Main content

Cerddi Rownd 1

Trydargerdd: Archeb

Glannau Teifi

Gai’i dwbwl wy a bacwn,
Dwy sosej, chips a bîns?
Fe fwytâf i y cyfan
A methu cau fy jîns

Terwyn Tomos (8)

Y Gwenoliaid

I’w basged o’i waled wag,
byth a beunydd, beth bynnag,
â’i gwg ar strydoedd gweigion;
ei siop ydi Amazon.

Huw Roberts (8.5)

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘côr’

Glannau Teifi

Sain eitha’ cain sy’ i’r côr
O’r gweryd draw i’r goror.

Nerys Llywelyn (8.5)

Y Gwenoliaid
Ma’r côr ‘di mynd mor boring...
i’r ffeil las mae’n bryd rhoi ffling!

Steffan Phillips (9)

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Nid ydwyf o blaid nac yn erbyn’

Glannau Teifi

Er dwli difrifol y cynllun
Sy'n amlwg i bob un o’r cychwyn
Ei ddilyn sy'n rhaid
'Nôl pennaeth fy mhlaid,
(Nid ydwyf o blaid nac yn erbyn.)

Terwyn Tomos (8)

Y Gwenoliaid

Nid ydwyf o blaid nac yn erbyn
Cael S4C yng Nghaerfyrddin,
Ond wedi holl ffaff
Y symud o’r Taff,
Fydd y staff ddim yn byw yna wedyn.

Steffan Phillips (8.5)

Cywydd (heb fod dros 12 o linellau): T欧 Unnos

Glannau Teifi

Dan y bont mae dyn yn byw,
Lle tlawd, lle tila ydyw,
Lle afiach mas o sachau,
Lloches di-bres i un brau.
Amddifad o'r gad yw'r g诺r,
Yn wrol, ddoe bu'n arwr.
Er ei dâl o fedalau
Aeth ar goll -pob porth ar gau,
Un rhif yn dal mewn rhyfel
Yn y gwyll â'i stori gêl,
Mewn lle tamp i dramp dros dro-
Ei hafan i anghofio.

Nia Llewelyn (9)

Y Gwenoliaid

Nos serog, ninnau’n seiri,
a’n harfau yw’n nwydau ni.
 gwin rhad, adeiladwn
encil bach yn y clwb hwn.
Daw o densiwn ein dawnsio
uniad tyn i godi’r to.

Sobrwn. Gwelwn ein waliau
o hen frics yn mynd yn frau.
Ein seiliau’n dir ansolet.
Oera winc ei sigarét,
ac mor fregus â chusan
yw’r mwg yn yr oriau man.

Judith Musker Turner (8.5)

Pennill ymson wrth wasgu botwm

Glannau Teifi

Mae'n rhy hwyr i ddifaru
A dewis bod yn fud,
Wrth wasgu “Send” danfonais
Y neges i'r holl fyd.

Geraint Volk (8)

Y Gwenoliaid

Cymru’s Got Talent
‘Se well ‘fi wasgu’r bwtwn aur
i Chiz - mae’n lej! Mae’n Dduw!
Ond yffarn dân mae’n canu’r Cwm
Fel bod e’n drwm ‘i glyw.

Steffan Phillips (8.5)

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Hel Bwganod

Glannau Teifi

Rôl cael y sac diflasais, yr oedd yn ergyd drom
Ond yna cefais syniad: GhostbustersWales.com.
Roedd gap yn siwr'n y farchnad am arwr dewr a chry'
I achub ein cymdeithas rhag gwawd bwganod hy.
Roedd prinder o ysbrydion ac felly cefais gliw
I wneud fy hun yn enwog wrth hel ellyllon byw.
I ddechrau'r gwaith yng Nghymru, a dial gweithred front
Fe zappais Alun Cairns yn darth am newid enw'r bont.
Ar ôl y llwyddiant cyntaf fe drois at Lundain draw
A blastio Boris Johnson yn llwch ymysg y baw.
Y nesaf ar fy rhestr oedd yr enwog Jake Rees-Mogg,
Fe'i shrinciais ef yn fychan a'i flyshio lawr y bog.
Fe drois fy llygaid dramor, ac er mwyn gwella'r lle
Fe glymais Trump i roced a'i chwythu lan i'r ne'.
Yn olaf un oedd Putin, un llithrig iawn oedd hwn
Ond llwyddais i'w anweddu â phroton-bîms fy ngwn.
Rwyf nawr yn ôl yng Nghymru yn chwilio gwaith am sbel
(Mae si y caf f'enwebu am wobr y Nobel).
Mae'r byd yn saffach heddiw o'm herwydd 'nôl y sôn,
Os wyddech chi am fwgan drwg rhowch alwad ar fy ffôn.

Nia Llewellyn (9.5)

Y Gwenoliaid

Gwrach yn danod, chwit tylluanod, sgrech gwylanod, cri babanod…

Mae swn rhyw wrach yn danod
Yn codi arnai’r cryd,
Chwiban tylluanod
Yn fy hala i’n chwys i gyd,
Sgrechain cras gwylanod
Yn bygwth newid hin,
Wylo taer babanod
Yn fy nghadw ar ddihun.

Gwrach yn danod, chwit tylluanod, sgrech gwylanod., cri babanod…

Liw nos aflonydd yn fy nghell
Mi ddylwn inne wybod gwell
Nag edrych mas drwy’r ffenest fach
Am darddiad yr argoelion strach.
Yr hyn sy’n warth,
Yr hyn sy’n drist
Yw’r cor aflafar yn fy nghlust
Waeth does ‘run deryn na’r un dyn
M’ond atsain y personol, presennol, byddarol, clasurol, maluriol, anfarwol, mewnol…
Hel ‘mwganod i fy hun…

Huw Chiswell (9)

Ateb Llinell ar y Pryd: Nid yw'n hawdd o hyd i mi

Glannau Teifi

Gwen sy'i hangen eleni
Nid yw'n hawdd o hyd i mi

(0.5)

Y Gwenoliaid

O'r Taf i guro Teifi
Nid yw'n hawdd o hyd i mi

(0.5)

Telyneg: Apwyntiad

Glannau Teifi

Sesiwn Feddwlgarwch (‘Mindfulness’)
Mae’n unfed awr ar ddeg
a’r byd ar fynd oddi ar ei echel,
rhestri a gofidiau yn sgrechian yn nghelloedd tyn yr ymennydd
a’r meddwl yn tagu;
tic tician araf y cloc
yn mesur tragwyddoldeb yr aros ...

Yna, o gau llygaid, daw ton ar ôl ton
o awelon balmaidd
i doddi’r argae,
nes bod modd gweld tu hwnt i’r gorwel;
ac wrth wrando ... clustfeinio ...
daw dawns y dail a phyncio adar lleiaf y llwyni
i olchi’r enaid.

Rhwng pob ‘Om’ a neges gyfrin y Bwda
daw hedd, yn wir serennedd
mewn ennyd bêr
wrth i ddyn gwrdd â’i feddwl ei hun.

Nerys Llywelyn (9)

Y Gwenoliaidd

Pan ma’ bywyd yn dwad yn dwmpath o dywod ar garffed gwydr,
pan ma’ mashgal gwedd yn gracie i gyd
a’r 诺y ‘di treulo’i ddyddie,
pan ma’ gwallt yn gwrthod ei flewyn arian
a’r tra’d yn tychan o dan y daith,
ma’r pared yn feichiog gan amsere –
pared ‘Y Pregethwr’
a sêr i dynnu sylw,
amser i gysgu
amser i godi
amser i gofio
ac amser i anghofio’r hyn a gofiwyd…
E-byst ar beiriant i brocio’r cof blinedig.
Ond daw dydd
a ninne’n dwmpath euraid o dywod,
dydd pwyso’r app ar ffôn boced bywyd,
amser i fyw ac amser i farw
– amser i gadw’n hoed gyda’r sêr.

Hannah Roberts (8.5)

Englyn: Bathodyn

Glannau Teifi

Un cip yn slei i’r cwpan – o Gosta,
Sef gist erfyn arian
I un cardotyn o dan
Y bont sydd iddo’n bentan

Geraint Volk (9)

Y Gwenoliaid
Bu ei thad yn gwisgo’r bathodyn glan
sgleiniog. Roedd yn rhywun
oedd â nerth. Roedd yn perthyn.
Ond rhywfodd, rhydodd, er hyn.

Huw Roberts (8.5)

Glannau Teifi - 69.5
Y Gwenoliaid - 70