Main content

Y Rownd Derfynol

Trydargerdd: Ymholiad neu Gyfarwyddyd i Alexa (neu i unrhyw gynorthwy-ydd rhithiol tebyg!)

Tir Iarll

Alexa, ydw-i wedi troi
yn gymdeithasol fethiant
os dyma’r cwbwl dwi yn neud
yw siarad efo peiriant?

(8.5)

Y Ffoaduriaid

Gofynnais i’r peiriant hud
“Pam bo ti nawr mor fud?”
Dyma’r ateb ges i.
“O, chi adawodd fi
mas ar eich patio chi
pan oedd hi’n bwrw glaw.”

Gwennan Evans (9)

Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw enw personol

Tir Iarll

Mi ffeiria’i’r oll am ffarwél
â ffaff y ffwl de Pfeffel.

(9)

Y Ffoaduriaid

Gwn fod Iolo Morgannwg
yn gneud drygs….am hogyn drwg!

Gruffudd Owen (9)

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Peth peryg yw codi gobeithion’

Tir Iarll

Peth peryg yw codi gobeithion
Na foddith y Maes yn yr afon;
Ond Myrddin ap Dafydd
O faen yr Archdderwydd
All hel y llifogydd i Swindon.

(8.5)

Y Ffoaduriaid

Peth peryg yw codi gobeithion
am fedal na chadair na choron
rhag ofn bod y beirniaid
yn dri o philistiaid
dienaid, fel buon nhw droeon.

Gwennan Evans (8.5)

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Llwyfan

Tir Iarll

Glaniad Apolo 11 ar y lleuad ym 1969

Yr oedd Houston yn crynu
Drwy fwg y ffrwydro a fu
A duw’r haul oedd yn ei dro
Hyd ein lleuad yn llywio.
I’r holl wledydd darlledwyd
Y camau a’r lluniau llwyd,
Lluniau’r daith yn llenwi’r dydd
Dros blaned orysblennydd.
Awn nôl i edrych eilwaith
Un dydd, ond tristach y daith
Drwy weld ein camau di-rif -
Ein hanhrefn hanner canrif.

(9.5)

Y Ffoaduriaid

Boris glown, 'rhen Boris glên,
ein bras lew, Boris lawen.
Ei syrcas o deyrnasiad,
yw'r un wnaiffl ddad-glymu'n gwlad.
Boris fflash, Boris â'i ffling,
Boris nad ydio'n boring.

Iawn boi...Ond be' bynnag bot
mi wn nad clown mohonot.
Direidus actor ydwyt,
gogoneddus esgus wyt
yn rhoi masg. Ti'n chwarae mig
Boris, am bo chdi'n berig.

Gruffudd Owen (10)

Triban beddargraff bownsar

Tir Iarll

Fe’i taflwyd ar ei union
drwy’r drws at glwb y meirwon
lle’r aeth at focs y VIP,
‘ID?’ meddai’r angylion.

(9)

Y Ffoaduriaid

Roedd shifft yng nghlwb nos Satan
yn debyg ar y cyfan
i'w swydd e cynt, ond bo'r DJ
yn chware Dafydd Iwan.

Gwennan Evans (9)

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Dewis Safle

Tir Iarll

Yn dilyn ei lwyddiant ysgubol o
yn ailenwi pont flwyddyn dwytha,
mae’r hen Alun Cairns am weithio yn awr
ar ei brosiect defnyddiol mawr nesa.
Tommy Cooper, ap Gwilym, Lloyd George, Ceri Wyn,
mae’r enwogion i gyd ’di cael cerflun,
ac mae’n bryd i’r un nesa gael sefyll yn awr
sef statiw ag un enw, sef ‘Alun’.
Wrth gael un maint llawn o Alun Cairns
fe ellir ei godi yn chwim,
a mantais fawr arall i geidwaid y pwrs
fydd y metal yn costio fawr ddim.
Sefydlwyd pwyllgor arbennig i’r gwaith
i feddwl am le caiff ei osod,
rhaid codi un plinth ar gyfer ei gorff
a phlinth arall ar gyfer ei dafod.
Fe wyddom am le cei ei osod, Cairns,
a down yno i gyd i dy helpu,
y lle mwya addas ohonynt i gyd…
y lle nad yw’r haul yn tywynu.

(9)

Y Ffoaduriaid

I’w chanu ar alaw Cwch Dafydd ‘Rabar

'Dwi wedi hawlio'n safla' yn y ciw, yn y ciw
i drio cael tocynna' i Sioe Cyw
ac fel rhiant dosbarth canol, dwi'n eithriadol diriogaethol
wrth forol am fy safle yn y ciw, yn y ciw
da ni’n gweiddi yn fyddarol “We want Cyw”.

Os gwela i giw-neidiwr, gawn nhw slap, gawn nhw slap
dio'm otsh gen i os ydio'n Fyrddin ap.
Dwi'n benderfynol bod fy mabi am gael cwarfod Plwmp a Bolgi
a dwi'n poeni os na agorith y drysau whap, y drysau whap
mi bydd y babi fatha finna, angen nap.

Ysywaeth, er fy mod i'n ffan mor driw, o mor driw
doeddwn i ddim digon agos i flaen y ciw
Roedd blincin staff yr egin a'u cyfeillion o Gaerfyrddin
'di neidio fatha Myrddin i flaen y ciw i flaen y ciw
gan adael fi a'r werin yng ngefn y ciw!

Dwi yma yn fy nagra yn y ciw, yn y ciw,
dwi'n barod i roi ffatwa arnat Cyw
dwi am gymryd dy gyfeillion o selebs ac archdderwyddon
a'th gorpws huananfodlon dithau Cyw, dithau Cyw.
a'ch rhostio'n yfflon ar fy marbiciw.

Gruffudd Owen (9.5)

Llinell ar y pryd: Down ni o hyd yn ein hôl

Tir Iarll

Down ni o hyd yn ein hôl
I’n dilorni’n Dalyrnol

(0.5)

Y Ffoaduriaid

Down ni o hyd yn ein hôl
I fwd ein cae steddfodol

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Ymwelydd

Tir Iarll

Roedd y cyfan mewn siwtces ar y gwely,
deuddeg mis ’di corlannu’n dwt,
a’r stafell fach i’w weld yn fwy
lletchwith, rywsut, yn ei llonyddwch,
fel y dyddiad terfyn ar dy gerdyn fisa...

... a deimlai mor, mor bell i ffwrdd
pan est i’r minimarket y tro cyntaf hwnnw,
y berfau a gopïaist mor drwyadl yn yr ysgol
yn drwsgl ar dy dafod yn awr;
dy fasged yn llawn amheuon a bwydydd od,
a’r arian yn dy boced ddim yn si诺r pwy i drystio.

Paid â becso.
Bydd y gyrrwr tacsi yn ei ôl cyn hir
i’th hebrwng ar hyd hewlydd Santiago,
ac os chwardd ar dy enw neu dy acen neu dy wlad
neu os hyrddia dy eiddo’n ddifeddwl i’r b诺t,
cofia ei rybuddio, yn dy iaith newydd,
fod y cas yn drymach, bellach, nag y bu.

(9.5)

Y Ffoaduriaid

Mae anadl y dydd yn eistedd ar gefn y ceffylau.

Gydag ysgwyd mwng neu guro carnau
mae arogl melys y gwair
a gwres y cyrff
yn dawnsio’n ddiog ar draws y stabal.

Dacw’r haul yn tywallt ei hun trwy’r pren fel hufen dwbl.

Daw rhywun.

Mewn amrant mae’n plannu ei gyllell mewn cnawd
fel llithro llwy trwy bwdin.

Dannedd yn fflachio
llygaid gwyn yn lledu
a hufen yr haul yn cochi ymhell cyn y machlud.

Gweryru yn trydanu’r aer
a thymer hwn yn sbarcio fesul slaes

nes mai dim ond
un bwystfil sy’n dal i sefyll,
ac yn tuchan.

Casia Wiliam (9.5)

Englyn: Cwest

Tir Iarll

Cwest yr Iaith Gymraeg

Yma gorwedd gem gywrain; ni wyddom
Pam iddi droi’n gelain,
Waeth y farn yn yr iaith fain
Yw ‘diddymwyd o ddamwain’.

(9.5)

Y Ffoaduriaid

Rhown ein rheithfarn drwy’n rhithfyd, a damniol
yw’n condemniad hefyd:
heb wyneb, mynnwn benyd;
sgyrnygu loes drwy sgrin glyd.

Llyr Gwyn Lewis (9.5)

Tir Iarll 73
Y Ffoaduriaid 74