Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth

Archifau Rhagfyr 2008

Nostradamws

Vaughan Roderick | 18:40, Dydd Mercher, 31 Rhagfyr 2008

Sylwadau (1)

Dydw i erioed wedi bod yn ffan o Nos Galan. Beth yw pwynt y peth?

Mae heddiw yn 3/Muharrem/1430 yn y calendr Islamaidd, yn 4/Teveth/5769 yn yr un Iddewig ac yn Ragfyr y deunawfed yn rhannau o Sir Benfro. Hap a damwain o noson yw Nos Galan. Does dim syndod felly bod caneuon y plant mor ddifflach ac yn haeddu cymaint yn llai o losin na'u carolau Nadolig.

"Wel dyma'r flwyddyn wedi dod,
Y flwyddyn orau fu erioed,
O dyma hyfryd flwyddyn,
O dyma hyfryd flwyddyn,
O dyma hyfryd flwyddyn,
Y flwyddyn newydd dda"

Cerwch o 'ma'r diawled! Cewch chi ddim ceiniog arall tan Guto Ffowc!

Mi ydw i wastad mewn hwyliau drwg ar Nos Galan. Dyma'r rheswm mewn un gair - proffwydoliaethau. Am ryw reswm mae 'na draddodiad bod yn rhaid i bobol fel fi rhoi'n pennau ar y bloc a darogan yr hyn allai ddigwydd dros y deuddeg mis nesaf. Mae hynny'n gosod rhyw un mewn cyfyng gyngor.

Mae'n ddigon hawdd chwarae'n saff a llunio rhestr o bethau sy'n debyg o ddigwydd. Gallwn ddarogan y bydd helyntion Nick Bourne yn parhau ac y bydd Rhodri yn cadw at ei air ac ymddeol- ond beth yw pwynt hynny? Gallwn fod ychydig yn fwy mentrus ac awgrymu mai Jonathan Morgan a Carwyn Jones fydd yn arwain y Ceidwadwyr a Llafur erbyn diwedd 2009, neu'n fwy mentrus byth ac enwi Darren Miller ac Edwina Hart yn eu lle. Mae'r cyfan yn bosib- ond pwy yw fi i ddweud?

Hyd yn oed os oeddwn yn gwneud proffwydoliaethau mentrus a beiddgar a phe bai rheiny i gyd yn cael eu profi'n gywir- beth am y pethau nas broffwydwyd? Pwy fyddai wedi darogan ddeuddeg mis yn ôl y byddai Gordon Brown yn gwladoli rhan fwyaf o'n banciau? Dim Vince Cable hyd yn oed!

Ond traddodiad yw traddodiad ac yn erbyn fy ewyllys felly dyma llond dwrn o broffwydoliaethau.

Fe fydd Nick Bourne yn ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr erbyn y Gwanwyn. Fe fydd 'na etholiad i ddewis olynydd iddo fe gyda Darren Miller yn curo'r ffefryn Jonathan Morgan o drwch blewyn.

Fe fydd 'na anniddigrwydd cynyddol yn rhengoedd Plaid Cymru ynghylch y glymblaid a Llafur. Fe fydd arafwch yr LCO iaith a'r llusgo traed ynghylch refferendwm yn arwain at alwadau am ail-feddwl ynghylch y glymblaid ar ôl i Rhodri Morgan ymddeol.

Wrth i Aelodau Cynulliad Llafur boeni am golli grym fe fydd Huw Lewis yn methu a sicrhâi'r enwebiadau angenrheidiol i sefyll am yr arweinyddiaeth ac fe fydd Carwyn Jones yn cael ei goroni'n ddiwrthwynebiad.

O safbwynt y Democratiaid Rhyddfrydol... NA! Digon yw digon. Fel ddwedais ar y dechrau... beth yw'r pwynt?

Blwyddyn Newydd Dda!

Mae'r trên nesaf...

Vaughan Roderick | 14:16, Dydd Mawrth, 30 Rhagfyr 2008

Sylwadau (9)

Nid yn aml y mae rhyw un yn darllen erthyglau diddorol a goleuedig am Gymru yn y papurau Llundeinig. Braf oedd gweld yr gan George Monbiot yn y Guardian felly. Dadlau mae George dros roi ystyriaeth i gynllun gan y ffigwr unigryw hwnnw, y Tad Deiniol, i agor/ail-agor lein rheilffordd trwy'r canolbarth i gysylltu de a gogledd Cymru. Gwnâi ddim ail-adrodd y dadleuon gan fod yr erthygl yn un sy'n werth ei darllen yn ei chyfanrwydd.

Dyw'r awgrym ddim yn mor afrealistig ac mae'n ymddangos ar yr olwg gyntaf. Yn wahanol i'r adran drafnidiaeth yn Lloegr mae llywodraethau Cymru a'r Alban wedi mabwysiadu polisi o ail-agor rheilffyrdd i deithwyr lle mae 'na gyfiawnhad dros wneud hynny. Yng Nghymru ail-agorwyd y rheilffyrdd rhwng y Barri a Phen-y-bont a Chaerdydd a Glyn Ebwy ac mae'r gwasanaethau wedi profi'n hynod boblogaeth. Yn achos lein Glyn Ebwy (wnaeth ail agor yn gynharach eleni) mae nifer y teithwyr yn golygu bod y llywodraeth eisoes yn gorfod ystyried gwelliannau i gynyddu hyd a nifer y trenau.

Nawr, y fantais fawr gyda lein Glyn Ebwy a lein Bro Morgannwg oedd nad oedd y cledrau wedi eu codi gan fod y ddwy lein wedi parhau mewn defnydd ar gyfer gwasanaethau nwyddau ar ôl i'r gwasanaethau i deithwyr ddod i ben. Dyw hynny ddim yn wir am y rhan fwyaf o'r rheilffyrdd sy'n cael eu cynnwys yng nghynllun y Tad Deiniol a George Monbiot.

Serch hynny mae'n werth nodi un frawddeg fach oedd wedi ei chladdu mewn datganiad diweddar gan y dirprwy brif weinidog- sydd hefyd yn weinidog trafnidiaeth, wrth gwrs. Dyma oedd gan i ddweud yn y Senedd ar yr ail o Ragfyr;

"O ystyried llwyddiant ailagor y rheilffordd rhwng Glynebwy a Chaerdydd, byddaf yn mynd ati o ddifrif i archwilio opsiynau er mwyn ailagor rheilffyrdd segur i wasanaethau teithwyr newydd."

Does dim angen bod yn arbenigwr ar y rheilffyrdd i restri cynlluniau posib. Mae Huw Lewis eisoes yn ymgyrchu dros ail-agor y lein o Ystrad Mynach i Ddowlais tra bod cynllun Blaenau'r Cymoedd yn buddsoddi dros hanner miliwn o bunnau i ymestyn rheilffordd dreftadaeth a allai, yn y pendraw, gysylltu Blaenafon a Phont-y-pŵl. Yn y gogledd mae ail-gysylltu Caernarfon a Bangor ac ail agor lein Dyffryn Clwyd yn bosibiliadau. Mae'r ail o rheiny yn rhan o gynllun y Tad Deiniol.

Fe fyddai angen ffydd a gweledigaeth -ond wrth gwrs mae'r rheiny yn ddwy o rinweddau'r Tad Deiniol!

Od ydych chi am astudio'r hyn sy'n bosib mae'r "" (pdf) yn ddifyr.

Cyfrinach Gwilym

Vaughan Roderick | 20:24, Dydd Sadwrn, 27 Rhagfyr 2008

Sylwadau (4)

Mae fy hen fos, Gwilym Owen wedi ysgrifennu yn croniclo'r flwyddyn. Ar y diwedd mae'n gofyn;

"A pha air sy'n crynhoi fy mlwyddyn i? A'r ateb, "cyfrinach".

Yn ffodus fe fedrai datgelu'r gyfrinach. Y gair yw corddi. Blwyddyn newydd dda, bos!

Atebion y Cwis

Vaughan Roderick | 12:55, Dydd Gwener, 26 Rhagfyr 2008

Sylwadau (1)

Fe wnaethoch chi gael bron popeth!

Oliver Cromwell (o Huntingdon, wrth gwrs) oedd y cysylltiad. Dyma'r atebion;

1.Huntingdon Life Sciences yw unig gwsmer preifat Banc Lloegr
2.Oliver yn "Love Story"ddywedodd "Love is never having to say you're sorry"
3.John Major (cyn AS Huntingdon) oedd yn caru (Edwina) curry.
4.Cerflun o Cromwell y tu allan i Neuadd y Dref oedd rheswm Victoria dros foicotio Manceinion.
5.Yr ysgol yn Rhiwbeina yw Llanisien Fach. Teulu Cromwell oedd perchenogion y fferm o'r un enw.
6.Y twll d*n o senedd oedd y "rump parliament"
7.Y Cymro o (Pandy) Rhiw Saeson, Llanbrynmair oedd Iorwerth Peate sylfaenydd yr Amgueddfa Werin sy'n cynnwys maes brwydr Sain Ffagan.
8.Y tân yn Sir Gar oedd llosgi Castell Caerfyrddin.
9.Concwest yr Iwerddon oedd y gyflafan.
10."Queen Dick" oedd llys-enw Richard, mab Cromwell.

Chwech Peth Amhosib Cyn Brecwast

Vaughan Roderick | 19:06, Dydd Mercher, 24 Rhagfyr 2008

Sylwadau (4)

"Alice laughed: "There's no use trying," she said; "one can't believe impossible things."
"I daresay you haven't had much practice," said the Queen. "When I was younger, I always did it for half an hour a day. Why, sometimes I've believed as many as six impossible things before breakfast."
Alice in Wonderland.

Dyma fy hanner dwsin i.

1.Mae'r arfer o osod coeden yn y tÅ· adeg Nadolig a'i addurno a thlysau lliwgar yn unigryw i rannau o Sir Benfro.

2.Mae Alun Davies yn rhugl mewn naw o ieithoedd, yn eu plith Hopi, Sanscrit a'r Fanaweg.

3.Cyn ei ddyrchafu'n Dywysog roedd Llywelyn Fawr yn chwaraewr pêl-fasged proffesiynol.

4.Mae Elin Jones yn fam bedydd i Britney Spears.

5.Pe bai Cantre'r Gwaelod heb foddi fe fyddai'n rhan o etholaeth Ceredigion.

6.Fe fydd Nick Bourne yn arwain Ceidwadwyr Cymru yn etholiad 2011.

Dim ond un o rhain sy'n wir. Ond p'un?

Rialtwch y Dolig

Vaughan Roderick | 08:19, Dydd Mercher, 24 Rhagfyr 2008

Sylwadau (0)

Dyma sioe ffilmiau'r Nadolig. Mwynhewch.

Does gen i ddim clem pwy yw Dafydd ond dyw e ddim yn dioddef o ddiffyg hyder.Mae ei wyneb rhwng y penillion yn bictiwr! Nadolig Llawen iddo fe!

Fe fyddai 'dolig ddim yn 'dolig heb Aled...

... na'r ddau 'ma

"All I want for Christmas is my language LCO" meddai Rhuanedd Richards. Nadolig nesaf...efallai! Gobeithio y bydd 'na well lwc i Goofy.

Cwis

Vaughan Roderick | 19:23, Dydd Mawrth, 23 Rhagfyr 2008

Sylwadau (19)

Mae Dewi wedi gofyn am gwis. Pwy yw fi i wrthod? Fe fyddaf yn defnyddio synnwyr cyffredin wrth gyhoeddi sylwadau ac atebion er mwyn rhoi cyfle i bawb. Yr atebion llawn ar Ragfyr 26.

Mi ydych yn chwilio am ddeg o bobol neu bethau ac yna rhywbeth neu rhywun sy'n eu cysylltu.


1.Perchennog yr unig gyfri banc masnachol y mae Banc Lloegr yn darparu.
2.Yr un honnodd nad yw cariadon yn ymddiheuro.
3.Un arall oedd yn caru curry.
4.Y rheswm wnaeth y Frenhines Victoria boicotio Manceinion.
5.Ysgol yn Rhiwbeina
6.Twll d*n o senedd.
7.Y Cymro o Rhiw-Saeson.
8.Tân yn Sir Gar.
9.Cyflafan yn yr Iwerddon.
10."Dic" o frenhines

Does neb wedi cael 2 yn gywir eto. Enw'r ffilm a'r cymeriad plis.

Aros mae'r mynyddoedd bach...

Vaughan Roderick | 11:00, Dydd Mawrth, 23 Rhagfyr 2008

Sylwadau (4)

Mae gan bawb yng Nghymru eu milltir sgwâr a gan fod y Nadolig yn hela i ni feddwl am y pethau 'ma meddyliais y byddai'n braf sgwennu am fy un i. Fe fydd 'na ychydig o wleidyddiaeth ar ddiwedd y post- ond dim byd trwm!

Mae gwreiddiau fy nheulu ar Fynydd Maio. "Ble?" meddwch chi. Dydw i ddim yn eich beio chi! Dyw Mynydd Maio ddim yn fynydd mawr crand. Mae'n un o'r rhes o fynyddoedd sy'n gwahanu cymoedd Taf a Rhymni. Os ydych chi'n teithio ar hyd yr A470 Mynydd Caerffili (neu Fforest Ganol) yw'r mynydd cyntaf. Mynydd Maio yw'r ail un. Mynydd Eglwysilan yw'r trydydd.

Mae na ddau bentref bach ar y mynydd. Tawelfryn yw'r cyntaf. Rwy'n ei alw'n bentref ond stad cyngor bach yw'r lle mewn gwirionedd. Fe'i enwyd ar ôl fy hen dad-cu Tawelfryn Thomas. Groes Wen yw'r pentref arall. Does na ddim llawer yno chwaith- rhyw hanner cant o dai, tafarn o'r enw'r White Cross a chapel. Ond am gapel!

TÅ· cwrdd Groeswen oedd yr adeilad cyntaf i'w godi gan y Methodistiaid yng Nghymru. Ym Mis Ionawr 1742 cyflwynodd dyn o'r enw Thomas Evans gae o'r enw Waun Fach i Howell Harris er mwyn codi'r adeilad. Gofynnodd yntau i William Edwards, TÅ· Canol fod yn bensaer, yn adeiladydd ac yn weinidog ar yr achos! William Edwards "yr adeiladydd i ddau fyd" oedd arwr mawr Mynydd Maio. Pan oeddwn yn grwt rwy'n cofio bod llun ohono ar y wal yn NhÅ· Canol ac roedd Wncwl Ted ac Wncwl Elwyn yn adrodd hanesion amdano- yn enwedig ei ymdrechion diflino i bontio Afon Taf ym Mhontypridd gan godi, yn y diwedd, y bont y mae'r dref wedi ei henwi ar ei hol.

Cafodd Tŷ Canol ei ddymchwel yn ôl yn y chwedegau er bod fy nghefnder Richard wedi cadw'r enw ar gyfer ei ganolfan farchogaeth. Rhai degawdau'n ddiweddarach roedd hi'n ymddangos bod y capel yn wynebu'r un ffawd. Pan briododd fy chwaer yno yn 1994 y gred oedd mai honno fyddai'r briodas olaf er y bwriadwyd cadw'r fynwent yn agored am rai blynyddoedd ar gyfer y ffyddloniaid.

Yn ffodus mae 'na bobol dda yn y byd 'ma. Mae rhai o nhw'n mynd mewn i wleidyddiaeth ac felly yn gallu cyflawni pethau yn hytrach na dim ond sgwennu amdanyn nhw! Un o'r rheiny yw arweinydd bytholwyrdd Cyngor Caerffili, Lindsay Whittle. Gwell i mi gyfaddef yn fan hyn mai Lindsay yw un o'm cyfeillion hynaf. Rwy'n cofio gwylio canlyniadau etholiad Chwefror 1974 yn ei gwmni- mewn "lock-in" yn y White Cross fel mae'n digwydd. Mae gen i ragfarn o'i blaid!

Fel mae'n digwydd mae Groeswen yn ran o ward Lindsay. Ar gais y Gymdeithas Hanes Lleol fe weithiodd yn ddiflino i baratoi cynlluniau a sicrhâi grantiau i ddiogelu'r capel. Mae hynny wedi costi cannoedd o floedd o bunnau oherwydd yr angen i ddefnyddio deunydd a dulliau adeiladu traddodiadol. Mae 'na waith ar ôl i wneud ar y fynwent (lle mae Ieuan Gwynedd, ymhlith eraill o'n mawrion wedi ei gladdu) ond fedrai ddim dweud wrthoch chi pa mor bert y mae'r capel yn edrych a pha mor braf fydd hi wrth i blant ysgol y cylch ddechrau ei ddefnyddio i ddysgu am hanes eu hardal.

Dyma'r darn bach o wleidyddiaeth. Rydym wedi bod yn sôn llawer am dreuliau a thrachwant gwleidyddion yn ddiweddar. Os ydyn nhw'n cam bihafio mae'n nhw'n haeddu popeth mae nhw'n ei gael. Ond dyma i chi gyfaddefiad arall. Ar y cyfan, dw i'n edmygu'n haelodau cynulliad a seneddol a'n cynghorwyr. Mae'r mwyafrif llethol ohonyn nhw'n bobol anrhydeddus sy'n gweithio'n rhyfeddol o galed dros ei hetholwyr.

Nadolig Llawen iddyn nhw.

Wyt ti'n Cofio...

Vaughan Roderick | 10:15, Dydd Sul, 21 Rhagfyr 2008

Sylwadau (7)

Roeddwn wrth fy modd yn darllen y ynghylch agor Neuadd Beasley yn Llangennech. Mewn sawl ystyr Eileen Beasley oedd Rosa Parkes y mudiad iaith yng Nghymru- y fenyw gyffredin -ond anghyffredin- wnaeth ddweud "digon yw digon" a thrwy hynny symbylu mudiad cyfan.

Rhai blynyddoedd wedi helyntion y dreth roedd Mrs Beasley yn un o'n athrawon yn Ysgol Rhydfelen a dydw i ddim yn rhyfeddu bod Cyngor Gwledig Llanelli wedi gorfod ildio iddi. Os oedd Mrs Beasley yn penderfynu bod hi am gael rywbeth fe fyddai'n ei gael yn y diwedd- boed hynny'n bil treth Cymraeg neu'n ddarn o waith cartref da gan ddisgybl diog (fi).

Mae'n anodd gwerthfawrogi erbyn hyn pa mor arloesol a blaengar oedd gwaith athrawon Maes Garmon a Rhydfelen- y ddwy ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf. Heb unrhyw adnoddau dysgu pwrpasol ac yn wyneb cryn wrthwynebiad fe ddefnyddiodd y criw bach yma pob owns o'u hegni a'u gallu i wrthbrofi'r gred gyffredinol nad oedd y Gymraeg yn gyfrwng addas ar gyfer addysg uwchradd fodern.

Mae Mrs Beasley yn haeddu ei neuadd... a llawer mwy.

Cyweiriad; Glan Clwyd nid Maes Garmon (darllenwch y sylwadau), Byswn wedi derbyn cerydd gan Mrs Beasley, slap gan Tom Vale, dagrau gan Ruth Evans a phregeth gan Gwilym Humphries am gamgymeriad mor elfennol!

Yn fy fan fach i...

Vaughan Roderick | 09:25, Dydd Sul, 21 Rhagfyr 2008

Sylwadau (0)

Mae Gordon Brown, mae'n debyg, yn gyndyn i roi cymorth ariannol i "Jaguar-Land Rover" y "cwmni ceir Prydeinig olaf". Mae'n anodd deall pam. Wedi'r cyfan mae hanes yn profi bod buddsoddi arian cyhoeddus yn y diwydiant hwn yn talu ar ei ganfed.

Syniad Bach

Vaughan Roderick | 11:33, Dydd Sadwrn, 20 Rhagfyr 2008

Sylwadau (4)

Un o'r arfau y mae llywodraeth y cynulliad yn defnyddio i geisio lleddfu effeithiau'r argyfwng economaidd yw cynyddu'r nifer o dai fforddiadwy sy'n cael eu codi. Mae'n syniad da. Mae'n creu gwaith i adeiladwyr ac yn ymateb i angen go iawn. Ond mae 'na rhywbeth arall y gallai'r Llywodraeth, neu yn hytrach y Llywodraeth a'r Cynghorau ystyried fyddai'n gwneud gwahaniaeth i'r sefyllfa dai yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig.

Am y tro cyntaf ers degawdau mae na dai ar gael am brisiau rhesymol yn yr union ardaloedd hynny lle roedd hi bron yn amhosib i bobol leol fforddio prynu tan yn ddiweddar. Am wn i mae rhain yn dai neu'n dai haf y mae'r perchnogion yn gorfod eu gwerthu- am unrhyw bris bron.

Mae cipolwg sydyn ar wefannau y gwerthwyr tai yn ddadlennol. Yng Ngogledd Penfro, er enghraifft mae 'na ddigonedd o fythynnod a thai dechau ar werth am rhwng £100,000 a £150,000. Mae'r un peth yn wir ym Mhen Llŷn. Mewn amgylchiadau arferol fe fyddai'r tai yma o fewn cyrraedd cyplau ifanc ar gyflogau cymharol isel. Y broblem yw, wrth gwrs. nad yw'r amgylchiadau'n arferol ac mae hi bron yn amhosib sicrhâi morgais.

Nawr dyma i chi ffaith fach ddiddorol. Tan y saithdegau roedd hi'n gwbwl arferol i awdurdodau lleol gynnig morgeisi. Diflannodd yr arfer yn wyneb y cystadlu ffyrnig rhwng y Banciau a'r Cymdeithasau Adeiladu am fusnes ond mae'r pŵer cyfreithiol yn bodoli o hyd. Hynny yw fe fyddai'n bosib i Gyngor Sir Benfro, dyweder, fenthyg arian (ac mae 'na arian ar gael i gynghorau ei fenthyg) ac yna benthyg yr arian yna ymlaen i deuluoedd lleol brynu cartrefi. Mae ambell i gyngor yn Lloegr eisoes yn ystyried y syniad.

Jyst dweud.

Rialtwch

Vaughan Roderick | 21:50, Dydd Gwener, 19 Rhagfyr 2008

Sylwadau (2)

Hwre! Mae'n fore Sadwrn unwaith yn rhagor ac mae'n bryd i ni fwynhau'n hun yn y fflics!

Fe wnâi gadw'r teitl "Rialtwch" ar gyfer y gyfres fach yma...ond dychmygwch y tro hwn eich bod yn mynychu nid rhyw Rialto crand ond "fleapit" bach diarffordd, rhywle fel y sinema yn Nhaibach, Port Talbot. Y "cachfa" oedd llysenw'r lle ar lafar gwlad- a nid tynnu coes ynghylch enw'r pentref oedd yr unig reswm am hynny!

Gan ein bod ni yn y de diwydiannol beth am wylio cyfres o ffilmiau o'r rhan honno o'r byd gan gychwyn gyda llewyrch Aberpennar ar drothwy streic fawr 1926

Mae'n anodd credu erbyn hyn pa mor bwysig oedd y Blaid Gomiwnyddol Gymreig ar un adeg. Hawdd yw diawlio'r Comiwnyddion- neu rhamantu yn eu cylch. Mae gen i atgofion personol hoffus o Annie Powell, Dai Francis a Bert Pierce.

Dw i'n teimlo cymysgedd o ryfeddod a mudandod ynghylch ystyfnigrwydd/ teyrngarwch/ dallineb athronyddol Robert Griffiths, Gwyn Griffiths, Gareth Miles a'r gweddill sy'n glynu at yr hen ffydd. Ond fe ddwedai hyn, mae diawlio Hitler a Stalin fel eu gilydd fel llofruddion gwaedlyd yn un peth. At bawb ei haeddiant. Ond roedd, neu mae, Marcsiaeth yn athroniaeth go iawn wedi adeiladu ar seiliau meddylgar cadarn. Ffug athroniaeth, esgus i ladd, oedd Naziaeth.

Dyma ffilm fach rhyfedd yn talu teyrnged i gochion Cymru.


Pwy ar y ddaear fyddai'n comisiynu ffilm i ddathlu pen-blwydd adrefnu llywodraeth leol yng Nghymru? Rhondda Cynon Taf wrth gwrs- ac mae'n hyfryd!

Ac yn olaf David Alexander. Mae na bobol sy'n dal i ddwli...

Arian Parod

Vaughan Roderick | 13:54, Dydd Gwener, 19 Rhagfyr 2008

Sylwadau (0)

Mae'n amser i fi ddal lan ar bethau. Beth sy wedi bod yn digwydd yn ystod yr oriau diwethaf tybed? Beth am teipio "Nick Bourne" i fewn i Google a chwilio'r newyddion? Beth yw'r i ymddangos?

"When Nick Bourne launched his Cash Generator Weymouth franchise, he could not have imagined that in less than a year his business would be so successful that it would enable him to buy his dream car, an Aston Martin DB9"

Oce, ond oedd 'na ddigon ar ôl ar gyfer iPod a "trouser press"?

Newyddion Da o Lawenydd Mawr

Vaughan Roderick | 10:08, Dydd Gwener, 19 Rhagfyr 2008

Sylwadau (0)

Gyda'r holl sôn am Nick Bourne rwy'n teimlo fy mod wedi bod yn ymddwyn fel y Grinch wnaeth ddwyn y Nadolig dros y dyddiau diwethaf. Beth am i ni ddathlu ychydig o newyddion da am unwaith.

Dydw i ddim wedi cyfri ai Nick Bourne neu Abergeirw sydd wedi ysgogi'r nifer fwyaf o eiriau ar y blog y mis hwn. Mae'n reit agos, fe dybiwn i. Heddiw mae ! Betia i byddan nhw'n gofyn am band-lydan nesaf! Nadolig Llawen Abergeirw!

Mae'r Times wedi cyhoeddi rhestr o'r . Ym yr hanner cant mae 'na dri sy'n gynnyrch system ieuenctid Dinas Caerdydd sef Aaron Ramsey, Chris Gunther a Joe Ledley. Mae'n argoeli'n dda iawn ar gyfer dyfodol y tîm cenedlaethol.

Mae'n debyg bod y o Borthmadog i Ryd Ddu wedi ei chwblhâi. Fel dywedodd y digrifwr Tudor Owen wrtha i'r dydd o'r blaen "Fe fydd hi'n bosib mynd ar drên o Gaernarfon i Vladivostok ...ond cyrraedd Port fydd hanner y daith!"

Bournewatch (6)

Vaughan Roderick | 21:16, Dydd Iau, 18 Rhagfyr 2008

Sylwadau (7)

Dyma'r datganiad diweddaraf gan Nick Bourne

"Although the purchase of these iPods was within the rules of the Assembly and authorised by the Fees Office, I recognise the perception that this expenditure was inappropriate. Alun Cairns and I have decided therefore to reimburse the National Assembly for these items in addition to the charitable donations we have made. We apologise to the people of Wales and look forward to the results of Sir Roger Jones' inquiry into Assembly Members allowances"

Clyfar... ond ar ei hol hi braidd.

Mae'r symudiad yma gan Nick yn un craff am nifer o resymau.

Yn gyntaf, mae'n ceisio sicrhâi mai cwestiwn cul ynghylch iPod sy'n cael ei drafod ac felly y bydd "mea cwlpa" bach ynghylch hynny yn ddigon i ddarbwyllo pobol i anghofio am y bathrwm, y "trouser press" ac eraill o'r treuliau y mae wedi eu hawlio. Yn ail (ac eto trwy ganolbwyntio ar yr iPod) mae'n ceisio clymu ei gyd-aelod Alun Cairns i fewn i'r stori. Mae hynny'n rybudd efallai i Geidwadwyr eraill nad yw Nick yn fodlon cerdded y planc heb fynd ac eraill gyda fe.

Nid yn aml y mae dyn yn dyfynnu Jeremy Thorpe y dyddiau 'ma ond am ryw reswm mae ei ymateb i benderfyniad Supermac i roi'r sac i hanner ei gabinet yn 1962 yn teimlo'n addas "Greater love than this hath no man, that he lay down his friends for his life"

A fydd y datganiad diweddaraf yma'n gweithio?

Wel yn gyntaf mae'n rhaid ystyried pa mor gyflym y mae sefyllfa Nick yn dirywio. Diwrnod yn unig sy 'na ers iddo fe (ac Alun) gredu y byddai cyfraniadau elusennol yn ddigon i dawelu'r dyfroedd.

Mae ail symudiad o fewn pedair awr ar hugain yn awgrymu un o ddau beth. Naill ai mae pethau'n troi'n banig llwyr yn swyddfa arweinydd yr wrthblaid neu mae 'na ymdrech fwriadol i "gyfri'r cloc i lawr" tan y Nadolig. Os mai dyna yw'r bwriad mae'n debyg o lwyddo ond fe fyddai dychmygu bod hynny'n gyfystyr a rhoi terfyn ar y stori yn freuddwyd gwrach. Fel mae'n nhw'n dweud "dewch yn ôl aton ni wedi'r toriad..."

Bournewatch (5)

Vaughan Roderick | 18:44, Dydd Mercher, 17 Rhagfyr 2008

Sylwadau (1)

Diawch mae'r ffliw 'ma'n wael. Dydw i ddim wedi gallu bwyta ers tridiau. Diolch i Ö÷²¥´óÐã1 am godi fy ngalon trwy ddangos ferswin newydd o "Survivors"!

O leiaf dw i wedi cyrraedd y gwaith heddiw. Chwi ffyddloniaid CF99, a fywswn i'n eich gadael chi lawr?

Ble felly mae pethau'n sefyll da'r Ceidwadwyr?

Wel fe fydd penderfyniad y Western Mail i glustnodi tudalennau un i dri ar gyfer galwad ar Nick Bourne i sefyll lawr yn glatsien drom iddo. Dydw i ddim yn gwybod pwy wnaeth ddweud wrth Glyn Davies wythnos yn ôl y byddai'r stori hon yn "next week's chip wrapper" ond gallan nhw ddim bod yn fwy anghywir. Cofiwch chi, os nad ydych yn gwybod ei fod wedi bod yn anghyfreithlon i lapio chips mewn papur newydd ers rhai degawdau bellach mi ydych chi allan o gysylltiad braidd, yn ddigon all o gysylltiad efallai i gredu bod hi'n gymwys i hawlio treuliau am iPod a trouser press.

Nawr mae 'na rai sydd yn dweud bod yr helynt yma i gyd yn gwrw bach a bod gwleidyddion a newyddiadurwyr yn chwarae gemau plant bach yn fan hyn.

Coeliwch neu beidio dydw i ddim yn anghytuno. Ond dyma fel y mae gyrfaoedd gwleidyddol yn dod i ben wrth i rywbeth bach wthio aelodau plaid i weithredu yn erbyn ei harweinydd. Does 'na ddim rheswm i Nick flocio cais Jonathan Morgan am gyfarfod grŵp- ac eithrio'r ffaith ei fod yn synhwyro beth fyddai canlyniad y cyfarfod hwnnw.

Bournewatch (4)

Vaughan Roderick | 13:09, Dydd Mawrth, 16 Rhagfyr 2008

Sylwadau (2)

Rwy'n dioddef o'r ffliw- felly mae'r Bournewatch yn digwydd o bell heddiw felly.

Yn ffodus mae Betsan yn cadw llygad ar bethau! Mae , a hefyd yn gwneud cyfraniadau gwerthfawr.

Mae un sylw gan Bethan yn enwedig o berthnasol.

"I used my discretion, and more or less thought 'What would the public be happy with AMs claiming, within reason?"

Yn union. Fel mae un sylw ar flog Glyn yn nodi sut ar y ddaear yr oedd Nick Bourne a Brian Gibbons, ill dau yn ennill dros £90,000 y flwyddyn, yn credu bod hi'n iawn i hawlio pump punt am fylbiau golau (Nick) neu £16 ar gyfer torch o flodau ar Sul y Cofio (Brian)?

I fod yn deg a'n gwleidyddion mae 'na un peth sy'n werth cofio yn fan hyn. Fe rhyddhawyd y manylion hyn i gyd o ganlyniad i gais rhyddid gwybodaeth gan y Ö÷²¥´óÐã a'r Western Mail. Oherwydd hynny mae rhai ohonynt yn dyddio yn ôl i 2006/2007. Mae cyfeirio at yr hinsawdd economaidd bresennol wrth feirniadu aelodau cynulliad braidd yn annheg felly. Efallai bod na (ychydig) fwy o gyfiawnhad dros hawlio am I-pod ddwy flynedd yn ôl na sy 'na nawr.

Mae hynny'n dod a ni yn ôl at Nick Bourne a sylw craff arall, gan Peter Black y tro hwn;

"There is no doubt that the Tories seem to have come off worse from this latest publication of expenses. This is partly because they have made some unusual claims but also because of the dissatisfaction within the Conservative Group about Nick Bourne's leadership and the fact that some are using his expenses as a stick to beat him with."

Gwir pob gair. Yr hyn sy'n bwysig i gofio yw bod Nick yn gwybod yn iawn, neu o leiaf yn amau, pa rai ar ei fainc flaen ac o fewn y blaid sy'n briffio yn ei erbyn. Mae ei fethiant i gymryd camau i'w disgyblu yn brawf o wendid difrifol ei sefyllfa. A fydd unrhyw beth yn digwydd cyn y Nadolig? 60:40 yn erbyn dybiwn i.

Boncyrs

Vaughan Roderick | 23:26, Dydd Sul, 14 Rhagfyr 2008

Sylwadau (2)

Ife jyst fi sy'n eistedd 'ma a'n ngheg yn agored? Wrth bori safloedd newyddion des i ar draw rhan o wefan y Times sy'n rhoi cyngor i bobol sy'n credu eu bod yn cael eu trin yn annheg gan gwmnïau ariannol. .

"I have recently been advised by two of my three credit card companies that my APR is to be increased - MINT up to approx 24 per cent and now Alliance & Leicester to 34 per cent.
Both cards are utilising up to close to their maximum at around £10,000 and I make monthly payments of about £300 on each. I have been about five days late in making a payment to MINT in April but otherwise normally pay be the due date.
I have one other credit card with Morgan Stanley with a lower balance of £4000 and make similar payments.
In addition I have two personal loans with Egg initially at £18,000 each started nearly 4 years ago and with a further three years to run - this has never been more than a few days behind on payments, and never in the last 12 months as far as I am aware.
I have one other personal loan with Northern Rock taken out a year ago for £20,000 running for 10 years and paid on time as above.
My husband and I were looking for a mortgage last year and so made sure all was well with our credit score. Mine was around 970 after some discrepancies had been sorted out and my husband's was over 700 again with some further sorting out which needed to be carried out.
I checked my credit rating this week and felt extremely anxious when I saw it had dropped to 312 - there seems nothing obvious on the report, other than obviously quite a large amount of credit but this is not significantly different from last year and I have continued to make payments on time."

"Nothing obvious...other than quite a large amount of credit". Beth! £24,000 o ddyled ar gerdiau credid. £18,000 o ddyled i Egg ar ben hynny heb son am £20,000 o ddyled i Northern Rock ac mae'r fenyw yma'n ffaelu deall bod hi'n cael trafferth i gael morgais?

Sori, mae'r byd yma yn wallgof mae'n hen bryd i ni ffarwelio a fe.

Bournewatch (3)

Vaughan Roderick | 19:22, Dydd Sul, 14 Rhagfyr 2008

Sylwadau (0)

Mi ydw i wedi bod yn Llanelli heddiw yn gweithio fel hobl i Tinopolis (gyda chaniatad y Ö÷²¥´óÐã dw i'n rhuthro i ddweud). Rwyf allan o gysylltiad braidd a'r datblygiadau diweddaraf yn helyntion Nick Bourne.

Serch hynny mae'r ffaith bod ei dreuliau bellach yn destun trafodaeth (anffafriol ar y cyfan) ar wefan yn newyddion drwg iddo. Mae'r wefan honno yn un hanner-swyddogol sy'n cael ei darllen yn eang ac yn cael ei defnyddio gan y blaid i fesur y tymheredd ymhlith ei chefnogwyr mwyaf selog. Yn llai pwysig efallai mae'r stori yn dechrau gael sylw ar flogs a gwefannau Llundeinig eraill.

Rydym wedi bod yn trafod problemau Nick yn bennaf o bersbectif Caerdydd gan ofyn a fydd na wrthryfel yn ei erbyn o fewn y grŵp Ceidwadol- ac os oes na, pryd mae'n debyg o ddigwydd. Ond mae 'na ffordd arall y gallai Nick golli'r arweinyddiaeth- trwy ymyrraeth y blaid yn Llundain trwy law David Cameron neu Cheryl Gillan.

Mae Nick yn ffodus bod aelodau'r cynulliad eisoes ar eu gwyliau. Mae'n fater o anlwc iddo fe bod 'na wythnos arall i fynd cyn dechrau gwyliau'r aelodau seneddol.

Rialtwch

Vaughan Roderick | 10:59, Dydd Sadwrn, 13 Rhagfyr 2008

Sylwadau (1)

Clywais rhyw dro bod y gair "rialtwch" wedi tarddu o'r gair "Rialto" oedd yn enw cyffredin ar sinemâu yng Nghymru yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Roedd yn rhaid dod o hyd i air newydd am "sbri" ar ôl dwy ganrif o sobrwydd anghydffurfiol! Does gen i ddim clem os ydy'r stori yn wir ond mi ydw i'n gobeithio ei bod hi!

Yn nhraddodiad y sinemâu dyma'r "Saturday Morning Matinee"

Yn gyntaf gwers o Awstralia ar sut mae creu hysbyseb negyddol

Dyma enghraifft o'r hyn sy'n cael ei ddynwared

A dyma esiampl o'r Unol Daleithiau

Ond mae hysbysebion negyddol yn gallu bod yn glyfar- fel yr yma o Seland Newydd

Ac i'r rheiny sy'n cofio boreau Sadwrn yn y fflics dyma ffilm i'ch atgoffa o gynnyrch y "Children's Film Foundation"

Tristwch

Vaughan Roderick | 01:02, Dydd Sadwrn, 13 Rhagfyr 2008

Sylwadau (2)

Heno roedd bois HTV Cymru yn cynnal parti yn y bae. Nid parti Nadolig oedd hwn ond parti i nodi/dathlu/galaru diwedd uned wleidyddol Teledu Harlech. Rwy'n osgoi defnyddio'r llythrennau I,T, a V yn fwriadol.

Mae'r unigolion dw i'n siarad amdanyn nhw yn iawn o safbwynt eu dyfodol...ond heno mae'n prif gystadleuwyr yn nodi diwedd cyfnod.

Dydw i ddim yn beirniadu'r bois am eiliad ond roedd 'na stori fawr heddiw ac fe wnaethon nhw ddewis mynd i'r pyb. Byswn i wedi gwneud union yr un peth yn yr un amgylchiadau!

Fe fydd yr un neu ddau sydd ar ôl yn gwneud eu gorau ond mae'r golled yn enfawr.

Mae'n golygu bod newyddiaduriaeth yn y Bae bellach yn golygu y Ö÷²¥´óÐã a chasgliad o unigolion a freelancers yn gweithio i *TV, y "Western Mail", y "Daily Post", Golwg a'r PA.

Ffarwel felly i Matt Dix, Nick Speed, Nick Powell a phawb arall fu'n newyddiadura'n ddiwyd ar yr "ochr arall". Pob lwc iddyn nhw a diolch i chi TWW, Teledu Cymru, Harlech a HTV am eich gwasnaeth i Gymru.

O leiaf fe fydd Gareth Hughes yma o hyd.

Bournewatch (2)

Vaughan Roderick | 15:10, Dydd Gwener, 12 Rhagfyr 2008

Sylwadau (3)

Fe fedrai nawr fod yn fwy plaen am stori y mae Betsan a finnau wedi bod yn lled awgrymu drwy'r wythnos.

Mae'n ymddangos bod Nick Bourne wedi colli ymddiriedaeth y grŵp Ceidwadol. O'r hyn dw i'n ei ddeall mae o leiaf saith o'r deuddeg aelod am weld newid arweinydd. Yr hyn sy'n eu gwahanu yw pryd y dylai Nick fynd a sut mae ei orfodi i wneud hynny. Yn fras mae cefnogwyr Jonathan Morgan a Darren Miller wedi bod yn chware gem dactegol i geisio sicrhâi mai eu dyn nhw oedd yn olynu Nick.

Mae 'na sibrydion bod Jonathan a Darren yn agos at gytuno mai Jonathan ddylai arwain y grŵp gyda Darren yn ddirprwy iddo. Mae 'na son hefyd y gallai'r ddau arwain dirprwyaeth i ddweud wrth Nick bod hi'n bryd iddo fynd.

Fe ddylwn i esbonio mai ymddygiad Nick Bourne yn ystod y ffrwgwd ynghylch y "dodgy dossier" ac ers hynny sydd wrth wraidd hyn- nid y treuliau y mae ef wedi ei hawlio. Byth ers helynt y ddogfen deallaf fod rhai o aelodau amlyca'r grŵp a rhai o'i swyddogion mwyaf profiadol wedi eu cau allan o gyfarfodydd strategaeth yr arweinydd. Yn ôl un ffynhonnell mae Nick yn "byw mewn byncer gyda Nick Ramsay a llond dwrn o ymchwilwyr dibrofiad".

Yn fan hyn y mae'r costau'n dod mewn i bethau. Os ydy ymateb y cyhoedd i'r treuliau y mae Nick wedi eu hawlio yn un ffyrnig a niweidiol mae'n debyg y bydd 'na symudiad yn ei erbyn o fewn dyddiau. Os ydy'r ffwdan yn profi i fod yn dipyn o storom Awst fe fydd Nick yn goroesi tan y flwyddyn newydd- ond os nad yw'r sefyllfa yn newid, dim ond tan hynny.

Podlediad

Vaughan Roderick | 14:57, Dydd Gwener, 12 Rhagfyr 2008

Sylwadau (0)

Ond dyw e'n beth da bod gan Nick Bourne ac Alun Cairns I-pods! Mae modd iddyn nhw wrando ar bodlediad ola'r flwyddyn trwy wasgu'r botwm ar y dde. Aled ap Dafydd yw'r gwestai.

Bogin 'ec

Vaughan Roderick | 12:57, Dydd Gwener, 12 Rhagfyr 2008

Sylwadau (1)

Dw i'n rheged allan o eiriau.

Fe wariodd Eleanor Burnham £600 (o'ch arian chi, cofiwch) ar dynnu lluniau i'w hadroddiad blynyddol. Mae Eleanor hefyd wedi hawlio £2,350 am wely a matras.

Ym Mis Ebrill eleni gwariodd Janet Ryder £88.13 ar baentio arwydd ar ffenest ei swyddfa. Wythnos yn ddiweddarach gwariodd £223 o bunnau i gael gwared ohoni. (Diweddariad; Mae Plaid Cymru yn esbonio bod trefn y biliau yn wahanol i drefn y gwaith Fe wariwyd £223 u gael gwared â hen arwydd ac yna £88.13 i baentio un newydd- ond fe dderbyniwyd yr ail fil yn gyntaf.)

Yum Yum

Vaughan Roderick | 11:56, Dydd Gwener, 12 Rhagfyr 2008

Sylwadau (1)

Mae hon yn un ddifyr. Mae Angela Burns aelod Gorllewin Caerfyrddin wedi gwneud cyfres o daliadau gwerth rhai miloedd o bunnau i "Hart Media Services" am "press work". Oes a wnelo "Hart Media Services" unrhywbeth a Simon Hart, darpar ymgeisydd y Ceidwadwyr yn yr un etholaeth, tybed? (Diweddariad mae Paul Davies hefyd wedi defnyddio gwgwasanaethau "Hart Media Services".)

Pam bod angen dau gamera fideo ar Leighton Andrews? Rhondda.TV mae'n rhaid.*

Sut wnaeth Jocelyn Davies lwyddo i wario £4,549.25 ar fwyd rhwng Ebrill 2006 ac Ionawr 2007? Dwt fach yw hi, wedi'r cyfan! Gwnaeth Rhodri Glyn Thomas a John Marek wario union yr un faint ar fwyd sef £3,404 yr un. Oedden nhw'n bwyta da'i gilydd, tybed? Yn fwy rhyfeddol hawliodd Carl Sargeant yr un ddimai goch am fwyd!

* Roeddwn yn iawn. Dyma mae Leighton yn ei ddweud.

"Fe brynwyd y camerâu i gynorthwyo'r sianel teledu ar-lein Rhondda.TV, sydd yn hyrwyddo fy ngwaith yn yr etholaeth ac yn cynnig platform i sefydliadau ac elusennau lleol. Mi ddefnyddiwyd yn eang, er enghraifft, yn recordio clipiau o ymgyrch y gweithwyr Burberry- yn ffilmio ei phrotestiadau, ac yn ffilmio cyfweliadau gyda phobl enwog oedd yn cefnogi nhw fel Max Boyce, Boyd Clack a Stuart Cable - sydd ddal ar gael ar wefan archif yr ymgyrch www.keepburberrybritish.typepad.com." Digon teg felly.


Yr Offis

Vaughan Roderick | 11:29, Dydd Gwener, 12 Rhagfyr 2008

Sylwadau (0)


Unwaith yn rhagor mae'r cofnod treuliau'n tynnu sylw at yr arfer o aelodau'n rhenti swyddfeydd mewn adeiladau sy'n eiddo i'w pleidiau. Mae Nick Bourne yn rhenti swyddfa gan Geidwadwyr Brycheiniog a Maesyfed -ond nid fe yw'r unig un. Mae Jonathan Morgan a Bethan Jenkins, er enghraifft, yn gwneud rhywbeth tebyg. Dyw hynny ddim yn groes i'r rheolau os ydy'r rhent yn un sy'n fasnachol deg.

Serch hynny dw i'n anesmwyth iawn ynghylch yr arfer. Os nad oes 'na forgais ar yr adeilad mae'r rhent yn ffynhonnell ariannol i'r blaid gan lenwi ei choffrau ac arian cyhoeddus i'w wario ar ymgyrchu. Os oes 'na forgais mae'r rhent yn rhoi cymorth i blaid brynu adeilad a allai fod yn ased gwerthfawr yn y dyfodol.

Mae'r arfer hefyd yn ei gwneud yn amhosib bron i blismona'r defnydd a wneir o gelfi ac offer swyddfa y mae'r aelod wedi hawlio amdanynt. Hynny yw, ydych chi'n fodlon credu bod 'na ddau beiriant llungopïo, dyweder, yn y swyddfeydd hyn- un y mae'r aelod wedi ei brynu allan o'i lwfans ac un arall i'w defnyddio gan ymgeiswyr cyngor a seneddol?

Na finnau chwaith.

Mae Nadolig wedi dod yn gynnar i newyddiadurwyr. Ymunwch yn yr hwyl yn.

Bournewatch (1)

Vaughan Roderick | 10:59, Dydd Gwener, 12 Rhagfyr 2008

Sylwadau (0)


Tic...toc...tic...toc...

Dyma nhw. Treuliau'r aelodau ar gyfer 2006-2007. Nawr mae hyn braidd yn gymhleth. Roeddwn eisoes wedi gweld y ffigyrau ar gyfer 2007-2008. Nawr oherwydd cais rhyddid gwybodaeth gan y Ö÷²¥´óÐã a'r Western Mail yr ydym yn gweld ffigyrau'r flwyddyn gynt.

Ar bwy edrychwn ni gyntaf. Beth am Laura Jones? Etholwyd Laura yn 2003. Yn Ionawr 2007 hawliodd £1109 am set deledu i'w fflat. Collodd ei sedd ym Mis Mai. Ble mae'r bocs tybed?

Nawr y prif gwrs. Nick Bourne.

Ipod- £229. Pam? I beth?, Trouser Press (!!!) £119.99, Camera Digidol £306.95

Mae 'na 'fwy. Yn Rhagfyr 2006 hawliodd Nick £3,573 am "essential work to bathroom". Yn Ebrill 2007 hawliodd £1,430 am yr un peth. Nid hon oedd y fathrwm lle syrthiodd a chleisio ei lygad gyda llaw.

Dros y ddwy flynedd gwariodd Nick 1983.94 ar lyfrau cyfeiriadol. Mae wedi bod yn talu £150 y tro i Geidwadwyr Preseli Penfro am heirio ystafell i gynnal cymorthfeydd. Beth sy'n bod ar neuadd bentref neu ysgol tybed?

Mae angen pwysleisio yn fan hyn bod y taliadau yma i gyd wedi eu cymeradwyo gan swyddogion y Cynulliad. Dyw hynny ddim yn golygu y bydd y cyhoedd yr un mor hael.

Y pwynt gwleidyddol a'r rheswm am ganolbwyntio ar Nick Bourne yw hyn. Ers dyddiau mae Ceidwadwyr blaenllaw wedi bod yn sibrwd yn ein clustiau yn ein cynghori i graffu'n ofalus ar dreuliau eu harweinydd. Pam? Wel, doedden nhw ddim yn ceisio eu helpu. Y gwir plaen yw bod 'na ymdrech difrifol ar droed i'w wthio allan.

Cario'r Groes

Vaughan Roderick | 21:21, Dydd Iau, 11 Rhagfyr 2008

Sylwadau (0)

Rwy'n ofni fy mod wedi bod braidd yn llawdrwm ynglÅ·n ac Efengylwyr heddiw. Os oeddech yn darllen peth o'r deunydd oedd yn cael ei ddosbarthu yn y rali y tu allan i'r cynulliad fe fyswch yn deall pam!

Serch hynny, dw i am ceisio cadw'r ddysgl yn wastad trwy eich cyfeirio at ddarn hyfryd o 'sgwennu gan David Williamson, gohebydd y Western Mail yn y cynulliad. Mae David yn Gristion o ddwfn argyhoeddiad sy'n aelod o Frawdoliaeth Plymouth - os mai dyna yw'r cyfieithiad cywir o "Plymouth Brethren".

Mae gan David lle mae'n ysgrifennu'n feddylgar a chrefftus am fywyd, crefydd ac, o bryd i gilydd, gwleidyddiaeth. Yn ddiweddar fe ysgrifennodd ddarn arbennig iawn am ei ffydd o'r enw . Mae'n werth ei ddarllen yn ei gyfanrwydd. Mae'n gwneud i grefydd rhai o'r protestwyr a'r llythyrwyr a rhai o gerddi Patrick Jones edrych yn bethau pitw iawn.

Tic

Vaughan Roderick | 20:19, Dydd Iau, 11 Rhagfyr 2008

Sylwadau (2)


I-pod

Darllenwch y post yma.

Toc

Vaughan Roderick | 20:15, Dydd Iau, 11 Rhagfyr 2008

Sylwadau (1)

Bathrwm

Nawr darllenwch blog Betsan a rhowch y darnau yn eu lle.

Lincs

Vaughan Roderick | 15:08, Dydd Iau, 11 Rhagfyr 2008

Sylwadau (1)

Mae'n sbel ers i mi gynnig casgliad o ddolenni i chi. Dyw rheolau'r Ö÷²¥´óÐã ddim yn caniatáu i mi gadw "blogroll" parhaol ond dyma rai o'r safleoedd a blogs sydd ymhlith fy ffefrynnau.

Mae blog yr ieithydd Simon Ager yn hynod ddifyr. Mae ei gystadlaethau "dyfalwch yr iaith" yn lot o sbort.

Mae'r awdur wedi dechrau blogio. Fe ddylai hon ddatblygu'n safle difyr i'r rheiny sy'n ymddiddori mewn newyddiaduraeth.

Blog hynod ddiddorol ynglŷn â'r defnydd o'r we i wleidydda yw . Mae wedi sgwennu o bersbectif Gweriniaethwyr yr Unol Daleithiau ond mae 'na wersi i bawb o'r ddarllen.

Mae sianel yar YouTube yn drysorfa. Dyma i chi ffilm lliw(!) o Gaerdydd yn 1926.

A beth am ymweld ag Eisteddfod 1916?

Tipyn o sbort...

Vaughan Roderick | 12:54, Dydd Iau, 11 Rhagfyr 2008

Sylwadau (1)

Er mwyn ail-sefydlu ei hygrededd gwleidyddol mae Lembit Opik wedi sicrhâi colofn wleidyddol wythnosol. Syniad da. Jyst y fath o beth i wneud i bobol gofio eich bod yn wleidydd o sylwedd.

Un cwestiwn bach. Ai'r oedd y papur gorau i ddewis?

O leiaf mae'n golygu y bydd 'na fersiwn newydd o'r hen esgus-"Dw i ond yn cael y Sport er mwyn darllen colofn Lembit..."

Llais Pwy?

Vaughan Roderick | 12:06, Dydd Iau, 11 Rhagfyr 2008

Sylwadau (0)

Mae'n anodd osgoi'r teimlad weithiau bod Patrick Jones a Stephen Green yn defnyddio'r ffrwgwd ynghylch gwaith y bardd, gwaith y mae Mr Green yn ystyried yn gableddus, i hyrwyddo eu buddiannau eu hun. Digon teg. Mae Patrick Jones yn dymuno gwerthu llyfrau a rhydd i bawb sy'n ei wrthwynebu ei farn, ac i bob barn ei lafar

Pwy sydd wedi eu brifo yn fan hyn? Nid Mr Jones- dw i'n amau ei fod e'n mwynhau'r sylw a pha boen sydd wedi ei achosi, mewn gwirionedd, i'r Cristnogion hynny sy'n protestio am ddigwyddiad preifat y tu ôl i ddrws caeedig yn Nhŷ Hywel? Efallai mai'r bobol sydd wedi dioddef mewn gwirionedd yw'r bobol hynny sydd wedi gorfod darllen a delio a rhai o'r llythyrau ac e-byst sydd wedi bod yn cyrraedd y cynulliad. Mae rhai o'r llythyrau hynny'n llawer mwy atgas nac unrhyw beth y mae Mr Jones wedi ei ddweud am Fab y Dyn.

Mae rhai yn cynnwys sylwadau hiliol a homoffobic ond Islamoffobia yw'r pechod penna. Honnir, heb ronyn o dystiolaeth, bod Mwslimiaid rhyw sut yn derbyn gwell triniaeth na Christnogion yn y Gymru sydd ohoni. Yr unig sail i'r gosodiad hwnnw, hyd y gwelai i, yw'r honiad na fyddai'r Llywydd yn caniatáu darlleniad o'r "Satanic Verses", dyweder, yn y Cynulliad. Mae'n ddadl wirion ond gan ei bod yn cael ei lleisio'n aml waeth i mi ei ateb.

Yn gyntaf pe bai aelod cynulliad yn trefnu darlleniad o waith llenyddol oedd yn cael ei ystyried yn wrth Fwslimaidd dw i'n gwbl sicr na fyddai'r Llywydd yn ei wahardd. Mae gan aelod etholedig hawl sylfaenol i wneud ei waith -cyn belled a bod hynny o fewn y gyfraith. Dyletswydd y Llywydd yw amddiffyn yr hawl honno.

Yn ail, Dydw i ddim yn meddwl y byddai unrhyw wleidydd cyfrifol yn dymuno achosi poen i leiafrifoedd crefyddol boed rhwiny'n Fwslimiaid neu'n Efengylwyr heb reswm. Does 'na ddim rheswm dros gynnal darlleniad gwrth Mwslimaidd yn y cynulliad. Mae Patrick Jones, ar y llaw arall, yma am reswm. Nid parti Dolig i anffyddwyr a phaganiaid yw'r darlleniad. Mae Mr Jones yn darllen ei gerddi yn y cynulliad oherwydd ei fod wedi ei wahardd rhag eu darllen yn Waterstones. "Christian Voice" oedd yn gyfrifol am y gwaharddiad hwnnw- nhw wnaeth greu'r sefyllfa sy'n eu galluogi i bortreadu eu hun fel merthyron.

A jyst wrth fynd heibio mae Peter Black yn aelod o'r Eglwys Gatholig. Mae 'na fwy nac un fath o Gristion ac nid "Christian Voice" yw eu llais nhw i gyd.

Two Spokes

Vaughan Roderick | 23:14, Dydd Mercher, 10 Rhagfyr 2008

Sylwadau (3)

Maddeuwch i mi am fod yn hunan-dosturiol, yn onanistig, hyd yn oed, am eiliad.

Ers i benderfynu gymryd hoe mae nifer o bobol yn y cynulliad wedi gofyn i fi, neu'r Ö÷²¥´óÐã, ddarparu fersiwn Saesneg o'r blog yma. Dyw hynny ddim yn mynd i ddigwydd.

Fe wnaeth Betsan, finnau ac eraill frwydro'n hir dros yr egwyddor y dylid cael blogs gwahanol yn y ddwy iaith oherwydd eu bod, yn eu hanfod, yn bersonol. Mae'r frwydr honno wedi ei hennill.

Am ryw rheswm mae 'na bobol sy'n teimlo gwerth mewn cyfieithu'r stwff dw i'n sgwennu yn fan hyn. (translation "Iw cun si sum of this stwff in Inglsih at") Yn eu plith mae; a

Mae'r ddau yn cwyno fy mod wedi blogio lot yn y ddyddiau diwethaf i'w profi nhw. Euog.

Doedd dim cysylltiad o gwbwl ac ail lansio a newid delwedd safle gwleidyddol Cymraeg y Ö÷²¥´óÐã!

Fe fydd yn rhaid i fy annwyl ffrind ddysgu'r pethau 'ma.

Dyna yw blogio Dylan. Byswn wedi gallu codi'r ffon. Ond fe fyddai hynny yn llai o sbri ac yn llai difyr i ddarllen. Dyna yw'r gwahaniaeth rhwng y "day job" a'r blog. Ond dw i'n cymryd nad oeddet ti'n gwrthwynebu'r sylw?

Trwy gyfrwng y cyfrwng

Vaughan Roderick | 19:19, Dydd Mercher, 10 Rhagfyr 2008

Sylwadau (1)

Fe wnes i ysgrifennu ychydig ddyddiau yn ôl am y posibilrwydd y byddai Real Radio/GMG yn ennill trwydded radio FM i Ogledd Cymru gan greu gorsaf radio fasnachol genedlaethol i Gymru. Mae hynny nawr wedi digwydd.

Fe fydd y cwmni yn cyflogi tri newyddiadurwr yn y Gogledd. Ar adegau fe fydd gan yr orsaf ogleddol ei rhaglenni a'i bwletinau ei hun yn ystod yr oriau brig ac yn darlledu gwasanaeth gorsaf y De ar adegau eraill. Os ydy'r orsaf yn llwyddo i'r un graddau a gwasanaeth y de fe fydd gan Real gynulleidfa o tua'r un maint a Radio Wales- ac yn gyfrwng pwysig felly i'n gwleidyddion a'n gwleidyddiaeth.

Dyma oedd gan y cwmni i ddweud yn ei gais am y drwydded;

"Real Radio will have a greater commitment to news and topical information than the existing commercial services and will maintain a news service containing local material 24 hours a day. We are strongly committed to broadcasting a news service the area can rely on at any time of the day or night. We will establish Real Radio as the first port of call for local listeners looking for accurate up-to-the-minute news bulletins."

Mewn cyfnod lle mae 'na bryderon cynyddol am ddyfodol ein papurau a gwasnaeth newyddion ITV mae'n braf cael newyddion da am unwaith. Y cam nesaf fydd dwyn pwysau ar berchnogion gorsafoedd masnachol eraill Cymru sef Global, UTV a Town & Country i fuddsoddi yn eu newyddiaduraeth.

Mae'n talu i wneud hynny. Mae'r cwymp arswydus yng nghynulleidfaoedd gorsafoedd fel "Red Dragon" ers dyfodiad Real i'r de yn brawf o hynny.

Yr Hirdaith

Vaughan Roderick | 15:22, Dydd Mercher, 10 Rhagfyr 2008

Sylwadau (0)

Ydych chi'n cofio'r LCO iaith- y cais oedd i fod i gael ei gyhoeddi yn ôl yn y Gwanwyn?

Fe drodd y Gwanwyn yn Haf a'r Haf yn Hydref. Tan heddiw'r addewid oedd y byddai'r cais yn ymddangos "cyn y Nadolig" . Y prynhawn yma yn siambr y cynulliad cyhoeddodd Yr ysgrifennydd Gwladol bod adrannau Whitehall bellach wedi cwblhau'r broses o astudio'r cais. Fe fydd yr LCO felly yn cael ei gyhoeddi. Pryd? Wel, "yn y flwyddyn newydd".

Rhai dyddiau yn ôl clywais fod un o swyddogion Plaid Cymru wedi sgwennu cân "All I want for Christmas is my language LCO". Dim ffiars o beryg.

Helo, Helo, Helo

Vaughan Roderick | 14:09, Dydd Mercher, 10 Rhagfyr 2008

Sylwadau (2)

Mae'n ymddangos bod Plaid Cymru'n troi'n rhyw fath o gartref ymddeol i Heddlu'r Gogledd! Mae pleidwyr Wrecsam newydd ddewis y cyn Arolygydd Arfon Jones fel eu hymgeisydd seneddol. Mae darpar ymgeiswyr Aberconwy ac Ynys Môn hefyd yn gyn-blismyn. Fe fyddai Morse neu Marple yn dechrau dirnad patrwm!

Fe wnaeth yr enwebiad yma wneud i mi feddwl am ymdrechion Prif Gwnstabl y Gogledd, Richard Brunstrom, i gymreigio'r heddlu a chodi pontydd i'r Gymru Gymraeg. Yn gryno, dadl y Prif Gopyn oedd bod plismona yn dibynnu ar gydsyniad a pharodrwydd cymunedau i roi cymorth i'r heddlu. Yn ei farn ef roedd yr heddlu wedi colli'r cydsyniad a'r gefnogaeth honno mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith. Dyma oedd ganddo i ddweud wrth aelodau Cymuned.

Roedd sylwadau Mr Brunstrom yn ddadleuol ar y pryd ond roedd 'na wirionedd yn ei eiriau. Y rheswm y mae Rhys Gethin a'i feibion yn gorwedd a'u traed yn rhydd ar ryw draeth yn rhywle yw bod pobol a fyddai wedi gallu rhoi cymorth i'r heddlu wedi dewis peidio gwneud. Roedd hynny, am wn i, yn ymateb i dactegau llawdrwm y Glas ar "Sul y Blodau" (1980) ynghyd a rhyw ymdeimlad anelwig bod yr heddlu yn gorff estron, trefedigaethol.

A fyddai cangen o Blaid Cymru wedi dewis cyn-blismon fel ymgeisydd yn yr wythdegau? Dydw i ddim yn gwybod. A fyddai cyn-blismon wedi dewis ymuno a Phlaid Cymru? Fedrai ddim ateb hynny chwaith- ond mae'n ymddangos i mi bod 'na newid go sylfaenol ar droed o safbwynt agweddau cenedlaetholwyr a Chymry Cymraeg tuag at yr heddlu.

Tic Toc

Vaughan Roderick | 13:39, Dydd Mercher, 10 Rhagfyr 2008

Sylwadau (0)

Mae gwyliau Nadolig y cynulliad yn dechrau yfory. Pam felly bod y rhan fwyaf o newyddiadurwyr y bae wedi dewis gweithio wythnos nesaf- a pham maen nhw'n galw'r wythnos honno yn "Bournewatch"?

Oes a wnelo hynny unrhyw beth a chyhoeddi treuliau aelodau'r cynulliad Ddydd Gwener?

Maes Golwg

Vaughan Roderick | 15:05, Dydd Mawrth, 9 Rhagfyr 2008

Sylwadau (3)

Fe wnes i flogio ddiwedd yr wythnos diwethaf am y si y bydd gwefan newyddion Golwg wedi ei seilio ar faes yr eisteddfod. Rwyf newydd dderbyn nodyn gan un o'm sbeis sy'n cynnig esboniad;

"Fi wedi clywed o ffynonellau dibynadwy iawn bod y wefan wedi'i seilio ar faes yr eisteddfod - ond nid yn y ffordd wyt ti'n ei ddisgrifio yn union. Fe fuodd Dylan (Iorwerth) yn siarad â chynrychiolwyr nifer o fudiadau gwirfoddol a sefydliadau cyhoeddus Cymraeg yn ddiweddar yn son am y wefan. Mae e'n cyffelybu'r wefan i'r eisteddfod yn y ffordd y mae'r gwahanol gyrff a sefydliadau yma yn cael stondinau ar y maes felly hefyd bydd gwefannau bach ar wefan Golwg i'r sefydliadau hyn etc. Ac fel maen nhw'n talu am eu stondin ar faes y steddfod felly hefyd byddan nhw'n talu Golwg am fod ar eu gwefan nhw."

Mae'r ysbïwr yn codi cwestiwn diddorol;

"Dwy ddim yn siwr iawn pa mor briodol yw hi i gwmni sy'n derbyn £200k o arian cyhoeddus i wedyn ofyn am rhagor o arian gan gyrff cyhoeddus eraill i gynnal y wefan."

Am wn i mae'r ateb i'r cwestiwn yna yn dibynnu ar beth yn union y mae Golwg yn cynnig. Fe fyddai ceisio codi arian am ddolen i wefan Cymraeg yn beth eithaf siabi ond fe dybiwn i mae cynnig gwasanaeth gweinyddwr (server) a meddalwedd y mae'r cwmni. Fe fyddai codi am wasnanaeth felly yn ddigon rhesymol.

Hoelion Wyth

Vaughan Roderick | 13:03, Dydd Mawrth, 9 Rhagfyr 2008

Sylwadau (2)

Gwaethygu mae'r ffrae ynghylch y gwahoddiad i'r bardd Patrick Jones ddarllen ei waith yn un o ystafelloedd y cynulliad ddydd Iau. Mae'n siŵr eich bod yn cofio'r cefndir. Trefnwyd y digwyddiad gan Peter Black a Lorraine Barret ar ôl i Waterstones ganslo darlleniad tebyg yn wyneb protestiadau gan y grŵp "Christian Voice".

Trodd cynhadledd newyddion y Torïaid yn draed moch y bore 'ma pan ddywedodd Nick Bourne wrth fynd heibio bod y grŵp Ceidwadol wedi ysgrifennu'n swyddogol at y llywydd yn gofyn iddo wahardd y digwyddiad.

Nawr, gan amlaf, mi ydyn ni yn y Lobi Gymreig yn bobol gwrtais, ddiduedd a diymhongar. Ond oes rhywun yn gwasgu ein botymau rhyddid mynegiant mi ydan ni'n troi mewn eiliad yn dorf derfysglyd sy'n bloeddio am waed. Roedd cyhoeddiad Nick yn ddigon i droi sawl Bruce Banner yn ein plith yn hwlciaid cynddeiriog. O fewn byr o dro roedd y gynhadledd newyddion wedi troi'n ddadl ffyrnig!

Dadl Nick oedd bod cynnal digwyddiad oedd, yn ei farn ef, yn ymosodiad ar grefydd yn amhriodol yn adeilad y cynulliad. Honnodd ei fod hefyd, o bosib, yn erbyn y gyfraith sy'n gwahardd cymell casineb ar sail crefydd. Mae'n debyg bod cyfreithwyr y cynulliad eisoes wedi wfftio'r ddadl gyfreithiol ac os ydy hi'n amhriodol i ymosod ar grefydd yn adeiladu'r cynulliad onid yw hi hefyd yn amhriodol i gynnal digwyddiadau sy'n dyrchafu crefydd megis y Gwasanaeth Carolau a derbyniadau Diwali ac Eid?

Yng nghanol hyn ôl mae 'na gamgymeriad anffodus ar y posteri sy'n hysbysebu'r digwyddiad sy'n cyhoeddi "Everybody Welcome - Croes i Bawb"- a llond llaw o hoelion mae'n siŵr!

Wps!

Vaughan Roderick | 12:04, Dydd Mawrth, 9 Rhagfyr 2008

Sylwadau (0)

"Anybody who claims to know when the economy is going to bottom out is being very foolish. Anyone who claims to know when the recession will end knows nothing"

-Rhodri Morgan mewn cynhadledd newyddion y bore 'ma

"I am forecasting growth of between 1 ½ and 2 per cent in 2010. In the years after that, the economy will continue to recover."

-Alistair Darling

Coroni Kirsty

Vaughan Roderick | 17:09, Dydd Llun, 8 Rhagfyr 2008

Sylwadau (1)


Kirsty Williams yw arweinydd newydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru- ac o fwyafrif mwy sylweddol nac oeddwn i'n disgwyl. Gall neb wadu bod ganddi mandad- ond mandad i wneud beth?

Rwyf wedi darllen cyhoeddiadau ymgyrch Kirsty yn ofalus ac wedi ail-ddarllen ei haraith bwysig i Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Mae 'na gryn sylwedd i'w dadansoddiad o'r problemau sy'n wynebu ei phlaid. Fe fyswn i'n dweud hynny. Mae rhannau helaeth o'r dadansoddiad hwnnw'n cyd-fynd a rhai o'r erthyglau dw i wedi eu sgwennu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae 'na ddarlun eglur hefyd o'r hyn y mae Kirsty yn dymuno i'r blaid fod sef plaid sy'n ail-afael yn ei radicaliaeth a'i Chymreictod. Hynny yw, y nod yw i geisio ad-ennill y fantell y wnaeth Gwynfor Evans ei dwyn o'u hysgwyddau yn y Gymru wledig tra'n parhau i adeiladu ar y sylfaeni a osodwyd yn y Gymru ddinesig dros y chwarter canrif diwethaf.

Haws dweud na gwneud. Tu allan i Geredigion prin fod yn Blaid yn bodoli yn yr ardaloedd Cymraeg ei hiaith. Ar gynghorau Sir Ddinbych, Conwy, Môn, Gwynedd Caerfyrddin a Phenfro mae gan y blaid gyfanswm o 16 o gynghorwyr. Hyd yn oed o ychwanegu Ceredigion mae'r cyfanswm ond yn cyrraedd 26. Mae hyd yn oed y cyfanswm hwnnw braidd yn garedig gan ei fod yn cynnwys cynghorwyr sy'n cynrychioli wardiau Saesneg eu hiaith mewn llefydd fel Conwy a Sir Ddinbych. Sut ar y ddaear mae adeiladu mudiad ar sylfaen mor dila?

Wel, fe fydd carisma Kirsty Williams o gymorth. Mae'n debyg y bydd ei phroffil cyhoeddus cryn dipyn yn uwch nac un Mike German ac yn llai chwerthinllyd nac un Lembit Opik. Mae arweinydd carismataidd adnabyddus yn gallu bod yn ffactor allweddol mewn etholiad. Fe enillodd y cymariaethau anffafriol di-ddiwedd rhwng Alun Michael a Dafydd Wigley jac pot o bleidleisiau i Blaid Cymru yn 1999, er enghraifft.

Serch hynny, mae'n bosib y bydd haneswyr yn ystyried Ieuan Wyn Jones yn gymeriad pwysicach yn hanes Plaid Cymru na Dafydd Wigley- na Dafydd Elis Thomas o ran hynny. Dyw Ieuan ddim yn ddyn carismataidd ac mae'n dipyn o embaras pan mae'n esgus bod. Ond pwy wnaeth arwain ei blaid i fewn i lywodraeth? Pwy wnaeth lunio strategaeth eglur a phenodi'r bobol iawn i greu peiriant ymgyrchu sy'n destun eiddigedd i'r pleidiau eraill?

Y peiriant hwnnw yw'r un y mae Kirsty yn bwriadu ei herio. Mae hi wedi dewis gweithio ar dalcen caled iawn- ond mewn gwirionedd doedd ganddi fawr o ddewis.

Yn eironig ddigon, oherwydd cynrychiolaeth gyfrannol dyw'r gemau tactegol y mae'r Democratiaid Rhyddfrydol mor dda wrth ei chwarae ddim yn gweithio mewn etholiadau cynulliad. Doedd jyst cadw i fynd a byw mewn gobaith ddim yn opsiwn. Oherwydd y sefyllfa Brydeinig mae'n rhaid i'r blaid ymladd brwydrau amddiffynnol yn erbyn y Ceidwadwyr a Llafur. Targedi Plaid Cymru yw'r unig opsiwn ymosodol ar y bwrdd.

Mae ganddi ei strategaeth felly. Yn y tymor byr mae'n annhebyg o lwyddo. Yn y prawf mawr etholiadol nesaf*- yr etholiad cyffredinol ,mae gan y blaid lawer i golli a bron dim i ennill. Fe fydd angen amynedd- ar Kirsty ei hun ac ar ei phlaid.

*Sori, dydw i ddim yn cyfri Etholiad Ewrop fel prawf pwysig i neb- ni'n gwybod y canlyniad yn barod!

Dofi'r Teigr

Vaughan Roderick | 10:57, Dydd Llun, 8 Rhagfyr 2008

Sylwadau (0)

Heddiw fe fydd Mwslimiaid yng Nghymru ac ar draws y byd yn dathlu Eid al-Adha neu "Eid fawr" fel mae'n cael ei galw ar lafar. Gŵyl yw ystyr y gair Eid, gyda llaw. Gwnâi ddim stretsio'r pwynt trwy awgrymu "prifwyl" fel cyfieithiad Cymraeg!

Pan oeddwn yn grwt roedd Mwslimiaid Caerdydd yn dathlu'r achlysur trwy gynnal gorymdaith liwgar trwy'r ddinas. Wrth i Tiger Bay droi'n Fae Caerdydd bu farw'r traddodiad .

Yn ffodus fe ffilmiodd fy nhad un o'r gorymdeithiau olaf yn ôl yn 1968. Mae'r ffilm honno ar gael i'w gwylio ar safle archif y Ö÷²¥´óÐã. Mae lluniau'r orymdaith yn cychwyn am 10.48 ond mae'r clip cyfan yn werth ei wylio gan ei fod hefyd yn cynnwys tad Ryan Giggs yn sgorio cais ym Mharc yr Arfau!

Coffau parodrwydd Ibrahim i aberthu ei fab, Isaac, i Dduw mae'r ŵyl. Abraham yw Ibrahim yn y traddodiad Cristnogol, wrth gwrs, ac mae'r stori'n cael ei adrodd yn y Beibl yn Genesis. Yr angen am ffydd yn Nuw yw pwynt y stori. Mae'r Apostol Paul yn gallu esbonio'r peth yn well na fi!

"Ffydd wnaeth i Abraham offrymu Isaac yn aberth, pan oedd Duw yn ei brofi. Dyma'r un oedd wedi derbyn addewidion Duw, yn ceisio aberthu ei unig fab! A hynny er bod Duw wedi dweud wrtho, "Drwy Isaac y bydd dy linach yn cael ei chadw." Roedd Abraham yn derbyn fod Duw yn gallu dod â'r meirw yn ôl yn fyw. Ac mewn ffordd mae'n iawn i ddweud ei fod wedi derbyn Isaac yn ôl felly."
Hebreaid 11. 17-18

Dyna ddiwedd y bregeth. Mwynhewch y ffilm.

221 ar y donfedd ganol 96 ar yr amledd uchel iawn

Vaughan Roderick | 22:18, Dydd Sadwrn, 6 Rhagfyr 2008

Sylwadau (0)

Fe wnes i gyfeirio o'r blaen at y ffaith bod y ceiliog wedi canu i ddeffro blog .

Huw Thomas, newyddiadurwr sy'n gweithio'n bennaf i orsafoedd radio masnachol, yw Chanticleer ac mewn mae'n codi pwynt sy'n hynod o bwysig.

Mae llawer o sylw yn cael ei roi'r dyddiau hyn at drafferthion ITV Cymru. Mae'r trafferthion hynny'n ddifrifol. Erbyn y gwanwyn fe fydd ITV yn cyflogi rhyw bedair mil o bobol trwy Gymru a Lloegr. Ugain mlynedd yn ôl roedd HTV Cymru yn unig yn cyflogi dros fil. Pwynt Huw yw bod yr hyn sy'n digwydd i deledu masnachol eisoes wedi digwydd ym myd radio lleol. Mae yn llygaid ei le.

Un o'r llefydd cyntaf i mi weithio oedd gorsaf fasnachol o'r enw CBC/Darlledu Caerdydd. Roedd ganddi ystafell newyddion o ddeg. Roedd y newyddiadurwyr hynny'n cynhyrchu pymtheg bwletin newyddion Saesneg a deg set o benawdau Cymraeg bob dydd. Roedd 'na ddwy raglen newyddion hanner awr yn Saesneg yn ogystal a rhaglen newyddion Cymraeg chwarter awr.

Fe ddysgais i fy nghrefft yno. Nid fi oedd yr unig un. Cychwynnodd Sian Lloyd (y tywydd-wraig) Gareth Charles, Ian Gwyn Hughes ac Eifion Jones (Jonsi) eu gyrfaoedd yno hefyd. Ar yr un pryd draw yn Sain Abertawe roedd Garry Owen a Sian Thomas wrthi yn ceisio dod a thipyn o sens i fyd yr anfarwol Willy Bowen.

Nid hiraethu ydw i yn fan hyn. Mae'r gorsafoedd yma'n bwysig. Mae nhw'n cyrraedd cynulleidfaoedd sylweddol. Mae'r rheiny, ar y cyfan, yn gynulleidfaoedd sy ddim yn gwylio rhaglenni Cymreig y Ö÷²¥´óÐã nac ITV- nac yn darllen papurau lleol.

I bob pwrpas yr unig newyddion o Gymru y mae'r bobol hynny'n eu derbyn yw'r hyn sydd ar gael ar yr orsaf leol ac ar y cyfan mae safon y gwasanaeth hwnnw yn ddychrynllyd. Nid beirniadu safon y newyddiadura ydw i wrth ddweud hynny ond beirniadu'r strwythur. Mae'r gorsafoedd lleol yn canolbwyntio ar newyddion lleol. Daw newyddion Prydeinig a thramor o Lundain ond does 'na ddim ffynhonnell ar gyfer newyddion sy'n benodol Gymreig. Y cyfan gall Champion, Marcher neu Scarlet ei wneud o safbwynt gwleidyddiaeth Cymreig yw sgwrs ffon a'r aelod cynulliad lleol. Yn amlach na pheidio does dim o'r amser na'r ewyllys i wneud hynny hyd yn oed.

Oes na ateb i'r broblem?

Oes, dwi'n meddwl- os ydy'r ewyllys yn bodoli.

Yr orsaf radio fasnachol fwyaf yng Nghymru, o bell ffordd, yw "" sy'n eiddo i GMG, adain fasnachol yr elusen sy'n berchen ar y Guardian a'r Observer. Mae hi ar gael ym mron pobman yn y De a'r Gorllewin yn barod ac mae'n hynod broffesiynol a phoblogaidd. Mewn gwirionedd hi yw'r unig orsaf fasnachol yng Nghymru sy'n sefyll droed wrth droed a gorsafoedd y Ö÷²¥´óÐã o safbwynt gwariant ar raglenni.

Ar hyn o bryd mae Ofcom yn hysbysebu FM ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru, y drwydded FM olaf ym Mhrydain fel mae'n digwydd.

Mae 'na ddau gwmni yn ceisio.

Mae "Radio Glyndŵr" yn cynnig;

A local speech and music station for the North and Mid Wales area, with 24-hour news, information and comment aimed primarily at the 35+ age group, with a predominately Gold and Easy Listening mix of music, regularly reflecting Welsh culture and language.

Mae'n werth nodi y byddai stiwdios "Radio Glyndŵr" yn Lloegr.

Y cwmni arall sy'n cynnig yw GMG/ Real Radio. Pe bai'r cais hwnnw yn llwyddo fe fyddai "Real Radio", i bob pwrpas, yn orsaf genedlaethol fasnachol i Gymru. Yn y cynnig mae GMG yn awgrymu y byddai rhyw chwech awr y dydd o raglenni'r gwasanaeth newydd yn dod o'r Gogledd gyda'r gweddill yn cael eu rhwydweithio o Gaerdydd

Os ydy'r cais yn llwyddiannus (a GMG yw'r ffefryn) oni fyddai'n resymol i Ofcom fynnu bod GMG yn cynnig gwasanaeth newyddion Cymreig i orsafoedd masnachol eraill?

Bydded Goleuni...

Ar ôl y toriad

Vaughan Roderick | 17:45, Dydd Sadwrn, 6 Rhagfyr 2008

Sylwadau (3)

Ydy, mae'r etholiad i ddewis arweinydd newydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn tynnu at ei derfyn. 62% o'r aelodau oedd wedi pleidleisio erbyn ddoe. Tra bod hynny'n ganran uchel o gymharu ac etholiadau undeb ayb byswn i wedi disgwyl gwell ymateb. Wedi'r cyfan rhyw ddwy fil a hanner o aelodau sydd gan y blaid ac mae cyfran helaeth o'r aelodaeth hynny'n weithgar. Mae'n bosib wrth gwrs y bydd y canran wedi cynyddu'n sylweddol cyn i'r bleidlais gau ddydd Llun. Mae 'na duedd mewn etholiadau trwy'r post i bobol bleidleisio yn syth ar ôl derbyn y papur neu ar y funud olaf. Gyda llaw, dw i newydd sylwi bod y blaid wedi dewis yr enw "Freedom Central" ar gyfer ei phencadlys newydd yn y bae. Wel, mae'n fwy gwreiddiol na "Tŷ Gwynfor" rownd y gornel!

Dyw'r Ö÷²¥´óÐã ddim yn derbyn hysbysebion ond dw i am wneud eithriad! Mae nhw'n disgwyl eich galwadau nawr!.

Podlediad a phethau eraill...

Vaughan Roderick | 14:13, Dydd Gwener, 5 Rhagfyr 2008

Sylwadau (1)

Arwyn Jones, Gohebydd Addysg Ö÷²¥´óÐã Cymru yw'r gwestai ar y podlediad yw wythnos hon. Mae trafod addysg (wrth reswm) a hefyd... Abergeirw!!!

Dyma ychydig o ddolenni i'ch difyrru.

Dwi'n dwli ar sy'n eich galluogi i wrando ar bron i bymtheg mil o orsafoedd radio o bedwar ban byd.

Ond dyw'r rhyngrwyd wedi dod yn bell!

A chwestiwn i orffen. Pam nad yw gwefan newyddion Golwg wedi ymddangos eto? Wedi'r cyfan mae'r Daily Post, ITV a Barn wedi llwyddo i lansio safleoedd newyddion Cymraeg heb fawr o drafferth. Plîs, plîs, dywedwch wrtha'i nad yw'r si bod cynllun y safle wedi ei seilio ar faes yr Eisteddfod yn wir. Cliciwch ar y Pafiliwn am y newyddion. Ewch i'r Babell Len am adolygiadau. Does bosib!

Hwyl yr ŵyl

Vaughan Roderick | 12:26, Dydd Gwener, 5 Rhagfyr 2008

Sylwadau (3)

Dw i newydd dderbyn yr e-bost yma

"Mae'n Nadolig. Mae coed a goleuadau'n cael eu gosod o gwmpas yr adeilad. Cofiwch fod angen i oleuadau a "trimmings" trydannol erall gael prawf PAT. Cysylltwch â'r lein gymorth- est.

Nadolig Llawen.

Does dim geiriau.

Traed yn Rhydd

Vaughan Roderick | 11:41, Dydd Gwener, 5 Rhagfyr 2008

Sylwadau (0)

Fe fydd penderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron i beidio cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Peter Hain yn rhyddhad i'r cyn ysgrifennydd. Dw'n meddwl bod hi'n deg i grynhoi'r penderfyniad fel hyn "roedd 'na drosedd- ond doedd neb yn gyfrifol amdani"- hynny yw roedd trefniadau ariannol yr ymgyrch yn dipyn o draed moch neu i ddefnyddio gair Gordon Brown yn "incompetant". O ddarllen y penderfyniad mae'n amlwg hefyd bod Peter ei hun wedi ei glirio yn gynnar iawn yn y broses- cyfrifoldeb posib rhai o drefnwyr ei ymgyrch oedd yn gyfrifol am hyd yr ymchwiliad.

Doeddwn i ddim yn gallu dweud hyn o'r blaen ond rwy'n gwbwl sicr bod y CPS wedi cyrraedd y casgliad cywir yn achos Peter. Mae gen i reswm dros gredu hynny. Ddyddiau'n unig cyn i'r stori ynglŷn â'r cyfraniadau i'w ymgyrch dorri roeddwn mewn cinio gyda Peter lle roeddwn yn trafod ffrwgwd tebyg. Chwarddodd yn iach pan awgrymodd rhywun y byddai'n rhaid iddo gael cipolwg ar ei gyfrifon ei hun. Naill ai mae Peter yn un o'r actorion gorau i mi weld erioed neu doedd ganddo fe ddim clem bod hyd yn oed y posibilrwydd lleiaf o broblem.

Yn ychwanegu at yr artaith i Peter dros y misoedd diwetha, wrth gwrs, oedd y ffaith nad hwn oedd y tro cyntaf iddo gael ei gyhuddo ar gam. Os nad ydych yn gyfarwydd ag un o'r straeon mwyaf rhyfedd yn ein hanes gwleidyddol mae'r manylion yn .

Y cwestiwn nesaf yw a fydd Mr Hain yn dychwelyd i'r cabinet. Fe dybiwn i fod hynny'n bur debygol. Os ydy swydd Ysgrifennydd Cymru'n parhau (ac mae hynny'n debyg) fe fydda'n ddigon hawdd i Paul Murphy ildio ei le wrth fwrdd y cabinet. Serch hynny, mae'n annhebyg, dybiwn i, y bydd hynny'n digwydd cyn ad-drefniant mwy eang. Mantais Peter dros Paul yw ei fod yn "twffer"- mae'n gallu llenwi swydd arall yn ogystal â bod yn Ysgrifennydd Cymru. Mae ei ailbenodiad posib yn dibynnu felly ar amseriad newidiadau eraill i'r llywodraeth.

Diweddariad; Roeddwn wedi anghofio bod Peter hefyd yn wynebu ymchwiliad gan Gomisiynydd Safonau'r TÅ·'r Cyffredin. Mae hynny hefyd yn effeithio ar amseriad unrhyw ail-benodi.

Gwahoddiadau

Vaughan Roderick | 15:15, Dydd Iau, 4 Rhagfyr 2008

Sylwadau (0)

Dydw i ddim yn ddyn mawr am dderbyniadau a digwyddiadau er bod rhyw hanner dwsin o wahoddiadau yn ein cyrraedd bob wythnos.

Dyma un ohonyn nhw. Mae'r Cynghrair Cefn Gwlad (ie, na chi, y "countryside alliance" wnaeth arwain y frwydr dros hela) yn cynnal noson wobrwyo yn y senedd. Daw'r gwahoddiad yn enw Dafydd Elis Thomas ac fe fydd y gwobrwyon yn cael eu cyflwyno gan Elin Jones. Hefyd yn bresennol fydd prif-weithredwr y Cynghrair a, thrwy gyd-ddigwyddiad, darpar ymgeisydd seneddol y Ceidwadwyr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro.

Sawl aelod Llafur fydd yn troi lan i hwnna, tybed? Tua'r un nifer, fe dybiwn i, a fydd yn ymateb i apêl gan Ferched y Wawr. Mae'r mudiad hwnnw yn ceisio trefnu arddangosfa o "bras" menywod Cymreig amlwg. Peidiwch â gofyn pam. Dydw i ddim yn gwybod! Beth fydd nesaf? Trôns dros Gymru, efallai.

Ac yfory fe fydd Amnest Rhyngwladol yn codi caets y tu fas i'r senedd wedi ei modelu ar un o gelloedd Guantanamo. Fe fydd croeso i unrhyw un sy'n dymuno gwneud treulio amser yn y caets- does dim angen tei du na jumpsuit oren.

Nawr rwy'n siŵr y bydd y ffarmwrs yn y Noson Wobrwyo yn fois da (bois fel efallai). Mae'n siŵr bod 'na gymhelliad nobl i arddangosfa'r merched hefyd- a dw i'n deall yn iawn y pwynt mae Amnest yn ceisio gwneud.

Serch hynny, maddeuwch i mi am fynd am beint.!

Enwi enwau

Vaughan Roderick | 20:47, Dydd Mercher, 3 Rhagfyr 2008

Sylwadau (4)

O ble ar y ddaear ddaeth y ffasiwn newydd yma o enwi sefydliadau a gwasanaethau Cymru ar ôl enwogion y gorffennol?

Ddoe fe gafwyd gwybod mae'r "Gerallt Gymro" yw enw'r trên cyflym newydd rhwng Caergybi a Chaerdydd. Heddiw cyhoeddwyd mai Bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr fydd yn gofalu am wasanaethau iechyd y Gogledd Orllewin yn y dyfodol. Roedd Betsi yn "un o nyrsys enwocaf Cymru" yn ôl adroddiad John Stevenson. Enwa un arall, John! Fe fydd y bwrdd hefyd yn Brifysgol. Meddyliwch pa mor falch fydd pobol o fod yn MD (Betsi). Ai fi yw'r unig un sy'n gweld yr enwau yma'n chwerthinllyd?

Pam stopio yn fan hyn? Beth am gael gwared a theitlau diflas fel Comisiynydd Plant a Chomisiynydd yr henoed? Oni fyddai Comisiynwyr Sali Mali a Jac a Wil yn well? Mae "Cyllid Cymru" yn enw difalch iawn ar fanc y cynulliad. Beth am gael "Yr Hodge" neu'r "Cardi" yn lle? Oni ddylai Rhodri Morgan fod yn Bendefig? Gellid cyfeirio at arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol fe "Y Lloyd George" ac arweinydd Plaid Cymru fel "Y Saunders". Fe fyddai Nick Bourne wrth ei fodd yn gwisgo mantell "Y Churchill"!

.

Deffrowch, orthrymedigion daear*

Vaughan Roderick | 16:35, Dydd Mawrth, 2 Rhagfyr 2008

Sylwadau (1)

Dydw i ddim yn talu llawer o sylw gan amlaf i gynghorwyr sy'n dewis newid plaid. Mae'n ddigwyddiad cymharol gyffredin ac mae 'na bob math o gymhellion gwleidyddol a phersonol am newid ochor.

Gallai penderfyniad y Cynghorydd Brent Carter o Ferthyr i adael y Democratiaid Rhyddfrydol ac ymuno a Llafur fod ychydig yn fwy arwyddocaol gan ei fod wedi digwydd mewn rhan o Gymru sy'n hynod ddiddorol yn wleidyddol ar hyn o bryd.

Er bod poblogaeth hen faes glo'r de wedi gostwng mae tua chwarter o bobol Cymru o hyd yn byw yn y cymoedd glofaol. Yn draddodiadol yr ardal yma oedd cadarnle Llafur Cymru. Yn y blynyddoedd ers streic y glowyr mae hynny wedi newid- o leiaf mewn etholiadau lleol a chynulliad. Yr hyn sy'n drawiadol yw nad yw'r newid hynny yn unffurf.

Rwy'n cyffredinoli braidd ond yn fras yng nghymoedd gorllewinol y maes glo mae patrwm dwy-blaid wedi ei sefydlu. Llafur a Phlaid Cymru yw'r pleidiau hynny. Yn y cymoedd dwyreiniol, yn bennodol ym Merthyr, Blaenau Gwent a Thorfaen, mae 'na ryw fath o anarchiaeth etholiadol wedi datblygu gyda Llafur yn gwegian a llu o wahanol grwpiau a phleidiau yn ceisio elwa.

Drychwch ar ganlyniad etholiad y cynulliad ym Merthyr yn 2005, er enghraifft. Mae'r patrwm yn fwyaf eglur wrth edrych ar ganrannau'r bleidlais.

Llafur; 37.0%, Dem. Rhydd.; 15.2%, Ann(1);12.5%, Plaid; 12.0%, Ann(2); 9.1%, Ceid.; 5.5%, Ann (3); 4.0%, Ann(4); 3.8 %, Ann(5); 0.8%.

Gadewch i ni ryfeddu at y ffigyrau yna. Fe dderbyniodd yr ymgeisydd Llafur ym Merthyr lai na deugain y cant o'r bleidlais! Fe gadwodd Huw Lewis ei sedd oherwydd bod y bleidlais wrth Lafur wedi ei gwasgaru rhwng wyth ymgeisydd arall- pump ohonyn nhw yn ymgeiswyr annibynnol.

Flwyddyn yn ddiweddarach cynhaliwyd etholiad arall y tro hwn i ddewis cynghorwyr lleol. Dyma'r canlyniadau o Dorfaen (yn nhermau nifer y seddi y tro hwn)

Llafur;18; Ann.;12, Ceid.;5, Llais y Bobol;4, Plaid;3, Dem. Rhydd.;2.

Mae'r gwrthryfel anhrefnus yma wedi cyrraedd ei benllanw ym Mlaenau Gwent lle mae Llafur wedi colli'r cwbwl lot. Y cyngor, y sedd cynulliad, y sedd seneddol, yr holl siabang.

Pam mae hynny wedi digwydd? Mae gen i un esboniad posib. Sylfaen economaidd oedd i'r bleidlais Lafur yn y maes glo. Hynny yw roedd pobol yn pleidleisio dros Lafur oherwydd bod hynny yn fanteisiol iddyn nhw o safbwynt yr arian yn eu pocedu. Anghofiwch am unrhyw beth arall. Does bron neb yn fwy ceidwadol yn rhai o'u hagweddau cymdeithasol na phleidleiswyr traddodiadol y Blaid Lafur yn y cymoedd. Pres oedd yn bwysig.

Wrth i'r pyllau gau ac wrth i'r gwahaniaethau rhwng polisïau economaidd y pleidiau ddiflannu fe ddiflannodd y cymhelliad i bleidleisio dros Lafur hefyd.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae'r agendor rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr ym maes yr economi wedi ail-ymddangos. Mae'n bosib y bydd hynny yn galluogi i Lafur ail-sefydlu ei goruchafiaeth yn y cymoedd. Un wennol ni wna wanwyn- ond fe allai penderfyniad Cyng. Carter fod yn arwyddocaol.

*Dydw i ddim yn esbonio'r pennawd fel arfer ond mae cyfieithiad is o'r yn dipyn o ffefryn gen i.

Yn ôl i Abergeirw

Vaughan Roderick | 14:27, Dydd Mawrth, 2 Rhagfyr 2008

Sylwadau (0)

Doeddwn i ddim yn gwybod bod cymaint o ddarllenwyr y blog yma'n arbenigwyr ar Abergeirw. Diolch i bawb am y wybodaeth.

Erbyn hyn dw i'n gwybod mai enw'r ardal yw Abergeirw, ond enw'r ysgol yw Ysgol Rhydygorlan. Aeth Betsan Powys yn sownd yn yr eira yn Abergeirw rhyw dro ac yn ôl y chwedl, blwch ffon coch BT yn Abergeirw yw'r un sy'n cael ei ddefnyddio lleiaf yng Nghymru. Digon yw digon. Mae angen rhywbeth i wneud ar rai ohonoch chi.

Dyma gyfres o ddolenni i chi.

Yn gyntaf gan fod mewn trwmgwsg mae'n hyfryd croesawi yn ôl ar ôl ei drwmgwsg yntau.

Dyma dwyieithiog newydd gan rai o fyfyrwyr y Coleg Newyddiaduraeth yng Nghaerdydd. Fe wnes i gwrdd â rhai ohonyn nhw yn ddiweddar ac maen nhw'n frawychus o alluog a thalentog. Mae'r blog yn cynnwys cyfweliadau difyr a diddorol â Syr Emyr Jones Parry a Richard Wyn Jones.
Mae 'na ddadansoddiad treiddgar o'r frwydr rhwng Jenny a Kirsty ar "".

.

Dros y ffyrdd a dros y caeau...

Vaughan Roderick | 13:51, Dydd Mawrth, 2 Rhagfyr 2008

Sylwadau (0)

Heddiw cyhoeddodd llywodraeth Cymru gyfres o gynlluniau gwariant cyfalaf- rhai ohonynt yn gynlluniau sy'n cael eu hariannu o'r Gronfa Cyfalaf Strategol newydd ac eraill yn gynlluniau gan yr adran drafnidiaeth. Does 'na ddim arian ar gyfer peiriant chips newydd yn NhÅ· Hywel yn anffodus.

Fe fydd manylion y cynlluniau yn ymddangos mewn sawl man arall. Gwnâi ddim eu rhestri nhw yn fan hyn. Serch hynny mae'n werth nodi un peth am y cynlluniau trafnidiaeth sef y pwyslais ar wella cysylltiadau rhwng y De a'r Gogledd. Mae 'na gyfres o gynlluniau i wella'r A470 yng Ngwynedd a Phowys a buddsoddiant sylweddol i alluogi i'r gwasaneth tren cyflym rhwng Caergybi a Chaerdydd deithio trwy Wrecsam yn hytrach 'na Chaer. Y "Gerallt Gymro" yw enw'r gwasanaeth hwnnw, gyda llaw. Dyna i chi enw blaengar a modern!

Yn wleidyddol mae'r cynlluniau yma'n hynod o bwysig i Blaid Cymru. Rwy'n meddwl bod hi'n deg i ddweud bod llywodraeth Cymru'n Un wedi ei chael hi'n haws i gyflawni blaenoriaethau'r Blaid Lafur na rhai Plaid Cymru hyd yma. Mae dirfawr angen llwyddiannau concrit ar Ieuan Wyn Jones i gyfiawnhau ei benderfyniad i ddewis Llafur fel partner llywodraethol.

Mae dwy o brif flaenoriaethau'r Cenedlaetholwyr sef Mesur Iaith a refferendwm yn gorwedd mewn cors yn rhyw le.

Parthed y refferendwm rwy'n ei chael hi'n haws i gredu mewn Siôn Corn na chredu'r sbin bod Confensiwn Syr Emyr yn llwyddo i osod sylfaen cadarn ar gyfer pleidlais lwyddiannus yn 2010 neu 2011.

Mae'r LCO iaith, mae'n amlwg, mewn trafferthion difrifol. Yr addewid oedd y byddai'r cais yn cael ei gyhoeddi yn ôl yn y Gwanwyn. Fe drodd y Gwanwyn yn Haf a'r Haf yn Hydref. Yr addewid diweddaraf yw "cyn y Nadolig". Wel mae'r plantos wedi dechrau agor y ffenestri ar y calendr Adfent- ac asyn a seren sydd wedi ymddangos hyd yma. Dim sôn am LCO!

Cofiwch hefyd mai sôn am gyhoeddi'r LC0 ydyn ni yn fan hyn - dechrau'r broses. Mae'r daith araf a phoenus trwy ddrysfa Tŷ'r Cyffredin, y Pwyllgor Dethol, Tŷ'r Arglwyddi, Pwyllgor Cyfansoddiadol yr Arglwyddi, y Cynulliad a phwyllgorau Bae Caerdydd o hyd i ddod. Mae hynny i gyd er mwyn sicrhâi'r hawl i lunio mesur. Gallwch ychwanegu blwyddyn arall ar gyfer ystyried y mesur ei hun. Roedd Gerallt Gymro a Baldwin yn teithio'n gynt na hynny! Diawch, fe fyddai'r trydydd crwsâd wedi cyrraedd yn ôl o Gaersalem yn gynt na hynny!

Fe fyddai methu cyflawni trydedd flaenoriaeth Plaid Cymru sef gwelliannau trafnidiaeth De/Gogledd yn drychineb gwleidyddol i Ieuan Wyn Jones felly. Mae rhai o fewn Plaid Cymru yn dechrau colli amynedd a'r Glymblaid. Does 'na ddim llawer ohonyn nhw hyd yma ond dyw amynedd hyd yn oed cefnogwyr mwyaf pybyr y dirpwy brif weinidog ddim yn ddiddiwedd.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.