Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth

Archifau Tachwedd 2008

Deigryn

Vaughan Roderick | 21:04, Dydd Sul, 30 Tachwedd 2008

Sylwadau (2)

Mae hon yn stori gwbwl wir.

Mae fy mrawd yng nghyfraith yn Americanwr. Oherwydd hynny mae fy nheulu yn dathlu "Thanksgiving" gan wahodd Americanwyr eraill i'r cinio.

Mae 'na lot o blant. Gormod o blant. Heddiw roedd y cryts yn hynod o swnllyd gyda dau grwt yn esgus saethu eu gilydd. Un ohonyn nhw oedd fy nai, Gwynfor, sy'n ddeg oed. Crwt bach du (Cymraeg ei iaith) sy'n bump oedd y llall.

Fe wnes i geisio eu tawelu trwy ofyn beth oedd y gem. "James Bond" meddai'r crwt "Gwynfor yw James Bond a fi yw'r evil black guy..."

Gallwch ddychmygu shwd oeddwn i'n teimlo am hynny.

"Dyw hynny ddim yn swndo'n deg iawn..."

"Na mae'n OK. Ni'n chwarae Barack Obama nesa..."

Mae modd gwybod bod rhywbeth arbennig iawn wedi digwydd pan mae'r plant yn sylwi.

Abergeirw

Vaughan Roderick | 15:38, Dydd Gwener, 28 Tachwedd 2008

Sylwadau (4)

Rhai blynyddoedd yn ôl er mwyn arbed arian fe roddodd nifer o bapurau'r gorau i gyflogi cartwnydd gan argraffu lluniau gan eu darllenwyr i lenwi'r gwagle . "Postcards" yw enw'r Western Mail ar yr eitem ddyddiol hon.

Mae 'na glasur yn y papur heddiw (ond nid ar y we yn anffodus). Llun yw e o Ysgol Abergeirw ger Dolgellau ac os buodd yna adeilad mwy di-nod mewn lle mwy diarffordd erioed dw i ddim yn gyfarwydd ag e. Mae'n werth prynu'r papur jyst i syllu ar yr adeilad un ystafell yma yn sefyll yng nghanol cae.

Byswn yn becso fy mod mewn peryg o bechu pobol Abergeirw trwy sgwennu hwn. Ond dw i'n weddol hyderus na fydd modd iddyn nhw ddarllen fy ngeiriau. Dyw'r cyflenwad trydan ddim wedi cyrraedd Abergeirw eto.

Gwell i mi ddweud hwnna eto. Dyw trydan ddim wedi cyrraedd Abergeirw. Mae'n debyg bod Menter Ynni Abergeirw yn cynnal trafodaethau a MANWEB. Yn y cyfamser mae'n rhaid dibynnu ar y generadur neu'r .

Dydw i erioed wedi bod i Abergeirw. Rwy'n ysu mynd! Mae'n debyg y byddaf yn darganfod lle digon tebyg i Grai yn Sir Frycheiniog lle mae rhai o fy nheulu yn ffarmio. Mae 'na drydan yng Ngrhai ac Eglwys a Neuadd Bentref. Mae 'na gapel ar ochor arall y cwm. Does 'na ddim ysgol, siop na Swyddfa Bost. Mae'n rhaid mynd i Bont Senni neu Aberhonddu am bethau fel 'na. Fe wnes i raglen o Grai ryw dro a Llŷr Roberts yn cynhyrchu. Sylwodd un hen ledi ar ei acen ogleddol ac ymhyfrydu yn y ffaith bod gogleddwr wedi pregethu yn y capel rhyw dro. Doedd hi ddim yn sicr os oedd hynny cyn neu ar ôl y rhyfel.

Mae 'na bwynt i hyn oll. Mewn gafodd fawr o sylw rhai wythnosau yn ôl cyhoeddodd Elin Jones ei bod wedi comisiynu ymchwil i anghenion llefydd gwledig anghysbell. Ym marn y gweinidog mae'r anghenion hynny wedi eu hanwybyddu yn y gorffennol wrth i'r Gymru wledig cael ei thrin fel un uned gyda'r un problemau a'r un anghenion. Fe fydd yr ymchwil yn canolbwyntio ar bedwar pentref sef Llanfihangel-yng-Ngwynfa a Llangamarch ym Mhowys, Tegryn yng ngogledd sir Benfro ac Aberdaron.

Pam mae'r ardaloedd yma wedi eu hanwybyddu cyhyd? Mae gan Nerys Evans un esboniad "nid yw poblogaeth yr ardaloedd hyn yn fawr ac, felly, mae llai o gwyno ganddynt". Mae 'na esboniad arall. Does 'na ddim llawer o bleidleisiau yng Nghrai nac Abergeirw!

Llawenydd Mawr

Vaughan Roderick | 11:36, Dydd Gwener, 28 Tachwedd 2008

Sylwadau (2)

Mae'n bleser gen i ledaeni ychydig o newyddion da. Mae Jon Gower a chriw o newyddiadurwyr ac ysgrifenwyr eraill wedi sicrhâi cyllid digonol i lansio gwefan newyddion Saesneg newydd i Gymru.

Fe fydd y wefan wedi ei modelu ar yr gyda rhai o'r dolenni yn eich arwain at ddeunydd allanol ac eraill at straeon ac erthyglau gwreiddiol. Fe fydd gan y wefan yr adnoddau i gomisiynu rhyw hanner dwsin o straeon ac erthyglau gwreiddiol bob dydd a'r bwriad yw y bydd y deunydd hwnnw yn canolbwyntio ar feysydd sy ddim yn derbyn sylw gan y cyfryngau presennol. Fe fydd y safle yn fyw yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.

Os nad ydych wedi tanysgrifio i'r podlesiaid mae nawr yn amser da i wneud hynny. Fe fydd John yn trafod y cynlluniau ar rifyn yr wythnos hon. Gwasgwch y botwm ar y dde.

Diweddariad; Mae'r podediad yn fyw.

Rhonech ac Echni

Vaughan Roderick | 13:40, Dydd Iau, 27 Tachwedd 2008

Sylwadau (5)

Os ydy'r pennawd yna yn eich drysu gadewch i mi esbonio. Rhonech ac Echni yw'r ddwy ynys fach ym Mor Hafren sydd i'w gweld o Fae Caerdydd. Mae'n rhaid i mi gyfaddef mae'r ynys Seisnig, Rhonech, yw fy ffefryn personol- efallai oherwydd bod 'na dafarn arni! Ond fel pob ynys arall (ac eithrio Ynys y Barri, efallai) mae 'na ryw ramant arbennig yn perthyn i'r ddwy.

Cymerwch yr Ynys Las. Dydw i erioed wedi bod yna. Yn ôl Betsan Powys (sydd wedi bod i bob man bron) yr Ynys Las yw'r lle rhyfedda iddi weld erioed- mae'r dirwedd a'r golau yn unigryw a'r cymysgedd rhyfedd o Ddaniaid ac Inuit wedi creu diwylliant arbennig iawn. Mae 'na lai na thrigain mil o bobol yn byw ar ynys sydd yn fwy na deugain gwaith maint Cymru (diawl, mae yn wefan ddefnyddiol!). Mae'r boblogaeth honno o fwyafrif sylweddol i gymryd cam sylweddol tuag at annibyniaeth. Mewn refferendwm cytunodd yr ynyswyr i drosglwyddo'r grym dros gyfraith a threfn, yr heddlu a gwylwyr y glannau o Copenhagen i Nuuk ynghyd a chyfran yr incwm olew o'r moroedd o'i chwmpas.

Mae aelodau'r SNP wedi cyflwyno cynnig yn llongyfarch yr ynyswyr yn Senedd yr Alban. Wel, mae'n rhaid chwilio am ysbrydoliaeth mewn llefydd newydd ar ôl y digwyddiadau diweddar yng Ngwlad yr Ia!

Prin yw'r ymwelwyr a'r Ynys Las (mae Betsan yn eithriad) ond mae'r Maldives wedi deny miloedd o orllewinwyr cefnog i'w traethau paradwysaidd. Stori drist sy'n dod o'r rhan hynno o'r byd. Tra bod trigolion yr Ynys Las yn chwennych annibyniaeth mae trigolion ynysoedd y Maldives yn debyg o golli'r statws hwnnw. Mae arlywydd newydd y wlad honno yni brynu tir mewn gwledydd eraill yn barod am y dydd pan fydd newid hinsawdd yn gorfodi i'r trigolion adael yr ynysoedd. Mae 'na ryw anghyfiawnder difrifol yn hynny. Wedi'r cyfan, nid ffatrïoedd a llygredd pobol y Maldives sy'n peri i lefel y moroedd godi.

Dyw anghyfiawnder ddim yn beth newydd yn y rhan yna o'r byd. Mae cyn-drigolion yn dal i frwydo er mwyn cael dychwelyd i'r cartrefi y gorfododd Prydain iddyn nhw adael degawdau yn ôl. Mae'n anodd peidio cydymdeimlo a phobol ynysoedd Chagos ond mae'r anghyfiawnder hynny yn pylu o gymharu â'r hyn sy'n debyg o ddigwydd yn y Maldives i dri chan mil o bobol sy'n byw mewn cornel bach nefolaidd o'n byd.

Academia

Vaughan Roderick | 17:45, Dydd Mercher, 26 Tachwedd 2008

Sylwadau (1)

Doeddwn i erioed wedi dod ar draws y gair "valedictocracy" nes i fi ddarllen y golofn yn New York Times. A dweud y gwir dw i'n amau bod y colofnydd, David Brooks, wedi ei fathu i ddisgrifio llywodraeth nesaf yr UDA- llywodraeth sy'n debyg o fod yn llawn o raddedigion prifysgolion gorau'r wlad.

Yr arlywydd diwethaf i ffurfio llywodraeth o'r fath oedd Kennedy ac mae'r ymdrech wedi ei groniclo yn llyfr David Halberstam "The best and the brightest"- clasur o lyfr gwleidyddol sy'n croniclo'r camgymeriadau a cham syniadaeth wnaeth arwain at brofiad arteithiol Fietnam. Yn y cartŵn fe awgrymwyd y byddai "The worst and the stupidest" yn well ddisgrifiad o lywodraeth Kennedy.

Serch hynny fe ddylai'n academyddion a'n sefydliadau prifysgol chware rôl bwysig ym mywyd sifil a llywodraethol Cymru. Fe ddylai ffrwyth eu hymchwil fod yn sylfaen i ddatblygiad polisi ac yn fewnbwn allweddol i ddadleuon ynglŷn â chyfeiriad a dyfodol y wlad. Y gwir plaen amdani yw bod ein Prifysgolion ar y cyfan ym methu yn y cyswllt hwn.

Mae 'na eithriadau wrth gwrs fel yr ysgol fusnes yng Nghaerdydd a'r Sefydliad Gwleidyddiaeth yn Aber ond eithriadau ydyn nhw.

Pam mae hynny? Wel yn rhannol mae'n deillio o'r eironi bod ein sefydliad cenedlaethol hynaf- Prifysgol Cymru wedi bod a thueddiadau pur snoblyd, elitaidd, wrth Gymreig hyd yn oed, ar adegau. Roedd cyfran sylweddol o'n hacademyddion, mae'n ymddangos, yn meddwl bod consyrns ddydd i ddydd y gymdeithas o'u cwmpas yn rhy bitw, yn rhy dila i'w hastudio. Meddwl meddyliau mawr oedd eu gwaith nhw nid cynnig atebion i broblemau. Roedd croeso i'r werin cyfrannu eu ceiniogau prin- cyn belled ac nad oeddynt yn disgwyl unrhyw beth yn ôl. Mae hynny'n newid, gobeithio.

Ond mae 'na broblem arall sy'n deillio o strwythur ariannu ymchwil yn ein prifysgolion. Tra bod rhannau helaeth o gyfundrefn ariannu addysg uwch wedi eu datganoli mae'r Cynghorau Ymchwil o hyd yn gyrff sydd wedi eu trefnu ar lefel Prydain gyfan. Mae 'na ddadleuon cryf dros y gyfundrefn honno ac mae'n anodd gweld pa fantais y byddai 'na mewn cael pedwar cyngor i ofalu am ymchwil feddygol, er enghraifft. Ond mewn meysydd eraill, maes y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol er enghraifft, teg yw gofyn a ydy'r drefn bresennol yn rhoi digon o ystyriaeth i'r angen am ymchwil pwysig a pherthnasol yn y gwledydd datganoledig.

Arbrawf

Vaughan Roderick | 14:04, Dydd Mawrth, 25 Tachwedd 2008

Sylwadau (2)

Dydw i byth wedi bod yn ffan o'r prawf y mae darpar ddinasyddion Prydeinig yn gorfod ei sefyll. Does 'na ddim byd yn bod ar yr egwyddor ond mae'r wybodaeth y mae'r Swyddfa Gartref yn credu sy'n angenrheidiol i ddinasyddion yn rhyfedd a dweud y lleiaf. Oes wir angen gwybod dyddiad diwrnod nawddsant yr Alban neu ddeall pwerau senedd Ewrop er mwyn bod yn Brydeiniwr?

Dw i wrth fy modd felly a'r arolwg a drefnwyd ar Facebook yn ddiweddar. Gofynnwyd i bobol o bedwar ban byd i sefyll y prawf. Pwyliaid oedd yn gwybod mwyaf am Brydain. Trigolion Ffindir oedd yn yr ail safle gyda phobol Sweden yn drydydd, Almaenwyr oedd yn bedwerydd a'n cefndryd yn Seland Newydd oedd yn bumed. Pwy ddaeth yn chweched? Prydeinwyr.

Cadwa dy blydi chips

Vaughan Roderick | 13:09, Dydd Mawrth, 25 Tachwedd 2008

Sylwadau (0)

Mae'r economi yn mynd wyneb i waered. Mae'r banciau yn gofyn am gardod. Mae'r ddyled genedlaethol am fynd trwy'r to. Beth sy'n poeni pobol yn NhÅ· Hywel fwyaf? Mae'r peiriant chips wedi torri.

Nid gwneud pwynt ysgafn ydw i yn fan hyn. Yr hyn sy'n poeni pobol fwyaf yw'r pethau sydd yn digwydd iddyn nhw, eu teuluoedd a'u cyfeillion. Mae'r peiriant chips yn bwysicach na General Motors ac AIG.

Hyd yma dyw'r dirwasgiad ddim wedi cael rhyw lawer o effaith uniongyrchol ar y rhan fwyaf ohonom. Mae gwerth ein tai wedi gostwng- ond mae hynny ond o bwys os ydych chi'n dymuno gwerthu. Mae swyddi wedi eu colli- ond mae'r mwyafrif llethol ohonom ni o hyd mewn gwaith. Yn wir mae'r ffaith bod graddfeydd llog a phrisiau tanwydd wedi gostwng yn golygu bod y rhan fwyaf ohonom a mwy o arian yn ein pocedi nawr na chwe mis yn ôl. Pryder yw'r broblem. Mae pawb yn becso. Ydy'r swydd yn saff? Beth sy'n digwydd os oes rhaid i fi symud?

Ydy cyhoeddiadau'r canghellor yn debyg o leddfu'r pryderon hynny- i'n darbwyllo ni i wario a'r banciau i fenthyg? Fe gawn weld.

Mae Alistair Darling wedi cyflawni un peth. Am y tro cyntaf er pymtheg mlynedd mae 'na agendor sylweddol rhwng polisïau economaidd Llafur a'r Ceidwadwyr- ac mae'r agendor hwnnw'n seiliedig ar y rhaniadau athronyddol traddodiadol rhwng y dde a'r chwith. Gallai hynny fod yn newyddion drwg i'r Ceidwadwyr yng Nghymru.

Yn hanesyddol mae trafferthion economaidd wedi tueddu cryfhau'r gefnogaeth i Lafur yng Nghymru. Mae 'na esboniad digon syml sy'n deillio o strwythur yr economi Gymreig. Mae'r canran ohonom sy'n dibynnu ar y wladwriaeth naill am gyflog neu am fudd-daliadau llawer yn uwch nac yw hi yn Lloegr. Yn y gorffennol felly mae toriadau gwariant wedi ein poeni ni'n fwy na chodiadau trethi.

Bues i'n trafod hynny gyda Nick Bourne y bore 'ma. Dyw e ddim yn llwyr anghytuno a'r dadansoddiad hanesyddol- ond mae'n dadlau na fydd yr un peth yn wir y tro hwn. Barn Nick yw na fydd Llafur yn gallu dianc rhag cael ei beio am y trafferthion economaidd a bod y dyddiau lle'r oedd pawb yn encilio i'w llwyth gwleidyddol yn ystod argyfwng wedi dod i ben. Eto, fe gawn weld.

Yn y cyfamser mae gen i gwestiwn. Os ydy'r economi mor wael pam mae'n cymryd wythnos i ddod o hyd i rywun i drwsio peiriant chips?

Aotearoa

Vaughan Roderick | 16:19, Dydd Gwener, 21 Tachwedd 2008

Sylwadau (3)

Gyda'r Americanwyr yn hawlio cymaint o'n hamser fe aeth ambell i etholiad tramor heibio heb dderbyn fawr o sylw. Un o'r etholiadau hynny oedd etholiad Seland Newydd lle wnaeth pleidiau'r dde guro llywodraeth asgell chwith Helen Clark. Gan ein bod yn wynebu'r Crysau Duon yfory beth am gymryd cipolwg ar un agwedd ddiddorol o wleidyddiaeth y wlad honno sef y system bleidleisio a'r camddefnydd ohoni?

Dyw'r gyfundrefn ddim mor wahanol â hynny i'r un sy'n bodoli yng Nghymru. I'r anoracs yn eich plith system MMP yw hi, tebyg i'r un sy'n bodoli yn yr Almaen. O dan y system honno mae seddi rhestr genedlaethol yn cael eu didoli rhwng pleidiau sydd wedi cyrraedd trothwy o bump y cant o'r bleidlais neu wedi ennill un sedd etholaeth.

Y broblem sydd wedi codi yn Seland Newydd yw bod y naill neu'r llall o'r ddwy blaid fawr wedi rhoi rhwydd hynt i bleidiau llai mewn ambell i etholaeth. O ganlyniad i hynny trwy ennill sedd etholaethol mae'r blaid fach yn cael llond dwrn o seddi rhestr i ychwanegu at y glymblaid y mae'r blaid fawr yn gobeithio ei ffurfio. Mae 'na bron i hanner dwsin o bleidiau bach ar y chwith a'r dde sydd wedi dibynnu ar gardod blaid fawr o bryd i gilydd.

Mae 'na dric digon tebyg sy'n bosib yn y system Gymreig. Does 'na ddim trothwy yn ein cyfundrefn ni. Yr hyn fyddai angen gwneud yng Nghymru fyddai torri'r cysylltiad rhwng canlyniadau etholaethol plaid a'r broses o ddidoli seddi rhanbarthol.

Mae hynny'n ddigon hawdd i wneud. Pe bai Plaid Cymru, er enghraifft, wedi dewis peidio enwebu ymgeiswyr rhanbarthol yn y Gogledd yn 2007 gan awgrymu'n dawel y dylai ei chefnogwyr bleidleisio dros "rhestr annibynnol Dafydd Wigley" mae'n debyg y byddai'r rhestr honno wedi ennill tair sedd yn lle'r un a enillwyd gan Blaid Cymru yn ei henw ei hun.

Nid teimlad o barch tuag at y system etholiadol sydd wedi rhwystro'r pleidiau rhag defnyddio'r tric yma ond y sicrwydd y byddai'r pleidiau eraill yn dilyn ei esiampl. Serch hynny mae'n brawf bod unrhyw system etholiadol yn gallu bod yn ddiffygiol.

Un o ddadleuon cefnogwyr cynrychiolaeth gyfrannol yw bod "pob pleidlais yn cyfri" ac nad oes angen pleidlais dactegol. Ydy hynny, o reidrwydd, yn wir? Nac ydy. Flwyddyn nesaf er enghraifft mae'n ddigon posib mai UKIP a'r BNP fydd yn ymgiprys am y sedd ranbarthol olaf mewn sawl rhan o Loegr. Mae'n ddigon posib y bydd cefnogwyr Llafur, dyweder, yn bwrw pleidlais dactegol i gadw'r BNP allan. Nawr drychwch ar y ffigyrau yma, o etholiad cynulliad 2007

Gogledd Cymru

Democratiaid Rhyddfrydol 15,275
BNP 9,986

Hynny yw pe bai'r BNP wedi ennill chwe mil yn fwy o bleidleisiau neu pe bai plaid Elinor Burnham wedi derbyn chwe mil yn llai nhw ac nid hi fyddai wedi ennill sedd rhestr olaf y gogledd. Fe enillodd Llafur dros hanner can mil o bleidleisiau rhestr heb ennill sedd ranbarthol. Mae'r fathemateg yn ddiddorol- o dan y fath amgylchiad ydy hi'n demtasiwn i Lafur beidio enwebu ymgeiswyr rhestr mewn ambell i ranbarth? Fe fyddai canlyniadau etholiad 2007 wedi bod yn wahanol iawn pe bai Llafur wedi dilyn y llwybr hwnnw.

Podlediad

Vaughan Roderick | 15:02, Dydd Gwener, 21 Tachwedd 2008

Sylwadau (0)


Cynog Dafis yw'r gwestai ar y podlediad yr wythnos hon. Gwasgwch y botwm ar y dde i wrando neu danysgrifio.

Iesgob

Vaughan Roderick | 17:00, Dydd Iau, 20 Tachwedd 2008

Sylwadau (2)

Y prynhawn bu aelodau o grŵp "Cymru Yfory" yn cynnal cyfarfod yn y cynulliad i drafod eu tystiolaeth i Gonfensiwn Syr Emyr Jones Parry. Yn ddigon addas, fe fydd yn rhaid i chi aros tan yfory i wybod mwy gan fod 'na embargo ar y cynnwys.

Archesgob Cymru oedd yn cadeirio'r gynhadledd ac mae hynny'n codi, unwaith yn rhagor, gwestiynnau ynghylch rôl arweinwyr crefyddol yn y broses wleidyddol. Y duedd yw wrth gwrs i fudiadau a phobol groesawi cefnogaeth crefyddol i'w safbwyntiau eu hun a chwyno am ymyrraeth os ydyn nhw'n anghytuno a'r achos. Mae 'na hen ddigon o bobol oedd yn falch o gefnogaeth eglwysig i'r ymgyrch yn erbyn rhyfel Iraq tra'n diawlio safiad rhai o'r eglwysi ynghylch erthylu.

Dyw e ddim yn bosib wrth gwrs i wahanu crefydd a gwleidyddiaeth yn llwyr. Fe fyddai'n afresymol i ddisgwyl i grefyddau mawr y byd gadw'n dawel am bynciau moesol mawr y dydd. Serch hynny mae angen i'r eglwysi bod yn ofalus. Yn California, er enghraifft mae pethau wedi troi'n chwerw iawn ar ôl i'r Eglwys Formonaidd arllwys arian ac egni i mewn i ymgyrchu dros newid cyfansoddiadol i wahardd priodasau hoyw. Canlyniad posib hynny yw y bydd crefydd oedd yn raddol cael ei dderbyn yn cael ei wthio yn ôl i gyrion y gymdeithas y tu allan i'w chadarnleoedd.

Dyw achos Archesgob Cymru a "Chymru Yfory" ddim yn cymharu â hynny wrth gwrs. Go brin y bydd gwrthwynebwyr datganoli yn tarfu ar wasanaethau'r Eglwys yng Nghymru i brotestio yn erbyn Barry Morgan. Ond mewn un ystyr mae ei safiad yn anoddach i gyfiawnhau. Er da neu er drwg mae gan grefyddau eu safbwyntiau moesol a diwinyddol ynghylch rhywioldeb a phriodas. Hyd y gwn i does na ddim sail foesol na diwinyddol i gefnogi pwerau deddfu llawn i'r cynulliad yn hytrach 'na cheisiadau cymhwysedd deddfwriaethol. Map pob hawl gan yr Archesgob i'w farn bersonnol ei hun wrth gwrs ond ydy hi'n briodol iddo ddefnyddio ei swydd i ymyrryd mewn dadl sydd, yn ei hanfod, yn un cyfan gwbwl gwleidyddol?

Pumed colofn?

Vaughan Roderick | 14:05, Dydd Iau, 20 Tachwedd 2008

Sylwadau (3)

Dyma stori fach ddiddorol. Yn gynharach yr wythnos hon cyhoeddodd cwmni ComRes ganlyniad arolwg barn a gynhaliwyd ymhlith aelodau cynulliad. Holodd ComRes union hanner yr aelodau- trideg aelod i gyd. Dyw'r arolwg ddim wedi cael rhyw lawer o sylw gan fod newyddiadurwyr yn amheus ynglŷn â maint y sampl. Serch hynny mae 'na un casgliad sy'n hynod ddiddorol sef hwn.

Mae mwyafrif o aelodau Plaid Cymru yn ffafrio annibyniaeth lwyr i Gymru ac mae 'na leiafrif o Aelodau Cynulliad Llafur yn rhannu'r un safbwynt.

Dyw e hi ddim yn syndod, efallai, nad yw holl aelodau Plaid Cymru yn ffafrio annibyniaeth. Mae'r gair ei hun yn rhwystr i rai tra bod eraill yn credu mewn ymladd un frwydr ar y tro. Ond Aelodau Cynulliad Llafur yn cefnogi annibyniaeth? Mae hynny yn dipyn o ryfeddod.

Yn fy holl amser fel newyddiadurwr gwleidyddol dydw i erioed wedi clywed Aelod Cynulliad nac Aelod Seneddol Llafur yn dweud ei fod o blaid annibyniaeth i Gymru hyd yn oed mewn sgyrsiau preifat.

Ond yn ôl ComRes (a does 'na ddim rheswm i amau cwmni mor flaenllaw) dyna yw barn rhai ohonyn nhw. Efallai mai dim ond mewn fforwm diogel a dienw fel pôl piniwn y maen nhw'n fodlon cyfaddef hynny.

Dau gwestiwn. Pwy ydyn nhw? A phwy sy'n mynd i ddweud wrth Don Touhig?

DIWEDDARIAD;Dw i wedi bod yn siarad â ComRes i gael rhagor o fanylion. Yr union gwestiwn a ofynnwyd oedd "Should Wales be totally independent of legislation enacted by Westminster?" Mae ComRes yn diffinio hynny fel "being in favour of total independence". I fi mae 'na elfen amwys. Hynny yw, mae'n bosib bod yr aelodau yn golygu eu bod yn dymuno gweld Cymru'n deddfu yn annibynnol o fewn y meysydd datganoledig. Holwyd deuddeg aelod Llafur. Roedd ymateb dau ohonyn nhw yn gadarnhaol.

Get Smart

Vaughan Roderick | 16:46, Dydd Mercher, 19 Tachwedd 2008

Sylwadau (0)

Rwy'n nabod Chris Smart er ei ddyddiau yn cyflwyno rhaglenni "ffonio i mewn" ar Sain Abertawe ac mi ydw i'n hoff ohono fe. Mae'n arth o ddyn sydd â phersonoliaeth sy'n llenwi ystafell. Serch hynny mae'n gur pen cyson i'r Ceidwadwyr.

Efallai eich bod yn cofio'r helynt ynghylch Chris adeg etholiad y Cynulliad. Ef oedd yr ail ar restr y Ceidwadwyr yng Ngorllewin De Cymru. Ceisiodd aelodau o gabinet David Cameron ei ddarbwyllo i dynnu ei enw yn ôl. Pam? Wel oherwydd bod David Davies yn rhyddfrydwr llipa o gymharu â Chris. Fe fyddai rhai yn dadlau bod Genghis Khan yn rhyddfrydwr llipa o gymharu â Chris. Fe aeth e i drwbl un tro am roi clatsied i grwt am gamfihafio. Yng nghylchoedd Chris mae hynny, o bosib, yn cael ei ystyried yn weithred arwrol ond meddyliwch am yr ymateb yng nghylchoedd PC-aidd y Cynulliad.

Yn y bôn fe fyddai presenoldeb Chris yn y cynulliad wedi tanseilio'r holl waith roedd Nick Bourne wedi ei wneud dros y blynyddoedd i drawsnewid delwedd Ceidwadwyr Cymru. Fe fyddai'r pleidiau eraill wrth eu boddau'n cael Chris fel cocyn hitio. Roedd 'na ambell i ochenaid o ryddhad pan fethodd y Torïaid gipio ail sedd yn y rhanbarth.

Efallai eich bod yn dyfalu pam fy mod yn cyfeirio yn ôl at y stori honno nawr.

Wel, dyw swyddfeydd y Ceidwadwyr yn y cynulliad ddim yn llefydd hapus ar hyn o bryd. Mae 'na sawl rheswm. Mae anniddigrwydd ac arweinyddiaeth Nick Bourne a'i duedd honedig i ddefnyddio staff y blaid fel gweision bach personol yn rhannol gyfrifol. Roedd ei ymdrech i feio'r staff am gynnwys dogfen yr oedd ef ei hun wedi ei chymeradwyo yn amhoblogaidd. Mae rhai aelodau hefyd yn grac ynghylch yr hyn y maen nhw'n gweld fel diffyg teyrngarwch Nick tuag at Alun Cairns yn ystod ei helyntion diweddar.

Erbyn hyn mae Alun wedi cael ei gadarnhau fel ymgeisydd y blaid y Mro Morgannwg yn yr etholiad cyffredinol. Y disgwyl oedd y byddai, pe bai'n cael ei ethol , yn parhau aelod o'r cynulliad tan yr etholiad nesaf yn 2011. Ond beth os oedd Alun yn rhannu safbwynt rhai o'i gyd-aelodau ynglŷn â diffyg teyrngarwch ei arweinydd? Beth os oedd e'n dymuno rhoi cic i Nick?

Fe fyddai modd iddo wneud hynny trwy ymddiswyddo o'r cynulliad. Pwy fyddai'n olynydd iddo? Wel, yr ail enw ar y rhestr. Y Cynghorydd Chris Smart o Borthcawl.

Does gen i ddim clem beth sydd ym meddwl Alun ond os oeddwn i yn lle Nick fyswn i'n poeni.

Mae hwn yn sugno!

Vaughan Roderick | 17:43, Dydd Mawrth, 18 Tachwedd 2008

Sylwadau (1)

Mae'r newyddion bod cwmni Hoover yn ystyried rhoi'r gorau i gynhyrchu ym Merthyr yn gnoc i'w gweithwyr ac i'r dref, ond mae'n fwy na hynny. Mae'n ddiwedd cyfnod diddorol a hynod berthnasol yn hanes y dref.

Un o'r gwleidyddion mwyaf hoffus i mi gwrdd ag ef erioed yw cyn Aelod Seneddol Merthyr Ted Rowlands, Arglwydd Rowlands erbyn hyn. Mewn sawl ffordd methodd gyflawni ei botensial. Roedd e'n un o'r gweinidogion ieuengaf erioed ond roedd e'n ddyn oedd yn siwtio bod mewn llywodraeth yn hytrach na gwrthblaid ac roedd Llafur yn wrthblaid am y rhan fwyaf o'i ddegawdau o wasanaeth yn NhÅ·'r Cyffredin.

Mae hanes lleol- yn enwedig hanes Merthyr yn yr ugeinfed ganrif- yn un o'i ddiddordebau mawr ac mae e wedi sgwennu a darlithio'n gyson am y pwnc. Damcaniaeth Ted yw bod Merthyr wedi elwa'n anhygoel oherwydd dau ddarn bach o hap a damwain.

Y cyntaf oedd ymweliad Edward VIII Cymru a Dowlais yn y tridegau pan oedd tri chwarter trigolion y dref yn ddi-waith. Yn ystod yr ymweliad hwnnw fe wnaeth y Brenin ei sylw enwog "something must be done " -teitl llyfr gan Ted Rowlands, gyda llaw. O fewn byr o dro roedd Edward wedi ildio'r goron ond roedd y llywodraeth yn teimlo nad oedd modd anwybyddu ei orchymyn. Un syniad oedd dymchwel; Merthyr yn gyfan gwbwl ac ail-leoli'r boblogaeth. Penderfynwyd y byddai hynny'n rhy gostus. Yn lle hynny, a heb fawr o obaith y byddai'r syniad yn gweithio, dechreuodd y llywodraeth arbrofi trwy godi ffatrïoedd parod- y tro cyntaf i lywodraeth Brydeinig wneud hynny. Ond gyda'r economi mewn twll pwy ar y ddaear byddai'n eu rhenti?

A dyna i chi'r ail ddarn o hap a damwain- y trasiedi mwyaf yn hanes gwaedlyd yr ugeinfed ganrif. Gyda'r Swastica yn taflu cysgod dros y cyfandir dechreuodd llif o ddynion busnes Iddewig gyrraedd Prydain fel ffoaduriaid. Doedd ganddyn nhw'r un ddimai goch ond roedd y rhain yn ddynion penderfynol, galluog a mentrus. Ym Merthyr, ac yn ddiweddarach yn Nhrefforest, roedd modd iddyn nhw adeiladu o'r newydd. Fe osododd y cwmnïau hyn sylfaen economaidd newydd i Ferthyr fel canolfan gynhyrchu. Fe gyrhaeddodd Hoover yn 1948 i goroni'r cyfan ac am drideg mlynedd roedd Merthyr yn dref gymharol lewyrchus.

Fe aeth yr hwch trwy'r siop eto yn yr wythdegau ac erbyn heddiw mae Merthyr unwaith yn rhagor, ar unrhyw fesur, yn un o'r ardaloedd tlotaf yng Nghymru. Oes modd iddi adeiladu economi arall eto?

Mae 'na ambell i ddarn o newyddion da -adeiladu swyddfeydd newydd llywodraeth y cynulliad a dyblu'r nifer o drenau i Gaerdydd yn eu plith. Serch hynny fe fydd angen ymroddiad, gwaith caled ac efallai ambell i hap a damwain i ail-ddyrchafu crud y chwyldro diwydiannol.

Barn y Bwci

Vaughan Roderick | 13:48, Dydd Mawrth, 18 Tachwedd 2008

Sylwadau (1)

Mae'n beth amser ers i ni glywed gan Karl y bwci. Mae'n cynnig y prisiau hyn ar y ras i arwain Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Kirsty Williams 8-13
Jenny Randerson 6-5

Kirsty yw'r ffefryn felly ond dim ond o drwch blewyn.

Harriet Harman yw'r ffefryn i fod yn arweinydd nesaf y Blaid Lafur ac ym marn Karl William Hague yw'r ffefryn i fod yn arweinydd nesa'r Ceidwadwyr. Nawr roedd yr ail awgrym yn dipyn o sioc i mi ond rwy'n deall y rhesymeg. Dyw'r Ceidwadwyr ddim yn debyg o newid eu harweinydd yn y dyfodol agos. Yr unig amgylchiad allai achosi hynny yw colli'n ddifrifol mewn etholiad cyffredinol. Fe fyddai hynny'n ddinistriol nid yn unig i David Cameron ei hun ond i'r gwleidyddion eraill sy'n gysylltiedig â'r strategaeth. Pwy ond Hague- a David Davis efallai sydd ar ôl?

Nid aur yw popeth melyn

Vaughan Roderick | 15:09, Dydd Gwener, 14 Tachwedd 2008

Sylwadau (2)

Dydw i ddim yn gwybod pam bod dynion yn obsesio ynglŷn â phethau. Ar y cyfan dyw merched ddim yn trafferthu i gasglu ystadegau chwaraeon neu etholiad neu dynnu lluniau o drenau ager neu adar.

Rwy'n ofni weithiau bod gen i obsesiwn am Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru. Efallai mai fi yw'r unig berson yn y bydysawd sy ddim yn Ddemocrat Rhyddfrydol sydd a'r obsesiwn hynny. Am wn i mae'n deillio o'r ffaith fy mod fel y rhan fwyaf o Gymry Cymraeg yn dod o deulu oedd am genedlaethau yn anghydffurfiol ei grefydd ac yn Ryddfrydol ei wleidyddiaeth. Mae ceisio deall sut yn union y trodd plaid Mabon a Lloyd George i fod yn blaid Opik a German a cheisio dyfalu a oes dyfodol iddi yn bwnc sydd bob tro yn hela fi i feddwl.

Y cwestiwn y mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn casáu ei glywed yw "beth yw pwrpas y blaid?". Y gwir amdani, wrth gwrs, yw na fyddai'r cwestiwn yn parhau i gael ei ofyn pe bai na ateb da wedi ei gynnig.

Y broblem yw bod yr etholwyr yn deall, yn reddfol bron, beth sydd wrth hanfod y pleidiau eraill- beth sy'n symbyli ac ysbrydoli eu cefnogwyr. Amddiffyn Prydeindod traddodiadol yw sylfaen y weledigaeth Geidwadol, cyfartaledd cymdeithasol sy'n symbylu Llafur a diogelu arwahanrwydd Cymru yn prif bwrpas Plaid Cymru. Dyw'r pleidiau wrth gwrs ddim bob tro yn cyflawni eu hamcanion. Mae Prydain, er enghraifft, ar rai mesurau, yn llai cyfartal nawr nac oedd hi pan etholwyd Tony Blair ond mae "cyfartaledd cymdeithasol" o hyd yn angor athronyddol i'r Blaid Lafur.

Fedrai ddim meddwl am ddisgrifiad bachog tebyg ar gyfer y Democratiaid Rhyddfrydol. Dyw dweud eu bod yn credu mewn "Rhyddfrydiaeth" ddim yn ddigon. Pa fath o Ryddfrydiaeth? Rhyddfrydiaeth economaidd Gladstone ac ysgol Manceinion neu egin sosialaeth Lloyd George a Beveridge? Mae hawliau sifil ac unigol yn sicr yn rhan o'u gweledigaeth ond dim ond rhai hawliau. Peidiwch â disgwyl i'r Democratiaid Rhyddfrydol amddiffyn eich hawl i smocio na gyrru SUV a thra eu bod yn fodlon amddiffyn eich hawl i wneud beth fynnoch chi yn yr ystafell wely maen nhw'n ddigon parod i i orchymyn i ba liw bag y'ch chi'n rhoi'ch sbwriel yn y gegin.

Eto i gyd mae'r gair "Rhyddfrydol" yna yn golygu llawer i aelodau'r Blaid. Rwy'n cofio Leighton Andrews (o bawb) yn ei ddagrau, bron, yn pledio i'r gair gael ei gynnwys yn enw'r blaid newydd a ffurfiwyd gan ddwy blaid y cynghrair. Ond yn rhyfedd ddigon efallai mai'r gair "Democratiaid" sy'n cyfleu gwir natur y blaid. Meddyliwch am y pethau y mae ei haelodau yn eu hystyried yn bwysig. System bleidleisio "teg", atebolrwydd mewn llywodraeth leol, system ffederal, sefydliadau rhyngwladol i ddiogelu hawliau sifil, rhyddid barn a mynegiant- mae'r rhain i gyd yn bethau y gellid ei ystyried yn hanfodol ddemocrataidd.

O edrych ar y blaid yng nghyd-destun Democratiaeth yn hytrach na Rhyddfrydiaeth mae'r gwahaniaeth rhyngddi a'r pleidiau eraill yn fwy eglur a'i sylfaen athronyddol yn fwy amlwg.

Beth sydd a wnelo hynny a strategaeth y Blaid? Dim ond hyn. Dydw i ddim yn meddwl bod y gair "Rhyddfrydol" yn golygu rhyw lawer i'r cenedlaethau iau o bleidleiswyr. Ydyn, maen nhw'n ryddfrydol yn eu moesoldeb personol - ond fel 'na y cawson nhw eu magu ar ôl i'w rhieni ennill rhyfeloedd diwylliannol y chwedegau. Mater o ffaith nid safbwynt gwleidyddol beiddgar yw eu hagweddau agored tuag at leiafrifoedd ethnig, crefyddol a rhywiol.

Ond mae'r cenedlaethau iau yn ddemocratiaid i'r carn. Beth sy'n fwy democrataidd na Facebook, My Space a Bebo, cymunedau o bobol yn cyfathrebu a'r gilydd ar delerau cwbwl cyfartal? Gallai cenhedlaeth sydd yn cymryd y gallu i ryngweithio yn ganiataol fod yn agored i blaid wleidyddol sydd a'i chryfder yn ei threfniadaeth leol a'i haelodau cyffredin ac sydd ddim yn dilyn y patrwm o wleidyddiaeth "top i lawr" sy'n nodweddi'r pleidiau eraill.

Os ydy'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gallu cysylltu â'r "zeitgeist" yna fel y gwnaeth Democratiaid America efallai y byddai 'na ddyfodol disglair i'r blaid wedi'r cyfan.

O ddrwg i waeth

Vaughan Roderick | 11:19, Dydd Iau, 13 Tachwedd 2008

Sylwadau (3)

Mae'n siŵr eich bod chi'n cofio'r hen jôc. Pam mae dadleuon academaidd mor ffyrnig? Oherwydd eu bod nhw mor ddibwys.

Draw ym myd y Lib Dems mae pethau'n troi'n gas iawn iawn. Drychwch ar . Nawr, mae'n ddigon posib wrth gwrs mai rhywun o blaid arall sy'n gyfrifol am ymosodiad sydd, a dweud y lleiaf, yn weddol giaidd. Os felly mae fe neu hi wedi llwyddo i achosi drwgdeimlad a phwyntio bysedd o fewn y blaid- cymaint felly nes i hyd yn oed papurau Llundain dalu sylw.

Yn y cyfamser fe wnes i fwynhau'r gwrthdaro rhwng y Llafurwr Rhys Williams a'r Democrat Rhyddfrydol Elgan Morgan ynglŷn â "hustings" y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghasenwydd ar CF99 neithiwr.

Rhys; "Faint oedd 'na te?"
Elgan; "Roedd hi'n hanner llawn"
Rhys; "A beth oedd maint y stafell?"
Elgan; "Gwnes i ddim sylwi"

Caewch y Giât

Vaughan Roderick | 20:55, Dydd Mercher, 12 Tachwedd 2008

Sylwadau (0)

Yn ôl yn nyddiau Watergate roedd y Tŷ Gwyn yn enwog am gyhoeddi'r hyn oedd yn cael eu galw yn "non-denial denials" -datganiadau oedd yn ymddangos fel pe baent yn gwadu rhywbeth ond oedd wedi eu geirio'n ofalus i olygu'r nesaf peth i ddim.

Pa stori fydd yn ymddangos yfory wnaeth ddenu'r sylw yma gan lywodraeth y cynulliad?

"We don't recognize this version of events"

Edrychwch ar wefan y Ö÷²¥´óÐã yn y bore.

Gwaed ar eu dwylo

Vaughan Roderick | 16:45, Dydd Mawrth, 11 Tachwedd 2008

Sylwadau (0)

Mae Llafur yn ceisio troi'r gyllell yng nghefn Nick Bourne. Mewn araith yng Nghaerdydd heno fe fydd Leighton Andrews yn honni bod dyddiau arweinydd yr wrthblaid wedi eu rhifo.

Dadl Leighton yw bod adroddiad Roberts wedi tanseilio awdurdod Nick ac mai'r aelodau seneddol Cymreig sydd bellach wrth y llyw.

The Roberts Report, which commits the Tories to yet another full-scale review of devolution, is personally humiliating for Nick Bourne who has spent the last decade trying to convince us all that the Tories really have changed. The Tories' acceptance of Wyn Roberts' report suggests that Nick Bourne is no longer in control of his party... the days of a pro-devolution Welsh Conservative party are over... Nick Bourne's days are numbered. He will be watching his back from now on.

Gan adael y ffaith bod yr un tensiynau rhwng San Steffan a'r Bae (os nad gwaith) yn bodoli yn rhengoedd y Blaid Lafur i'r naill ochor mae'n werth ystyried pa mor gadarn yw gafael Nick ar yr arweinyddiaeth.

Yn gyntaf does dim dwywaith bod Nick wedi gwneud drwg mawr i'w hun trwy gymeradwyo ac yna condemnio'r adroddiad a baratowyd gan ei staff ynghylch record Rhodri Morgan. Mae'r ffaith bod arweinydd y Ceidwadwyr wedi gorfod bychanu ei hun trwy ymddiheuro'n gyhoeddus i'w staff yn arwydd difrifol o wendid.

Y digwyddiad hwnnw yn hytrach nac adroddiad Roberts yw prif broblem Nick ar hyn o bryd. Dyw'r berthynas rhyngddo a'r grŵp Ceidwadol a'i staff personol heb ei hadfer eto ac mae rhai o aelodau mwyaf uchelgeisiol y grŵp yn arogli'r gwaed yn y dŵr.

Cyn belled ac mae adroddiad Roberts dan sylw mae 'na sawl ffordd o ddarllen geiriau'r hen lwynog. Mae gen i un dehongliad mae gan Betsan un gwahanol. Dyw e hi ddim yn syndod efallai bod Nick yn hoff o'n ddehongliad i. Mae eraill yn sicr mai Betsan sy'n iawn. Dwi'n amau bod angen diwinydd neu athronydd yn hytrach na newyddiadurwr i allu deall adroddiad Roberts- a dw i'n gwbwl sicr bod yr diffyg eglurdeb yn fwriadol.

Mae'r hyn sy'n digwydd nesaf yn dibynnu i raddau ar y rheiny sy'n chwennych yr arweinyddiaeth. Y ceffyl blaen o hyd yw Jonathan Morgan- ond dim ond o drwch blewyn. Mae gen i ryw deimlad y gallai Jonathan deimlo ei fod yn yr un twll a'r Tywysog Charles gan ddisgwyl a disgwyl am ddyrchafiad sydd byth yn dod- i fod yn fab darogan sydd byth yn cael ei ddeffro.

Mae'n sefyllfa anodd i Jonathan. Gallai oedi gormod rhoi cyfle i rywun arall, Darren Miller, efallai, ennill calonnau'r blaid . Gallai gweithredu'n fyrbwyll, ar y llaw arall, fod y beryglus. Yn y Blaid Geidwadol, yn amlach na pheidio, nid y dyn a'r gyllell sy'n cipio'r goron.

Serch hynny, fe fyswn i'n synnu pe na bai na rhyw fath o ymdrech i newid arweinydd yn ystod y flwyddyn nesaf. Mae Nick wedi dweud droeon ei fod yn bwriadu arwain y blaid yn etholiad 2011. Mae hynny'n annhebyg iawn yn fy marn i. Dydw i ddim yn disgwyl Nick gytuno a'r dehongliad y tro hwn!

Miaw

Vaughan Roderick | 11:55, Dydd Mawrth, 11 Tachwedd 2008

Sylwadau (0)


Dw i wrth fy modd a'r datganiad yma gan Jenny Randerson.

We are delighted that Kirsty has come on board with so many of the ideas that Jenny launched last week such as simplifying local government funding, sabotaging the erosion of civil liberties and building a green economy. I'm also pleased that her manifesto reaffirms her support for so much existing party policy.


Mae gwylio'r etholiad yma'n mynd i fod yn lot o sbort!

Cwympo'n ddarnau?

Vaughan Roderick | 11:11, Dydd Mawrth, 11 Tachwedd 2008

Sylwadau (1)

Diawch, gallai Elin Jones roi gwers i Geoff Boycott ynghylch cadw bat yn syth. Mewn cynhadledd newyddion heddiw fe lwyddodd y gweinidog i wrthod pob ymgais i awgrymu bod 'na densiynau o fewn y llywodraeth ynghylch ffawd yr LCO tai. Mewn cyfres o atebion llwyddodd y gweinidog i ddweud fawr mwy na bod trafodaethau'n parhau rhwng y llywodraeth a'r ysgrifennydd gwladol.

Y cwestiwn mawr, fe dybiwn i, yw i ba raddau y mae'r llywodraeth yn teimlo y byddai ildio i'r pwyllgor dethol yn gosod cynsail ar gyfer LCOs eraill- yn fwyaf enwedig yr LCO iaith. O safbwynt cul polisi tai'r llywodraeth does 'na fawr ddim i golli trwy ildio i ofynion y pwyllgor dethol. Os ydy ildio, ar y llaw arall, yn golygu bod y pwyllgor wedi llwyddo i ddyrchafu ei hun yn rhyw fath o ail siambr ym mhroses deddfwriaethol Cymru- fe fyddai hynny'n broblem ddifrifol.

Roedd y ffrae yma'n gwbwl anorfod. Fe wnaeth rhai ohonom broffwydo y byddai hyn yn digwydd yn ystod taith mesur llywodraeth Cymru trwy'r senedd. Ymateb rhai o'r rheiny sydd yn awr yng nghanol y ffrwgwd oedd ein cyhuddo o'r cabledd mwyaf erioed gan fynnu bod Peter Hain "wedi setlo'r cwestiwn cyfansoddiadol am genhedlaeth".

Dim ffiars o beryg. Mae hon yn mynd i droi'n frwnt. Eisoes mae un o aelodau'r pwyllgor dethol wedi gofyn i arbenigwyr Tŷ'r Cyffredin am ddiffiniad o hawliau a rôl Llywydd y Cynulliad er mwyn ceisio tanseilio ymdrechion Dafydd Elis Thomas i roi pwysau ar yr Ysgrifennydd Gwladol.

Ydy Cymru'n Un ar fin troi'n Cymru'n Ddarnau? Mae hynny'n dibynnu ar ba mor benstiff y mae'r aelodau seneddol a doniau diamheuol Paul Murphy i geisio cyfaddawd.. Wedi'r cyfan os oedd Mr Murphy yn gallu sicrhâi cytundeb rhwng unoliaethwyr a chenedlaetholwyr Gogledd Iwerddon siawns ei fod yn gallu cyflawni gwyrth debyg rhwng carfannau ei blaid ei hun.

Geiriau Olaf

Vaughan Roderick | 15:12, Dydd Gwener, 7 Tachwedd 2008

Sylwadau (2)

Dw i wedi gwrthsefyll y temtasiwn i sgwennu ynghylch etholiadau America'r wythnos hon. Dw i'n meddwl bod bron popeth sy 'na i ddweud wedi ei ddweud, ac wedi ei ddweud yn well, gan eraill.

Serch hynny mae gen i ambell i sylwad ac ambell i ddolen yn ymwneud a'r ymgyrch a rhai o'r canlyniadau.

Un peth oedd yn drawiadol iawn oedd yr ymgyrchu firaol, yn bennaf gan gefnogwyr y Democratiaid. Yn ystod yr ymgyrch fe wnes i dderbyn dwsinau o ddolenni i wahanol safleoedd a negeseuon fideo gan gyfeillion o America. Yr un oedd y mwyaf gwreiddiol.

Yr hyn sy'n ddiddorol oedd nad oedd y rhan fwyaf o'r negeseuon hyn ac unrhyw gysylltiad â'r ymgyrchoedd swyddogol. Yma, ym Mhrydain fe fyddai ymgyrchu o'r fath dros ymgeisydd penodol yn groes i'r gyfraith.

Mae 'na ddadl ddiddorol o'n blaenau. Ydy hi'n bosib i rwystro ymgyrchu annibynnol gan unigolion a grwpiau yn wyneb y chwyldro technolegol? Yr ateb, fe dybiwn i, yw nac ydy. Does dim modd gwahaniaethu rhwng sylwad ar flog ynglÅ·n ag ymgeisydd a fideo ar YouTube yn ei ganmol neu ei feirniadu. O dderbyn hynny mae'r cyfyngiadau ar wariant ymgeiswyr mewn etholiadau yn debyg o fod yn weddol ddiystyr yn y dyfodol.

Yr hyn sy'n rhyfedd yw bod etholiad oedd wedi ei nodweddu gan y defnydd o'r we hefyd wedi gweld dadeni'r dechneg ymgyrchu hynaf ohonyn nhw i gyd- y cyfarfod cyhoeddus. Heb os roedd dawn areithio Barack Obama. Mae'n anodd peidio rhyfeddu at ei ddulliau rhethregol wrth wylio rhywbeth fel .

Yn olaf trist oedd gweld bod wedi methu am yr eil dro i ennill sedd yn y gyngres. Fe fydd yn blest.


Podlediad

Vaughan Roderick | 14:52, Dydd Gwener, 7 Tachwedd 2008

Sylwadau (0)

Paul Davies AC yw'r gwestai ar y podlediad yr wythnos hon. Gwasgwch y botwm ar y dde.

Wyddoch Chi eto

Vaughan Roderick | 16:05, Dydd Mercher, 5 Tachwedd 2008

Sylwadau (1)


Ychwanegiad bach i'r post diwethaf.

Nid pawb sy'n cytuno a fy narlleniad i o argymhellion Wyn Roberts. Mae'n ymddangos ei bod hi'n bosib bod y Torïaid yn yr un twll a Llafur gyda rhai yn credu bod geiriau Syr Wyn yn golygu un peth ac eraill yn eu dehongli'n wahanol.

Mae un aelod cynulliad yn argyhoeddedig mae'r dehongliad cywir o'r adroddiad yw na fyddai ysgrifennydd gwladol Ceidwadol yn blocio refferendwm. Yn breifat mae'r blaid yn cadarnhau bod hi'n anodd dychmygu hynny'n digwydd ond mae'r geiriad braidd yn amwys.


Mae eraill yn y byd gwleidyddol yn anghytuno a'r dehongliad hwnnw gan gynnwys Elfyn Llwyd mewn datganiad i'r wasg. Mae 'na ddiffyg eglurdeb mewn gwirionedd- ac o gofio'r rhaniadau o fewn y blaid efallai bod hynny'n fwriadol!

Wyddoch Chi

Vaughan Roderick | 15:09, Dydd Mercher, 5 Tachwedd 2008

Sylwadau (1)

Rwy'n amau mai stori ddiharebol yw honna am gyngor yr hen Sir Ddinbych yn sefydlu pwyllgor i drafod lleihâi'r nifer o bwyllgorau. Mae'n haeddu bod yn wir.

Daeth stori gyffelyb i'r amlwg heddiw. Cyhoeddwyd arolwg Arglwydd Roberts o bolisi datganoli'r Ceidwadwyr. Mae Wyn wedi dod i'r casgliad mai'r hyn sydd angen yw... arolwg.

Mae 'na dipyn o grafu pen wedi bod ynglŷn ag amharodrwydd y Torïaid i gyhoeddi'r adroddiad. Oedd 'na beryg y byddai'n hollti'r blaid? A fyddai'r cynnwys yn tanseilio awdurdod Nick Bourne? Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw un wedi ystyried y posibilrwydd mai osgoi embaras oedd y rheswm am yr oedi!

Serch hynny mae'r adroddiad yn cynnwys un argymhelliad pwysig sef na ddylai Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol wrthod cais gan y cynulliad i gynnal refferendwm i sicrhâi pwerau deddfu llawn i wleidyddion y bae.

Hyd yma, mae Paul Murphy wedi methu rhoi addewid cyffelyb ac yn ôl Adam Price o Blaid Cymru gallai'r methiant hwnnw beryglu dyfodol y glymblaid yn y cynulliad.

Problem Mr Murphy yw ei fod wedi etifeddu tipyn o gawlach gwleidyddol yn sgil Mesur Llywodraeth Cymru (2006). Er bod Peter Hain wedi gwadu hynny droeon mae'r rhan fwyaf o wleidyddion o'r farn ei fod cyflwyno gwahanol esboniadau o effeithiau'r mesur yn San Steffan a Chaerdydd. Fe fyddai rhoi'r addewid y mae Adam Price yn dymuno ei gael yn hynod amhoblogaidd ymhlith aelodau seneddol Llafur.

Dyna hefyd sydd wrth wraidd yr anghytundeb sylfaenol rhwng Llywodraeth a Llywydd y Cynulliad a'r Pwyllgor Dethol Cymreig ar gynnwys yr LCO tai fforddiadwy. Ar hyn o bryd mae'n ymddangos bod Mr Murphy yn ffafrio dadleuon y Pwyllgor Dethol o blaid llunio'r gorchymyn yn y modd mwyaf cyfyng posib. Os ydy'r cynsail hwnnw yn cael ei osod yna mae gobeithion y cynulliad o sicrhâi gorchmynion mwy uchelgeisiol a dadleuol (fel yr LCO iaith) yn ddim byd mwy na breuddwyd gwrach.

Ystyriwch hynny o safbwynt Plaid Cymru. Os ydy'r Ysgrifennydd Gwladol mewn gwirionedd yn dweud y byddai'n ystyried defnyddio ei feto i rwystro refferendwm ac os ydy hi'n amhosib cyflawni addewid mor sylfaenol a mesur iaith swmpus pa gyfiawnhad posib fyddai 'na dros barhâi a'r glymblaid? Ar ben hynny pe bai'r Ceidwadwyr yn addo rhwydd hynt i refferendwm- ac arolygon yn awgrymu eu bod ar fin cipio grym yn San Steffan oni allai trefniant pleidiol arall yng Nghaerdydd bod yn fwy effeithiol?

Y gair olaf

Vaughan Roderick | 11:26, Dydd Mawrth, 4 Tachwedd 2008

Sylwadau (2)

Ai hon yw'r frawddeg agoriadol waethaf erioed i ymddangos mewn datganiad newyddion?

On the 169th anniversary of the Chartist uprising in Newport, local AM Mike German has called for a change in the way elections take place in Wales.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.