Main content

Cerddi Rownd 1 2023

1 Trydargerdd: Cyfrifoldebau

Beca
(Meddylie Balerina yn yr Iwcrain)
Rhwymaf fy sgidie bale gwyn yn dyner i’w cwtsh.
Camaf i’r nos i guriad y bwledi: dryll yw fy nghymar nawr.
Troellaf yng nghysgodion y tân a’r rwbel;
Milwr wyf nes i’r ddawns ddychwelyd.

Rhiannon Iwerydd 9

Y Derwyddon

Heb os, mae’n ddyddiau o basio y rhain
yn rhwydd heb ysgwyddo
y baich; mae’n hunanol sbo,
ond jiw jiw, mae’n rhaid joio!

Siw Jones 8.5

2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw waith celf adnabyddus

Beca

Plîs, O plîs , Mona Lisa,
Dyro wên i dorri’r ia.

Rachel James 9

Y Derwyddon

(sef gwely anniben yr artist ac o’i gylch boteli gweigion o vodka a gweddillion sigarets a chondoms - CBE yn 2012, ddwy flynedd cyn i’r darn ‘My Bed’, a wnaeth Emin yn un o artistiaid enwocaf Prydain, gael ei werthu am £2.2 miliwn.)

Er mai budr, yn wir,‘My Bed’,
yn fy ngwely, fy ngwaled.

Tudur Hallam 9

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Ar ganol yr unawd biano’

Beca
Ar ganol yr unawd piano
A minnau ar fin gwneud glissando
Fe sticiodd un nodyn
A chanodd byth wedyn
Er gwaethaf y poco a poco.

Eifion Daniels 8.5

Y Derwyddon

Ar ganol yr unawd biano,
rhy nerthol fu’r darn “bellicoso”,
fel y cwympodd y clawr
llewygu wnaeth Gwawr,
mae’n dal ar y llawr mewn “morendo”.

Meirion Jones 8

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Penderfyniad

Beca
Ar war am hir yn aros
Mae llen o nudden fel nos,
A gwynt cad yn oernadu
Ei lid oer ar berwyl du :
Cnwd o wae a’i warchae hyll
Yn toi y llwybrau tywyll.

Mewn perth ‘does dim prydferthach
Yn bod na’r ‘cwte 诺yn bach’,
Neu’r rhos, ac aur y tresi
A swyn y gwenyn a’u si
Yn euro hynt llwybrau’r haf
Hyd y lôn. Fe’i dilynaf.

Rachel James 9

Y Derwyddon

Yn ei ddoe, fe dry o’r ddôl
i henaint ei bresennol.
Ac mewn llawiad o hadau,
heria’i hun, “Oes modd parhau
â’r pwys hwn? Pa bwrpas sydd
i blannu heb olynydd?”

Â’i dynged mewn pamffledyn,
un rhif ydyw’r erwau hyn.
Dieithryn claerwyn yw’r clos,
yn rhesi’n oerni’r hwyrnos.
Mae oedi wrth ymad’el,
oes o waith yn ddiwrnod sêl.

Meirion Jones 9.5

5 Pennill ymson mewn cyfweliad

Beca (Cyfweliad am swydd gwerthu matiau.)
Rwy’n eitha nerfus yn y sedd,
Rwy’n edrych, oes ‘ma gamra?
Pwy fydd yn cofio erbyn hyn
Fi’n cydio’n dynn yn Gina?

Dim holi gair am bartis gwyllt
Na dillad arbenigol,
A neb yn dannod dim i mi
Am ffwlbri fy nhorffennol.

Ac yna ar ôl cael y swydd
Gall pob un gadw pellter,
A neb yn gofyn yn y gwaith
Os ffafriaeth rof i gwsmer.

Eifion Daniels 8.5

Y Derwyddon

Wn i ddim am y Mohîcan,
na’r studs trwy’r clustie a’r trwyn,
am y tat诺’n dringo’r gwddwg,
sgwn i dy’r got ‘na di’i dwyn?
Gyda’i bovvers a’i dipyn swager, mae’n edrych yn reial yob,
ond â’i enw’n Sion ap Rhydderch, mae’n rhaid i hwn gael y job.

Meirion Jones 8

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod dros funud a hanner o berfformiad) : Llythyr Dewi Sant at Sant Padrig neu Llythyr Sant Padrig at Dewi Sant.

Beca

Rôl oes o ledu hanes yr efengyl,
Roedd Padrig wedi mynd yn eithaf bored,
Cyn iddo gael y syniad dwl un bore
O dwyllo Hanner-Cardi bach di-nôd.

“Oho!” medd yr Arch-Wyddel, “Ceiff e lythyr,
Yn esbonio ei fod e yn awr yn sant!”
Tynnodd gwilsyn o’i gas pensil gwyrdd croen neidr
(Ffasiwn poethaf anno domini pum cant).

“Henffych fab” sgrifennodd Pat, “Mae Ceredigion
Yn dwll lle ni orffennwyd cread Duw.
Dy dasg fydd gwneud y deyrnas hon yn waraidd,
(A gorffen llunio cynffon pob un dryw).”

“Yn gyntaf, rho fwyd adar ar dy ysgwydd –
Bydd colomen yn dod atat bob un tro.
Ac os yw’th gynulleidfa’n methu clywed,
Dan dy draed rho peth o’r botel Cwic-Grâs-Grô.”

“Ac os nad yw hyn yn llwyddo, paid a phoeni,
Cei barch a bri ymhell ar ôl dy dranc -
Os gwnei’r pethau bychain ffafriol i’r haneswyr,
Cei ddinas, baner, gwlad – ond nid gwyl banc!”

Lefi Dafydd 9

Y Derwyddon

Hai Pat, fi Dai sydd yma’n, gofidio’m bethau bach.
a mawr - fel safle seintiau – dyw’u cyflwr ddim yn iach.
Nid wyf am boeni Andrew - mae bant da’r SNP,
a ‘does dim pip da fi ar George, nac yntau arnaf i!
 Dydd Gwyl Dewi drosof, a phawb yn canu mawl
ond fawr o ddim byd arall – ‘rwy’n teimlo’n fflat ar diawl!
‘Rwy’n byw ar dd诺r a bara – smoi’n credu bod e’n iawn,
fe ddylwn fynd ar streic fel pawb, er mwyn cael cyflog llawn.
A patent ar fy enw – caiff neb ddweud Dewi Sant
heb dalu crocbris gyntaf, ‘rwy’ hefyd eisiau grant
er mwyn datblygu franchise a chychwyn cwmni fflash
yn debyg i MacDonalds – na’r ffordd i ennill cash.
A phobman bydd ‘na fwyty, mi safaf ar y llain
i’r ddaear wyrddlas godi, a’r caff i’w weld yn blaen.
Bydd daffodil mawr neon ‘mhob tre drwy Wlad y Gân,
A drive thru’n gwerthu cawl cig oen a phice ar y ma’n.

Wel, fel y gweli Pat yr wyf, yn Gardi hyd y carn,
a ydy hyn yn iawn i Sant, fe hoffwn gael dy farn?
A ddylwn i ddyheu fel hyn am fyw y bywyd hawdd
neu aros fel yr wyf yn awr, yn nawddsant heb ddim nawdd?

Eryl Mathias 9

Llinell ar y Pryd

Beca
Y rheswm rwy’n goroesi, bos wyf ar y 主播大秀
Eifion Daniels ½

Derwyddon

Bos wyf ar y 主播大秀, bos gwaraidd a bos Gary
Jo Heyde ½

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Caffi

Beca

Dere, mam, i’r coed.
Gad dy bapurau diflas.
Mae gwledd yn aros,
Gei di weld.
Bydd y fwyalchen yno i’n croesawu
Wrth ddrws fy nghaffi cudd.
Gwnaf i ti goron gold y gors
A modrwy o hud y wawr.
Yfwn yno sudd y gwyddfid o wydrau mês
Tylwythen deg
A bwytawn o soseri rhisgl
Dwmpathau o betalau’r rhos.
Dere i ryfeddu ar lygaid aur y sêr
A’r Garn fach
Fel mur o arian
Yng ngolau’r lloer.

Dilynaf hi i’w chaffi i flasu‘r wledd,
Cyn daw'r mieri a'r brain i sarnu'r diniweidrwydd.

Rhiannon Iwerydd 9.5

Y Derwyddon

Eistedd wrth y bwrdd bach Belle Epoque
a’r wal wydr yn taflu’r wawr ar ffrae’r noson cynt;

fy ngwefus yn petruso cyn torri’r galon pointilliste ar wely ewyn llaeth;

syllu’n hir ar y darten afalau’n breuo addewid
ar lestr patrymog.

Wedyn ……. gadael, ag egin cerdd
ar serfiét lipa yn dynn dynn yn fy llaw,

a theimlo
fy mod wedi cael blas ar fy llais,
o’r newydd.

Jo Heyde 9.5

9 Englyn: Perchen

Beca

Wennol, nid oes it groeso – wedi her
Y daith. Onid eiddo
Trydar taer adar y to
Y bwndel dan y bondo?

Rachel James 9

Y Derwyddon

(I’m merch Edwy, o glywed tad un o’r bechgyn ar y tîm arall yn galw, ‘C’mon, she’s just a girl!’ Yn aml iawn, hi yw’r unig ferch ar y cae, ond mae’n haeddu ei lle cymaint ag unrhyw chwaraewr.)

Nid un i ofni dynion – yn y gôl
galed ei hergydion
ydyw hi. Newidia hon
w欧r y byd â’i harbedion.

Tudur Hallam 9.5