Main content

Cerddi Rownd 1

Trydargerdd: ‘Ymholiad am Docyn’

Penllyn

Mi hoffwn i fynd o’ma
A hynny’n y cwch nesa’,
Plis ga’ i fynd, dim ots i ble,
Fy enw? May, Teresa.

Beryl Griffiths – 8.5

Y Chwe Mil

Ma rhaimi gal tocyn i’r Steddfod
yn wir, ne fy’na’m teilyngdod!
Dwi’n stiwdant mewn colej,
fy’ raimi gael morgej!
O wel, rhaid canslo y ddefod!

Osian Wyn Owen - 8

Cwpled Caeth yn cynnwys y gair ‘llo’

Penllyn

Er nad mam ydi'r famaeth,
daw llo i nabod ei llaeth.

Gruffudd Antur - 9

Y Chwe Mil

Wrth gario Osian, sydd wedi torri ei droed, at y meicroffon

Y mae o, dros dro, yn drwm;
Llo ungoes ym mro Llangwm.

Elis Dafydd – 9.5

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mi hoffwn i fod yn arweinydd’

Penllyn

Mi hoffwn i fod yn arweinydd
Mewn ‘sbyty trawsblannu ymennydd.
Mi dynnwn i un
O benglog rhyw ddyn
Ac wedyn cai fod yn arlywydd.

Aled Jones – 8.5

Y Chwe Mil

Mark Drakeford
Mi hoffwn i fod yn arweinydd
Arwrol yn arwain gwlad ddedwydd.
Ond mae’n ormod o waith;
Gen i barti am saith,
Ac mae Corbyn o dan yr uchelwydd.

Elis Dafydd - 8

Cywydd (heb fod dros 12 o linellau) yn seiliedig ar unrhyw ystadegyn.

Penllyn

Ym mhob hendref gyntefig
yr un yw gwerth darn o gig
lle mae'r iard mor llwm â'r 欧d,
a'r gw欧r, mor grimp â'r gweryd,
fu'n cadw'r ddealltwriaeth
rhwng dyn a dyn, onid aeth
hen, hen raid y tir yn reddf
ac uned yn troi'n gynneddf.
A heibio'r iard, dros y bryn,
gosodwyd ar g诺ys wydyn
wreiddyn sy'n rhwym wrth ryddid,
yn gaeth i'r ehangdra i gyd.

Gruffudd Antur - 9.5

Y Chwe Mil

Wedi angladd un o greaduriaid bach y môr, 2050
‘If plastic production isn’t curbed, plastic pollution will outweigh fish pound for pound by 2050.’
- Earth Day Network

Dywedir i’r teid oedi;
i’r lloer anghofio troi’r lli
ddoe, ac y daethai holl dd诺r
y môr yn ymgymerwr
mewn hers o wymon i hel
hwn i’r tywod oer, tawel.

Un bach – y lleia’n y byd
yn rhynu. Yna’r ennyd
yn pasio heibio, a haid
iachach o gorgimychiaid
yn gyrru tua’r gorwel.
Ond cau y mae’r rhwydi cêl.

Iestyn Tyne – 9.5

Pennill ymson chwaraewr neu chwaraewraig gemau cyfrifiadurol

Penllyn

Rôl brwydro trwy’r holl rwystrau
A dysgu yr holl driciau
Wynebaf bod un gelyn hy
Wrth ddringo’r llu lefelau.
Dwi wrth fy modd yn maeddu
Yn colbio a fflangellu,
Mae hyn yn addysg well na ’run
I ddyn sy’n llywodraethu.

Beryl Griffiths -8

Y Chwe Mil

Mae’r ffrwydryn yn yr awyr
yn teithio tua’r nod,
a phawb yn yr ystafell
yn dechrau canu ’nghlod;
hawdd yw cogio, ’mhell o’r drin,
mai gêm yw’r cyfan ar y sgrîn.

Iestyn Tyne – 8.5

Cân Ysgafn (heb fod dros 20 llinell): ‘Mis Bach’

Penllyn

Mae rhai o’m ffrindiau ysgol heddiw wedi mynd ymhell
I Lerpwl a Chaeredin a rhai carchardai gwell!
A chredai f’athro innau nad oeddwn fawr o werth
Na’r ‘G’ mewn gair lasagne, roedd gen i dalcen serth.

Y trip ar ddiwedd tymor i’r Almaen oedd yn strach
Pam trafferth mynd cyn belled am fis i weld t欧 “Bach”?
Yr athro cerdd esboniodd fod “Bach” yn foi go iawn
A’i fod yn gyfansoddwr, reit enwog am ei ddawn.

Fe ysgrifennodd unwaith am ‘Joy of man’s desire’
Ac am ‘Saint Mathew’s Passion’ a ‘well tempered clavier’
Mae’n rhaid ei fod un noson wedi profi ‘ing’
I gyfansoddi trannoeth fod ‘Air on the G String’!
Rwy’n amau’n gryf fod Ioan yn gyson mewn rhyw strach
I’w dad a’i fam ei alw yn Ioan…y Sebastien Bach!

Mi gwrddais ag Almaenes, oedd “A minor” morris fan,
Fe’m gwahoddodd draw un noson i weld ei Fernsehen
Doedd safon y rhaglenni ond crafu gwaelod sach…
Tipping point Almaenig, o’r enw – Tipping bach!
Ond bellach gyda Fraulain yr wyf yn treulio’r nos
Yn cofio’r trip i’r Almaen – “Ave Maria” dlos.

Aled Jones - 9

Y Chwe Mil

Nawr Gymry dewch yn llu i wrando ar ein cân:
Mae rhywbeth yn ein poeni ni yn fawr.
Aethon ni i’r pyb nos Sadwrn i sgwennu tasga’r Talwrn
A landio fyny’n hamyrd ar y llawr.

Ar ôl deffro’r bore wedyn, gwnaethom gamgymeriad sydyn
Sef treulio mis Ionawr yn sych.
Ond dyma gyfyng-gyngor: allwn ni’m barddoni’n sobor,
Felly doedd o ddim yn benderfyniad gwych.

A dan ni isio mynd nôl i yfad!
Dan ni isio sgwennu poitri ar yr êl.
Dan ni isio meddwi yn shit-rwns
A twîtio abiws at Dafydd Êl.

Mae ’di bod yn fis arteithiol, yn fis erchyll, wir i chi:
Gorfod diodda Osh yn sobor, bobol bach.
Mae Iest ’di troi’n ddirwestol, syched Caryl yn go nobol,
A phawb yn gwir ddyheu am y mis bach.

A dan ni isio mynd nôl i yfad!
Dan ni isio sgwennu poitri ar yr êl.
Dan ni isio meddwi yn shitrwns
A twîtio abiws at Dafydd Êl.

8.5

Ateb Llinell ar y pryd: Dwi nawr o blaid unrhyw blan

Penllyn

Mae’r dall am fentro allan
Dwi nawr o blaid unrhyw blan

0.5

Y Chwe Mil

HP sauce lond fy hosan
Dwi nawr o blaid unrhyw blan
0.5

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Cilio

Penllyn

Mae ha' Mihangel eto'n dal ei wres
â llond ein hafflau, am y traeth yr awn,
a gosod yno'r geriach yn un rhes
gan hawlio 'n strimyn ni o swnd am b'nawn.
Siarsiwn y plant i beidio crwydro 'mhell,
ond chwilio'r pyllau bâs am gregyn brau,
a chodwn iddynt gastell mwy, a gwell
na'r un sydd draw fan acw wrth y bae.
A chyn mynd adre, rhaid yw gadael hôl
ein henwau'n dywyll ar ronynnau gwyn;
casglwn ein manion byw a throi yn ôl,
heibio'r hen wylan gyda'i llygaid syn.

Hithau'n ein gwylio'n mynd yn llai a llai -
gan wybod y daw llanw, a daw trai.

Haf Llewelyn – 9.5

Y Chwe Mil

Colli Taid...
Treigla’r misoedd o un i un
wrth weld yr haf yn mynd yn h欧n –
i gilio’n ara’ gyda’r gaea’
a iâs braf gwlith y bora
yn chwerwi gyda’r hwyr yn ara’

a machlud swil i ‘sgubo’r barrug
a’r nos i droi yr eira’n huddug –
a tharth fel sarff yn crogi’r t欧

a’r iâs braf gwlith y bora
yn troi yn oerfel angau’n ara’ –

y lleidr na all oedi

ond i chwarae mig yn ei dro
a chwalu’r iâs, daw gwawrio atgo’ -

ac o’r gaeaf daw hi’n haf yn ôl

Caryl Bryn – 9

Englyn: Araith

Penllyn

Araith Dafydd Iwan yn Eisteddfod yr Urdd Aberystwyth, 1969

Wylent, wylent: mor filain – eu hwylo
ni sylwent, y truain,
ar eu gelyn eu hunain
heibio i'r holl blydi brain.

Gruffudd Antur – 9.5

Y Chwe Mil
“Ewch, Walia! Ewch â chwalu’r byd i gyd!
Sbydu gw欧r i’r fagddu!
Ewch i’r chwalfa fwyaf fu
yn awr! Cewch foliant ’fory.”

Osian Owen – 9.5

Penllyn - 72
Y Chwe Mil - 71