Main content

Cerddi Rownd 2 2023

1 Trydargerdd: Dogfen Gyfrinachol

Beca
Na chwennych rannu’r ddogfen hon
Âth deulu na’th gymydog,
Ei wraig, ei was na’i forwyn fach,
Yr ych na’r asyn boliog.
Cans fe geir dynion trwy’r holl fyd
Â’u bryd ar fod yn gastiog.

Rachel James 8

Crannog

I gynnal y tryloywedd
cawn wybod be ‘di be;
mae’r ddogfen gyfrinachol
i’w gweled ar y we.

John Rhys Evans 8.5

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair tap neu tâp

Beca

Mae’n shtop tap, ‘shneb yn aped,
A shwt, rwy’n gorwe’n y sied.

Rhiannon Iwerydd 8.5

Crannog

G诺yr y nomad a’r gwladwr
nad o dap y daw y d诺r.

Philippa Gibson 9

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Roedd gen-i amheuon o’r cychwyn’

Beca
Roedd gen-i amheuon o’r cychwyn,
Ond peidiwch a gweud wrth y Meuryn,
Mae’r holl gynganeddu
A glywn, yn waith Elsie,
So Idris yn gallu neud englyn.

Eifion Daniels 8.5

Crannog

Roedd gen-i amheuon o’r cychwyn
Pan ffoniodd rhyw groten o Ddulyn,
Ond prynu a wnes
Dair tunnel o fes.
'Sdim hanes amdanynt rôl blwyddyn.

John Rhys Evans 8

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Dieithryn

Beca

Yn y dechrau rhyw ddau ddaeth
I dagu’r hen gymdogaeth
A chwalu’n rhacs ei chwlwm
Bob yn ddarn o’i charn i’w chwm.

Ogof wag o atgof aeth –
Hen wead y gwmniaeth.
Drain lle bu’r gwladwr a’i dras,
Mynwent lle bu cymwynas.

Un di-wyneb, di-enw
Un na pherthyn iddyn’ nhw
Wyf finnau nawr, wyf yn neb
Un di-hid, dyn di-ateb.

Rhiannon Iwerydd yn darllen gwaith Wyn Owens 9.5

Crannog

Y mae’r tai ym more’r tarth
yn ddeheuol o ddiarth,
ond eto’n rhan ohonof
yn y gwaed sydd hwnt i gof;
hon yw bro hen lwybrau’r ach,
tirwedd llynedd y llinach.

Ar un wedd dieithryn wyf,
er, o waed, brodor ydwyf
gan fod rhyw gof nas profais
yn y llwch yn magu llais;
y genyn sy’n dihuno
i wynt a glaw Nant-y-glo.

Gillian Jones yn darllen gwaith Idris Reynolds 10

5 Triban neu bennill telyn yn seiliedig ar unrhyw ddihareb

Beca
‘Tebyg i ddyn fydd ei lwdwn’
Llygaid mam a chudyn melyn
Hawdd eu gweld yng ngwedd y plentyn,
Ond yr hyn rodd syndod imi,
Yn fy hunan, gweld rhieni.

Eifion Daniels 8.5

Crannog

Yn y Waun, Coed-poeth a’r Cefen,
yn Rhiwabon a Rhostyllen,
mae y goelcerth fawr a daniwyd
wedi’i chynnau ar hen aelwyd.

Gillian Jones 8.5

6 Cân ysgafn: Dysgu Gyrru

Beca

Rwi’n bedwar ugain oed ac arna’i chwant cael gwersi
I ddysgu gyrru car i arbed peth ar Mami:
Mae’n mynd â fi i’r Cwrdd, y Clwb a’r eisteddfode,
Wrth barcio ym Maes B bydd rhai yn crafu penne.

Mae gan Mami Austin Seven yn mynd draws gwlad ar garlam;
Prynwyd hi yn Nineteen Twelve adeg ‘steddfod Wrecsam.
Chware teg i Mami fach, enwodd hi yn Siani -
Ni fu ‘pride’ na ‘prejudice’ byth yn perthyn iddi.

A Mami gaiff fy nysgu, wa’th hi yw’r gore’n bod;
Mae profiad hon yn ‘mestyn cyn dyddiau’r highway code.
Un wers gefais gan fy mam : “Cadw mas o drwbwl;
Os oes rhwystr ar y ffordd, cofia’r whami dwbwl”.

Bu’r Austin Seven am fisoedd yn lledu’r llwybrau cul
Wrth sgwaru’r cloddiau salw a fu’n halogi’r Sul.
A nawr rwy’n gyrru’n llawen â phawb yn dangos parch:
Mae Siani yn ei seithfed nef, a Mami yn ei harch.

Rachel James 8.5

Crannog

Mae gen-i swydd bwerus, rwy’n feuryn heol dar
a fi sy’n penderfynu a gewch chi yrru car,
a pheidiwch ag ymyrryd â’r dyletswyddau hyn
gan ‘mod i’n gymaint unben ag ydyw Ceri Wyn.
Ac fel pob gweithiwr sifil, tryloyw wyf a theg,
yn hapus iawn i fethu rhyw ddeunaw mas o ddeg.
Os ydych Seisyn haerllug, mae gennyf hawl, mi wn,
i nodi ag awdurdod mai prawf Cymraeg yw hwn.
Ac am y Glêr o Aber, fe’ch methaf fesul un
gan fod gweithio cerdd a gyrru yn beryg ynddo’i hun.
A dyfal donc fydd hanes y llongwr o Hong Kong
a fethodd ddocio mini lle gellid parcio llong.
Ac roedd ‘na Gapten arall na ddylai, wir i Dduw,
gael hwylio ei Ditanic ar feidir gul Troed-rhiw.
Os ydych yn oludog, yn llygru tir a môr,
fy mraint yw gwrthod trwydded i ddeiliaid Ffor by Ffor.
A chan fod gennyf innau rhyw dueddiadau gwyrdd
rwyf wrthi’n hybu’r freuddwyd o Gymru lân, ddi-ffyrdd.
Ond rhaid bod yn ofalus, fe allwn golli’r gwaith
ac ni fai bwynt i chithau i ddysgu gyrru chwaith.

Gillian Jones 8

7 Ateb llinell ar y pryd – Yn Nhrelai ar gau mae’r lôn

Crannog

Yn Nhrelai ar gau mae’r lôn
Galar sydd yn y galon

Eifion Daniels

Beca

Mae dihirod o dlodion
Yn Nhrelai ar gau mae’r lôn

Philippa Gibson 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Darganfod

Beca

Yn dystysgrifau, lluniau a thocynnau g诺yl
rhwymais fy nghreiriau
ymhlith llythyrau brau fy nheulu
fu ar grwydr
a chwedl cadair lle eisteddai Tsar
ar eu haelwyd Kosher.
Fe’u cleddais mewn beddrod o dan fy ngwely;

Nes i grwt llygatddu
fentro i ddirgelwch llychlyd yr isfyd hwn
a thwrio drwy haenau
o luniau di – liw ei dylwyth
a chanfod y trysor rhyfeddaf oll:
sgidiau cain ei gamau bach ac aur ei gwrlyn cyntaf.

 gwefr, cipiodd ei ysbail o’m stôr
A’u trosglwyddo i gist newydd
yng nghysegr ei ‘stafell wely.

Rhiannon Iwerydd 10

Crannog

Fe’i gwyliais hi yn camu i mewn i’m bws,
ryw ferch fach denau, tua ei hwyth oed:
ffrog binc oedd heb weld harn, a gwallt heb frws,
a cheg i’w gweld heb fentro gwên erioed.

A’i mam yn arwain, aeth yn syth i’r lle
fu’n wag ac eistedd yno heb ddim strach.
Bu’i mam ynghlwm i’w ffôn bob cam i’r dre
a’i sylw wedi’i lyncu gan sgrin fach.

Uwch sgyrsiau’r bws, gwaedd unig oedd y taw
fu rhyngddynt dros drwch blewyn o fwlch mawr.
Troes hi ei chefn ar Mam ac edrych draw
Ac yn ei gwacter cwympai’i ‘sgwyddau lawr.

Dyw ‘diymgeledd’ ddim yng ngeirfa hon
ond dof o hyd i’w chlwyfau dan fy mron.

Philippa Gibson 10

9 Englyn i unrhyw glwb pêl droed

Beca
Mae haul uwch ben Bro Maelor, - ar y Cae
Mae’r môr coch yn agor
A’r stori’n ailgodi’n gôr
O gewri gwlad y goror.

Rachel James 9

Crannog

Ei fyd yw ei ddyfodol - ym Man U
ac mae’n 诺r gorchestol
o fachgen - a’i bresennol
yw dwy got i wneud y gôl.

Philippa Gibson 9.5