Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth

Archifau Chwefror 2010

Dewch at eich gilydd...

Vaughan Roderick | 11:37, Dydd Gwener, 26 Chwefror 2010

Sylwadau (0)

_40094446_peter_hain_203.jpgBant a fi i'r gynhadledd Lafur felly ac ar ôl misoedd o ddyfalu mae strategaeth Llafur Cymru ar gyfer yr etholiad cyffredinol yn dechrau amlygu ei hun.

Mae'n anodd gor-ddweud ynghylch pwysigrwydd yr etholiad yma i wleidyddiaeth Cymru. Os ydy Llafur yn colli yng ngweddill y Deyrnas Unedig gellir beio hynny ar y cylchred gwleidyddol. Yma yng Nghymru mae 'na rywbeth mwy sylfaenol yn digwydd gyda chyfres o etholiadau dros y blynyddoedd diwethaf yn awgrymu bod platiau tectonig ein gwleidyddiaeth yn symud. Mae'n ddigon posib mae'r etholiad hwn fydd cyfle olaf y blaid Lafur i ail-sefydlu ei goruchafiaeth wleidyddol draddodiadol cyn i batrwm amlbleidiol go iawn sefydlu ei hun.

Mae'n rhaid ysytyried apel Peter Hain am bleidleisiau cefnogwyr Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Gwyrddion yn y cyd-destun hwnnw. Serch hynny mae'n anodd peidio gweld y dacteg fel un cymharol orffwyll.

Y broblem gyntaf yw nad yw Peter yn fodlon cynghori pleidleiswyr Llafur i bleidleisio'n dactegol mewn etholaethau lle nad oes gobaith gan Lafur ennill. Y cwestiwn amlwg yw hwn. Os oes 'na gymaint yn uno "pleidleiswyr blaengar" (chwedl Peter) a chymaint yn eu gwahaniaethu o'r Ceidwadwyr pam nad yw Ysgrifennydd Cymru yn fodlon cynghori cefnogwyr ei blaid i fwrw pleidlais dros Lembit Opik, dyweder neu Roger Williams.

Problem arall yw bod Peter yn ceisio dyrchafu rhywbeth a allai fod yn dacteg ddefnyddiol mewn etholaeth unigol i fod yn strategaeth genedlaethol. Sut mae swyno pleidleiswyr Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerfyrddin, er enghraifft, a'u colbio yn Llanelli? Fedrwch chi ddim galw pobol yn "flaengar" ac yn "despicable"* (chwedl Nia Griffith) ar yr un pryd.

Ond y broblem fwyaf yw hon. Mae Peter yn cymryd yn ganiataol bod cefnogwyr Plaid Cymru a'r Demcoratiaid Rhyddfrydol, fel eu harweinwyr, yn bobol y chwith. Dyw hynny ddim o reidrwydd yn wir yn enwedig yn y Gymry wledig. Mae 'na hen ddigon ohonyn nhw sy'n casau Llafur cymaint os nad yn fwy na'r Ceidwadwyr.

*Cyhuddiad "bizarre" yn ol Plaid Cymru. Cwyno oedd Nia bod llun o Ieuan Wyn Jones wedi ymddangos mewn hysbyseb gan lywodraeth y cynulliasd yn y Llanelli Star.

Bwci Bo

Vaughan Roderick | 13:46, Dydd Iau, 25 Chwefror 2010

Sylwadau (1)

_40862664_fruit203bbc.jpgMae'r graffiau melltigedig yna ar daflenni etholiad yn hen gyfarwydd erbyn hyn. Y Democratiaid Rhyddfrydol wnaeth gychwyn yr arfer ond erbyn hyn mae'r pleidiau i gyd yn eu defnyddio.

Mae'n sicr eich bod yn gyfarwydd â nhw- y siartiau sy'n "profi" mai "ras ddau geffyl yw hon" neu fod rhyw blaid neu'i gilydd "ddim yn gallu ennill yma". Dyw'r siartiau byth yn gwbwl ddi-sail ond weithiau mae'n rhaid i blaid chwilio'n galed iawn am ystadegau i "brofi" ei dadl.

Yr enghraifft waethaf i mi weld erioed oedd yn ystod etholiad Cynulliad 2007 pan wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol honni mae "ras dau geffyl" rhyngddyn nhw a Llafur oedd yr etholiad yng Ngorllewin Caerdydd. Y sail i'r gosodiad hwnnw oedd cyfanswm cynghorwyr y pleidiau ar Gyngor Caerdydd. Ar y pryd doedd dim un o gynghorwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yn cynrychioli wardiau yn yr etholaeth dan sylw!

Ond beth os oedd sefyllfa yn codi lle doedd 'na ddim un ystaegyn ffafriol oedd yn bosib ei stretsio er mwyn "profi" pwynt. Oes modd cynhyrchu'r ystadegau angenrheidiol mewn rhyw ffordd neu gilydd. Oes, gleu!

Os ydych chi'n mentro i wefannau betio ( a rhyngoch chi a'ch nain os ydych chi'n gwneud!) fe wnewch weld bod modd betio ar ymgeiswyr ac etholaethau unigol.

Fe wnaeth Karl y bwci esbonio i fi unwaith sut mae'r system yn gweithio. Wrth osod prisiau gwleidyddol i gwmni Jack Brown fe fyddai Karl yn gwneud amcangyfrif ar ôl siarad ag ambell i arbenigwr. Doedd dim lot o ots os oedd ambell i brys yn or-hael. Mae'r prisiau newid wrth i'r arian ddod i mewn gan gywiro unrhyw gamgymeriad.

Dim ond y betwyr cynnar sy'n gallu manteisio ar gamgymeriad. Ymhen ychydig y betwyr ei hun sydd wedi gosod y pris. Mae'n werth nodi hefyd mai ychydig iawn o fetio sy 'na ymhell o flaen llaw.

Nawr meddyliwch eich bod yn despret am ystadegyn i "brofi" rhywbeth ar daflen. Oes 'na rywbeth i rwystro chi rhag gosod bet sylweddol ar eich ymgeisydd a thrwy hynny newid ei bris? Yr ateb yw nac oes.

Does gen i ddim tystiolaeth o gwbwl bod hynny'n digwydd ond mae'r peth yn bosib ac mae hynny'n werth cofio os ydych chi'n defnyddio prisiau betio fel rhyw fath o ganllaw ynghylch canlyniadau etholaeth.

Canu fel cana'r aderyn....

Vaughan Roderick | 23:48, Dydd Mercher, 24 Chwefror 2010

Sylwadau (5)

tn-DARE05.jpgDydw i ddim yn ddyn mawr am drydar neu "tweetio". Rwy'n defnyddio'r peth i dorri ambell i stori ond dyna i gyd. Mae Adam Price yn fy meio, er enghraifft, am y ffaith mae fe oedd y gwleidydd cyntaf yn y byd i ymddeol trwy "Twitter" ond ar y cyfan rwy'n cadw draw o'r safle. Does gen i ddim cymaint a hynny o ddiddordeb ym mywydau beunyddiol y defnyddwyr!

Ar y llaw arall mae'n well i mi gynnig esboniad ynghylch y "tweet" yma o eiddo Daran Hill.

"Vaughan Roderick and Toby Mason now reciting love poetry to one another"

I'r rheiny sydd ddim yn nabod Toby fe yw cydlynydd newyddion uned wleidyddol Ö÷²¥´óÐã Cymru. Mewn bywyd blaenorol roedd yn gyfrifol am golofn "Westgate" yn y Western Mail. Neithiwr roedd y ddau ohonom yn gwis-feistri mewn cwis tafarn gwleidyddol yn y bae ac fel rhan o'r cwis roedd y ddau ohonom yn darllen darn o farddoniaeth serch o eiddo Peter Black. Dyma flas ohoni;

"My tongue is weighed down,
my limbs can not move,
My mind in inflamed with anticipation.
I am your slave."

Doedd e ddim yn brofiad pleserus!

Dyna'r esboniad am bost Daran. Does dim angen i fy mhartner amau fy ffyddlondeb nac i neb amau rhywioldeb Toby!

I dalu'r pwyth yn ôl. Dyma "tweet" arall gan Daran;

"That was quite possibly the most humiliating moment of my life"

Beth oedd wedi digwydd? Roedd tîm Daran wedi cwpla'r noson yn gydradd gyntaf a thîm Dafydd Trystan o Blaid Cymru. Er mwyn setlo'r peth gofynnwyd i'r ddau enwi union nifer y pleidleisiau "Ie" yn refferendwm 1997. Roedd Dafydd o fewn chwech pleidlais a Daran rai miloedd allan.

Daran, wrth gwrs, oedd trefnydd proffesiynol yr ymgyrch Ie yn '97. Cofiwch os mai cael hwnna'n anghywir oedd embaras mwyaf ei fywyd mae wedi cadw ei hun yn hynod o bur!

Dyma engharifft o'r cwestiynau;

Enwch chwech Ysgrifennydd Cartref ers y rhyfel oedd naill ai'n cynrychioli etholaeth Gymreig new wedi eu geni yng Nghymru?

Fe fydd yr ateb a'ch atebion chi yn cael eu cyhoeddi yfory.

Cefn y rhwyd

Vaughan Roderick | 16:58, Dydd Mercher, 24 Chwefror 2010

Sylwadau (0)

Newport_County_crest.pngRoedd heddiw'n ddiwrnod prysur i'r gweinidog treftadaeth, Alun Ffred Jones. Roedd yn gorfod wynebu ei sesiwn gwestiynau misol ac hefyd ymateb i ddadl y Ceidwadwyr ar dwristiaeth.

Nawr gall neb wadu bod y Gweinidog yn gwybod ei ffwtbol. Mae cynhyrchydd C'mon Midffild yn gadeirydd clwb Dyffryn Nantlle, wedi'r cyfan. Fe ddylai fe o bawb wybod bod canmol un neu ddau dîm a pheidio enwi eraill yn gofyn am drwbl.

Doedd dim syndod felly bod Ann Jones ar ei thraed ar ôl i Ffred ganmol perfformiadau clybiau Caerdydd ac Abertawe. Cwyno oedd aelod Dyffryn Clwyd nad oedd Ffred wedi crybwyll tîm y Rhyl. Doeddwn i ddim yn gallu deall y gwyn mewn gwirionedd. Wedi'r cyfan mae'r Rhyl yn bedwerydd yng Nghynghrair Cymru ar hyn o bryd. Pam eu canmol nhw yn hytrach na Llanelli, y Seintiau Newydd neu Aberystwyth?

Y syndod mawr i mi oedd bod aelodau Casnewydd heb ymyrryd. Wedi'r cyfan mae'r alltudion rhyw ugain pwynt ar y blaen i bob clwb arall yn "Conference South" ac yn dechrau breuddwydio am ddychwelyd i wlad addewid y Cynghrair Pêl Droed.

Efallai bod ymyrraeth Ann wedi drysu'r gweinidog. Yn y ddadl ar dwristiaeth dechreuodd frolio am faint mae'r llywodraeth wedi gwario ar adfywio "trefi glan môr" gogledd Cymru. Fe wnaeth e restri'r trefi hynny gan enwi'r Rhyl (wrth gwrs), Bae Colwyn, Llandudno, Bangor, Amlwch, Llangefni a Chaergybi.

Llangefni? Glan Môr? Ydy newid hinsawdd wedi mynd mor bell yn barod? Costa Cefni amdani!

O diar...

Vaughan Roderick | 15:09, Dydd Mercher, 24 Chwefror 2010

Sylwadau (1)

mohammad_asghar.jpgDyw Ceidwadwyr y Cynulliad ddim yn cael un o'u dyddiau gorau heddiw. Dechreuodd pethau'n ddigon gwael wrth i Mohammad Ashgar ddweud yn ystod trafodaeth a dirprwyaeth o Armenia ei fod wedi gorfod "gadael ei blaid oherwydd menyw"! Rwy'n cymryd mai cyfeirio at ei ferch oedd e!

Y prynhawn yma mae'r pleidiau eraill yn cael hwyl ar ben penderfyniad y Ceidwadwyr i bleidleisio yn erbyn yr LCO tai gan dynnu at sylw at gyfres o ddatganiadau a dyfyniadau gan aelodau Ceidwadol yn cefnogi'r gorchymyn. Dyma un gan Darren Millar ym mis Rhagfyr, er enghraifft;

" I am pleased to confirm the Welsh Conservatives support, in principle, for the proposed LCO... we have an issue as a party on the right to buy, but, given the UK Government's proposals to review the housing revenue account regime, we must put dogma aside in this respect and focus on maximising the numbers of households that are housed rather than scrapping the right to buy for simply political reasons."

Ond y broblem fawr i'r Ceidwadwyr yw y byddai'r pwerau yma'n cael eu trosglwyddo yn sgil pleidlais "Ie" mewn refferendwm- pleidlais y mae'r blaid yn dymuno ei gweld mewn refferendwm y maen nhw yn cefnogi ei chynnal.

Yr wythnos hon bu Nick Bourne yn gwneud mor a mynydd am y ffaith bod Carwyn Jones wedi oedi am wythnos cyn danfon y llythyr swyddogol at Peter Hain yn gofyn am bleidlais. Os ydy'r Ceidwadwyr yn fodlon gweld pwerau'n cael eu trosglwyddo trwy'r refferendwm pam gwrthwynebu trosglwyddo rhai o'r pwerau hynny o ganlyniad i LCO?

Mae hyd yn oed David Melding yn cael trafferth i esbonio eu safiad!

Holl yn llon

Vaughan Roderick | 00:23, Dydd Mercher, 24 Chwefror 2010

Sylwadau (3)

Mae'n ddigon hysbys bod yr hen ffefryn noson lawen "Moliannwn" wedi ei chyfansoddi yn yr Unol Daleithiau ond oes unrhyw un yn gallu esbonio'r stori yma?

Wrth i Americanwyr symud tuag at eu hetholiadau "hanner tymor" mae'r Democratiaid yn poeni eu boliau am gyfres ddrudfawr o arolygon barn gan gwmni Rasmussen sy'n darogan dyddiau drwg i'w hymgeiswyr. Yn ôl y Democratiaid mae methodoleg Rasmussen yn ffafrio eu gwrthwynebwyr ac mae'r ffaith bod y cwmni wedi cynnal mwy o arolygon nac unrhyw gwmni arall yn ystod y misoedd diwethaf yn llywio a chamliwio y naratif gwleidyddol.

Ond pwy sy'n talu am arolygon Rasmussen? Yn ôl Rasmussen ei mae cronfa fuddsoddi wedi prynnu i mewn i'r cwmni yn ddiweddar. Enw'r gronfa yw ""

Fy mwyn gyfeillion dewch ynghyd! Rhwng gliniaduron Bala Cynnwyd a hwyl y noson lawen mae'n ymddangos nad yw dylanwad Cymru wedi llwyr ddarfod ar y mur uchaf!

Hyd y gwelaf i mae'r enw "Noson Lawen" wedi ei ddewis ar fympwy. Dyma esboniad y gronfa;

"Noson Lawen"; A traditional Welsh celebration frequently held at the successful conclusion of the harvest season in a place where successful harvests are not taken for granted.

Wel, ie ond...!


Paratoi am barti

Vaughan Roderick | 11:58, Dydd Mawrth, 23 Chwefror 2010

Sylwadau (1)

Mae'n sicr eich bod chi wedi cael y profiad wrth gynnal parti o'r cyfnod arswydus yna rhwng yr amser y roedd pawb i fod cyrraedd a'r gnoc gyntaf ar y drws.

Mae'r bwyd ar y bwrdd y gwin yn y ffrij a diawl o neb wedi cyrraedd! Ydy nhw'n mynd i ddod o gwbwl? Ble ar y ddaear maen nhw? Ti'n siwr mai heno ddywedon ni?

Rhyw deimlad fel 'na sy yn y Bae ar hyn o bryd wrth i bawb ddisgwyl i'r ymgyrch etholiadol go iawn gychwyn. Mae pawb yma'n gorfforol wrth gwrs (hyd yn oed Mick Bates) ond mae 'na 'ryw deimlad bod meddyliau pawb ar bethau eraill.

Mae pob math o sibrydion o gwmpas y lle. Pa Aelod Seneddol, er enghraifft, wnaeth ddweud, yn ôl rhai, ei fod yn "edrych ymlaen at fynd yn ôl at ddysgu?" ac oes 'na wirionedd yn y sibrwd bod ambell Aelod Seneddol yn bwriadu sefyll lawr ar y funud olaf?

Troi ei feddwl at beth allai ddigwydd ar ôl yr etholiad os oes 'na senedd grog wnaeth Nick Bourne heddiw. I fod yn deg i Nick, dyw e ddim yn disgwyl i hynny ddigwydd. Fi wnaeth ofyn iddo ba gyngor y byddai'n rhoi i David Cameron ar sail ei brofiadau o geisio delio a Phlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn 2007.

Wrth son am Blaid Cymru awgrymodd Nick yn ddrygionus y gallai David Cameron sicrhau eu cefnogaeth yn weddol hawdd. Wedi'r cyfan, meddai, doedd y blaid ddim wedi codi llawer o bris i Lafur am eu cefnogaeth yn y Cynulliad!

A'r Democratiaid Rhyddfrydol? Dim ond gobeithio oedd Nick na fyddai'r blaid yn troi ei hun yn "jôc genedlaethol" fel gwnaethon nhw ynghylch yr enfys.

Y dall yn arwain y dall

Vaughan Roderick | 21:16, Dydd Llun, 22 Chwefror 2010

Sylwadau (0)

20100220_dn_0ky40djl.jpgDydw i ddim yn gwybod faint o fynd a dod sy 'na rhwng Y Bala a Bala Cynnwyd yn yr Unol Daleithiau erbyn hyn. Dydw i ddim yn gwybod chwaith faint o bobl y cwm sy'n ymweld â chymuned gyfagos Welsh Valley.

Mae'n gyd-ddigwyddiad mae'n rhaid bod un o addewidion "7 i 07" Plaid Cymru wedi cael ei wireddu gan y bwrdd sy'n rhedeg ysgolion Bala Cynwyd a Welsh Valley. Yr addewid i roi gliniaduron i ddisgyblion ysgol er mwyn astudio yn eu cartrefi oedd yr addewid hwnnw.

Bwrdd ysgolion (Meirion, rwy'n cymryd) oedd un o'r rhai cyntaf yn yr Unol Daleithiau i arbrofi gyda chynllun o'r fath. Mae'r cyfan wedi troi'n ar ôl i rieni ddarganfod bod gan y bwrdd y gallu i ysbio'n ddiarwybod ar ddisgyblion yn eu cartrefi trwy'r camerâu ar y gliniaduron.

Mae'r FBI a heddlu Sir Drefaldwyn, sori Montgomery County, yn ymchwilio. Efallai bod Plaid Cymru (a disgyblion Ysgol y Berwyn) wedi cael dihangfa lwcus!

Nid ar chwarae bach...

Vaughan Roderick | 09:59, Dydd Llun, 22 Chwefror 2010

Sylwadau (7)

Billy.jpgUn o ganlyniadau dirywiad y rhwydweithiau o newyddiadurwyr lleol yw bod straeon di-ri yn cael eu colli. Mae'r dyddiau pan oedd asiantaethau fel "Hill's Welsh Press" a "Cambrian" yn gofalu bod pob achos llys a phob cyfarfod cyngor yn cael ei gyfro wedi hen ddiflannu. Digwydd bod yn y llys ar gyfer achos arall oedd yr hunan liwtiwr wnaeth ganfod yr achos ynghylch y fam a'r methadon yng Nghaernarfon wythnos ddiwethaf, er enghraifft.

Does neb yn cribo'n ofalus trwy bapurau cyngor ychwaith ac mae straeon pwysig yn cael eu hanwybyddu oherwydd hynny. Dyma un ohonyn nhw.

Wythnos ddiwethaf fe gyhoeddodd Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc Cyngor Caerdydd adroddiad ar ddarpariaeth chwarae trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifddinas. Cynhaliwyd yr arolwg oherwydd yng ngeiriau'r Cyngor "y peryg bod plant yn yr ysgolion Cymraeg yn colli hyder ieithyddol ac yn ei gweld fel iaith academaidd oherwydd diffyg cyfleoedd i'w defnyddio".

Mae'r ffaith bod yr aelod cabinet perthnasol sef y Democrat Rhyddfrydol, Nigel Howells wedi gofyn i'r pwyllgor baratoi'r adroddiad a bod y pwyllgor wedi blaenoriaethu'r gwaith hwnnw yn adrodd cyfrolau am agwedd Cyngor Caerdydd tuag at yr iaith. Mae cynnwys yr adroddiad hyd yn oed yn fwy ysgytwol ac yn mynd ymhell y tu hwnt i ddarpariaeth chwarae.

Yn ôl yr adroddiad fe fydd y canran o blant yng Nghaerdydd sy'n derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn croesi trothwy ugain y cant yn ddiweddarach eleni a does 'na ddim arwydd o gwbwl bod yn cynnydd yn y galw yn debyg o arafu. Yn wir, yn ôl y pwyllgor mae'r ddinas, neu rannau ohoni, wedi cyrraedd "tipping point" ieithyddol lle mae'n rhaid ystyried y Gymraeg fel iaith gymunedol fyw yn gydradd a'r Saesneg.

Yn yr amgylchiadau hynny dyw hi ddim yn ddigon, medd y pwyllgor, i daflu tipyn o arian at fudiadau iaith gwirfoddol a disgwyl iddyn nhw gwneud y gwaith. Yn hytrach mae'n rhaid i'r Cyngor ei hun gael ei chwyldroi er mwyn cynnig gwasanaethau sy'n wirioneddol ddwyieithog. Mae'r pwyllgor yn gwneud cyfres o argymhellion yn ymwneud a phob agwedd o waith y Cyngor. Dyma ambell enghraifft;

- y dylai'r Gymraeg gael ei hystyried yn "fantais " ar gyfer pob swydd gyda'r cyngor ac eithrio'r rhai lle mae'n hanfodol. Dylai ymwybyddiaeth o ddyletswyddau cyfreithiol a diwylliannol y Cyngor tuag at y "Gaerdydd ddwyieithog" fod yn hanfodol ar gyfer pob swydd.

- y dylai uchel-swyddog ym mhob adran gael ei benodi'n "arwr y Gymraeg" i gydlynu a brwydro dros ddarpariaeth Gymraeg.

-y dylai'r Cyngor sefydlu ac arwain fforwm o fudiadau Cymraeg y ddinas i lunio a monitro cynlluniau iaith y Cyngor.

-y dylai gwariant a staffio y Gwasanaeth Ieuenctid (ac adrannau eraill y Cyngor yn eu tro) adlewyrchu'r ugain y cant o blant sy'n derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae 'na lawer mwy ac mae'r adroddiad yn werth ei ddarllen yn ei gyfanrwydd. Yn anffodus ac yn eironig, hyd y gwelaf i dim ond y fersiwn Saesneg sydd ar gael ar lein! Mae ar gael yng nghofnodion cabinet y cyngor yn . Yn yr un cyfarfod, gyda llaw, cytunwyd ar gynllun i agor deunawfed ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd.

Rhyfedd o fyd a rhyfedd o ddinas!

Tipyn o sesh

Vaughan Roderick | 11:16, Dydd Gwener, 19 Chwefror 2010

Sylwadau (1)

_42188214_bay416300.jpgYmhen ychydig wythnosau fe fydd yr adeilad y mae'r Cynulliad yn galw "y Pierhead" neu'r "lanfa" yn cael ei ailagor i'r cyhoedd. "Swyddfa'r Docs" yw hi i rai ohonom ni o hyd ond ta beth am hynny mae'n adeilad ysblennydd a chafodd Ron Davies dipyn o fargen pan brynodd y lle am bunt o gwmni'r dociau.

Neu felly roedd hi'n ymddangos ar y pryd. Mae'r cynulliad wedi gwario ffortiwn ar adnewyddu'r adeilad ar hyd y blynyddoedd heb wybod yn iawn beth i wneud a'r lle. Defnyddio'r adeilad fel pencadlys y Llywodraeth oedd bwriad Ron Davies. Roedd 'na rinwedd i'r syniad gan wneud y gwahaniaeth rhwng y Cynulliad a'r Llywodraeth yn ddaeryddol eglur. Rhoddodd Alun Michael y caibosh ar y syniad gan ddadlau y dylai'r adeilad bod ar agor i'r cyhoedd ac y byddai lleoli swyddfeydd y Cabinet yno yn arwain at ddelwedd hen-ffasiwn a ffroen uchel.

Cyn codi'r Senedd defnyddiwyd yr adeilad fel canolfan ymwelwyr y cynulliad er mai prin oedd yr "ymwelwyr" ac eithrio grwpiau ysgol wnaeth fentro i mewn. Erbyn hyn mae'r gwaith addysgiadol wedi symud i gyfleusterau rhagorol Siambr Hywel ac mae mwy fyth o arian wedi ei wario ar y Pierhead i'w droi'n ganolfan hyblyg ar gyfer arddangosfeydd a chyfarfodydd.

I nodi'r ail-agor trefnwyd cyfres o "sesiynau" trafod ac yn ôl y sôn mae galw mawr am docynnau. Dyw hynny ddim yn syndod i ystyried rhai o'r "enwau mawr" sy'n cymryd rhan pobol fel George Monbiot, Andrew Pierce, Golygydd Cynorthwyol y Daily Telegraph a Kevin Maguire gohebydd gwleidyddol y Mirror.

Gellir cael y manylion i gyd yn . Mae'r gwefan yn ddwyieithog ac fe fydd 'na gyfieithu ar y pryd yn y sesiynau ond mae rhai yn rhyfeddu nad oes 'na un o'r sesiynau lle fydd y Gymraeg yn brif iaith. Y cwestiwn mae rhai'n gofyn yw hwn. Os ydy'r Pierhead i fod yn symbol o'r cynulliad oni ddylai'r dwyieithrwydd bod yn fwy 'na symbolaidd?

Batiad Cyntaf

Vaughan Roderick | 15:07, Dydd Iau, 18 Chwefror 2010

Sylwadau (2)

Bant a ni felly. Mae'n bryd i ni hel ein paciau ar gyfer yr ail o'r cynadleddau gwanwyn er nad oes rhaid i ni fynd yn bell iawn y tro hwn.

Diawch, mae cynhadleddau'n cael eu cynnal mewn llefydd swanc y dyddiau hyn! Dyna ni yn Theatr y Grand i'r Democratiaid Rhyddfrydol bythefnos yn ôl a Stadiwm Swalec sy'n croesawi Plaid Cymru'r penwythnos yma. Mae'n ymddangos bod y dyddiau pan oedd y pleidiau'n mentro i lefydd fel Bedwas, Tymbl neu Glydach wedi hen darfod!

Mae pawb yn y byd gwleidyddol ar bigau drain wrth gwrs yn disgwyl yr etholiad cyffredinol ac mae 'na un arwydd bach o obaith i Lafur heddiw. Mewn isetholiad cyngor ym Mhen-y-bont llwyddodd Llafur i gipio sedd yn ward Pendre o'r Democratiaid Rhyddfrydol. Saith pleidlais yn unig oedd y mwyafrif Llafur- union yr un mwyafrif ac un y Democratiaid Rhyddfrydol y tro diwethaf!

Mae'r canlyniad yn golygu bod Llafur bellach ac union hanner y seddi ar Gyngor Pen-y-bont- un o ddim ond tri chyngor y mae'r blaid yn ei harwain yng Nghymru. Mae'n werth nodi bod ward Pendre yn etholaeth Peny-y-bont ei hun sedd lle mae gan y Ceidwadwyr obeithion. Fe fydd yn rhaid i'r Toriaid wneud yn well er mwyn ei chipio!

Dyma'r canlyniad llawn;

Llafur 200, Dem Rhydd 193, Ann 68, Ceid. 60, Plaid Cymru 25.

Ar Grwsâd

Vaughan Roderick | 11:22, Dydd Iau, 18 Chwefror 2010

Sylwadau (1)

_45081859_celtic_crusaders_226x170.gifRwyf wedi bod i ffwrdd am gwpwl o ddyddiau am un brêc bach olaf cyn yr etholiad. Maddeuwch i mi am esgeuluso'r blog! Rwyf wedi bod yn ceisio meddwl am bethau ar wahân i wleidyddiaeth. Rygbi ,er enghraifft. Yn benodol dwi wedi bod yn pendroni ynghylch penderfyniad tîm rygbi'r Crwsadwyr i newid enw eu masgot.

"Carwyn y Crwsadydd" oedd enw'r milwr bychan pan oedd cartref y tîm ym Mhen-y-bont. Dewiswyd yr enw hwnnw i anrhydeddu'r Aelod Cynulliad lleol sy'n byw nid nepell o Gae'r Bragdy. Gyda'r tîm bellach wedi symud i Wrecsam mae'r creadur wedi cael ei ail-fedyddio'n "Colin". Ydy hynny'n arwydd o ddiffyg apêl y Prif Weinidog yn y Gogledd? Efallai y dylai Carwyn cael gair bach yng nghlust noddwraig Cynghrair Rygbi Cymru neu a fyddai mynd ar ofyn Janet Ryder yn ormod o embaras iddo?

Achos Da

Vaughan Roderick | 11:55, Dydd Gwener, 12 Chwefror 2010

Sylwadau (1)

_41987154_curry_bbc.jpgHeddiw fe fydd Peter Hain yn lansio ymgyrch "" yn Abertawe. "Islamic Relief" sydd wedi trefnu'r digwyddiad lle fydd bwytai Asiaidd y ddinas yn cyfrannu hanner pris pob pryd i Gronfa Argyfwng Haiti. Llwyddodd digwyddiad tebyg yng Nghaerdydd i godi £25,000.

Gallai rhywun cellweirus awgrymu y byddai'n bosib ychwanegu at y swm hynny trwy drefnu cinio £1,000 y plât yng Nghlwb y Parkhouse. Noson i ddathlu'r ffaith bod Cymru'n wlad fwy cyfoethog 'na Guinea Bissau efallai!

Mae'r noson yn Abertawe yn cael ei chynnal ar Chwefror 11eg. Yn y cyfamser mae cyngerdd "" yn cael ei gynnal yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd nos Lun nesaf. Mae Rhydian Roberts, Dennis O'Neill, Wynne Evans, Natalya Romaniw, Geraint Llyr Owen, Mal Pope, David Soar, Michael Pollock, Cor y Cwm a Chor Caerdydd i gyd yn perfformio. Does dim son am Elinor Burnham, hyd yma!

Ym Mhonypridd mae 'nghariad

Vaughan Roderick | 10:00, Dydd Gwener, 12 Chwefror 2010

Sylwadau (1)

_41831806_daitrish203.jpgMae'n anodd datgysylltu'r egwyddorol o'r personol weithiau. Mae'n debyg mai cymysgedd o'r ddau yw aelod seneddol a rhai o aelodau lleol y Blaid Lafur ym Mhontypridd i osgoi gorfod dewis olynydd i Kim Howells trwy ddefnyddio rhestr fer wedi ei chyfyngu i ferched yn unig.

Fe fydd rhai o'r gwrthwynebwyr yn erbyn y peth ar egwyddor, eraill yn dymuno gweld unigolyn arbennig yn cael y cyfle i ymgeisio. Rhyw un fel Garry Owen, cadeirydd Llafur Cymru, neu hyd yn oed fy nghyn gyd-weithiwr, Owen Smith.

Ar bapur o leiaf fe fyddai Owen Smith yn ymgeisydd perffaith. Mae ganddo gysylltiadau agos a'r ardal ac mae'n ddyn huawdl a galluog. Ar y llaw arall mae'n ymwybodol iawn o'r niwed y gall ffraeo ynghylch rhestri merched yn unig achosi. Ef wedi cyfan oedd ymgeisydd aflwyddiannus y blaid yn is etholiad seneddol Blaenau Gwent!

Hen Hanes.

Vaughan Roderick | 14:54, Dydd Iau, 11 Chwefror 2010

Sylwadau (3)

_40883892_thatcher_bbc238.jpg Bues i'n cadeirio trafodaeth pedair plaid yn ystod yr awr ginio heddiw. Nid am y tro cyntaf fe drodd y peth yn ffrae ynghylch Thacheriaeth a'i heffaith ar Gymru. Am ddeg munud o'r bron fe fu cynrychiolwyr y Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr yn dadlau'n danbaid ynghylch union gynnwys maniffesto Llafur 1983.

Pwy oedd yn y gynulleidfa? Myfyrwyr chweched dosbarth sy'n studio gwelidyddiaeth. Fe'u ganwyd yn y nawdegau. Oedd angen y wers hanes?

Parti mewn bragdy

Vaughan Roderick | 10:22, Dydd Iau, 11 Chwefror 2010

Sylwadau (2)

_44184910_beer_bbc203.jpgDiawch, oes 'na etholiad ar y gorwel neu rywbeth?

Mae'r byd a'i wraig o gwmpas y lle yn ymgyrchu heddiw ac efallai bod lleoliadau eu cynadleddau newyddion a chyfarfodydd yn dweud rhywbeth am leoliad maes y gad yn ystod y misoedd y nesaf.

Yn ne Caerdydd a Phenarth, sedd sydd ond wedi ymddangos ar radar y Ceidwadwyr yn ddiweddar, y mae George Osborne heddiw. I fod yn deg mae Canghellor y Ceidwadwyr yn cwrdd â phobol busnes o bob rhan o'r brifddinas. Serch hynny mae'r ffaith ei fod yn ne yn hytrach na gogledd neu orllewin Caerdydd yn dweud rhywbeth.

Ym mragdy Brains mae Mr Osborne yn cynnal ei gynhadledd newyddion, gyda llaw. Fe wnes i gynnig ffeifar i unrhyw un oedd yn fodlon ei herio i drefnu "**** up" fel prawf o'i allu ond dydw i ddim yn disgwyl i neb wneud!

Yn y cyfamser fe fydd trigolion Llanelli yn ei chael hi'n anodd osgoi pobol fawr Llafur a Phlaid Cymru heddiw. Mae Carwyn Jones ac Ieuan Wyn Jones yn y dref gyda'r ddau am gymryd y clod am gynllun gwerth pymtheg miliwn i addasu capel Seion yn theatr tra bydd Peter Hain yn ymweld â'r ganolfan waith i gwrdd â phobol sydd ar gyfartaledd yn fwy cyfoethog na thrigolion Burkino Faso!

De Caerdydd? Llanelli? Mae hwn yn mynd i fod yn etholiad od ar y naw! Yn y cyfamser dwi'n clywed bod Llafur dal wrthi yn canfasio ar y ffon ym Mro Morgannwg. Pam? Oes 'na ryw wybodaeth gudd gan y blaid sy'n awgrymu nad yw pethau hanner cynddrwg ac maen nhw'n ymddangos?

Gwesty Cymru a Hotel Rwanda

Vaughan Roderick | 13:32, Dydd Mercher, 10 Chwefror 2010

Sylwadau (2)

_40094446_peter_hain_203.jpgWel, dyma i chi rhywbeth i ddathlu. Mae Cymru yn "gymharol gyfoethog" yn ôl Peter Hain. O gymharu â phwy? Coeliwch neu beidio, yr ateb yng ngolwg Ysgrifennydd Cymru yw Rwanda!

Dyma ei union eiriau yn y senedd heddiw wrth ymateb i gyhuddiad gan David Jones ei fod yn hunanfodlon ynghylch cyflwr economi Cymru.

"Does he not agree, that compared with Rwanda, and most other countries of the rest of the world is the point I was making, if he'd not chosen to take the quote out of context; that Wales is indeed still a wealthy country?"

Dyma i chi ychydig o ffeithiau am Rwanda.

Mae trigolion y wlad ac incwm o $410 y flwyddyn ar gyfartaledd yn ôl y "World Bank". Mae dynion ar gyfartaledd yn byw i fod yn 48. Mae 7% o'r boblogaeth yn berchen ar ffôn ac mae 1% yn defnyddio'r rhyngrwyd.

Teg yw dweud felly bod Peter Hain yn ffeithiol gywir.

Diweddariad Mae Peter newydd ryddhau'r datganiad yma;

"Frankly, I could have chosen my words more carefully. Of course no one is suggesting that Wales has ever suffered from poverty on the same scale as in Africa.

My point was that home repossessions and job losses in Wales are, thankfully, at a much lower level than under the disastrous recessions of the 1980s and 1990s when Conservative Governments were in power."

Oes 'na derm Cymraeg am "non sequitur"?

Handlo hunllef

Vaughan Roderick | 13:58, Dydd Mawrth, 9 Chwefror 2010

Sylwadau (0)

_45279989_kirsty2261pa.jpgYng nghanol cyfnod bach digon hunllefus i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru mae gan y blaid un cysur ac mae hwnnw'n gysur go fawr. Mae Kirsty Williams wedi arddangos sgiliau a synnwyr gwleidyddol o'r radd uchaf wrth ddelio nid yn unig a sefyllfa Mick Bates ond hefyd y trafodaethau ynghylch y bleidlais i gynnal refferendwm.

Roedd 'na beryg y gallai'r bleidlais honno ynghyd a bygythiad y blaid i ymatal ynddi fod yn gwmwl dros gynhadledd y blaid. Llwyddodd Kirsty i osgoi hynny yn gelfydd trwy gyrraedd cytundeb a'r llywodraeth Ddydd Gwener ar ôl danfon neges glir bod angen iddi fod yn llai llawdrwm wrth ddelio a'r gwrthbleidiau os am sicrhau eu cefnogaeth.

Doeddwn i ddim yn y neuadd ar gyfer araith Kirsty yn Abertawe ond yn ôl y rhai oedd yno roedd hi'n dipyn o "barnstormer". Pwy all beio Kirsty felly os aeth hi i'w gwely nos Sadwrn gan deimlo bod popeth yn mynd o'i phlaid?

Gallwn ond dychmygu gymaint o glec oedd gweld y cyhuddiadau ynghylch Mick Bates yn y "Wales on Sunday". Roedd hi, fel ni newyddiadurwyr, yn gwybod bod aelod Maldwyn wedi cael anaf yn oriau man y bore rhai wythnosau yn ôl. Roedd hi, a ni, yn gwybod bod Mick wedi bod yn yfed cyn hynny. Coeliwch neu beidio dyw "gwleidydd yn meddwi" ddim yn stori!

Yr hyn y gwnaeth hi'n stori oedd honiad y papur bod 'na gyhuddiad bod Mick Bates wedi ymddwyn yn fygythiol tuag at staff y gwasanaeth iechyd. Prin oedd tystiolaeth y papur mewn gwirionedd ac fe fyddai'n annheg beirniadu Kirsty am beidio â gweithredu yn erbyn yr aelod yn syth. Roedd cadw Mick i ffwrdd o newyddiadurwyr a chamerâu yn gamgymeriad ond yn un cymharol ddibwys.

Pan ddarlledodd y Ö÷²¥´óÐã honiadau gweithiwr ambiwlans ynghylch ymddygiad Mick Bates fe weithredodd y blaid y gyflym ac yn gywir. Collodd yr aelod ei swydd fainc blaen a'i gadeiryddiaeth pwyllgor yn syth a doedd na ddim ymdrech i fychanu difrifoldeb y sefyllfa. Yn ei chynhadledd newyddion heddiw atebodd Kirsty bob un cwestiwn yn bwyllog a gofalus gan wrthod cymryd yr abwyd a chwestiynu amseriad ymddangosiad y stori.

Y cyhuddiad y mae dyn yn clywed amlaf gan wrthwynebwyr Kirsty yn y pleidiau eraill yw ei bod hi'n "anaeddfed" neu'n "wleidyddwraig myfyrwyr". Mae ei hymddygiad dros y dyddiau diwethaf wedi gwneud llawer i ddadbrofi'r cyhuddiad hwnnw.

Bob y Bildar

Vaughan Roderick | 12:10, Dydd Mawrth, 9 Chwefror 2010

Sylwadau (0)

_40607983_5c203.jpg Nid nepell o'r Cynulliad, cyferbyn a Chanolfan y Mileniwm mae 'na safle adeiladu sydd, fel nifer o rhai eraill yn y Bae, wedi bod yn segur ers y danchwa economaidd ddeunaw mis yn ôl. Dros nos bron diflannodd yr adeiladwyr a'u peiriannau gan adael y bloc o fflatiau moethus wedi ei hanner orffen.

Heddiw wnaeth aelod Llafur bwynt o dynnu fy sylw at yr olygfa a'r ffaith bod craen uchel wedi ail-ymddangos ar y safle a bod dynion mewn hetiau caled a siacedi melyn i'w gweld ym mhobman. Un craen ni wna wanwyn, wrth reswm ond mae'r ffaith bod ambell i flaguryn economaidd yn ymddangos wedi codi calonnau pobol Llafur.

Mae gweld ambell i graen neu glywed bod cyfaill neu gymydog wedi llwyddo i werthu tÅ· yn fwy real i'r rhan fwyaf ohonom nac ystadegau haniaethol ynghylch tyfiant economaidd neu ddiweithdra.

Gydag arwyddion o'r fath a'r arolygon barn yn awgrymu bod yr adwy rhwng y ddwy blaid fawr yn lleihau does dim rhyfedd bod pobol Llafur ychydig yn fwy gobeithiol neu yn anobeithio llai ynghylch yr etholiad cyffredinol.

Deuparth ffordd ei gwybod

Vaughan Roderick | 18:37, Dydd Llun, 8 Chwefror 2010

Sylwadau (8)

Rhydfelenbad.jpgMaddeuwch i mi bod y blogio wedi bod yn ysgafn y dyddiau diwethaf yma. Rhwng mynychu'r hwn a chadeirio'r llall mae pethau wedi bod yn brysur!

Heddiw bues i'n cadeirio trafodaeth ynghylch y mesur iaith arfaethedig wedi ei threfnu gan fudiadau dathlu'r iaith gan ryfeddu, nid am y tro cyntaf, at athrylith a dawn geiriau Gwion Lewis.

Mewn gwirionedd roedd y drafodaeth braidd yn rhyfedd gan fod 'na ambell i wleidydd, gwas sifil a sbad yn y gynulleidfa yn gwybod yn iawn beth yw cynlluniau'r llywodraeth tra bod eraill yn gorfod ceisio dyfalu. Troi o gwmpas y gwahaniaethau rhwng hawliau, safonau a dyletswyddau wnaeth y drafodaeth. Dydw i ddim am fynd i fanylion yn fan hyn ond fe gafwyd un enghraifft hynod ddifyr o'r fath o gwestiynau fydd yn lliwio'r ddadl mewn blynyddoedd i ddod.

Michael Jones o'r mudiad "Rhieni Dros Addysg Gymraeg" wnaeth roi'r wers hanes wrth gyfeirio yn ôl at y cymal yn neddf addysg 1944 sy'n sylfaen i'r gyfundrefn addysg Gymraeg. Mae pob un ysgol Gymraeg yn bodoli ar sail y cymal hwnnw sy'n ymddangos yn gymharol ddi-nod. Cymal 76 yw'r un perthnasol a dyma'r frawddeg allweddol;

"... local education authorities shall have regard to the general principle that, so far as is compatible with the provision of efficient instruction and training and the avoidance of unreasonable public expenditure, pupils are to be educated in accordance with the wishes of their parents."

Y geiriau "dymuniad eu rhieni" oedd y sail i bob ymdrech ac ymgyrch i sefydlu ysgol Gymraeg o 1944 ymlaen. Bu llawer yn frwydrau hir a chaled. Mae'r rheswm am hynny yn amlwg o eiriad y cymal. Gosod dyletswydd, a hynny'n ddyletswydd hawdd ei osgoi, ar gynghorau oedd y ddeddf nid rhoi hawl di-amod i rieni fynnu addysg Gymraeg i'w plant. Dyna oedd yn gyfrifol am yr hyn y mae llawer yn ystyried yn "gywilydd Gorllewin Morgannwg"- y ffaith ysgytwol bod y cyngor hwnnw wedi llwyddo i osgoi agor yr un ysgol gynradd Gymraeg newydd o ddyddiad ei sefydlu yn 1974 i'w ddiflaniad yn 1996.

Mae pethau wedi newid ers sefydlu'r cynulliad. Erbyn hyn mae disgwyl i gynghorau gynnal ymchwil o flaen llaw i asesu maint tebygol y galw am addysg Gymraeg a chynllunio ar ei gyfer. Yn ôl Michael mae'r asesiadau yn effeithiol. Mae p'un ai ydy hynny'n esgor ar weithredu ai peidio yn fater arall.

Cymerwch un enghraifft o eiddo Michael sef y clwstwr o bentrefi rhwng Llantrisant a Phontypridd sy'n ffurfio dalgylchoedd Ysgol Castellau ac Ysgol Gynradd Gartholwg. Fel un wnaeth dreulio rhan o'i blentyndod yn Efail Isaf mae'r peth yn ryfeddod i mi ond mae'n bosib mai'r ardal fach yma fydd y lle cyntaf yn y Gymru di-Gymraeg lle bydd y mwyafrif o'r plant yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng yr iaith.

27.6% o blant yr ardal oedd yn derbyn addysg Gymraeg yn 2008 ond yn ôly Cyngor yn y flwyddyn honno roedd rhieni o gwmpas 35% o'r plant oedd heb gyrraedd oedran ysgol yn dymuno addysg Gymraeg i'w plant.

Pa ymateb sydd wedi bod gan y Cyngor? Dim hanner digon yn ôl Rhag a chan mae dyletswydd ar y cyngor yn hytrach na hawl i rieni yw sylfaen y gyfundrefn o hyd mae'n bosib i gyngor sy'n dymuno llusgo ei draed wneud hynny.

Ni fydd addysg yn rhan o'r Mesur Iaith sydd i'w gyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf ond mae'n debyg y bydd 'na fesur yn ymwneud ac addysg Gymraeg yn y Cynulliad nesaf. Gallai'r union gydbwysedd rhwng hawliau, safonau a dyletswyddau yn y mesur cyntaf osod cynsail hynod o bwysig.

Anoracia

Vaughan Roderick | 10:33, Dydd Gwener, 5 Chwefror 2010

Sylwadau (2)

558.jpgMae 'na benwythnos bach prysur o fy mlaen. Mae gen i "Dau o'r Bae" a'r podlediad i'w cwpla yng Nghaerdydd cyn heglu hi am Abertawe ar gyfer cynhadledd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Efallai mai meddwl am y gynhadledd honno sydd wedi sbarduno mi i bostio ynghylch diwygio'r drefn etholiadol. Wedi'r cyfan mae'n anodd trafod gwleidyddiaeth ac aelod o'r blaid felen heb i PR godi ei ben yn hwyr neu'r hwyrach!

Nid cynrychiolaeth gyfrannol oedd yn cael ei gynnig gan Gordon Brown yn ei araith ynghylch y cyfansoddiad ddechrau'r wythnos wrth gwrs. Yn lle hynny cynnig refferendwm ynghylch cyflwyno'r "bleidlais amgen" gwnaeth y Prif Weinidog. Pleidlais amgen yw'r cyfieithiad cywir, gyda llaw, ond sylwer mai "alternative" yw ystyr amgen yn y cyd-destun yma. Mae p'un ai ydy hi'n bleidlais "amgen" yn ystyr arall y gair yn fater arall!

Y peth cyntaf i ddweud yw nad yw defnyddio'r bleidlais amgen yn debyg o gynhyrchu senedd gyfrannol. Am y rheswm hynny gallai'r Democratiaid Rhyddfrydol ymatal yn y bleidlais seneddol yr wythnos nesaf. Fe fyddai hynny'n safiad dewr. Wedi'r cyfan fe fyddai'r blaid yn elwa o system pleidlais amgen ac mae 'na beryg y gallai methu cefnogi refferendwm ddanfon neges ddryslyd iawn i'r etholwyr.

Mae'r un peth yn wir am y bleidlais ynghylch refferendwm yn y cynulliad, gyda llaw. Gyda'r pleidleisiau yn y Bae a San Steffan ar yr un diwrnod fe fydd yn rhaid i'r blaid feddwl yn ofalus iawn am ganlyniadau ei phenderfyniadau. Gallai esbonio pam fod y blaid wedi rhwystro'r etholwyr rhag cael dweud eu dweud ynghylch rhagor o ddatganoli a newid y drefn bleidleisio fod yn dipyn o "hard sell" i blaid sydd wedi clochdar o blaid y polisïau hynny ers degawdau.

I fynd yn ôl at y bleidlais amgen ei hun, mae 'na fwy nac un fersiwn o'r system. Hanfod nhw i gyd wrth gwrs yw bod ymgeiswyr yn cael eu rhestri yn nhrefn eu dewis a bod dewisiadau cefnogwyr ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael eu hail-ddidoli nes i ymgeisydd dderbyn 50%+1 o'r pleidleisiau.

Mewn rhai cyfundrefnau gorfodir i'r etholwyr marcio pob un ymgeisydd. Mewn systemau eraill nifer cyfyngedig sy'n gorfod cael eu rhifo. Ail ddewisiadau'n yn unig sy'n cael ei hystyried wrth ethol Maer Llundain, er enghraifft.

Os ydy'r drefn yn cael ei mabwysiadu un o'r dewisiadau pwysicaf fydd penderfynu p'un ai i ganiatáu i bobol pleidleisio "uwchben y lein" sef y drefn sy'n cael ei defnyddio yn Awstralia. O dan y drefn honno gall etholwyr naill ai rifo eu dewisiadau eu hun neu fwrw pleidlaisi i'w dewis cyntaf yn unig gan adael i'r ymgeisydd hwnnw ddidoli'r bleidlais. Mewn gwledydd sy'n defnyddio'r system yma mae'r rhan fwyaf o bleidleiswyr yn gadael y dasg i'r ymgeiswyr.

Gallai trefn o'r fath gael effeithiau rhyfedd iawn. Gadewch i ni gymryd canlyniad etholiad 2005 yn Ynys Môn fel enghraifft gan gymryd bod yr etholwyr i gyd wedi pleidleisio "uwchben y lein". Dyma'r canlyniad go-iawn:

Llafur 34.6%
Plaid Cymru 31.1%
Peter Rogers 14.7%
Ceidwadwyr 11.0%
Dem. Rhydd. 6.8%
UKIP 1.0%
CCC 0.7%

Gadewch i ni ddyfalu am eiliad beth fyddai'n digwydd pe bai'r Democratiaid Rhyddfrydol, UKIP a'r Cynghrair Cyfreithloni Canabis yn rhoi ei dewisiadau i Lafur tra bod y Ceidwadwyr yn ochri a Phlaid Cymru. Fe fyddai hynny'n gadael y canlyniad fel hyn;


Llafur 43.1%
Plaid Cymru 42.15%
Peter Rogers 14.7%

Pwy fyddai'n cynrycholi Ynys Môn? Albert Owen neu Eurig Wyn? Mater i Peter Rogers a fe'n unig fyddai hynny! Fe fyddai na "bleidlais amgen" ar y fam ynys a Peter Rogers fyddai'n cael ei bwrw! A fyddai gwleidyddion neu etholwyr Môn yn fodlon llyncu hynny?

Y Peiriant Pres

Vaughan Roderick | 10:15, Dydd Iau, 4 Chwefror 2010

Sylwadau (0)

_620037_williehamilton150.jpgGo brin fod unrhyw un dan ddeugain oed yn cofio Willie Hamilton ond fe oedd un o aelodau seneddol meinciau cefn mwyaf blaenllaw ei ddydd. Ei safbwyntiau gwrth-frenhinol di flewyn ar dafod oedd y rheswm am ei enwogrwydd. Nôl yn y dyddiau hynny roedd safbwyntiau o'r fath yn anarferol ac yn ymylu ar fod yn annerbyniol.

Nid safbwyntiau gweriniaethol Hamilton wnaeth wneud i mi feddwl amdano fe'r bore yma ond manylyn bach o ddiwedd ei yrfa seneddol. Roedd Hamilton wedi cynrychioli cadarnle Llafur yn Fife am bron i ddeugain mlynedd ond ar ôl penderfynu ymddeol o'r sedd honno safodd fel ymgeisydd Llafur mewn cadarnle Ceidwadol yn Nyfnaint gan ennill 8% o'r bleidlais.

Dydw i ddim yn cofio beth oedd esboniad Willie Hamilton ar y pryd. "Gwneud ffafr i'r blaid", "mwynhau ymgyrchu" neu rywbeth felly, mae'n sicr. Roedd rhai o'i gyd-aelodau yn fwy sinigaidd ynghylch ei gymhellion. Yn ôl yn 1987 doedd aelodau seneddol oedd yn ymddeol ddim yn derbyn taliad diswyddo. Roedd aelodau oedd yn colli sedd ar y llaw arall (hyd yn oed sedd y pen arall i'r wlad i'w un gwreiddiol) yn derbyn talp o arian.

Newidiwyd y drefn yn sgil achos Hamilton gyda phob aelod seneddol yn derbyn taliad wrth adael y senedd ar ôl deng mlynedd neu fwy. Un o argymhellion Syr Ian Kennedy yw y dylid dychwelyd i'r drefn lle mai dim ond aelodau sy'n colli sedd ddylai dderbyn taliad diswyddo.

Mae 'na synnwyr yn hynny, wrth reswm. Dyw aelod sy'n colli ddim wedi cael amser i wneud trefniadau ariannol, diweddu cytundebau llety, staff ayb yn yr un modd ac un sy'n ymddeol.

Ond sut mae rhwystro aelodau rhag gwneud yr hyn wnaeth Willie Hamilton? Ar ddiwedd y dydd fe fydd yn rhaid dibynnu ar yr aelodau eu hun i ymddwyn mewn modd anrhydeddus a didrachwant. A dyna sut dechreuodd yr holl sbloits yma wrth gwrs.

CF99

Vaughan Roderick | 16:59, Dydd Mercher, 3 Chwefror 2010

Sylwadau (0)


Ieuan Wyn Jones fydd y gwestai ar CF99 heno. Does dim angen poeni. Dydyn ni ddim am drafod y refferendwm ond fe fydd na ambell i beth 'da ni i ddweud am yr LCO a'r mesur iaith.

Cerdiau ar y bwrdd

Vaughan Roderick | 14:45, Dydd Mercher, 3 Chwefror 2010

Sylwadau (4)

playing_cards.jpgDydw i ddim am i bob post yr wythnos hon fod ynghylch y refferendwm. Hwyrach y bydd 'na gyfle'n hwyrach heddiw i sgwennu ynghylch ymddiswyddiad disymwth archwiliwr cyffredinol Cymru- os ydyn ni'n llwyddo i ganfod mwy ynghylch y stori honno!

Yn y cyfamser does dim arwydd bod y gêm bocer rhwng y pleidiau yn mynd i bennu'n fuan. I'ch atgoffa o'r fathemateg 39 o'r 40 angenrheidiol yw'r uchafswm o aelodau y gall y llywodraeth alw arnyn nhw. Mewn gwirionedd mae'r ffigwr yn agosach at drideg pedwar gyda thri aelod yn absennol oherwydd salwch a'r Llywydd ac Is-lywydd wedi eu gwahardd rhag pleidleisio.

Mae'r llywodraeth o hyd yn gobeithio cyrraedd y trothwy ond mae'n ymddangos ar hyn o bryd ei bod yn anfodlon roi'r fath o addewid ynghylch dyddiad y refferendwm y mae'r gwrthbleidiau yn gofyn amdano.

Dadl y llywodraeth yw bod hynny'n ddiangen ar hyn o bryd. Mae'r llywodraeth yn dadlau bod yn rhaid cynnal ail bleidlais yn y cynulliad i gadarnhau dyddiad y refferendwm gyda'r un fath o fwyafrif amodol yn ddiweddarach yn y broses. Os oedd y gwrthbleidiau am wrthwynebu unrhyw ddyddiad penodol dyna yw'r adeg i wneud.

Mae honniad y Llywodraeth yn ffeithiol gywir. Mae'n anodd credu nad yw'r gwrthbleidiau yn gwybod hynny er bod y ddeddf braidd yn ddryslyd. Cymal 104 sy'n ymwneud ar bleidlais gyntaf a chymal 103 a'r ail un!

Mae dadl y llywodraeth yn rhesymegol ond ar drothwy etholiad cyffredinol nid rhesymeg sydd ym malen meddyliau pob gwleidydd! A phwy all feio'r gwrthbleidiau am amau bod amharodrwydd y llywodraeth i roi addewid digon hawdd a syml yn dystiolaeth bod gweinidogion yn bwriadu cynnal y refferendwm ym mis Mai 2011.

Mae'r pleidiau yn dal i drafod ond mae'n annhebyg y bydd na unrhyw ildio tir gan y llywodraeth tan wythnos nesaf. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cynnal eu Cynhadledd Gymreig dros y Sul ac mae Llafur a Phlaid Cymru'n ddigon hapus i weld y ffrae yma'n denu'r penawdau ac yn taflu cwmwl dros drafodaethau'r blaid.

Yr haf a cherddi eraill

Vaughan Roderick | 16:24, Dydd Mawrth, 2 Chwefror 2010

Sylwadau (0)

tn-DARE04a.jpgDim ond crybwyll y peth mewn cwestiwn mewn cynhadledd newyddion y gwnes i ond mae'n ymddangos bod un syniad bach wedi apelio at ambell i wleidydd. Mae'n debyg bod mwy nac un aelod wedi bod yn chwilio'n ddyfal trwy ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 am un cymal arbennig yn ystod y dydd heddiw. Cymal 4(1) yw'r cymal hwnnw. Mae'n ymwneud a dyddiadau etholiadau cynulliad a dyma mae'n ei ddweud;

The Secretary of State may by order provide for the poll at an ordinary general election to be held on a day which is neither-- (a) more than one month earlier, nor (b) more than one month later, than the first Thursday in May.

Nawr meddyliwch am y dyddiadau posib ar gyfer refferendwm. Hydref eleni yw ffefryn bron pawb ond mae'r amserlen yn dynn a gallai ail etholiad cyffredinol neu'r refferendwm arfaethedig ynghylch newid y drefn bleidleisio wneud cynnal refferendwm Cymreig bryd hynny yn amhosib.

Mae'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol (ac Elfyn Llwyd, efallai) yn bendant na ddylid cynnal pleidlais ar ddiwrnod etholiad y Cynulliad sef Mai'r 5ed, 2011 nac yn ystod yr ymgyrch.

Mae hynny'n gadael ffenest fach ar ddechrau Mis Mawrth ond gallai'r tywydd fod yn aeafol a'r ymgyrchu'n anodd. A pheidiad neb anghofio cynsail 1979!

Naw'r meddyliwch am gymal 4(1). Beth pe bai'r Ysgrifennydd Gwladol yn gohirio etholiad y Cynulliad tan Mehefin yr 2il? Fe fyddai hynny'n caniatau cynnal y refferendwm ym mwynder Ebrill, cyfnod digon dymunol i ymgyrchu.

Fe fyddai 'na fantais wleidyddol arall bosib. Pe bai 'na lywodraeth Geidwadol yn San Steffan fe fyddai'r toriadau gwariant y mae'r blaid yn addo ar gyfer y flwyddyn ariannol 2011-12 jyst yn dechrau brathu. Yn ôl ambell un fe fyddai hynny'n senario berffaith ar gyfer ymgyrch "Ie".

Hilariws

Vaughan Roderick | 12:55, Dydd Mawrth, 2 Chwefror 2010

Sylwadau (2)

_1527298_elfyn150.jpgFe fyddai cynnal refferendwm ar yr un diwrnod ac etholiad 2011 yn "pretty bloody confusing".

Pwy sy'n dweud? Elfyn Llwyd, arweinydd seneddol Plaid Cymru mewn cynhadledd newyddion y bore 'ma. Proffwydodd Elfyn y byddai'r refferendwm yn cael ei chynnal naill ai yn yr hydref neu ym mis Mawrth 2011.

Sut mae Plaid Cymru yn y cynulliad yn ymateb?

"Mae e'n anghywir" medd llefarydd.

Pwynt bach diddorol arall sydd wedi codi yw effaith addewid Gordon Brown y bore 'ma i gynnal pleidlais ar newid y system bleidleisio "erbyn yr hydref". Os ydy'r bleidlais honno yn cael ei chynnal beth fyddai barn y Comisiwn etholiadol am gael dau refferendwm ar yr un pryd gyda naill na'r llall a'u hymgyrchoedd "Ie" a "Na"?

"Pretty bloody cofusing" byswn i'n tybio!

Gyda llaw o fewn munudau i mi gyhoeddi'r post diwethaf ynghyd a llun o boster "Ie" 1979 derbyniais neges gan weinidog Llafur yn dangos bod yr union boster wedi ei fframio ar wal ei swyddfa. Dydw i ddim yn credu y dylai'r ochor "Ie" fyfyrio gormod ynghylch y bleidlais arbennig yna!


Bant a ni...

Vaughan Roderick | 10:42, Dydd Mawrth, 2 Chwefror 2010

Sylwadau (1)

tn-DARE05.jpgFe fydd y bleidlais wythnos nesaf ynghylch refferendwm ar gynyddu pwerau'r cynulliad yn cwrdd ag anghenion cyfreithiol Deddf Llywodraeth Cymru i gychwyn ar y broses swyddogol. Cyhoeddwyd hynny gan Carwyn a Ieuan y bore 'ma. Os ydy deugain aelod cynulliad yn pleidleisio o blaid y cynnig felly fe fydd y llythyr nad oedd Peter Hain yn dymuno derbyn yn cyrraedd ar ei ddesg o fewn y tair wythnos nesaf.

Carwyn wnaeth flincio, felly ond dyw'r gêm bocer ddim ar ben eto.

Oherwydd penderfyniad Mohammad Asghar i newid ei blaid a salwch dau aelod Llafur mae'r llywodraeth yn brin o'r deugain pleidlais angenrheidiol. Trideg saith o bleidleisiau sydd yn y bag ar hyn o bryd. Fe fyddai rhoi'r rheolau sefydlog i'r naill ochor i ganiatáu i 'r Llywydd a'r Is-lywydd pleidleisio yn cynyddu'r nifer i drideg naw gan roi tipyn o rym yn nwylo Trish Law!

Y broblem sydd gan y llywodraeth yw bod y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn bygwth ymatal oni cheir addewid na fydd y bleidlais yn cael ei chynnal ar yr un diwrnod ac etholiad 2011.

Mae ymatal yn gyfystyr a phleidleisio yn erbyn cynnal refferendwm yn yr achos yma. Mae'n ymddangos i fi bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn chwilio am ffordd i gefnogi'r cynnig a thrwy hynny dianc o'r trap y mae'r Ceidwadwyr wedi llunio ar eu cyfer. Fe fyddai'n hunllefus, wedi'r cyfan, i blaid Lloyd George a Geraint Howells bod mewn sefyllfa o gael ei gweld yn rhwystro pobol Cymru rhag cael y cyfle i bleidleisio i gynyddu pwerau'r cynulliad.

Fe fydd yn rhaid i'r llywodraeth roi rhywbeth i'r blaid ond does dim dwywaith yn fy meddwl i y bydd 'na ddêl. Mae'r pedwar arweinydd yn cwrdd y prynhawn yma i drafod y sefyllfa.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.