwrando ar fy nghri.

Ti’n fy nghynnal drwy her y Nadolig,
trwy pob Calan a g诺yl a gwaith,
rwyt ti yno i fy nghefnogi
ar ddiwedd blinedig pob taith;
pan oeddwn yn teimlo’n emosiynol,
pan oeddwn angen arnaf help llaw,
pan oeddwn wael a’n teimlo’n go symol
fe’m codais yn gadarn mas o’r baw.

A fory pan fydd y Talwrn drosodd
a phawb wedi myned tua thre’,
ti fydd yno, fy mhotel Penderyn,
i’m cadw yn fy lle.

(8)

Llinell ar y pryd: Mae rhai’n waeth/well yn fy marn i

Beirdd Myrddin

Cael syrffed o gwpledi
Mae rhai’n well yn fy marn i

Y Fforddolion
Yn urddas effin cerddi
Mae rhai’n well yn fy marn i
(0.5)

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Trwydded

Beirdd Myrddin

Rhoi ffôn i blentyn

Ga i’r hawl i ddal ei llaw hi
a bod yno ar ei thaith?
Ga’i hefyd fodio’n fudan
fy ffordd trwy’r sgyrsiau maith?

Ga’i hawlio gwefr ei chledr
a’i rhannu bob rhyw awr?
Ga’i wirio hynt ei siwrnai
a mapio’i byd di-glawr?

Ga’i fod y gloch sy’n canu
Ac unioni’r wyneb cam?
Y gyntaf un i’w ‘hoffi’,
ga’i aros iddi’n fam?

Lowri Lloyd (9.5)

Y Fforddolion

Nid yw rhyfel yn dweud dim am bwy oedd yn iawn,
nac yn gyfiawn,
dim ond pwy sydd ar ôl;

ac os y medr gychwyn, un bore Gwener, gyda gair o gelwydd,
mor, mor rhwydd,
mae’n gorfod gorffen yn gymen o gelain efo’r gwir;

Amynedd ac Amser, y ddau filwr hyna’n bod,
sy’n tystio, ’tasa’r meirw yn gallu siarad, ni fyddai rhyfel mwy”;

oherwydd trosedd yw,
ac y mae pawb a’i gwelodd, yn dal i’w weld
tan ddiwedd y byd;
maen nhw’n deall na all bidog wneud dyn allan o hogyn,
dim ond cynnau ofn ysbrydion yn llygaid dynion…
a straeon y meirwon, o’u clywed yn y caban yn dychwelyd,
a allai ladd pob lladd yn llwyr.

Ni all y byd fod yn fwy na ‘byd’,
yn fydol ac yn fythol ffôl,
ond y mae mesur amgenach dyn i’w gael yn y modd y mae’n gwisgo grym
ac yn byw gyda’i b诺er,
ac yn ei allu i ddeall fod heddwch gwael yn waeth na gyrru’r bechgyn
yn goch eu gwaed i’r gad.

Ar y maen hwn sy’n grwm o’n henwau,
yn gynion lleddf ac yn llwch,
y mae pob duw yn gelain, oni bai am dduw rhyfel,
ac nid oes neb, neb,
ond y rheiny y cerfiwyd eu henwau yn annwyl gan ddagrau,
wedi gweld diwedd rhyfel erioed.

(9.5)

Englyn: Hoelen

Beirdd Myrddin

Ni welaf mewn awelon, un arwydd
o guriad ei galon
ac ysu wnaf yn gyson
am liw ei waed, am ôl hon.

Aled Evans (9.5)

Y Fforddolion

Ar ddrws cegin Tad-cu

Ddoe ei fyd a’i ddefodau – oedd arni
a’i ddiwrnod dan gotiau,
hongian fu’i gân ar ddrws cau,
y bachyn hongian beichiau.
(9)

Beirdd Myrddin – 72
Y Fforddolion - 71