Main content

Cerddi Rownd 1

Trydargerdd: Adduned Blwyddyn Newydd

Caernarfon

Rwy’n addunedu ’leni
i godi fy hunan-werth
a chredu yn fy ngallu...
ond ’sgen i ddim mo’r nerth.

Llion Jones (8.5)

Y Manion o’r Mynydd

Gosod rhyw drefn a geisiaf - ar fy myw,
Troi fy myd a fynnaf
Ar ei ben, ond derbyniaf,
Er hyn oll, mai’i thorri wnaf.

Nia Powell (9)

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘corn’

Caernarfon

Y sinic wêl yn Siôn Corn
Gyfalaf ar gyfeiliorn.

Llion Jones (9.5)

Y Manion o'r Mynydd

Tybed fydd darn o'm marwnad
ddwed am glywed y corn gwlad?

Gwilym Jones (9)

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae’n anodd dweud “Na” ar y gorau’

Caernarfon

Mae’n anodd dweud ‘na’ ar y gore,
’nenwedig yn gynnar yn bore
a diwedd y pnawn,
a rywbryd, go iawn,
ond ma’n iawn, dwi jyst yn dweud ‘ie’.

Geraint Lovgreen (8.5)

Y Manion o’r Mynydd

Mae’n anodd dweud na ar y gorau
A gadael hen ffrindiau’r Talyrnau
Ond mae’n amser i mi
Ddweud ffarwel wrthych chi
A’r mwnci sy’n rhannu y marciau.

Edgar Parry Williams (8.5)

Cerdd ar fesur yr englyn toddaid: Nos Ystwyll

Caernarfon

Am fis bu’r goeden denau yn ffynnu
yn ein ffenest olau:
hudol ei haddurniadau a digon
o anrhegion oedd o dan ei brigau.

Aeth y plant â’r presantau, a neithiwr
fe’i dinoethwyd hithau:
diaddurn ei nodwyddau ben tymor
a neb rhagor dan swyn ei brigau.

Ifan Prys (9)

Y Manion o’r Mynydd

Penbleth y Camelod

Ni welodd y camelod y synnwyr
i'r son yn nh欧 Herod;
Rhodio i iard ei awdurdod yn w欧r iach,
a dweud: "mae un bach ond mwy yma'n bod"

Na deall, sut y gallen nhw deithio'r
fath daith yn ddi-heulwen;
mynd trwy Irac mewn un tren, ac yna
i diroedd Syria ar drywydd seren.

Na chwaith ddirnad yn wastadol y wefr
o weld y mab nefol;
Ond doethion od deithiai'n ôl, mor danbaid
oedd eu henaid am ryw 'ffordd wahanol'.

Tudur Puw (8.5)

Pennill ymson mewn pwyllgor brys

Caernarfon

Roedd drosodd mewn chwinciad gan gymaint fy mrys
(deu’ gwir, ddaeth neb arall ger bron)
Cynigiais ac eiliais ’r agenda i gyd,
a phasiwyd y cyfan nem con!

Ifor ap Glyn (8.5)

Y Manion o’r Mynydd

Wedi rhedeg i’r pwyllgor
Yn foddfa o chwys
‘Rwyn gofyn mewn difri
Be ddiawl ydyw’r brys.

Edgar Parry Williams (8.5)

Cân ysgafn: Ysbrydion

Caernarfon

Cyrhaeddais y neuadd yn brydlon, gan ddisgwyl wynebu y Manion;
Ond trois yn dra melyn wrth weld mai y gelyn oedd tîm newydd sbon llawn ysbrydion.
Ac nid unrhyw ellyll a hogai eu cyllyll – nid manion mo’r rhain, ond y Mawrion.

Eu capten oedd R. Williams Parry, ac ’roedd safon y lleill yn cymharu –
Boed Gynan, Aneirin, Dic Jones neu Daliesin – ’roedd aelodau y tîm ’ma’n serennu
Gyfuwch â Thros ’Raber, ac yn fwy o ran nifer na Gwylliaid Llew Coch Dinas Mawddwy.

Dechreuais i deimlo’n reit gwla – ’roedd rhaid cael achubiaeth o rwla;
Felly holais y Meuryn yn daer ond yn addfwyn, oedd hyn yn cyd-fynd â’r rheola’?
Ac o ble y daethant? Atebodd ar amrant: “Trwy law Elwyn Edwards o’r Bala”.

Fe aeth y delyneg a’r limrig i’r Wyniaid, sef Eifion ac Eirug;
Parry Bach aeth â’r soned, a Gerallt y cwpled, a’n tîm ni yn boddi mewn panig -
Roedd englyn eu capten fel mwrthwl ar hoelen, ac un dasg yn aros yn unig.

Cân ysgafn i’n malu’n eu melin – ond profodd yn ormod o bwdin;
Rhoes Bob gyfrifoldeb am gerdd lawn ffraethineb i Gwenallt, Sion Cent ac Aneirin.
Roedd Ceri’n dra llym – eu marc ydoedd dim, am fethu â gwneud i neb chwerthin.

Oherwydd y dacteg affwysol, Caernarfon a oedd yn fuddugol:
A dyna pryd ddeffrais, a datgan mewn cryglais: “Wel, dyna ni freuddwyd ragorol!”
Ni fedr neb wadu, o’u bwyta cyn cysgu, fod myshar诺ms Cynan yn hudol.

Emlyn Gomer (8.5)

Y Manion o’r Mynydd

Wele’n gwawrio ddydd i’w gofio
Ymrysona yw ein swydd,
Hen ysbrydion tîm Caernarfon
Disgwyl wnant cael curo’n rhwydd.
Ond arferion beirdd y talwrn
Heddiw’n berffaith ddaw i ben
Wele drefniad newydd ganiad
Llwyddiant ‘Manion’ heb fwrw sen!

Pwy a gofia'r hen ysbrydion
Ifor ap Glyn, Em Gom a Lovegreen?
Rhain er syndod ddarfu ganfod
Bod nhw ‘di colli, a mae nhw’n flin!
Daw deffroad, daw chwyldroad
Meistri newydd sydd â gwên
Am ein haeddiant sy’n ogoniant
Ghostbystio’r Cofis wnawn, Amên

Anwen Puw (8)

Linell ar y pryd: Ar y lôn mae loncwyr lu

Caernarfon

Ar y lôn mae loncwyr lu
A chas yw oglau chwysu

Y Manion o’r Mynydd

Ar y lôn mae loncwyr lu
I floneg gael diflannu

(0.5)

Telyneg: Graen

Caernarfon

Os bendith yw clywed weithiau
oglau pren derw yn y dweud,
corneli brawddegau’n asio’n dwt
a’r geiriau diledryw
yn llyfn dan fy llaw,

braint wahanol yw clywed
iaith self- assembly
a’i threigladau flat-pack
(hyder not included)
- mae’r ddau yn gwneud y job.

Ond i’r rhelyw ohonom,
sydd rywle rhwng y ddau,
weithiau’n brin o eiria mowr posh,
neu jest mynadd i barhau,

rhaid cadw’r t诺ls yn loyw ‘run fath:
- a dyna‘r her fwya i ni,
heb boeni am hel y llediaith ddi-angen
o’n cegau, fel chwythu blawd lli...

Ifor ap Glyn (9.5)

Y Manion o’r Mynydd

Ym môn y goeden, drwy'i modrwyau mae
ei hunangofiant yma'n stori gron,
Mi ddwed am egin a phob brigyn brau,
am flagur ir a deiliach crîn o'r bron;
Eglura'r graen holl hinoedd dyddiau fu
a pham, o'r herwydd, aeth ei phlyg am draw;
Ac yn ei phren mae rhin y sêr yn gry'
yn dal ei thynged i'r yfory ddaw.
Mae'n coedyn ninnau drwm o gysgod ddoe
dwêd wirioneddau ceinciau bore oes
a deil ein rhuddin gyfrinachau 'rioed,
pob awel chwythodd hefo'r graen neu'n groes.
Ond er mai dyma'r pren an lluniodd ni
oes raid i'r graen reoli 'nhynged i?

Tudur Puw (9.5)

Englyn: Blwch

Caernarfon

Yn syth, o hidlo’r sothach a rhoi trefn
ar y trwch negesach,
daw Calan mymryn glanach
am ryw hyd i’m bywyd bach.

Llion Jones (9.5)

Y Manion o’r Mynydd

(Cynhaliwyd refferendwm Brexit yn ystod Ewro 2016)

Penyd Ewrop yw'n Pandora mwyach,
er mai.. 'Aros yma!'
oedd y gôl waeddai Gwalia
yn nheras rhemp gwres yr ha'.

Tudur Puw (9)

Caernarfon – 71.5
Y Manion o’r Mynydd – 70.5