Main content

Cerddi Rownd 1 2023

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Darogan ar gyfer 2023

Caernarfon (EG)

Daw’r apocalyps i’r ddaear,
A throi’r byd yn belen dân;
Llosgi’n ulw’r holl ddynoliaeth;
Ffrwydro’r blaned yn lwch mân.
Ac ni fydd dim ar ôl ’rôl tranc y byd -
’Mond Dafydd Iwan yn canu “Yma o Hyd”.

Emlyn Gomer 9

Dwy Ochr i’r Bont (GEJ)

Mi ddaw, â gwên liwgar yn clecian
wrth i gorcyn o botel siampên lanio
ar stepen fis Ionawr.

Mi ddaw, ond mi wn, mewn difri calon,
nad wrth y wên gyntaf
y mae mesur blwyddyn gyfan.

Gareth Evans Jones 9

Un peth rwy'n eithaf sicr am y flwyddyn sydd i ddod:
Ni allith fod yn llawer gwaeth na'r un sydd newydd fod.AB

2 Cwpled Caeth yn cynnwys enw unrhyw ynys

Caernarfon (IapG)

‘Mae loris Mans o ansawdd’mynnai Cleif, ym môn y clawdd.

Ifor ap Glyn 8.5

Dwy Ochr i’r Bont (OWO)

Gath druan Ynys Manaw,
y mae hi’n ddigynffon. Meow.

Osian Wyn Owen 8.5

Hynod dawel mewn deuawd

yw soloist Ynys Lawd.

Emlyn sy’n furgyn i’w fêr
a’i sgam yw Ynys sGomer!

Gwybwyf, ’sdim hwylio o gwbwl
â bad i Ynysybwl.

Swnllyd yw’r storm dros Enlli,
a glaw di-daw glywi di.

Er mwyn clywed y brifodl, yngenir yr ail linell mewn acen brummie.
Soniais wrth Sais ar y swnd:
“How brilliant’s Barry Island!?”
(h.y. ’Ow brilliant’s Baree Oi-loond)

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘‘Er gwaethaf y gost, daliwn ati’ (neu ‘daliwch ati’ neu daliant ati’)

Caernarfon (GL)

Gen i fodryb yn byw’n Cincinatti
sydd yn casglu hen stwff Madame Patti;
Mae’n eu cael nhw drwy’r post
ac er gwaethaf y gost
daliaf ati i’w hanfon nhw ati.

Geraint Lovgreen 8.5

Dwy Ochr i’r Bont (MWD)

Er gwaethaf y gost, daliaf ati
i fwrw fy mhleidlais dros Dori,
mae prisiau drwy’r to
ond duwcs, dyna fo,
gwell gwarchod fy hun na throi’n leffti.

Manon Wynn Davies 8.5

Er gwaethaf y gost daliaf ati
i fynychu fy ngwersi carati,
mae’n fy nghadw yn ffit
ond dwi ddim yn dallt sut
chos ma pawb dal i ’ngalw i’n ffati..GL

Er gwaethaf y gost daliaf ati
i yrru i’r gwaith mewn Bugatti
ond mae’r ffordd yn beryglus
a bob nos rydwi’n nerfus
cael fy stopio gan ryw Dwm Siôn CatiIP
Er gwaethaf y gost, daliwn ati
i wario er mwyn cadw’n heini.
Mae’r gym yn rhy ddrud
Mae’n rhaid dod o hyd
i adduned wahanol…i'w thorri.AB

Mae’n Ddolig! Fe stwffiwn y twrci
a lapio’r anrhegion i’r teulu.
Bydd llond ty o tat
a chacen ar blat.
Er gwaethaf y gost, daliwn ati! EWJ

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Dau neu Dwy

Caernarfon (IP)

Dau Nadolig

Dolig llachar o wario
a’r t欧’n glyd ger y tân glo,
hwyl a lliw a theulu llon
a chig g诺ydd a chogyddion,
dwy sach, dwy hosan annwyl,
swyn a hud, Disney o 诺yl!

A Nadolig diolau,
y t欧’n oer, beltiau’n tynhau,
y seigiau o’r banciau bwyd,
yr 诺ydd yn ddim ond breuddwyd;
cynsail rhyw fyd Dickensaidd
yn bwrw’i hôl fel chwedl braidd!

Ifan Prys 9.5

Dwy Ochr i’r Bont (OWO)

Dau ’Ddolig

Ar Instagram rhof damaid
o hwyl yr 诺yl yno o raid:

Y golau aur a’r tân glo
ac anrhegion i’w rhwygo,
a sêr ar fíb babi bach
yn ’Ddolig na bu’i ddelach.

A hwyrach bydd yr oriel,
y gwenu-yn-deulu-del,
o roi’r ddefod drwy’r ddyfais,
yn ffiltro, coluro’r clais?

Osian Wyn Owen 10

5 Pennill ymson unrhwy gyfansoddwr neu gyfansoddwraig

Caernarfon (GL)

A minnau’n gerddor mwya’r byd,
un o fawreddog ach,
Pam Dduw y gwnaethost ti y strôc
o roi imi’r enw Bach?

Geraint Lovgreen 8.5

Dwy Ochr i’r Bont (AB)

Rwy'n trio cyfansoddi cân
Heb syniad sut i gychwyn,
Na'n gwybod beth yw 'change of key' -
Lle ddiawl mae Robat Arwyn?

Anest Bryn 8.5

Beethoven

Mae’r lleisiau yn fy mhen yn fy ngwallgofi,
A’m canolbwyntio’n mynd yn fwy chwit-chwat:
Sut all athrylith byddar gyfansoddi,
Â’r Bas o hyd yn siarp, a’r Alto’n fflat?EG

Adagio. Cantata. Legato.
Crescendo. Sonata. Staccato.
Am be mae nhw'n sôn?
'Dwn i'm yn y bôn.
O leiaf rwy'n swnio'n suprimo!

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Yr Ailddyfodiad

Caernarfon (EG)

‘Roedd Cymru’n gorfod gw’nebu ymddeoliad eu Meseia,
A’r wlad yn anobeithio: o ble doi y Gareth nesa’?
“Nac ofnwch!” ebe’r Proffwyd Malc – “rhowch glust i’m llon gyhoeddiad:
Ar dir Maesgeirchen ganwyd mab – y Bangor Aye Ddyfodiad!

“Hwn fydd yn arwr gwyd o ddim nes llwyddo i ennill popeth;
Ei enw’n atsain dros y byd: a’i enw ef fydd – Gareth!
Hwn fydd yn ennill clod a pharch a mawl a bri i’w henwlad;
Hwn fydd fel dau John Charles, cans hwn yw’r Bangor Aye Ddyfodiad!

“Hwn fydd y ddau Ronaldo’n un; y MaraPeleDona;
Yr Hagi, Rossi, Platini, y Cruyff a’r Batistuta;
Y Messi mewn gêm dwt, ond rêl Van Bastyn mewn gêm galad;
Y Socrates, cyfuwch na’r Best – y Bangor Aye Ddyfodiad!

“Hwn fydd yn arwain Gwalia Wen yr holl ffordd ’nôl i Doha -
(Cans erbyn hynny yno bydd pob Cwpan Byd, ’nôl FIFA) -
Ac adref daw â’r gwpan aur, a’r byd yn fôr o gariad
At Gymru, Cyd-ddyn, Crist, Tom Jones, a’r Bangor Aye Ddyfodiad!”

’N anffodus, ’roedd y Proffwyd Malc yn broffwyd dwy a dima:
Bu farw Gareth cyn ei bryd ’rôl damwain â banana:
Ond Gymry, clywch! Gadawodd fab: Gaz Junior bach amddifad -
Ef fydd ein cawr pan ddaw’r Oes Aur! Mae Bangor Ail Ddyfodiad!

Emlyn Gomer 9

Dwy Ochr i’r Bont (AB)

Ailddyfodiad y Drindod (i'w chanu i Hymns and Arias)

Mae sawl peth wedi dod yn ôl yn nwy fil dau ddeg dau,
Yr 糯yl Cerdd Dant a'r Mullet dim ond i enwi rhai.
Ond mae 'na dri sy'n Sanctaidd i holl bobl gwlad y gân,
I'r Cymry, mae nhw megis tad a mab ac ysbryd glân.

Mae Gary Monk a Dafydd Iwan a Warren Gatland i gyd yn ôl.

Cyrhaeddodd faes Cwmderi gyda Britt a Brandon Monk
Gan ddenu sylw'r merched am ei fod o'n bach o 'hync'.
Fe'i saethwyd ar ôl cael affêr. Fe aeth heb siw na miw
Cyn dychwel fel gwnaeth Lasarus yn ôl o farw'n fyw.

Mae Gary Monk a Dafydd Iwan a Warren Gatland i gyd yn ôl.

Ni gurodd Cymru Loegr tra'n chwarae yn Qatar
Ond Dafydd wnaeth barhau i godi'r canu wrth y bar.
Mae wedi arwain y Wal Goch ar draws y gwledydd pell
Fel yr arweiniodd Moses yr Iddewon i le gwell.

Mae Gary Monk a Dafydd Iwan a Warren Gatland i gyd yn ôl.

Rhif tri sydd yn symbolaidd - cewch eglurhad reit fyr.
Y drindod Sanctaidd, tri gwr doeth ac aur a thus a myrr.
Ar ôl tri diwrnod, atgyfododd Crist, fab Duw ein Tad.
Tair blynedd oedd rhaid aros i gael Gatland 'nôl i'r wlad.

Mae Gary Monk a Dafydd Iwan a Warren Gatland i gyd yn ôl.

Anest Bryn 9.5

7 Ateb llinell ar y pryd – Hwylus iawn yn ôl y sôn

Caernarfon

Hwylus iawn yn ôl y sôn
Yw swsio hefo Saeson

Geraint Lovgreen

Dwy Ochr i’r Bont

Hwylus iawn yn ôl y sôn
Yw ynnyrfio Caernarfon

Osian Wyn Owen 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Llond Lle

Caernarfon (IapG)

I gofio’r gweithwyr adeiladu a gollwyd yn Qatar

Pan fo llygad y stadiwm yn cau
a gwynt yr anialdir
yn cosi'r amrannau dur,
maen nhw yma o hyd;
y rhai fu'n herio anterth y gwres,
yn hael eu llafur yn chwys y lloer...

Maen nhw yma o hyd, yn gwmwl tystion,
yn gwylio'r seti blwydd
yn cael eu craenio allan
o'r rhyfyg concrid hwn;
a nhwthau heb fynd â'u celc yn ôl
i Mkushi na Khashmir...

Buon ninnau'n gweiddi orig
yn nhragwyddoldeb eu murmur nhw,
cyn i'r camerâu godi'u pac...
Nid oes sôn mwy am y tadau coll
a'u cegau'n llac gan syched am gyfiawnder,
ond... maen nhw yma o hyd.

Ifor ap Glyn 10

Dwy Ochr i’r Bont (MWD)

Plygain
(ar ôl i ganlyniadau Cyfrifiad 2021 ddangos bod llai na 50% o boblogaeth Cymru yn ystyried eu hunain yn Gristnogion)

Rhwng bore bach a gwyll y flwyddyn,
bydd y lle ’ma’n fwy na hanner gwag.
Rhyw ugain, ar y mwya’, sy’n gweld lliwiau’r blagur a’r bloda’,
cwymp y dail a’r barrug cynta’
drwy ffenest y festri;
rhyw ugain yn tywallt te a chymdogaeth
i gwpanau ei gilydd
a gwres eu hanadl yn cadw’r waliau rhag tampio.
Rhyw ugain, yn gosod canhwyllau’n y gwydr.

Ond heno mae hi’n orlawn
a’r pentrefwyr yn pentyrru mewn cotiau trymion,
yn heidio at y golau gwan
i fenthyg o’i lewyrch am noson;
benthyg copi o Caneuon Ffydd o’r bocs yn y cefn
a chwythu’r llwch oddi ar garolau’r Ysgol Sul.

A tybed oes ’na rywbeth am y golau bach
gefn gaea’, sydd fel dod adra, sy’n tynnu?
Yn gwneud i ni fod isho credu?

Manon Wynn Davies 9.5

9 Englyn: Streic

Caernarfon (IP)

Wele hwn a’i filiynau heb erioed
deimlo brath y costau;
Sunak ei hun sy’n nacáu
cywirdeb y placardiau.

Ifan Prys 9.5

Dwy Ochr i’r Bont (EWJ)

Ni fydd coeden eleni - ni erys
hen garol i’n llonni.
Anodd yw G诺yl y Geni
â neb yn ymweld â ni.

Elin Walker Jones 9