Main content

Cerddi Rownd 2 2023

1 Trydargerdd: Sut i ladd amser

Beirdd Myrddin (EP)
TikTok
Tic toc tic toc
Un clic...tik
Dau glic...tok

Tic toc tic toc
Alaw dawel yr hen gloc.

Clic tik
Clic tok

Diflannodd amser.

Eleri Powell 8.5

Tir Iarll

Diogi yw gwaith Dion eleni,
Ond ni chlywn mohono'n
Gwneud ei waith gan nad yw o'n
Diogi hanner digon.

Tudur Dylan 9

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘gwyn’

Beirdd Myrddin (GR)

Onid gweld ein du a gwyn
yw mawredd camp y Meuryn?

Geraint Roberts 9

Tir Iarll (TDJ)

Gwglais goch a glas a gwyn…
Sod-it, ni wglais wedyn.

Aneirin Karadog 9

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘mae bron yn amhosib cael tocyn’

Beirdd Myrddin (JGJ)
Mi f葪m ym mhob g葒m ers yn blentyn
ac yn y Wal Goch nawr ers tipyn,
ond a Dafydd drwy’r byd
gyda’i ‘Yma o Hyd’
mae bron yn amhosib cael tocyn.

Geraint Roberts 8.5

Tir Iarll (ED)

Os oes gyda chi ddawn anghyffredin
I sgrwffo eich gwallt fel mwng merlyn
A bod Heddlu’r Met
Yn eich poced, I bet!
Mae bron yn amhosib cael tocyn…

Aneirin Karadog 8.5

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): O’r Golwg

Beirdd Myrddin (AE)
i Enlli, Noddfa Awyr Dywyll

Daw i’n hadfyd un byd bach
a’i lewyrch yn oleuach,
ym Mhorth Meudwy, mwy, y mae
‘na wyll sy’n llawn canhwyllau,
nef o liw uwch Ogof Las
a chynfyd hyd ei chynfas.

***
Ond yna’n bell, bell o’r bae
ni welwn yr un golau,
rhy ddisglair yw’r esgair hon
i wylio aur gorwelion;
ni all y lloer a’i holl lwch
ein dallu heb dywyllwch.

Aled Evans 10

Tir Iarll (MH)

‘Dwi’n well! Ta-daaa! Dwi’n holliach!’...
A ges’ beth? Yn esgus bach
a theyrngar, cawn gyd-chware’n
abracadabra dy wên;
’na sy orau – consurio’n
hofnau cas i gefn y co’,
a chredu swyn cadwyni’r
smaldod, er gwybod y gwir:
daw dewiniaid dienw
i’th hel nôl i’w nythle nhw,
ac mewn cod, o’i gwman cudd,
daw’r hen niwed o’r newydd.

Mererid Hopwood 10

5 Triban neu bennill telyn yn seiliedig ar unrhyw ddihareb

Beirdd Myrddin (AE)

Enw da yw'r trysor gorau
Dychwelws Cefen Ystrad,
Rhos Dringarth, Cerrig Gleisiad
Cwm Llwch, Blaen Crew a Phen y Fan*
i’r man ble ma’ nw’n blongad.

Lowri Lloyd 8.5

Tir Iarll (TDJ)

‘Gorau awen, gwirionedd’
Tîm dau air yw tim Beirdd Myrddin,
Y mae’r ail yn enwi’r Dewin,
Efo hyn sdim problem gen-i,
Ond mae’u galw’n Feirdd yn doji.

Aneirin Karadog 8.5

6 Cân ysgafn: Tro Pedol

Beirdd Myrddin (AE)

Mewn rhyw gyfarfod pwysig ar ryw bnawn Mercher gwlyb
cyhoeddwyd adolygiad o holl raglenni’r Bîb.

Bu trafod priodoldeb y teitl ‘Cymru Fyw’
a gwahardd pob cyfeiriad at enwau sydd o liw.

Sefydlwyd hit sgwod sydyn a daliwyd yn y rhwyd
Gwynfryn, Stephens a Daf Du, cyn cipio Dewi Llwyd.

Ond sefwch chi am eiliad, ‘dyw Stephens ddim yn lliw
a theg yw nodi hynny, cans ei fod yn fwy o hue.

Ac yna’n syfrdanol cyhoeddwyd gyda hyn
eu bod am ddiliweiddio yr eicon Ceri Wyn.

Bu terfysg ym Mlaenannerch, cynhyrfwyd tref a gwlad
a nodaf yma’n wylaidd fy mod ar flaen y gad.

Sgrifennwyd llythyr hirfaith yn dwrdio y fath gam
- wedi’i lofnodi ganwaith yn sgrifen dwt ei fam.

Bu rali yn Y Ferwig ac ambell le tu hwnt
a threfnwyd ympryd cwarter awr gan WI y Mwnt.

Daeth Lineker i’r adwy a’r pennawd yn y Sun
mewn rhes llythrennau breision oedd Free The Gwbert One.

A hynny a ddigwyddodd ac wele yma’n iach
‘the one and only Ceri Wyn, live at Felinfach’.

Aled Evans 9.5

Tir Iarll (TDJ)

(yn darllen gwaith Chatbox AI)

I wneud y gân, gofynnodd Tir Iarll i fi, neb llai,
Sef genius o’r enw Chatbox, a’r cyfenw cryno – AI.

Maen nhw’n gwybod fod hyn yn twyllo, ac nad oes twyllo i fod,
Ond prydyddion diegwyddor fu criw Tir Iarll erio’d.

Mi chwiliais gynghorion Arwel ar sut i sgwennu cân,
Rhan fwya’n ddealladwy, a bron pob un yn lân.

Ei gyngor gorau ydoedd, ac roedd Arwel lot o gop,
Beth bynnag ydy’r testun i chi roi e ar y top.

Cytunais, gan ddechrau’r ymchwil, ond yna’n eitha cloi
Mi ddarganfyddais broblem – dydy pedol ddim yn troi.

Yr unig dro all ddigwydd fod na bedol yn troi rownd,
Os troi a wna y ceffyl bydd y bedol hefyd bownd.

Mae’r odliadur wrth fy ymyl, ac mae’r gigabytes ar waith
I lunio cân sy’n haeddu o leia fwy na saith.

Cael gradd 2:1 ym Mangor, mi lwyddais heb ddim lol,
A datrys sut mae fflwffbel yn casglu mewn botwm bol.

A hyd yn hyn mi fedrais â chwblhau bob dim…
Ond cân am rinwedd pedol, mae hyn yn ormod im;

Ac er mai Chatbox ydwi, dwi wedi blino’n lân,
A dwi am wneud tro pedol, sef peidio sgwennu’r gân.

Tudur Dylan 9

7 Ateb llinell ar y pryd – Rwy’n fardd yn Nhafarn y Vale

Beirdd Myrddin

Rwy’n fardd yn Nhafarn y Vale
Ond aros mae dweud Arwel

Eleri Powell 0.5

Tir Iarll

Rwy’n fardd yn Nhafarn y Vale
Un siriys megis Arwel

Tudur Dylan 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Paratoi

Beirdd Myrddin (LLl)

Heno eto, mae’n glaf i’w ’stafell.
Strach ei phapurach yw ei phoen
a’i ffawd. O’i gwaith, nid oes ffoi.
Yno, o’i gwirfodd anfoddog,
ac ymylon A4 ar wasgar yn cywasgu
ei nodiadau’n dawedog.

Af ati, â thamaid i fwyta,
i negodi awr, i godi’i hwyl,
â’m cyngor yn angor diangen.

Mi wn, â’m holl amynedd,
fod pob awr sbâr mewn sgwaryn,
ei hyfory’n fwriad,
a’i thrannoeth i’w rannu
i'r eiliad, dan yr hoelen.

A’r wers sy ar y wal
i minnau yma heno,
yw y daw hi’n barod i’w dyfodol,
heb gynllun i’w ddilyn ... ryw ddydd.

Lowri Lloyd 9

Tir Iarll

Y llyfr cyn amser gwely
a’r ffrwyth yn dy focs bwyd,
y colli cwsg a’r gyrru
o biano i bêl-rwyd;

y ’sgidiau’r af i hebddynt
i weld dy redeg rhwydd,
anrhegion lapiaf ynddynt
f’ymrwymiad bob pen-blwydd;

y bunt yn y mesurydd
i gadw’r t欧 yn dwym,
y cwato fy nghywilydd
’da’r gwrachod dan y llwyn;

yr hela’r angenfilod,
y gusan ar dy glwy’,
a’r gwybod y daw’r diwrnod
pan fydd dy fyd yn fwy,

ac ar bob dim bydd ôl fy llaw
yn d’arwain di drwy’r hyn a ddaw.

Gwynfor Dafydd 9.5

9 Englyn: Coron

Beirdd Myrddin (JGJ)

Cyweiriais, do, rai cywrain yn fy nydd,
yn fwynhad crefft firain,
ond es adref dan lefain
wedi’r un luniais â drain.

John Gwilym Jones 10

Tir Iarll
i Siarl III

Ar ei ben rhowch aur y byd, - am ei wddf
Berlau man yr hollfyd;
Iddo ef rhannwch hefyd,
Ac i'w deulu, Gymru i gyd.

Tudur Dylan 10