Main content

Cerddi'r Ffeinal 2023

1 Tydragerdd: Sut i Ennill mewn Eisteddfod

Dros yr Aber
Rhaid lladd y darpar brifardd
a’r beirniad yn go chwim.
Pan godaf bnawn dydd Gwener
’fydd neb yn amau dim.

Marged Tudur 8.5

Ffoaduriaid (GO)

Sa waeth’ mi gyfadda fy hun…
Cryn fantais ‘di dod o ben Ll欧n
Does fawr i’w neud yma
heblaw am lenydda
felly waeth ni hel gwobra, myn dyn!

Gruffudd Owen 8.5

2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw bentref ym Mhen Ll欧n

Dros yr Aber

Fin haf ym Morfa Nefyn,
ni alla’ i nabod Ll欧n.

Carwyn Eckley 9

Ffoaduriaid

Yn lled wyllt, heb ddallt ei werth,
Awn ni heibio Penyberth.

Ll欧r Gwyn Lewis 9

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Pan fyddaf yn hen ac yn barchus’

Dros yr Aber
Cwtogi a wnaf ar y Guinness,
byw bywyd nid cweit mor beryglus,
ac mewn Pabell Lên,
gwneud llai o gocên,
pan fyddaf yn hen ac yn barchus.

Iwan Rhys 8.5

Ffoaduriaid

Er gwaetha mhroffwydo rhamantus,
pan fyddaf yn hen ac yn barchus
fydd gen i’m cweit digon
am d欧’n Aberdaron
mond noson yn campio yn Nghorris.

Gruffudd Owen 8.5

4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Llonydd

Dros yr Aber (CE)
Mae’r tir yn wenfflam dramor,
yn gyrru â mwg rai i’r môr,
a rhai i ffoi o Corfu,
rhag yr haul a’r gwair ulw.
 ninnau’n glyd, mae ein glaw’n
dywydd hyfryd o ddifraw;
o’n sedd, rhown hanner gweddi
i’r Annwn hwn o’n blaen ni.
Â’r larwm rywle arall,
hawdd o hyd troi llygad ddall.
Digon tybio na ddaw’r tân
yma i ruo, am r诺an…

Carwyn Eckley 10

Ffoaduriaid (LlGL)

(Blodau haul Van Gogh)

Am y seld ag iselder,
gwywo’n frau wnâi’r blodau blêr.
Rhyw waith diffaith oedd eu dal,
hel piti fesul petal
â’i amlinell. Melynu,
yn nelw fas, haul a fu.

Ond eto dof ato fo…
ac er gwewyr y gwywo,
mae rhyw heulwen amryliw
yn nhrawiad brwsh, yn rhaid briw,
a’r blodau, o hadau du,
eto hefyd yn tyfu.

Ll欧r Gwyn Lewis 10

5 Triban beddargraff stiward

Dros yr Aber
Hi-vis sydd ganddo’n amdo
a walkie-talkie’n bloeddio
o ddwfn ei fedd. A throsto’n driw,
fe ffurfiodd ciw i gwyno.

Rhys Iorwerth 9

Ffoaduriaid

Dwi'n dal i fod yn chwerw
am Steddfod Pentre Berw
pan gloiaist Nain tu fas am awr.
Hwre! Ti nawr yn farw.

Gethin Wynn Davies 9

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Cynllun B

Dros yr Aber (IRh)

Wrth gyfieithu’n hynod brysur, e-bost ddaeth i ’nghyfrifiadur
fel petawn i’n rhyw eiriadur, “Can you assist
with my translingual situation? Tell me what’s the Welsh translation,
please sir, for ‘procrastination’? Does it exist?”
Fe ddaeth cynllun syml imi. Llenwi’r tegell. Hwnnw’n berwi.
‘Dim mwg glân, rhaid golchi llestri!’ oedd fy nghri.
Llenwi’r sinc. Ond dyna ofid – doedd dim yna Fairy Liquid!
Draw i’r siop. Ond doedd dim newid iawn gen i.
Gyrru i’r twll-yn-wal agosa’. Doedd y twll-yn-wal ddim yna.
Doedd y wal ddim hyd n’oed yna, heb sôn am dwll!
Nôl i’r car (lle’r oedd ’di’i barcio). Gyrru adre. Cyrraedd yno.
Sinc y gegin ’di gorlifo! Mopio’r pwll.
Procrastination – wrth ystyried, baglais dros y mop a’r bwced!
Mopio eto, er fy syched, yr ail waith.
Ar ôl tipyn, dyma sylwi bod y mop ei hun di torri
a dim ond y goes oedd gen i’n gwneud y gwaith.
Cynllun B – mynd draw i’r caffi. Rhoi’r gliniadur o fy mlaen i.
Prynu paned. Mewngofnodi ar y we.
Ond er imi dorri syched, alla i’m meddwl heb gael bisged.
Custard Cream neu Bourbon, tybed, gyda’r te?

Iwan Rhys 10

Ffoaduriaid (GO)

Ar alaw ‘Hen Feic Penny-Farthing fy nhaid’.

Mae rhai pobol yn mynd i’r Eisteddfod i gael profi’r holl hwyl a mwynhau.
Ond pwrpas y Brifwyl i rai doeth fel myfi yw cael darogan galanas a gwae…

Mae hi…. am fwrw drwy’r wythnos yn lli! Byddwn bownd o fod angen Plan B!
bydd angen cwch hwylio i weld y cadeirio - mae am fwrw drwy’r wythnos yn lli!

Da chi’n cofio toiledau Tregaron? Mi fydd y sefyllfa’n Moduan yn waeth!
Bydd stiward yn rhoi imodium i bawb ar ffordd mewn -efo’r rhybyddd ‘dim cwrw na llaeth!’

Bydd mond…un toilet a hwnnw’n maes B?! Un sglyfaethus sy’n llawn o VD!
Bydd beirdd gorau Gwalia yn gorfod neidio dros walia er mwyn cael le slei i bi-pi!

Mae na sôn bod nhw’n canslo’r gymanfa ac yn hytrach ma nhw am gynnal rêf!?
Mae Pedrog a Chybi (y prydyddion a’r saint) yn wylo wrth wylio o’r nef…

Bydd y… cadeirio am ddeg fore Iau.. Ym mhabell Cymdeithasau… dau
Mae trysorau’n hynafiaid yn nwylo Philistiaid ym mhabell Cymdeithasau…dau.

Bydd y traffig yn cyrraedd Porthmadog, os cychwynwch ar fore dydd Llun
efallai ddydd Mercher byddwch bron wrth y maes, felly gwnaf fy ffordd yno fy hun…

ar hen…feic penny farthing fy nhaid! (Dwi’n sori, ond iesgob, o’dd rhaid!).
Mi reidaf drwy ddolydd er mwyn osgoi’r lonydd ar feic penny farthing fy nhaid!

Os ar ddiwedd Eisteddfod lwyddiannus, y bydd pawb wedi cael amser da
a fydda i’n ystyried rhoi hebio fy ngwaith o fod yn wae-broffwyd,ym….na!

Achos…dwi yn dychmygu’r llawenydd a gaf, Yn Rhondda Cynon Taf
Yn ofer ddarogan pob math o gyflafan, Mam bach, does gen i fywyd braf!

Gruffudd Owen 10

7 Ateb llinell ar y pryd – Es i heb fy welis i

Dros yr Aber

Es i heb fy welis i
I L欧n, mistêc eleni

Rhys Iorwerth 0.5

Y Ffoaduriaid

Pwll helaeth ger Pwllheli
Es i heb fy welis i

Gruffudd Owen 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Stwff

Dros yr Aber (MT)

Mae’n agor y giât
gan anwesu’r wich sydd yno
ers iddi fod yn hogan fach.
Aiff heibio Bron Heli, Seagulls, Glan Arfor
a’r t欧 gollodd ei enw mwya’ sydyn llynedd,
heibio’r barbeciws a’r caiacs yng ngweflau drysau
a’r garafán statig sy’n magu gwraidd tu ôl i’r gwrych.
Mae’n cyrraedd y groesffordd,
yn codi Eisteddfod ar gilfan,
rigio’r polion, gwisgo teiar,
troi palet yn gwpledi,
angori hen gwch ar dir sych.
Draw ffor ’cw am Gwylwyr, yr Eifl, Garn Boduan,
mae baneri’n hawlio’r gwynt,
bêls yn llefaru yn y caeau,
waliau a chloddiau’n lliwio’r awyr,
pentrefi’n mynnu byw.
Mae’n cerdded adra.

Marged Tudur 10

Ffoaduriaid (LlEM)

Doedd yna ddim dagrau.
Roedd rhaid i rywun gadw trefn ar bethau.
Golchi a sychu'r castell tywod o fygiau,
chwilio gorwel yr holl ddogfenau,
ateb galwad y trefnwr angladdau,
selotepio fy hun dros y cracs yn y llifddorau.
Gwylio'r wledd o fara brith yn lleihau,
gadael i'r drws ffrynt agor a chau
wrth i'r ymwelwyr broc môr agosau.
Cysuro hen ffrindiau, dieithriaid, a'u casau.
Daw'r loddest i ben, ac rwyf ar ben fy hun,
yn ceisio cwffio'r corff sydd am aros ar ddihun.
Meddwaf ar baneidiau melys, fy ngwin,
ond dwi’n run Seithenyn.
Llyncaf y llifogydd i lawr mewn un,
a’r siwgwr yn setlo ar waelod fy mwg.
O na bai o'n hallt.
O na bawn i wedi ei grio.

Llio Maddocks 9.5

9 Englyn: Stori

Dros yr Aber (RhI)
Wrth ddarllen, fy ofn penna’ yw na fydd
y ddau fach, a hwytha’
fymryn h欧n – jest fel yna –
isio i Dad ddeud nos da.

Rhys Iorwerth 10

Ffoaduriaid (LlGL)

(Scheherazade)

Drwy hyn oll, mi fedrwn ni o noson
i noson oroesi’n
ddianaf, os bydd inni
eto fodd o’i hadrodd hi.

Ll欧r Gwyn Lewis 10