Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Peintio wyneb Miri Myrddin
Cynhelir Miri Myrddin eleni ar ddydd Sadwrn yr 22ain o Hydref, yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin.
Gorymdaith gwisg ffansi o gwmpas tref Caerfyrddin, Jambori, Sali Mali, Superted a Sam Tân, Stondinau o bob math, Gweithdy Roc, Perfformiadau byw gan rai o artistiaid enwocaf Cymru, a llawer iawn mwy........Ydy, mae Miri Myrddin yn ôl unwaith eto eleni!

Yn wahanol i'r arfer, mae Miri Myrddin eleni yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn yr 22ain o Hydref, yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin, lle bydd yna rhywbeth at ddant pawb drwy gydol y dydd.

Gorymdaith gan blant y Mudiad Ysgolion Meithrin, a phlant Cynradd y Sir fydd yn lansio gweithgareddau dydd Sadwrn yr 22ain am 10 o'r gloch. Byddant yn gorymdeithio drwy dref Caerfyrddin, ac yn eu harwain bydd Sali Mali a Superted. Unwaith i'r orymdaith gyrraedd Neuadd San Pedr erbyn 10:30, bydd y plant yn rhoi eitemau byr o bob math ar y llwyfan, a bydd cyflwynwyr Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru yno yn darlledu yn fyw!

Am 12:00pm bydd Gwenda Owen yn diddanu'r plant mewn Jambori gyda Sali Mali a Superted, a bydd cyfle i bawb i ymuno yn y canu a'r hwyl! Ynghanol yr holl weithgareddau yma bydd cyfle i baentio wynebau a gwario eich arian ar stondinau o bob math!

"Rydym ni'n gobeithio y bydd Neuadd San Pedr dan ei sang ddydd Sadwrn, a bydd digon o hwyl a sbort yno i gadw pawb yn hapus!" meddai Gruff Ifan, Rheolwr Prosiect Diwylliant Byw, sy'n cydweithio i drefnu Miri Myrddin ar ran Mentrau Iaith Myrddin.

Drwy'r prynhawn, tra bydd gweithdy roc ar gyfer ieuenctid yn cael ei gynnal yn y Neuadd gan diwtoriaid profiadol, bydd yna berfformiadau byw gan artistiaid enwocaf Cymru ar lwyfan acwstig y tu allan i'r llys ar Sgwâr y Guildhall, yn cynnwys setiau acwstig gan Mattoidz, Fflur Dafydd, Alun Tan Lan, Tecwyn Ifan, Baldande, Côr Seingar, a dawnsio gwerin gyda Dawnswyr Talog.

Mae holl weithgareddau'r dydd yn rhad ac am ddim i bawb. Er bod gweithgareddau'r dydd yn dod i ben ar y llwyfan yn Sgwâr y Guildhall gyda Chôr Seingar am 5 o'r gloch, nid dyna ddiwedd Miri Myrddin!

Am 7.30pm. bydd Gig Miri Myrddin yng Nghlwb y Dairies, Caerfyrddin yn dechrau. Yr artistiaid a fydd yn perfformio bydd Alun Tan Lan, a Fflur Dafydd a'r Barf.

Dywedodd Gruff Ifan, "Ry' ni'n falch iawn o allu cyflwyno'r ddau artist arbennig yma sydd yn adnabyddus iawn yng Nghymru am eu cerddoriaeth unigryw. Mae'n sicr yn mynd i fod yn noson a hanner yng Nghlwb y Dairies nos Sadwrn!"

Bydd y gig yma yn mynd allan yn fyw ar Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru. Bydd pris mynediad yn £5, a'r elw'n mynd i Bwyllgor Apêl Eisteddfod Yr Urdd 2007, Tref Caerfyrddin.

Mae rhywbeth at ddant pawb ym Miri Myrddin eleni, felly dewch yn llu i ymuno ym mwrlwm yr hwyl ar yr 22ain o Hydref yng Nghaerfyrddin.

Am fwy o fanylion cysylltwch â un o swyddogion Prosiect Diwylliant Byw yn Swyddfa Mentrau Iaith Myrddin ar 01267 676 808.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý